|
|
"Pigion VII" Y
Morfil. Yn y
tridegau cynnar golchwyd morfil i’r lan ym Mhorth Ysgo. Yn ol rhai oedd yn
cofio yr oedd yn dipyn o faint a bu dynion yr ardal yn ei dorri i fyny cyn ei
gladdu ym Mhwll y Gaseg ar ben ucha’r traeth. Daeth llun i law o Daniel
Rowlands Rhiwlas yn arddangos asgell (ffin) y morfil. Llongau
awyr. Ar
hydref 11 1938 fe redodd dwy long awyr i’w gilydd uwchben Porth Neigwl, a mi
ddisgynon ar dir fferm Trefollwyn. Cafodd tri eu lladd yn y ddamwain. Arferai y
Llu Awyr ddefnyddio Porth Neigwl i ymarfer targedu gyda’i bomiau. Dodrefnu’r
Neuadd. Wedi
cwblhau’r Neuadd aeth y pwyllgor ati i ddodrefnu’r neuadd, mi brynon nhw’r
cadeiriau o Ysgol Fonedd Howells yn Ninbych. Mi gaeson nhw 300 am 9/- yr un ac
mi aeth Mr H Dwylan Griffith Siop Isaf Tudweiliog oedd gan fusnes loriau i’w
nol yn rhad ac am ddim i’r pwyllgor. Prynwyd y curtains gogyfer a’r llwyfan
o ‘Watts & Corry Manceinion am £124-11-9. ac fe’i gosodwyd gan Mr H
Williams Uwchmynydd a Mr Gwilym Hughes Ty Uchaf a Mr G Jones Tyn fron. Bu Mr
Cyril Hughes Tangraig yn ymgynghori’r pwyllgor ar sut i osod y goleuadau a’r
wiring gogyfer a’r llwyfan.
Dic
Lon las Ar 17eg
o fis Mawrth 1954 ym mhwyllgor
neuadd y Rhiw pasiwyd i ddiolch i Mr Richard Jones Lon Las am ei
gyfraniad at y neuadd. Ef oedd yr unigolyn a gododd y swm mwyaf erioed i
gronfa’r neuadd, fe wnaeth hyn drwy gynnal gyrfaon chwist a gwerthu ticedi
raffl. Unigolyn
arall a gafodd ddiolch arbennig oedd Lewis Jones Fronoleu, y fo oedd
ysgrifennydd pwyllgor y neuadd o 1926 – 1952.
Cwymp. Ar nos sul Tachwedd 1af 1953 yn ystod storm fawr o wynt cwympodd talfur y neuadd, a oedd ar y pryd ar ganol cael ei adeiladu.
Prisiau. Yn
Ebrill 1935 gallai menyw o’r Rhiw brynu ‘outfit’ newydd at yr haf am dair
gini. Yn
Rhagfyr 1907 gallai gwraig ty o’r Rhiw brynu dillad gwely am wyth swllt ac
wyth ceiniog. Yn 1938
prynodd William Owen Meillionydd gar am £75. Yn 1877
talodd Evan Jones Nant 1/3 am hanner tunnell o halen a £3-12-0 am dair tunnell
o lo. Ac yn 1894 cododd y meddyg John Roberts M D surgeon 1 gini am ymweliadau rhwng Rhagfyr 1893 a Chwefror 1894. Diolch i Mr R Jones.
Blodwen. Blynyddoedd yn ol roedd gan deulu Owen Hughes Conion gaseg o’r enw Blodwen, caseg fawr wen oedd Blodwen ac adwaenai pawb yn yr ardal hi. Pan fyddai cynhebrwng yn yr ardal, yn enwedig yn y tyddynod diarffordd yn y mynydd Blodwen gai’r gwaith o gludo’r arch i’r pentref. Os oes gennych bigion bach am Rhiw, gadewch inni wybod, ac mi wnawn eu rhoi ar y dudalen nesaf. Diolch yn fawr. |
|
Copyright © Rhiw.com |