|

"Ein Gwefan"
|
Pan
ddechreuon ni’r wefan yn 2003, roedd gynnon ni 100Mb o le ar y
‘server’ oeddan ni’n ei ddefnyddio. Fel roedd ein safle yn datblygu ac yn
tyfu yn fwy, roedd rhaid archebu mwy a mwy o le yn eithaf aml (job gostus
!!) gan nad oeddem am i safon y lluniau ostwng. Fel oeddan ni yn hollol
wyrdd i fyd gwefannau yn cychwyn, ddaru ni ddim
dewis y rhataf, a rhaid cofio fod pethau yn ddrutach yr adeg honno hefyd.
Felly’r dydd o’r blaen pan gyrraeddodd y wefan 300Mb, wel
mi oedd rhaid gwneud rhywbeth (ail forgais ella!!!!) Aethom yn ol at y
‘server’ i weld os oedd posib cael cytundeb gwell a llai costus, ac yn
ffodus iawn i ni mi oedd ganddyn nhw jyst y peth – hanner y pris a mwy o
le na lenwn ni byth. Felly o hyn ymlaen mi fydd y lluniau yn fwy, yn
enwedig os ydyn nhw’n rai da, ac o safon gwell – fydd na ddim mwy o boeni
am y busnes ‘save to web’ma’ mi gewch chithau weld lluniau llawer
cliriach. Ond cofiwch barchu caredigrwydd y sawl
sydd yn menthyca lluniau i ni a pheidiwch byth a’i defnyddio at elw o
unrhyw fath, nid yn unig am ei fod yn anheg ond mae’n anonest hefyd. A
does yr un ohonnnom eisiau difetha’r fraint o gweld a gwerthfawrogi’r
trysor o hen luniau sydd yn dod i law drwy garedigrwydd eraill. Mae’r llun
ar y dudalen yn rhagflas o bethau i ddod mwynhewch. T & G, Rhiw.com
(Mai 2005)
~~~~~~~~ |
Rhiw circa 1910

Diolch i bawb am eich cymorth
|