
"Pigion VI"
"Dewin Dwr"
Roedd
Wil Penbwlch yn ddewin dwr. Byddai galw mawr am ei wasanaeth yn ystod y
pumdegau cyn i gyflenwad dwr gyrraedd
pentre'r Rhiw. Gelwid arno i fynd o gwmpas y ffermydd i ddarganfod dwr yng
nghrombil y ddaear fel y gallai perchennog
y tir agor ffynnon yno. Defnyddiai fath o fforch wedi ei thorri o helygen
a daliai hi yn ei ddwylo gan gerdded dros y tir. "Pan ganfyddai ddwr oddi tano,
byddai'r fforch yn crynu'n ei ddwylo gan gynhyrfu ei gorff i gyd. Gallai hyd yn
oed ddweud pa mor isel y dyliad tyllu i gyrraedd y cyflenwad dwr" Addefai y byddai'r profiad yn ei
wneud i deimlo'n bur sâl.

"Wil
Penbwlch"
Diolch
i Mr
C Hughes.

"Tan
Gwyllt"
Roedd
Noson Tân Gwyllt yn noson fawr i blant Y Rhiw yng nghyfnod y pedwardegau a'r pumdegau. Cesglid pob math o ddefnyddiau
i'w llosgi am wythnosau ymlaen llaw gan eu cario i hen garej Y
Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhen Clip. Ar Noson Tân
Gwyllt cludid y cyfan o'r garej i ben Clip y Gylfinir i greu coelcerth
enfawr a oedd i'w gweld o bob cwr o Lyn a rhannau o Eifionydd
ar ôl ei thanio. Yn ychwanegol at y tân gwyllt arferol fyddai'n diasbedain,
arferai'r hogiau hynaf greu anferth o glec drwy
danio carbeid mewn hen dun triog. Byddai'r ergyd yn chwythu caead y
tun am gryn bellter.

"Clip y Gylfinir"
Mr
C Hughes.

"Dolen
Drws Ysgol"
Isod mae llun
diddorol o ddolen drws Ysgol Rhiw.

Diolch i Mr C
Hughes am ei yrru i fewn.

"Odyn Galch"
Roedd
dwy odyn galch yn Aberdaron, un ger yr eglwys a’r llall yn Penrodyn ( yn ymyl
Siop Wendon). Evan Jones Nant Llanfaelrhys oedd berchen un Penrodyn ac Edward
Williams Cadlan oedd berchen yr un ger yr eglyws.
"Edgar
Morris"
Yn
1962 daeth Edgar Morris Ael y Bryn gartref o Awstralia, lle bu’n gweithio yn y
mwynfeydd opal. Dechreuodd ei daith efo llong o Freemantle i Sri Lanka wedyn efo
‘ferry’ i Madras yn India ac oddyno teithiodd efo bws drwy India ,Pakistan,
gwledydd y Dwyrain Canol ac ar draws Ewrop hyd nes cyrraedd pen ei daith yng
ngosrsaf bws Victoria Llundain.

"Y
llong lo"
Yn
1922 enilliodd William Rowlands wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhydaman
am ysgrifennu ‘Y Llong Lo’ llyfr antur i fechgyn, fe gyhoeddwyd y llyfr yn
1924. Roedd William Rowlands M A yn Brifathro Ysgol Eifionydd Porthmadog,
ac yn enedigol o’r Rhiwlas Rhiw.

"William Rowlands"
"Cloch y Llan"
I
adael i’r plwyfolion wybod fod hwn, neu hon wedi marw, a bod yr enaid wedi
pasio i’r purdan.
2 dinc – Geneth/baban.
3
tinc – Baban Gwrryw.
4
tinc – Lodes tan ugain.
5
tinc – Llanc tan ugain.
6
tinc – Merch ddi briod.
7
tinc – Llanc di briod.
8
tinc – Gwraig briod.
9
tinc – Gwr priod.
"Ebillion"
Blynyddoedd
yn ol byddai pobol y Rhiw yn torri linteri a phostiau giat allan o’r creigiau
ar y mynydd, ar fynydd Penarfynydd gellir gweld pump ebill mewn carreg fawr.
Ac yn
ymyl Ty Uchaf i gyfeiriad Nebo gellir gweld lle y llwyddon i dorri’r graig.

"Sipsiwn"
Byddai
sipsiwn yn gwersyllu ar Ben Comins ac yn mynd o gwmpas y fro yn gwerthu eu
nwyddau ac yn dweud ffortiwn. Dywedir mai un o’r sispsiwn ddatgelodd cyfrinach
y ddafad wyllt er mae llawer damcaniaeth arall i hyn.

"Pen Comins"
"Y
Lantern"
Pan
symudodd William Hughes i Benbwlch yn 1946, fe ddarganfu hen lanter mewn twll yn
wal y beudy, awgrymodd Evan Jones Bwlch a oedd yn wr gwybodus iawn, y dylai Wil
yrru’r lanter i’r amgueddfa yn San Ffagan. Gellir gweld y lanter gannwyll
yno heddiw.

"Lantern
Penbwlch"
Diolch
i Mr C Hughes, am y llun yma.