|
|
"Pigion II" Tai To
Gwellt. Roedd
rhyw ugain o dai to gwellt yn y Rhiw. To felly oedd ar Foel, Tynllan, Cocrwth,
Bryn Tirion, Ty Ucha ( a elwid yn Ty Huw Crydd ), Tancapel, Dau Parish Cottages,
Ty Isa ger Pisgah, Tyn Mynydd, Conion Ganol, Y Benallt, Tyn Rhos, Bodsara a
Fryndol. "Tai Tlodion"
Beudai
Carreg Lefain, Pan
roddwyd to newydd ar Eglwys Llanfaelrhys yn 1901 defnyddiwyd y coed oddyno i doi
beudai Carreg Lefain Fawr.
Tafarndai Rhiw, Blynyddoedd
yn ol roedd amryw o dafarndai yn y Rhiw gan gynnwys Tyn y Graig , Pen Poncyn,
Trip, Mason’s Arms a Tyn Borth yn Rhuol. Tyn y Graig
Cwt
Mochyn, Mae’r cwt mochyn yma yn un o dri o’r math sydd ar ol ym Mhrydain gyfa, mae dau yn Rhiw sef Pen yr Ogof a Bryn Ffynnon.
Penarfynydd, Adeiladwyd yn 1885 gan yr Arglwydd Newborough o Glynllifon. Gyrrodd un ar ddeg ‘wagenaid’ o goed i adeiladu’r ty. Bu rhaid gyrru pedwar ceffyl o Benarfynydd i gymorthwyo ceffylau Glynllifon ar filltir olaf y daith i fyny’r allt o Borth Neigwl.
Adeiladu Llongau yn Rhuol, Byddai llongau bychain a cychod yn cael eu adeiladu yn Rhuol. Y mwyaf i gael ei adieladu yno oedd ‘ Y Swallow’ yn 1802 a oedd yn ddeugain tunnell. Fe’i collwyd yn 1863 oddiar Abersoch. Llong fechan arall a adeiladwyd yno oedd yr ‘ Eban’. Dywedyd fod y gweinidog Ebenezer Richards wedi ei bendithio a chynnal cyfarfod pregethu ar y traeth. Adeiladwyd y "Swallow" yn y
man gwastad.
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |