|
|
"Brenin Arthur ac Enlli" Nid oes yr
un arwr chwedlonol a’r fath ramant yn ei gylch na’r Brenin Arthur a bu
trigolion pob ardal ar hyd y blynyddoedd yn awyddus i gysylltu ei enw a
chromlech, maen hir neu unrhyw draddodiad lleol. Ond codwyd yr holl henebion hyn
filoedd o flynyddoedd cyn oes Arthur. Cysylltid ei enw a chlystrau ser megis
clwstwr Seren y Gogledd ( Ursa Major), yr Arth Fawr neud Aradr Arthur, Lyra neu
Delyn Arthur ac Orion – Llath ( hudlath) Arthur. Coetan Arthur, y goetan ar
Fynydd Cefnamwlch. Enw arall ar yr aderyn Celtaidd, y fran goesgoch, sydd mor
unigryw i Ben Llyn yw Aderyn Arthur. Ar lethrau Garn Fadrun mae Bwrdd Arthur neu
Fwrdd y Brenin. Mae gwaith
ymchwil ‘A journey to Avalon’ gan Chris Barber a David Pykitt ( Blorenge
Books 1993) yn cynnig damcaniaeth hynod o anturus a gwerthfawr ac yn cefnogi
traddodiad sydd yn fyw yn Llyn. Maent wedi casglu tystiolaeth ac yn dadlau’n
gryf mai yn llyn, ger Porth Cadlan yr ymladdwyd Brwydr Camlan ac mai Enlli oedd
Ynys Afallon. Dywedir mai yn 537 OC neu 542 OC; pan oedd Cadfan yn Enlli, yr
ymladdwyd y frwydr hon rhwng Brenin Arthur a Medrawd – un o farchogion y ford
gron a drodd yn fradwr. Maent yn ymdrin a chyfnod sefydlu llannau Llyn ochr yn
ochr a Brwydr Camlan gan wneud hynny yn afaelgar a rhamantus. Nid ydynt yn honni
bod yr ateb ganddynt ond llwyddasent i ddod a darnau’r jig so at ei gilydd i
lunio talp o draddodiad y gallwn ymhyfrydu ynddo. Wedi
sefydlu mai yng nghyffiniau Porth Cadlan yr ymladdwyd Brwydr Camlan ac y gallai
teulu Arthur fod yn llygad dyst i’r cyfan, rhaid dilyn y ddamcaniaeth mai i
Ynys Enlli yr aed ag Arthur pan anafwyd ef yn ddifrifol yn y frwydr. Mae
traddodiad yn adrodd bod llong Arthur, Gwennan wedi cholli yn Swnt Enlli, neu yn
y mor mawr i’r de orllewin o’r ynys. Hen enw ar y Swnt yw ‘Ffrydiau
Caswennan’. Cyfeirir at Ynys Afallon gan Sieffre o Fynwy, a dywedir mai Myrddin a Taliesin aeth ag Arthur i Ynys yr Afallau i wella. Os oedd Arthur wedi ei anafu’n ddifrifol ym Mrwydr Camlan doedd neb am ei hambygio a mynd ag ef ar daith bell.
Ar yr ynys
rhoddwyd ef ar wely aur a gweiniwyd arno gan y dywysoges Morgan a’i naw morwyn.
Mae traddodiadau eraill yn cefnogi ei gilydd i ddweud bod Myrddin wedi ei
garcharu mewn castell gwydr ar Ynys Enlli gyda thri ar ddeg o drysorau Prydain.
Cyfeirir hefyd at Annwn fel Caer Wydr. Er bod tir Enlli yn gynhyrchiol nid oes
yno goed, ond gellid bod wedi tyfu afalau, symbol o ieuenctid tragwyddol, mewn
ty gwydr ( Roedd y Rhufeiniaid, ganrifoedd ynghynt wedi cynhyrchu gwydr) Dyna
egluro’r enw Ynys Afallen. Yn ol rhai
llawysgrifau lleolir Afallon rhwng y Borth, Ceredigion ac Arklow yn Iwerddon. Yr
unig fan tebygol felly yw Ynys Enlli a gallwn ninnau feddiannu’r traddodiad yn
falch ac yn llawen! ~~~~~~~~~ Diolch i
Elfed Gruffydd am ganiatau i ni ddefnyddio ei erthygl o’i lyfr hynod ddiddorol
‘Llyn’. Gweler hefyd ‘Enlli a’i thrigolion’ gan Isaac Rowlands 1913
|
|
Copyright © Rhiw.com |