
"Beic Modur"
gan
Aled Williams
Byddai beic modur yn boblogaidd gyda
llanciau ardal Rhiw ac ‘roedd gan fy nhad a’i ffrind Guto Ty Canol (Moelwyn
View yn ddiweddarach) bob o un ers pan oeddynt yn ifanc iawn. Clywais sôn am
Vincent a Matchless ‘belt drive’. Dywedai pobl o Bwllheli “ hen betha
o’r lâd (y wlad) yn dwad i’r Dre i godi twrw ar hen fotos.” Aeth Guto a
Ben yn erbyn eu gilydd un noson ar dro drwg rhwng Pengroeslon a Meillionydd.
Heblaw i ffermwr cyfagos fynd a’r ddau diymadferth, gwaedlyd i’w dy a’u
hymgeleddu, tebyg y buasent wedi trigo yn y ffôs. Guto yn reidio ’piliwn’ i
fyny Nant Gwynant ac erbyn cyrraedd Pen y Gwyryd, ‘roedd wedi diflannu. Wrth y
llyn yn gandryll oedd o a’i ‘din
ar dan’. Ben yn mynd i ben yr Wyddfa ar y Matchless a rhedeg allan o betrol ar
y copa. Ffri-wîl wedyn yr holl ffordd i Lanberis ar drac y reilffordd – tin
hwnnw’n brifo y tro yna.
Ben yn cynnig
‘lift’ i ferch go wladaidd a dyma hi i fyny at y motobeic, crychu ei haeliau
a gofyn “ ffordd droai ‘ngwyneb?” Ar ol i Ben ddanfon merch i’w chartref
yn Sarn, rhuthrodd ei thad ar ei ôl mewn tymer drwy rhyw goed a buasai wedi ei
ddal heblaw iddo gyrraedd y moto beic mewn pryd. Tarodd Ben fuwch ddu un noson
ar y lôn yn y Sarn gyda’i foto beic, a’i lladd. Un llanc yn ymateb i frolio
ar ei feic modur diweddaraf “ wel, mi ydw i i gyd ar y lôn ‘rwan ‘sti!”
Ben yn trio beic modur rhywyn allan gyda’r bwriad o’i brynu ac ar ôl
ychydig dywedodd y perchennog “ diffod o ‘rwan, was – mae pob clec mae
hwnna’n roi yn costio rhywbath i mi”
Geiriau gan Mr Aled Williams, diolch yn fawr. |