|
|
"Pigion VIII" 1559.
Ymosod. Ar Fai y 19eg 1559 Daeth cyhuddiad yn erbyn Ieuan, Morgan ap Hywel ap Dafydd ap Iorwerth amaethwr o Benarfynydd o ymosod ar ac anafu Ieuan ap John ap Hywel ap Ieuan Lloyd ym Mhenarfynydd.
Lladd
Defaid.
Yn Ebrill 1510 cyhuddwyd Dafydd ap Guttyn Lewis a Ieuan ap Lewis o Cadlan ei frawd yng nghyfraith ( drwgweithredwr digartref) o hela a lladd wyth o ddefaid ar Gomin mynydd Aberdaron
Nadolig
1937. Pan
gaewyd yr ysgol am y gwyliau rhoth yr athrawon geiniog yr un i’r plant a
rhoddodd Dora Williams Tyn Graig oren yr un i’r plant. Diolchwyd ar ran y
plant gan Kitty Carreg Lefain a Katie Seaview. Am
bresenoldeb llawn rhoddwyd dystysgrif i’r disgyblion canlynol :- Doreen Lon Las, Kitty Carreg Lefain, Katie Seaview a Brenda Eifion.
Ionawr
24 1938.
Dydd Iau
rhedodd fan goch gyntaf y llythyrdy o Bwllheli i Aberdaron, cyn hynny Tocia fu
yn cludo llythyrau am bump deg chwech o flynyddoedd.
Llais
Tenor.( Ionawr 1915 )
Pan
adawodd y Parch John Williams am yr America, fe gynhaliwyd cyngerdd yn ysgol
Rhiw ac un o’r rhai oedd yn cymeryd rhan oedd Griffith Williams, Bryn awel neu
Guto Butcher fel y’i gelwid. Fe ganodd y gan Awn i America ac fel hyn y
disgrifiodd gohebydd papur newydd Guto Butcher “ Dyma ddyn a llais tenor
ardderchog ganddo, ac y mae’n glod i Gymdeithas Llenyddol Rhiw am ddod a’r
dalent gerddorol yma i olwg y byd !”
Braw
( Mis Mawrth 1915) Nos lun
brawychwyd trigolion yr ardal trwy weled llong wedi angori mewn lle na byddai yr
un yn gwneud, ond aeth ymaith heb wneud na derbyn dim niwed !!.
Chwefror
16 1898 – Yr Anwydwyst. Bu
dioddef mawr oddiwrth y clefyd hwn yn ardal y Rhiw. Nid oedd un ty heb glaf a bu
raid cau yr ysgol am ddau gyfnod o bythefnos yr un ar orchymyn Dr Fraser y
Swyddog Iechyd.
Gwaith
Brics. Chwefror 1898. Stopiwyd
y gwaith yng ngwaith brics y Rhiw (ar glogwyn Porth Neigwl) a bu cryn bryder gan
fod cymaint yn cael eu cyflogi yna, ond yr unig atalfa fu oedd er mwyn rhoi
peiriannau newydd i mewn a gostegwyd pryderon y gweithwyr yno.
Mawrth
15 1898. Gwnaeth
Mr G Jones a Mr R Jones o Gyngor Dosbarth Lleyn. adroddiad o’i ymweliad
a’r Rhiw lle roedd y ffordd wedi llithro i’r mor.
Mor
Ladron Oes Elizabeth y Cyntaf.
Ebrill
1929. Cannwyll Corff. Yn ystod
y nos mi ddeffrodd Anne Owen Bryntirion a phan edrychodd allan o ffenestr siambr
ei bwthyn ar y mynydd fe welodd hi olau yn mynd ar hyd y llwybr a ai ar hyd y
mynydd i gyfeiriaid Ael y Bryn a Bryn Awel. Allai Anne ddim gweld golwg o unrhyw
un yn cario lantern, dim ond y golau yn mynd fel petae ohonno’i hun daliodd i
edrych arno nes y diffoddodd yng nghyffiniau Bryn Awel. Y bore wedyn mi glywodd
Anne fod Griffith Williams Bryn Awel wedi marw yn ystod y nos ac fe gredai hi ei
bod wedi gweld yr hyn a elwid yn gannwyll corff. Dywedir hefyd fod goleuadau
wedi ymddangos ar wal cowt Syntyr ar yr union amser y bu i Rolant Syntyr gael
damwain angeuol ar ei fotor beic ym mehtref Sarn yn y tridegau.
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |