|

Clasur o Lŷn
(II)
|
Bob hyn a hyn mi ddown ar draws lluniau arbenig o
dda o Lŷn ai
phobol, maent yn amrywio o luniau teulu, golygfeydd, pentrefydd ac amaeth,
ac mi fyddwn yn arddangos y goreuon ar y dudalen yma. |
|
~~~~~~~~ 
~~~~~~~~ 
Dau
Lun o "Traffic Jam" yn Aberdaron Gan F
H May ~~~~~~~~~ 
Cafn
Enlli
| Llun hynod o ddioddorol o Sgwner dau fast yn
dadlwytho yn Cafn Enlli. Mae'r long fach stem yn y cefndir, yn
awgrymu ei fod wedi cael ei dynu o gwmpas 1890. Mae'r llun hefyd
wedi cael ei liwio a llaw. Sylwch hefyd ar y prysurdeb, mae'n
amlwg fod diwrnod dadlwytho llong yn un pwysig iawn.
~~~~~~~~~
|
|
|

Diwrnod Dyrnu yn Llangwnadl
| Llun arbenig o dda o ddiwrnod dyrnu yn
Llangwnadl. Pan fydde y dyrnwr yn symud o fferm i fferm byddai
pawb yn helpu eu gilydd, ac mi fyddai hyd yn oed y plantos yn
aros gartref o'r ysgol.
~~~~~~~~
Eleri Stores Aberdaron
Llun difyr iawn o Siop y cigydd E G Jones yn
Aberdaron, a dynnwyd gan Dr David Williams tua canol y pumdegau. Mae
congol caffi Daron hefyd i'w weld ar y dde. ~~~~~~~~ |
|
| Os oes gennych chi ddelwedd glasurol o'r gorffenol,
fydde chi yn fodlon ei fenthyg i ni?, er mwyn ei gynnwys yma. Diolch yn
Fawr. Ffon 01758 780209. |
|