Roedd hi’n fore
braf iawn ar y 3ydd o Fehefin eleni, ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd mi
bendefynnais fynd am dro i ben Clip. Tydio mo’r llecyn uchaf yn Rhiw ond y
mae golygfeydd godidog i gael i’r de orllewin i
gyfeiriad Enlli, yn arbennig felly ar ddiwrnod clir fel ag yr oedd y bore
hwnnw. Ymhen rhyw awr o eistedd yno yn mwynhau’r olygfa wych yma, mi
glywais swn beth on i yn feddwl oedd awyren fechan, o fewn eiliadau mi
welais i ‘Paramotor’ yn ymddangos uwchben
Penrafynydd gan ddilyn yr arfordir tuag at Aberdaron. Mi dynnais amwryw o
luniau ohonno uwchben y Bae ym Mhorth Ysgo ac mewn cwpwl o ddyrnodie mi
rois i’r lluniau ar y wefan.
Yr wythnos
ddiweathaf mi dderbynion ni un’or ebyst mwyaf cyffroes dan ni erioed wedi
gael ar Rhiw.com, a coeliwch i fi dan i wedi cael rhai eithaf arbennig
dros y dair mlynedd a fu ers i ni gychwyn y wefan. Roedd Mike Sheldrake
wedi gweld lluniau o’r Paramotor ar y safle, ac wedi anfon aton ni i
adael i ni wybod mai o oedd y peilot, mi ddaru hyd yn oed
gynnwys tri llun anhygoel yn yr e-bost o’r hedfan y bore hwnnw. Wel mi
oeddan ni wedi gwirioni yn lan, ac yn methu credu ein lwc.
Ddoe mi ddaeth
c.d. drwy’r post efo cannoedd o luniau oedd Mike wedi ei dynnu ar ddwy
daith wnaeth o ar Fai 6ed a Mehefin y 3ydd.
Mae gan
Paramotors, amryw o fanteision dros awyrenau wrth dynnu lluniau o’r awyr,
mi allwch hedfan yn isel, yn araf ac mae yna ‘360 vision’, a fel y gwelwch
mewn rhai o’r lluniau, mi allwch dynnu golygfa sydd yn syth odditannoch,
mae’r Paramotor, yn lwyfan berffaith i’r llygaid yn yr awyr (eye in the
sky)
Ar
ran pobol Llyn mi hoffen ni ddweud diolch yn fawr iawn i Mike, am adael i
ni gyhoeddi ac arddangos ei luniau bendigedig o Ben Llyn, a gadael i i
rannu a dangos i weddill y byd, lle mor anhygoel ac arbennig o hyfryd ydi
hi yma. Mae’r lluniau yma yn arbennig iawn gan mai ychydig iawn, iawn
ohonnom ni sydd yn gyfarwydd a gweld Llyn o’r awyr, dan ni rwan yn cael
mwynhau be mae’r big goch, y wylan a’r barcud yn ei weld yn feunyddiol.
Mwynhewch.
Rhybudd
Mi
fyddai o fantais i’r rhai ohonnoch sydd yn dioddef o Vertigo gymeryd cwpwl
o dabledi ‘Sea Legs’ cyn edrych ar rai o’r lluniau !!!!!
************
Taith Un; O
Borth Oer, dros Aberdaron, Penrhyn, Rhiw, Porth Neigwl, Cilan, Abersoch,
Mynytho, Garn Fadryn, ac ymlaen i Nanhoron a Sarn.
Taith Dau;
O Fotwnnog i Laniestyn, Garn Fadryn, Nanhoron, Mynytho, Abersoch, Cilan,
Porth Neigwl, Rhiw, Penrhyn ac yn ol am Sarn.
Taith Un
Taith Dau
Eich pentra o'r Awyr
Aberdaron
Abersoch
Rhiw
***********

***********