"Pigion IV"

Lladron Moelrhys.

Ar y ffin rhwng plwyfi Llanfaelrhys a’r Rhiw mae dau faen hir, yn ol traddodiad dywedir mai dau leidr gafodd eu troi yn garreg, geir yma. Bu’r ddau yn lladrata o  eglwys St Moelrhys ac yn ffoi oddyno pan ddaeth Barn Duw arnynt a’i troi yn garreg fel pennyd am ddwyn.

Maen_hir_1.jpg (108505 bytes)

 

Crosville.

Yn 1934 dechreuodd gwmni Crosville redeg gwasanaeth bws rheolaidd i’r Rhiw. Cyn hynny roedd Bws Talafon yn mynd a pobl i Bwllheli ar ddydd mercher a dydd Sadwrn.

bws_talafon.jpg (82624 bytes)

"Bws Talafon"

 

Owen Davies.

Roedd Owen Davies yn Ficer y Rhiw o 1888- 1895 yr oedd yn enwog yn ei ddydd fel canwr ac adwaenid ef fel ‘Eos Llechyd’.

 

Galw’r Doctor.

Ar ddiwrnod o eira mawr cafodd Dr Bobi Jones alwad i ddod i weld un o’i gleifion yn y Rhiw. Gan fod eira at dop y cloddiau, pendrefynodd Dr Bobi adael ei gar ym Mhengroeslon a cherdded i fyny i’r Rhiw. Pan gyrraeddodd dy’r claf gofynodd iddo beth oedd yn bod “ Dim” medd yntau  “ Dim ond eisiau gwybod on i taswn i yn wael y gallech chi ddod”!!!!! ( Mae hon yn hollol wir gan imi ei glywed fy hun gan Dr Bobi pan on i yn blentyn).

Dr_Bobi_jones.jpg (59135 bytes)

"Dr Bobi Jones"

 

Mary Williams Fron Oleu. 1844- 1922.

Byddai Mary Williams Fron Oleu yn gwneud ‘ Mushroom Ketchup’ ac yn ei werthu mewn gwestai yn Llandudno. Arferai fynd efo’i gwr efo ceffyl a cart i Bwllheli ar ddydd mercher ble byddent yn gwerthu menyn ac wyau. Pan ai i Landudno fe gai’r tren o Bwllheli, roedd chwaer Mary yn cadw gwesty yn Llandudno.Mae’r llun o Mary wedi ei dynnu tu allan i westy ei chwaer yn Llandudno.

Mary_Williams_fron_oleu.jpg (31773 bytes)

"Mary Williams Fron Oleu"

 

Cwpan Ddathlu.

Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd plant y Rhiw wahoddiad i Blas yn Rhiw i gael parti a chyflwynyd pob un o’r plant efo cwpan i nodi diwedd y Rhyfel mawr. Yn y cyfnod yma Miss Roberts oedd yn byw yn y Plas ond byddai yn treulio’r gaeaf yn yr Eidal, ble roedd y tywydd yn fwy ffafriol.

mug_1918.jpg (17075 bytes)            mug_1918b.jpg (10329 bytes)

 

Rhigwm

Chwanen a lleuan yn mynd am ras

O Benboncyn i Lon Las,

Baglodd y lleuan ar draws y stol

A chwarddodd y chwanen

Ho Ho chdi sydd ar ol.

~~~~~~~~~~

Arferai ‘r plant ganu rhigymau o’r math yma ar eu ffordd i’r ysgol.

 

Elin Trip.

Byddai Elin Trip yn casglu gwymon a chocos a gwichiad yn y Rhuol a Phorth Neigwl ac yn eu hanfon ar y tren o Bwllheli i Benclawdd yn Ne Cymru. Defnyddid y gwymon yno i wneud bara lawr.

 

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com