|
|
"Pigion III"
John
Williams,
Roedd
John Williams Brynhyfryd yn brif brynwr i siop ‘Harrods’ yn llundain yn
ystod y tridegau. Yn 1936 gofynnwyd iddo fod yn llywydd ar Chwaraeon Rhiw a
gynhaliwyd ar Awst yr 8fed, ar y pryd roedd yn byw yn ‘Hillcrest’ Millhill
Llundain.
Tan
yr Ardd, Roedd
Huw a Robin Williams Tan yr Ardd yn llongwyr, aeth Huw i fyw ym Mhorthdinllaen a
bu yn ail lywiwr ar y bad achub yno. Bu Robin yn hwylio ar amryw o longau
Porthmadoc efo William Parc y Brenin ( Wil King). Symudodd teulu Robin i fyw i
Nantgwtheyrn i weithio yn y chwarel yno, a chafodd Robin y gwaith o ofalu am
lwytho’r llongau, byddai pawb yn
ei adnabod fel ‘Robin Llongau’ "Huw Williams" Morgan y Gogrwr, Fel un o’r ymneulltwyr cynnar, cafodd Morgan Griffith, Bwlch y Rhiw. (circa 1750) ei ddal a’i yrru i weithio ar fwrdd llong o Lynges y Saeson. Bu ‘n hwylio ar fwrdd y ‘Colchester’ oedd oddiar arfordir yr Alban yn cadw llygaid ar longau o Ffrainc, rhag iddynt ddod a’r ‘Young Pretender’i mewn i’r Alban. "Colchester 1750"
Dawnsfeydd, Pan agorwyd y neuadd fe gynhelid dawnsfeydd yno yn lled aml gyda bandiau fel ‘Ray and his Hawaian Band, Y New Majestics a’r Ambassadors, gan amlaf Mr Clive Chidley fyddai yng ngofal o’r noson ac fe gostiai’r ticed mynedfa hanner coron. "Clive
Chidly"
William
Williams Brynhyfryd (30 oed) Ar Fehefin 25ain 1894, collodd William Williams Brynhyfryd ei fywyd yn nhanchwa yr Albion yng Nghilfynydd De Cymru, yr oedd yn un o 281 o ddynion a gollodd ei bywydau ar y diwrnod trychinebus yna. "Pwllglo yr Albian Cilfynydd"
Cwnstabliaid y Rhiw, Dydd sadwrn 30ain o Ionawr 1915 dewiswyd gwyr o Rhiw i ymgymerryd a’r swydd o Gwnstabliaid : Owen Carreg Lefain, Griffith Ael Bryn, Owen Brynfran,Griffith Tyn Fron, Sion William, Richard Roberts, Thomas Y Ffor, Robert Pwllmelyn, Evan Salfyr, John Talafon a Jones Y Scwl. Eu prif swyddogaeth oedd gwylio’r glannau.
Mary Rowlands, Ganwyd
Mary yn Tyn Borth Rhuol a bu yn byw yno fel plentyn. Aeth llong ac arni griw o
Eidalwyr i ddistrwy ym Mhorth Neigwl a chafodd y criw loches gyda teulu Mary. Fe
ddysgodd y llongwyr Mary i gyfri mewn Eidaleg a blynyddoedd yn ddiweddarach pan
oedd hi ei hun yn nain fe ddysgodd hi i’w wyrion a’i wyresau gyfri mewn
Eidaleg. Dywedir hefyd iddi gael ei darganfod yn ei chrud a oedd ‘nofio’
rownd y gegin wedi i don enfawr dorri mewn i’w ty mewn storm garw un gaeaf. "Tyn Borth Rhuol"
Ty
Canol, Adeg
rhyfel pan oedd y gwaith yn mynd yn Rhiw roedd dau o’r gweithwyr yn gweithio
yn union odditan Ty Canol, ac er mwyn cael dipyn bach o sbort fe benderfynon fod
angen deffro’r hen Jini a dyma roi clapyn neu ddau yn ychwanegol o bowdwr i
greu y ffrwydiad. Yn saff ichi mi ddeffrodd yr hen Jini, a deffro i weld ei
chegin wedi ei ddymchwel gan nerth y ffrwydriad!!!! Bu raid i’r ‘Gwaith’
ail adeiladu ei chegin oherwydd direidi y ddau
W.E.A. Yn
1917 cynhaliwyd dosbarthiadau W.E.A, cyntaf yn ne Sir Gaernarfon yn y Rhiw. Y
gymdeithas fu hefyd yn flaengar mewn sicrhau mudiad i gael Neuadd Ddiwylliadol
i’r Rhiw yn yr Ugeiniau drwy godi arian a sicrhau tir i adeiladu y Neuadd a
gafodd ei adeiladu yn y pumdegau yn y diwedd.
Dafad
Epilgar ( o bapur newydd circa 1935 ) Y mae dafad ( brid y Rhiw) perthynol i Mr Rowland Williams Tyn Cae, wedi bwrrw deg o wyn yn ystod y tair blynedd ddiwaethaf. Eleni mae ganddi bedwar. Mae yr wyn a’r ddafad yn dod ymlaen yn ardderchog. Y mae hyn yn eithriad i frid y Rhiw. "Dafad
brid Rhiw"
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |