"Pigion I"

 

Ty Marjorie,

Ar fynydd Penarfynydd nepell o’r trwyn mae carreg a elwir yn ‘ Ty Marjorie’, Pan welir y garreg yma o gyffiniau Llawenan mae yn edrych yn debyg i fwthyn. Mae yn draddodiad ymhlith perchnogion fferm Penarfynydd ar hyd y blynyddoedd i godi cerrig i edrych fel corn ar Dy Marjorie, dywedir os na fydd y corn i’w weld yna fe ddaw anlwc ar fferm Penarfynydd.

ty_marjory.jpg (54105 bytes)

 

Esgid fach Seaview,

Tra yn ail wneud Seaview daeth y perchnogion newydd Eifion a Viv Williams o hyd i esgid fychan wedi ei chuddio yn y simndde fawr. Roedd yn draddodiad ers talwm i adeiladwyr roi esgid plentyn mewn lle cudd wrth adeiladu er mwyn sicrhau lwc i’r ty newydd.

shoe_01.jpg (14085 bytes)            shoe_02.jpg (14368 bytes)

 

Cwt y Postmon,

Ar gongol gardd  y Ffor, byddai gan y postmon gwt i gael lloches tra yn aros am y casgliad prynhawn i fynd i Bwllheli. Byddai’r postmon yn mynd a llyhtyrau i ochr orllewinol Rhiw ar ddyddiau Llun , Mercher a Gwener, ac i’r ochr ddwyreiniol ar y tri diwrnod yn weddill.

 

Tom Post,

Byddai Tom Post yn anfon llythyrau ar gefn ei fotor beic, pan fyddai yn mynd i Fodwyddog ai i mewn drwy’r drws reidio rownd bwrdd y gegin gan adael y llythyrau ar y bwrdd ac yna allan yn ei ol, heb unwaith ddod oddiar ei feic !!!!! Gwnaeth Tom gert i dynnu ar ol y beic i gario gwair i’r da byw.

Tom_Post_yn_Penarfynydd.jpg (88883 bytes)

 

Braich William Roberts,

Cafodd gwr o’r enw William Roberts Ty Rhyd ddamwain tra yn gweithio yng ngwaith y Rhiw, collodd ei fraich, a chladdwyd ei fraich ym Mynwent Llanfaelrhys. Blynyddoedd yn ddiweddarach pan fu farw fe’i claddwyd ym mynwent Capel Nebo. Ei iawndal am golli ei fraich oedd nid arian ond cael yr hawl i bori ar Fynydd y Graig tra byddai fyw.

william_roberts_ty_rhyd.jpg (52603 bytes)

"William Roberts"

 

Ogof Sion Twnti,

Pan fyddai yr heddlu angen cymorth gan Sion Twnti ynglyn a’i ymholiadau, fe ai i guddio mewn ogof yn y mynydd. Mae’n debyg fod yr hen Sion yn dwyn ambell i ddafad, er mwyn bwydo’i deulu. Tra byddai yn cuddio mi ai ei wraig a bwyd iddo i’r ogof, er mwyn ei gynnal.

twll_sion_twnti.jpg (49800 bytes)

 

Ty’n Dywydd neu Din Dywydd hefyd Castell Caeron,

Saif y dref Din Dywydd ar tua chwe erw o dir (yng Ngogledd Rhiw), ond does bron ddim ar ol erbyn hyn. Mae son fod prydydd wedi ymweld a’r dref yn o hwyr rhyw ddiwrnod, gan ofyn o dy i dy am loches dros nos, ond cael ei wrthod ym mhobman ond un ty o’r tu allan i’r ddinas ac iddo yntau yn ei ddial felltithio y lle fel yr aeth ar dan yn ystod y nos, a difrodi y dref a’r holl fywydau. Dyma hen englyn i’r digwyddiad.

Dinas sy fry ar y fron- ac ynddi

Gannoedd o drigolion,

I'r ulw hyll yr elo hon

A diango dy Eingion

Y ty a roddodd loches i’r prydydd a’r unig un arbedwyd rhag y tan oedd Ty Einion, Ty Engan erbyn hyn, cartref Einion Lleyn neu Einion Frenin a deyrnasai ar randir Lleyn yn y 6ed ganrif, ‘ roedd yn fab i Owain Danwyn ab Einion Yrth, ab Cunedda Wledig. Fo meddir sefydlodd Llanengan, coleg Penmon ym Mon, a mynachdy Enlli, felly cafodd ei restru ym mhlith y saint, a’i goffau ar Chwefror 9fed.

 

Ffynnon Ddu fwng, Ysgo.

Yn yr hen amser daeth un o’r seintiau ar ei geffyl o’r enw Du Fwng ar ei daith i groesi i Enlli. Gadawodd ei geffyl yn cae yma, ond doedd yna ddim dwr yno iddo. Gweddiodd y sant, a phan ddaeth yn ol ‘roedd “tarddell” yno, a galwyd y ffynnon yn Ffynnon Ddu fwng. Enw’r cae sydd fod ar y top di Cae Bryn Tywod.

 

Yn 1653,

Yn mis Ebrill 1653, cafwyd tysteb gan drigolion Rhiw, yn cwyno am gyflwr pont Tywyn, Llangian. Am ei bod hi yn berig i’w ddefnyddio wrth fynd am Bwllheli !!!!!

 

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com