|

"Nant Gwrtheyrn"
|
Yn niwedd y saithdegau
roedd gen i gryn ddiddordeb ym mhentref Nant Gwrtheyrn. Roedd y lle yn
adfeilion, heb yr un enaid byw ar ei gyfyl. Penderfynais dynnu casgliad o
luniau ac mewn cyfnod o dair mlynedd, ymwelais a’r Nant tua deg o weithiau,
ac yn yr holl amser yna yr unig greaduriaid byw ddois i ar eu traws yno
oedd dwy afr wyllt, mi lwyddais i allu tynnu eu lluniau, cyn iddynt
ddiflannu o’m golwg. Paradwys i unrhyw un a diddordeb mewn tynnu lluniau
oedd y Nant ar y pryd, ac mae’n debyg i mi dynnu oddeutu 500 o luniau du a
gwyn yn ystod y dair mlynedd yna. I’r rhai ohonnoch sydd yn hoffi bod yn
dechnolegol fanwl ron i yn ddefnyddio ffilm ‘Ilford Fp4 125,asa, a Hp5 400
asa, ac mi oedd gen i ddau gamera Nikon yr F2a a’r FM, a lensys o 20mm i
200mm. Defnyddiais dripod i dynnu’r rhan fwyaf o’r lluniau ac mi on i yn
ei datblygu (developing) adref mewn stafell dywyll fechan, oedd gen i ar y
pryd yn ty ‘cw. Pan ddechreuodd y gweithwyr symud i mewn a chychwyn ar y
gwaith o ailadeiladu’r Nant mi gollodd y lle ei hud i mi, a fum i erioed
yno wedyn. |
*********
|