Y Tywydd

Os gwelir lleuad yn newid rhwng dau bwynt,

Arwydd tywydd cry goruwch y lli ;

Os gwelir y lleuad yn nofio ar ei chwch,

Arwydd gwlybaniaeth mawr o’r wawr i lawr.

 

Ac os gwelir y lleuad yn ysgogi at y dwyrain cyn newid,

Arwydd tywydd sych, a rhai yn gwaeddi’n wych,

Ac os gwelir y lleuad ac arni arwydd melen,

Arwydd sychdwr mawr o’r wawr i lawr.

 

Ac os gwelir y llauad ‘n arwyddo’n fawr o round,

Arwydd tywydd da y gaua’ a’r ha’.

Gwlaw hefo’r blaen newydd a’r llawn,

Y boreu neu’r prydnawn.

 

Llanw’r môr hefo’r blaen newydd’n codi o lan bwygilydd

Spring tide hefo’r llawn.

Ac os gwelir ring gron o gwmpas y lleuad,

Arwydd gwynt a glaw, oddiyma ac oddidraw.

 

Ac os gwelir ring ‘run liw a’r enfys o gwmpas y lleuad,

Rhew a barug.

Ac os gwelir seren yn ymyl y lleuad,

Arwydd tywydd mawr o’r wawr i lawr.

 

Os gwelir yr haul ‘n codi fawr o round,

Arwydd tywydd da gaua’ a’r ha’.

Os gwelir yr haul yn goch, arwydd tywydd poeth,

A rhai mewn nature ddoeth.

 

Os gwelir tywydd poeth,

Fe fydd gofyn prysuro efo’r ddau gynauaf,

Ni ddeil o ddim yn hir,

Felly gwell fydd clirio’r tir.

 

Mae’r haul yn nes i ni y gaea’ na’r ha’,

A rhai mewn pla.

Ac os gwelir yr haul yn wyn wan,

Tywydd gwan ‘rwan ac yn y man.

 

Os gwelir y ser yn syrthio i lawr ar ol tywydd mawr,

Arwydd arafwch yn y tywydd.

Ac os gwelir hi yn troi o’r gwlaw i’r eira,

Arwydd tywydd sych oer.

 

Os gwelir cochni mawr o gwmpas y pedwar pwynt,

Arwydd rhew ac eira.

Ac os gwelir y bwa cyfamod yn isel at lawr,

Arwydd tywydd mawr o’r wawr i lawr.

 

Ac os gwelir o’n uchel,

Ambell i gafod a thywydd teg.

Ac os gwelir y ci drycin,

Arwydd tywydd mawr o’r wawr i lawr.

 

Ac os gwelir yr awyr draeth,

Gwlaw’n fuan.

Ac os gwelir yr arwydd coch flash,

Gwlaw’n fuan.

 

Ac os gwelir yr arwydd coch mawr.

Mewn un pwynt,

Arwydd storom fawr,

Ac yn dal yn gry goruwch y lli.

 

Ac os gwelir cymylau gwynion sgarpiog,

A’r cymylau llwydion,

Gwynt a gwlaw

Oddiyma ac oddidraw.

 

Ac os gwelir y barug

Yn dal am dri borau,

Fe ddeil am rai diwrnodiau

Heb wlawio ar ein penau.

 

Ac os gwelir y rhwd a’r niwl,

Arwydd o flaen gwres.

Niwl y gaea’, gwlaw, niwl gwanwyn, gwynt,

Niwl ha’, tes a gwlaw.

 

Os gwelir goleuni y gogledd ar ymddangos,

Arwydd sychder mawr, o’r wawr i lawr.

Os gwelir y planedau ‘n myn’d i lawr yn fflam dân,

Arwydd arafwch yn y tywydd.

 

Ac os gwelir y tywydd taranau yn y tywydd braf,

Troi yn dywydd gwyllt.

Ac os gwelir y taranau yn y tywydd mawr,

Arwydd settliad tywydd.

 

Ac os gwelir y cymylau

Yn myn’d yn groes i’r gwynt,

Arwydd tywydd mawr

O’r wawr i lawr.

 

Ac os gwelir y gwynt

Yn setlo yn un fan,

Arwydd tywydd da

Y gaua’ a’r ha’.

                        John Evans

 

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com