|
|
"Tlodion
Llyn" Ar yr
wythfed dydd o fehefin yn y flwyddyn 1837, cyfarfu Bwrdd Gwarcheidwaid y Tlodion
am waith cyntaf am ddeg o’r gloch
y bore yng Ngwesty’r Crown Pwllheli. Y diwrnod hwnnw dechreuwyd cyfnod newydd
yn hanes cymorth y tlawd, a barhaodd heb ond ychydig hyd drosglwyddiad gwaith y
Gwarcheidwad i Bwyllgor Sirol dan ddeddfau 1929 a 1930.
Canlyniad oesau o
ddarpariadau amrywiol a diddorol i gyfarfod ag angen y tlodion oedd sefydliad
Bwrdd y Gwarcheidwad. Hyd ddiwedd
y Canol Oesoedd ni chawsai yr anghenus ond ychydig o sylw y wladwriaeth.
Darparai Arglwyddi’r Faenor ar gyfer gwasanaethwyr rhydd a chaeth, ac agorai y
mynachdai eu drysau i’r anghenus, ac yma ac acw ‘Clafdy’ ar gyfer y
methedig a’r gwael. Ond yn araf cynyddai y nifer di-gartref a’r anghenus fel
y collai Arglwyddi’r Faenor eu gafael ac y llygrid bywyd y mynachdai. Yn 1348
daeth y ‘Pla Du’ o’r Dwyrain i sgubo’r wlad gan fedi o leiaf draean
o’r boblogaeth mewn ychydig fisoedd. Cynyddodd y galw am weithwyr ymhob cylch
a chrwydrai llawer bellter gwlad gan geisio rhyddhau o’i caethiwed wrth glywed
sibrwd am alwedigaeth rydd a bywyd gwell. I gyfarfod
a’r llu o ddynion abl a grwydrai’r wlad na waethiant ond am gyflogau uchel
daeth statud y gweithwyr i rym i orfodi y bobl hynny i wasanaethu am y cyflogau
arferol a gwaherddid rhoddi cardod iddynt. Ond methiant fu deddfu i wahardd,
cynnydd parhaus yn rhif y crwydriaid a’r anghenus yn wyneb cyfnewidiadau yr
amseroedd. Wedi
diarfogi’r Yswaeniaid gan y Tuduriaid ar ol can mlynedd o ryfel daeth ei
byddinoedd yn fyddinoedd o ddynion abl a di alwedigaeth. Crewyd y Tir Comin mewn
aml blwyf ac ychydig yn ddiweddarach gwasgarwyd y mynachdai, ac ychwanegai pob
newid at lu yr anghenus a’r tlawd. Yn 1495 cawn Harri’r seithfed. Yn deddfu
fod pob crwydryn o hyn allan i’w roddi yn y cyffion ( stocks) ac yno i aros
amdri diwrnod a thair noson ac i gael bara a dwr yn unig ac yna i’w anfon
ymaith. Ond cynnyddai eu nifer ac yn 1530 gan fod crwydriaid yn cynyddu yn
ddyddiol oherwydd diogi, ‘mam a gwraidd pob drwg’, gorchmynwyd fod unrhyw un
iach o gorff ddelid yn cardota i’w rwymo yn noeth tu ol i gert a’i chwipio
drwy y dref nes gwredu ohonno, ac yn ei anfon yn ol i’r man lle y ganwyd gyda
thystiolaeth ddarfod iddo dderbyn y gosb rhag digwydd iddo yr un anffawd
drannoeth mewn tref arall. Er
cynorthwwyo’r gwir aanghenus yn ei hardaloedd eu hunain anogid yr Offeiriaid
yn 1536 i gymell symud cyffroi a chythruddo y bobl i fod yn hael i gyfrannu tuag
at elusennau y tlawd. Gwaethygwyd y gosb ar ddynion abl, a’r ail dro y’i
delid torrid ymaith ran o’i clust dde er dangos hynny ymlaen eu bod yn dirmygu
trefn eu gwlad. Yn 1547
oherwydd nad oedd y deddfau uchod wedi cael y llwyddiant a ddisgwylid, oherwydd
cydymdeimlad a thrugaredd ffol y rhai a ddylasai eu gweinyddu, ac oherwydd diogi
parhaol y dynion oedd yn crwydro gorchmynwyd i’r ynadon o hyn allan gosbi yr
hwn ddelid yn crwydro drwy ei nodi a haearn poeth ar ei frest a nod crwydryn
(Vagabond) a’i anfon i weithio am ddwy flynedd ar fara a dwr i’w feistr. Os
y delid ef yr ail waith rhoddid nod y caethwas S
(slave) ar ei dalcen efo haearn poeth a chedwid ef yn gaeth i’w feistr
am ei oes ar yr un telerau, gyda marwolaeth yn benyd am geisio dianc. Weithiau
cedwid ef yng ngofal Cwnstabl lleol i weithio ar y ffordd mewn gefynnau am y
gweddill o’i oes. Yn 1551 gorchmynwyd i Offeiriaid a Wardeiniaid yr Eglwys i
ddewis dau neu dri yn chwaneg yn ei plwyf i gasglu elusen ar gyfer y tlodion yn
y plwyf, ond annigonol ar gyfer yr angen oedd yr elusen gesglid ac yn araf
trosglwyddwyd y cyfrifoldeb o sicrhau cronfa foddhaol i ddwylo’r Ynadon. Yn
1563 rhoed hawl i’r casglwyr ddwyn unrhyw berson na chyfrannai yn deilwng
gerbron yr Ynadon i drio eu perswadio, oni thyciai hynny eu gorfodi i gyfrannu
yn rhesymol. Yn 1572 rhoddwyd hawl i’r Ynadon i drethu pob plwyf ar gyfer
elusen y tlawd, a daeth ‘Treth y Tlodion’
yn ffaith. Dewisient gasglwyr i dderbyn yr arian, a goruchwylwyr (
overseers) i rannu ur elusen a threfnu gwaith i’r rhai abl, ond cosbid y rhai
na weithiant yn drymach fyth, Dan y
ddeddf ‘Cymorth y Tlodion 1601 awdurdodwyd y wardeiniaid a’r ‘overseers i
godi treth oddi ar bob ty ddeiliaid yn eu plwyf fel y gallent gynorthwyo’r
rhai anghenus na allent weithio, a threfnwyd ‘Tai Cerydd,’ oedd yn
efelychiad o garchardai erchyll yr oes, ar gyfer crwydriaid abl. Er arbed codi y
dreth ar eu plwyf defnyddiai y swyddogion yn aml bob cynllwyn i symud yr
anghenus o’i plwyf. ‘Chydig oedd nifer y plwyfi oedd yn cyfarfod ag
anghenion y tlodion yn briodol, oherwydd buan y cynyddai nifer y rhai anghenus
mewn plwyf felly. Gyda’r llif ddeuai o blwyfi eraill, ac yn 1662 daeth deddf
‘Sefydliad’i rym i alluogi y plwyfi i symud unrhyw berson yn ol i’w blwyf
sefydledig cyn pen deugain diwrnod wedi iddo ddod i’r plwyf. Cynyddodd y cyni
mewn llawer plwyf oherwydd hyn drachefn, oherwydd hyd nes y newidwyd y drefn ni
allai unrhyw weithiwr ffynd allan o’r plwyfi i le yr oedd gwaith yn debyg o
fod yn agor gan na chymerid ef yn y plwyf hwnnw. Yn 1722
daeth deddf Gwethdy’r Undeb (Workhouse Act) i rym caniatai i’r Wardeiniaidad
Overseers ddarparu gweithdy i gadw a rhoddi gwaith i’r tlodion, a thrwy hynny
wrthod cymorth i’r sawl a elai yno, gan arbed felly lawer ar dreth y tlodion,
ac ychwanegu llawer at gyni’r tlawd ar adeg pan oedd y chwalfa ddiwydianol yn
y ddeunawfed ganrif yn ysgwyd seiliau cymdeithas. Caewyd allan y tir comin a
daeth costau rhyfeloedd oddicartref a chostau byw uchel dan ddeddfau’r yd a
cynnydd prysur y boblogaeth i ychwanegu
at ddirwasgiad y rhannau gwledig lle yr arhosai cyflogau yn sefydlog. Yn 1782
daeth deddf Gilbert fel fel ei
gelwid i rym gan ganiatau Ynadon gyflogi gwarcheidwad i roddi cymorth i’r
anghenus a gwaith i’r rhai allai ei wneud, ac hyd yn oed roddi cymorth i rai
yn derbyn cyflog lle gwelent fod angen hynny. Gwaethygu wnai’r sefyllfa
flwyddyn ar ol blwyddyn a cyn diwedd y ganrif yr oedd mor ddrwg fel y rhoddwyd
deddf Gilbert mewn rhai mannau gan yr Ynadon er arbed gwrthryfel agored. Yn
ystod y deng mlynedd cyntaf o’r ganrif newydd gwnaed hynny bron ymhob sir a
daeth cymorth plwyfol fel ychwanegiad at gyflogau
amaethyddol isel, ar adeg pan oedd costau byw yn cynyddu yn gyflym yn arferiad
cyffredinol. Diau i’r cynllun arbed newyn a dioddef ymysg yr anghenus. Ond o
hyn allan derbynid cymorth plwyfol fel hawl gan lafurwyr a chedwid cyflogau yn
isel heb unrhyw wrthwynebiad. Pe codai cyflogau ni fyddai’r llafurwyr ar eu
mantais oherwydd collai y cymorth ac nid oedd cyflogwyr yn debyg o godi cyflogau
heb gais. Priodai llafurwyr yn ieuanc heb unrhyw sicrwydd bywoliaeth gan y
sicrhaid cymorth ar gyfer y teulu. Nid oedd unrhyw gymhelliad i lafurwyr gonest
fynnai gadw eu annibyniaeth oherwydd mai gwell oedd amgylchiadau yr hwn a
dderbyniai gymorth gan y gwarcheidwaid. Fel gallesid disgwyl cynyddodd treth y
tlodion yn gyflym iawn o ddwy filiwn i wyth miliwn mewn deg mlynedd, roedd mor
drwm ar y rhannau gwledig fel y gorfodid aamaethwyr na dderbyniai unrhyw fudd
ohonni i roddi ei tyddynod i fyny. Cwynid gerbron y Comisiwn Brenhinol yn
1832 oherwydd y mynych dwyll fodolai ymysg swyddogion dan y ddeddf a’r
diofalwch a pha un y gweithreda’r Ynadon. I atal y camddefnydd anogai’r
comisiwn newid y gyfundrefn a daeth Deddf y Tlodion 1834 i rym. Dan y ddeddf
newydd unwyd nifer o blwyfi i ffurfio undeb neu ddosbarth i bwrpas
cynorthwyo’r tlodion, yr oll o dan reolaeth Dirprwywyr Deddf y Tlodion, a
dyna’r achlysur dan pa un y gorchmynodd y Dirprwywyr hynny ar yr wythfed o Fai
1837 fod Gweithdy’r Undeb Pwllheli dan Ddeddf y tlodion i’w ffurfio yng
nghylch De Caernarfon. O hyn allan
trethid y plwyfi o fewn yr undeb yn ol y raddfa sicrhawyd gan y Dirprwywyr fel
cyfartaledd costau y plwyfi er cynorthwyo’r tlodion yn y tair blynedd cynt
pryd yr amrywiai’r gost o £632 yn Denio yn Llangian £523, yn Llandudwen £10
gellir gweled y ffigyrau llawn yn nes ymlaen. Gorchmynai’r Dirprwywyr
ymhellach fod bwrdd o warcheidwaid y tlodion yn yr undeb i’w ffurfio yn
cynnwys 41 o aelodau, dau i’w ethol gan bob un o’r plwyfi canlynol :- Aberdaron,
Llanengan, Abersoch, Llaniestyn, Llannor, Nefyn, Llanystumdwy, Denio ac un ymhob
un o’r plwyfi eraill, ond gallai’r un person gael ei ethol dros fwy na un
plwyf. Rhaid oedd i bersonnau etholid yn warcheidwad fod wedi talu treth y
tlodion mewn plwyf yn yr undeb dros eiddo yn werth ney rent blynyddol heb fod
dan £25. Etholid y wardeiniaid yn flynyddol drwy etholiad gynhelid gan
wardeiniaid yr Eglwys a’r Goruchwylwyr. O leiaf dau ddiwrnod cyn dydd yr
etholiad rhaid oedd iddynt hwy anfon papur pleidleisio i bob ty lle yr oedd
person a hawl ganddo i bleidleisio drosto’i hun neu dros arall. Ar ddydd yr
etholiad casglant y papurau oedd wedi eu hanfon allan, a gallai y sawl oedd a
hawl ganddo i bleidleisio ac yn byw tu allan i’r plwyf neu heb gael y papur
sicrhau un ddydd yr etholiad cyn hanner dydd. Prynhawn dydd yr etholiad
cyfrifai’r wardeiniaid a’r goruchwylwyr y pleidleisiau a chyhoeddid yr
ymgeiswyr gyda mwyafrif o bleidleisiau yn etholedig. Gan rai yn
talu treth y tlodion neu yn berchnogion eiddo yr oedd yr hawl i bleidleisio.
Canaiteid i bob trethdalwr oedd yn cael ei drethu i bwrpas treth y tlodion mewn
plwyf am flwyddyn cyn yr etholiad ac wedi talu y dreth honno am flwyddyn
bleidleisio, ac os trethid ef ar eiddo dan £200 i £400 cai ddwy bleidlais, os
trethid ef ar eiddo o £400 cai dair pleidlais. Caniateid i berchenog eiddo o
fewn y plwyf oedd wedi rhoi rhybudd ar unrhyw ddiwrnod cyn dydd yr etholiad
a’i enw a’i gyfeiriad a manylion o’i eiddo bleidleisio, ac os oedd
cyfanswm trethiannol ei eiddo yn y plwyf dan £50 cai un bleidlais, os oedd o £50
- £75 cai ddwy bleidlais, os oedd o £100 - £125 cai bedair pleidlais ac os
oedd £ 125 - £150 cai bump pleidlais a thros £150 cai chwech pleidlais.
Gallai perchenog oedd hefyd yn trigo yn y plwyf bleidleisio oherwydd hynny yn
ogystal ag fel perchennog gyda’r canlyniad y gallai perchenog eiddo eang yn y
plwyf sicrhau naw pleidlais yn yr etholiad, caniateid hefyd i berchenog eiddo
ddewis un arall ar ei ran yn yr etholiad (proxy), ond i’r sawl a bleidleisiau
roddi rhybudd o hynny i’r swyddogion gyda thystiolaeth ysgrifenedig o’i hawl. Cynhaliwyd
yr etholiad cyntaf ar y trydydd o fehefin 1837 a chyfarfu Bwrdd y Gwarcheidwaid
yn y Crown Inn Pwllheli pryd yr etholwyd Mt John Lloyd Trallwm yn gadeirydd a Mr
Richard Griffith Jones yn Is- Gadeirydd. Clerc cyntaf y bwrdd oedd Mr David
Williams. Cyfarfu’r bwrdd o dro i dro yn Cricieth a Sarn yn ogystal a Pwllheli
gan y gofynid i’r tlodion ymddangos ger eu bron, a chawn hanes y cyfarfod
cyntaf yn y Sarn lle yr oedd pedair gwraig yn gwneud cais am gymorth oherwydd
i’w gwyr eu gadael. Gweithredai’r bwrdd dan gyfarwyddyd pur fanwl dirprwywyr
deddf y tlodion, ac oherwydd hynny rhaid oedd yn fynych sicrhau eu cadarnhad hwy
i’w gweithredoedd. Yn eu cyfarfod cyntaf penderfynwyd hysbysebu am bedair
swyddog elusennol am gyflog o £50 y flwyddyn a £10 yn chwaneg yn swyddfa
Aberdaron, gan y byddai’r swyddog angen ceffyl. Etholwyd Mr David Griffith o
Bodwrdda yn swyddog ar ddosbarth Aberdaon ac yn fuan cawn y gwarcheidwaid yn
sicrhau dirprwywyr i ethol ei frawd Thomas Griffith i lenwi’r swydd ar ei
farwolaeth. Yr oedd Hugh Ellis o Mynytho a Thomas R Williams o Fourcrosses hefyd
yn ymgeisio y tro hwn, ond cafodd Thomas Griffith fwyafrif o un bleidlais. Drwy
law y swyddog elusennol y rhoddai y gwarcheidwaid gynorthyw, a chan mai yn
nwylo’r dirprwywyr yr oedd yr oedd ei penodiad hwy i raddau pell, yr oeddynt
yn rhydd oddiwrth ddylanwad lleol tra yn cyflawni eu dyletswyddau. Drwy hyn y
galluogwyd hwy i gario allan newidiadau eang a wnaeth y ddeddf heb lawer o
rwystrau. Yn y
cyfarfod cyntaf hefyd penderfynwyd hysbysebu am bedwar meddyg i ranbarthau
Cricieth, Pwllheli, Nefyn ac Aberdaron. Hawliau’r meddygon gyf.log o £70 - £100
ond ni chaniataodd y gwarcheidwaid iddynt ond £50 - £60. Yn ddiweddarach
trefnwyd y rhanbarthau hyn yn ranbarthau buchfrechi (Vaccination Districts yn
ogystal, ond gyda’r amod na ddylai’r ddarpariaeth gael ei hestyn ond i blant
y rhai oedd yn derbyn cymorth, gan nad ymddengys
ei bod yn orfodol i unrhyw rai ddod ar plant i’w buchfrechu ac felly dylai’r
rhai oedd yn alluog i dalu ac yn cymeryd gwasanaeth y swyddog meddygol wneud eu
telerau eu hunain. Cytunai y swyddogion meddygol pan alwyd hwy gerbron, ond
hysbysebwyd y bwrdd os y gofynid iddynt mewn achosion fuchfrechu yr holl blant
ddygid atynt i hynny, ac os na thelid ond yn yr achosion llwyddianus nad oeddynt
yn barod i wneud am lai na 2/6 yr achos. Oherwydd
llacrwydd cyffredinol ynglyn a chaniatau cymorth yr oedd y ddeddf yn gorfodi
dynion abl i breswylio mewn Gweithdy ac i wneud gwaith yno cyn derbyn cymorth
wedi syrthio’n llythren farw, ond ail ennynwyd hi gan ddeddf 1834 ac un o
ddyletswyddau’r gwarcheidwaid oedd
trefnu Gweithdy yng nghylch yr undeb. Ym Medi
1834 penderfynodd bwrdd y gwarcheiwaid adeiladu Gweithdy’r undeb Tloty, a
phrynwyd y tir lle saif y cartref presennol am £500. Y mis Mai dilynol
derbyniwyd pris o £2,769 am adeiladu’r tloty a chynhaliwyd cyfarfod cyntaf y
gwarcheidwaid yn y ty newydd hwn ym Medi 1839. Hysbysebwyd am reolwr a meistres
i ofalu am ddeiliaid y ty am gyflog o £50 y flwyddyn gyda tri chwarter pwys o
gig a pwys o fara yr un y dydd a £5 yn chwaneg at sicrhau ei te, siwgwr a’i
cwrrw eu hunain. Ymhen
ychydig cawn fod cwynion yn erbyn y rheolwr cyntaf oherwydd ei ymddygiad at y
deiliaid ac wedi clywed tystion penderfynodd y gwarcheidwaid ofyn caniatad y
dirprwywyr i ganiatau ei daflu allan o’r swydd, a dewiswyd Robert Owen a David
Williams fel rheolwyr dros dro. Derbyniwyd y caniatad erbyn y cyfarfod dilynol a
galwyd arno gerbron i’w hysbysu o’r ddiswyddiad. Cyn ethol rheolwr arall
anfonwyd at y dirprwywyr i ofyn beth oedd y cyflog isaf a ganiateid iddynt dalu
i’r rheolwyr, gan y credant y gellid yn hawdd sicrhau personnau cymwys a
chyfrifol i gyneryd y swydd am lawer llai o gyflog na £50 a £5 ychwanegol a
delid i’r rheolwr a’r feistres ddiweddaf. Wedi agor y
tloty newydd ni chaniateid cymorth i ddynion abl y tu allan i’r tloty os nad
oedd iddynt yn fwy na pump o blant ac hyd yn oed yr adeg honno yr unig gymorth
ganiateid oedd cymeryd rhai o’r plant ychwanegol i’r tloty. Ni chaniateid
cymorth i famau plant gordderch (di briod) ond drwy eu cymeryd hwy a’i plant i
mewn i’r ty, ac nid oedd yr un swyddog i roddi cynorth heb ganiatad y bwrdd
ond drwy archeb i’r ty. Yn yr achosion a gynorthwyid y tu allan amrywiai’r
cymorth o chwech cheiniog i swllt yr wythnos i rai sengal, ac mewn achos o wr
analluog i weithio a gwraig a dau o blant caniateid 1/6 yr wythnos, tra y
derbyniai merch ddibriod a’i phlentyn naw ceiniog yr wythnos. Cwynid fod rhai
yn trosglwyddo ei heiddo i ddwylo perthnasau ac eraill a thrwy hynny yn dod yn
ddianghenraid i bwyso ar y trethi yn ei plwyfi, a phenderfynwyd na roddid
cymorth o hynny allan i neb a roi ei dyddyn neu ei eiddo i arall ond drwy archeb
i’r ty. Yn unol ag
adroddiad y swyddog meddddygol penderfynwyd nad oedd dros 180 o bersonau i’w
cymeryd i’r ty gan na ellid
cynnal chwaneg heb amharu ar iechyd y deiliaid. Ar y cyntaf trefnwyd tri pryd o
fwyd yn y ty, yn forebryd a swper darperid 7 owns o flawd ceirch i ddynion a 6
owns i ferchaid i wneud uwd, gyda pheint o laethenwyn neu wlybaniaeth, os na
ellid ei sicrhau. I ginio caent amrywiaeth ar wahanol ddyddiau:- Dydd
Sul 4 owns o gig a phwys o datw. Dydd Llun 7
owns o fara, merchaid 6 0wns a 12 peint o botes. Dydd Mawrth
2 a hanner pwys o datw a phenog hallt. Dydd
mercher 6 owns o fara a owns o gaws. Dydd Iau 2
bwys a hanner o datw a phenog hallt. Dydd Gwener
1 a hanner peint o lobsgows. Dydd Sadwrn
2 bwys a hanner o datw a phenog hallt. Darperid
cig i rai dros 60 ar ddydd mercher hefyd. Yn
ddiweddarach cawn y gwarcheidwaid yn gofyn caniatad y dirprwywyr i roddi reis yn
lle uwd yn y bore, gyda dwy owns o driog, hanner pwys yn ychwaneg o datws ar y
sul a 2 owns o fara a hanner owns yn fwy o gaws ar ddydd mercher. Disgwylid
i’r rhai abl wneud gwaith yn y gweithdy, ac i’r pwrpas hwnnw awdurdodwyd Mr
Hugh Hughes a’r clarc i fynd i Gaernarfon i archwilio y dull o bigo oakum yng
Ngharchardy y Sir a chael ei barn ar y priodldeb o sicrhau lle ar gyfer hynny yn
y gweithdy. Yn canlyn cawn benderfyniad fod pob dyn abl oedd yn y ty i bigo pump
pwys o oakum y dydd a phob merch i bigo tri phwys. Nid oedd
gyrfa’r bwrdd hwythau, bob amser yn ddidramgwydd, oherwydd rhaid oedd iddynt
roi cyfrif manwl i’r dirprwywyr dan y ddeddf, a chawn y dirprwywyr yn addo
codi cyfraith arnynt am fethu sicrhau y cyllid angenrheidiol i roddi cymorth i
dlodion yr undeb a thalu eu dyledion. Cymerodd y gwarcheidwaid gammau
cyfreithiol yn ddioed yn erbyn swyddogion y plwyfi oedd mewn dyled iddynt, ac o
flaen yr Ynadon dirwyiwyd y plwyfi a ganlyn:- Ceidio 2/-
ar costau os telid yr un dydd neu 15/6. Llaniestyn
5/- ar costau os telid yr un dydd neu £3. Llangian
5/- ar costau os telid ar y diwrnod neu £3. Ceisiwyd
droeon gan dirprwywyr ganiatau llai o gyflog meddygon ac i’r swyddogion ar y
pedwar dosbarth ond ni chaniatai y dirprwywyr hynny er eu hysbysu fod digon o
ddynion yn y wlad a fuasai yn falch o wneud y gwaith am lawer llai nag a delid. Bu’r ddeddf newydd a byrddau gwarcheidwaid yn effeithiol er atal camddefnydd wneid o fuddiannau y cymorth allanol, a rhoddwyd ar seiliau cadarn ddull mwy effeithiol o gario allan y gwaith dan arolygiaeth fwy manwl. Mae’r ffaith iddi fod mewn grym am bron i ganrif heb ond ychydig gyfnewidiadau yn brawf o’i heffeithriolrwydd ar y pryd. Yn ystod y deng mlynedd cyntaf disgynnodd treth y tlodion i bum miliwn a hynny er gwaethaf cynnydd y boblogaeth a dirwasgiad cyffredinol. Yn undeb Pwllheli disgynodd y dreth o £6,737 cyfartaledd y tair blynedd cynt i £5,600 yn 1841– 42 wedi agor y tloty newydd. Rhaid cofio hefyd mai cynyddu yr oedd y dreth yn brysur cyn hynny o flwyddyn i flwyddyn. Cawn weld y ffigyrau llawn yn nes ymlaen. Disgynodd effaith y newid yn drwm ar y tlawd, yn arbennig felly yn y rhannau hynny lle roedd tloty wedi ei ddarparu pan ddaeth y ddeddf i rym. Bellach ni chaniateid cymorth i ddynion abl ond yn y tloty, a daeth tloty yn air i’w ofni gan y tlawd a’r anghenus mewn llawer cylch. O’r ochr arall cadwodd y ddeddf lafurwyr gwledig rhag y dirywiad parhaol i ba un yr oeddynt yn llithro dan yr hen drefn, a gorfodwyd hwy i wneud gwaith gonest am gyflog ac nid am elusen. Lliniarwyd llawer ar y gorthrwm hefyd ymhen amser, a chaniatawyd cymorth allanol yn rhwyddach mewn arian a nwyddau. Yn 1847 trosglwyddwyd gwaith y dirprwywyr deddf y tlodion i fwrdd deddf y tlodion yn 1871 yn fwrdd llywodraeth lleol. Caniatawyd i’r gwarcheidwaid beidio cymeryd i ystyriaeth dderbyniadau o dan 5/- o gymdeithasau cyfeillgar pan yn rhoddi cymorth allanol yn 1895 ac yn 1904 gwnaed y caniatad hwnnw yn orchynmyn.
"Pwllheli" Cwynai comisiwn Brenhinol 1905 fod y ddeddf erbyn hynny yn annigonol i gyfarfod ag amgylchiadau gwahanol. Yr oedd yr undeb yn rhy gyfyng ei gylch i fod yn effeithiol, disgynnai y dreth drymaf ar y rhannau tlotaf caniateid i blant fod ymhlith deiliaid eraill y tloty. Awgrymid newid y ddeddf i sicrhau gwelliant amlwg, fod camau eraill ddylid eu cymeryd i gyfarfod ag anghenion dosbarthau arbennig oedd dan ofal y gwarcheidwaid, megis y claf a’r diwaith. Yn 1910 daeth blwydd dal yr hen i gynorthwyo rhai dros 70 oed, ac yn 1911 ffurfiwyd yr Yswiriant Genedlaethol i gynorthwyo y di waith a’r claf. Yn 1919 ffurfiwyd y Bwrdd Iechydd i gymeryd drosodd holl weithrediadau y deddfau oedd yn ymwneud a iechyd cymorth cyhoeddus, a bu hynny yn fantais i sicrhau mwy o unoliaeth yn eu gweithrediadau. Wedi’r Rhyfel Mawr Gyntaf daeth dirwasgiad o 1922 ymlaen a chynyddodd nifer y rhai oedd yn derbyn cymorth o tua hanner miliwn yn 1919 i bron ddwy filiwn yn 1922. Tynnodd hynny sylw unwaith yn rhagor at effaith y ddeddf ar y rhannau tlotaf lle yr oedd y dreth mor drom ag i’r awdudrdodau fethu cario ymlaen ei dyletswyddau. Yn 1929 trosglwyddwyd holl waith y gwarcheidwaid dan ddeddf llywodraeth leol y flwyddyn honno i’r cynghorau sirol yn gweithredu drwy bwyllgorau cymorth cyhoeddus, a thrwy hynny sicrheid fod costau ariannol yn decach ar y rhanbarthau, ac wedi bron ganrif o wasanaeth daeth tymor bwrdd y gwarcheidwaid ar Overseers i derfyn.
Bwrdd
cyntaf y gwarcheidwaid. Gwarcheidwaid yn rhinwedd ei swydd ( Ex Officio) John lloyd
– Trallwm (Yswain). William
Glynne Griffith – Bodegroes ( Yswain ) Robert
Thomas – Carreg Plas a Cefn Mine (Yswain). Samuel Owen
Priestley, Tremfan (Yswain) Parch
Robert Jones Llaniestyn Clerc. Parch John
Kyffin Llanbedrog. Clerc. Gwarcheidwaid
Etoledig. Cricieth
– Mr John Jones Ynysgain. Llanystumdwy
– Mr W Williams Jones Ysgubor Hen. Llangybi
– Robert Thomas. Llanarmon
– Griffith Roberts Gelligorn. Abererch
– Elias Williams Plas Newydd Carnguwch
– Griffith Humphrey Carnguwch Bach Llanaelhaiarn
– Robert Hughes Uwchlaw’r Ffynnon. Denio –
Richard Griffith Jones. (Yswain) Llannor –
Evan Roberts Penmaen. Penrhos –
William Thomas Tyddyn Llywelyn. Llanbedrog
– Cyril Williams (Yswain) The Cottage. Llanfihangel
Bachellaeth – Owen Williams Penrhynydyn. Llangian
– Griffith Griffith – Castellmarch. Llanengan
– Robert Williams Pantygwair. Llandegwning
– Richard Jones Neigwl Ucha. Nefyn –
Edward Roberts Botacho Wyn Bodfean –
Hugh Jones Hendre. Edern- John
Hughes Cefn Edeyrn. Ceidio –
Richard Evans – Plas yng ngheidio. Llandudwen
– John Evans Trefwerin. Llaniestyn
– Charles Williams Garreg Lwyd. Tudweiliog
– Richard Thomas Tanllan. Aberdaron
– Robert Evans Methlam. Llanfaelrhys
– Griffith Evans Ysgo. Bodferin
– William Jones Hendrefor. Llangwnadl
– John Williams Trefgraig. Penllech
– Griffith Griffiths Penllech Bach. Meyllteyrn-
Owen Owens Bodnithoedd Bryncroes
– John Jones Coch y Moel’ Botwnnog
– Parch John Hughes Botwnnog. Rhiw –
Owen Roberts Bodwyddog. Cyfrifiad
1881 Dwelling: Pwllheli Union Workhouse Daeth yr
hanes yma i law gan Miss M Evans a’i cafodd gan y diweddar W. Jones Gladstone
Aberdaron, ac ar ei ddiwedd fel ol nodyn roedd y canlynol. “ Mi
gefais yr hanes uchod gan y diweddar Mr S R jones Clerc Cyngor Dosbarth Llyn,
roedd wedi codi’r hanes o hen lyfrau cofnodion y cyngor. Mi cefais nhw ar
Fehefin 8fed 1937.” |
|
Copyright © Rhiw.com |