Frainc
16/11/17
Anwyl
Gyfaill,
Dyma fi yn
gymeryd pleser o anfon gair gan ddisgwyl dy fod yn iach fel rwyf
fina. Derbyniais dy caredig lythur yn saff ar parsal hefud.
Diolch i ti am dano.
Wel
nid oes genyf ddim llawer o newydd i ddweud wrthat yma. Yn lle
mae Guto Meillionydd Mi on yn meddwl mor braf oedd arnat yn fair
Sarn a mina yn lle fel hun, Deud wrth Evan Bodwyddog Bach fy mod
yn gofin am dano. Guto pwllmelyn wedi gael glwyf yn drwm, Mae
Robert Owen wedi mund i Hospital dau fis bellach a ddaeth o byth
yn nol, Beth mae Twm Pisgah yn feddwl Sud mae Dick Tanffordd
rwan Maent yn cael munt i troi i England o yma, Yn lle mae Guto
Jones tan bryn rwan, Mi glwais fod Robin Bach yn gael hogan bob
nos Mae Ben yn yr un fan a mi Sud mae John Bodwyddog Mi rwyf yn
disgwyl y gaf ddwad adref reit fuan, Wel nid oes genyf ddim mwu
y tro yma paid a bod yn hir heb yru eto,
Terfynaf ar hun gan gofion gorau atat ydwyf
Richard
~~~~~~~~~~~~~~~