Mynd i Wrexham.
Ar
fore oer yn Chwefror
A’r
glaw yn dod i lawr
Rhaid
iti ateb gwys dy wlad
Medd
cyfraith Prydain Fawr
Ac
aethym fel yr helyw
O’m
hen gyfoedion gynt
A
ches y tren am wyth o’r gloch
Ar
waethaf brad a gwynt.
Mi
gwrddais yn yr orsaf
A
chwmni dau neu dri
Ac
ar chwibaniad crug a chroch
Y
peiriant ffwrdd a ni.
Ar
hyn yng ngorsaf Caerwen
Caed
hwyl wrth newid tren
A
gwelsom lu mewn brethyn llwyd
O
lanciau’r Ynys hen.
Caed
cerbyd lled gysurys
A
mygyn per ei flas
Caed
cibdren ar brydferthion byd
Sydd
dros y Fenai las
Y
tonnau gura’i n embyn
Ar
lannau’r afon hardd
A
chysgod rhyfel ddoi yn ddwys
Tros
galon dwys y bardd.
Am
ben y daith a’r helynt
Y
mynnai pryder son
Ac
am ynys dywell deg
Y
canai’r dydd ei don
Wrth
holi pawb ei hunan
Yn
ddistaw ac yn daer
Fe
safodd y gerbydres fawr
Yn
awr yng ngorsaf Caer.
I
lawr a ni blith draphlith
Am
dren bu holi hallt
Ond
ni cheid dim ond Saeson sur
Doedd
yno neb yn dallt
‘Which
is the train for Wrexham?’
Gofynem
dros bob man
A
gwaeddodd rhywun ‘Over the bridge
At
platform number one.
Ymlaen
a ni fel llewod
Dros
bont a phont ar ffrwst
Yn
erbyn un o heibio llall
O
bobl mwya trwst,
‘Dowch
dacw hi’r gerbydres’
Medd
llanc ar ucha’i lais
Ond
bu raid gofyn wedyn wir
I
swyddog hir o Sais.
O
Gaer caed cychwyn eto
Heb
neb yn teimlo’n brudd
A
chyrrhaeddasom ben y daith
Oddeutu
hanner dydd.
Ac
yna tros y galon
Caed
llymaid poeth o de
A
cherddai’r oll o’r cwmni bach
Yn
gryfach trwy y dre.
Rol
holi hanner dwsin
Neu
fwy o bobl ffraeth
Am
gyfarwyddid ar y ffordd
I’r
gwersyll oer a chaeth,
Mae
un o’r hogiau’n gweiddi
‘Hei
hogia dacw fo’
A
chawsom olwg ar y porth
Mae
cyfraith arno’n glo.
Yn
fuan aethum trwyddo
Tu
hwnt i’r muriau mud
A
gwelsom lawer cant
O
blant y bywyd mud.
I’n
harwain tros y rhwystrau
Daeth
milwr glan a glew
A
phwyswyd pawb o un i un
Fel
anifeiliad tew.
Yn
awr bu raid ymddiosg
Bob
edau am y tro
Ac
ambell i hen lencyn brwd
Yn
teimlo’n swil o’i go.
Fe
daflwyd llathen fesur
Dros
bawb yn fach a mawr
Ond,
ni fesurwyd neb ta waeth
Ond
o’i ysgwyddau lawr.
Fel
hyn mor llwm a phenwaig
Heb
unwaith godi cri
Yn
ddistaw safem oll o flaen
Meddygon
mawr ei bri
Caed
geiriau ddigon garw
O
enau un neu ddau
Ond
rhaid oedd i greadur noeth
Ar
unwaith ufuddhau.
Rhoed
prawf ar ein golygon
Archwilwyd
llaw a throed
A
faint o ddannedd drwg a da
Fu
mhob safn erioed
Bu’n
rhaid gwneud llawer ystum
Ar
gorff a phawl yn chwyrn
Troi
braich fel asgell
melin wynt
A
dawnsio ar ei gyrn.
Ar
hyn fe gaed ymwisgo
A
holi naill a’r llall
Parth
tynged y cwmpeini bach
Ond
teimlem oll yn ddall.
Disgwyliem
yn bryderus
Fel
pawb oedd yn y lle
Pob
un ai anadl yn ei ddwrn
Yn
ofni y ‘Class A.
O’r
diwedd gwaeddwyd enwau
Pob
rhai yn gryf a gwan
A
rhestrwyd y mwyafrif mawr
Yn
nosbarth number one,
Rhyw
ddyrnaid bach wrthodwyd
O’r
cannoedd welsom ni
Ac
ni roed ond ryw nifer bach
Yn
nosbarth B a C.
Fel
hyn caed peth llawenydd
A
siwrna o fraw ynghyd
Cadd
rhai ei dillad newydd caeth
A
throi at waetha’r byd,
Ond
cawsom ni fel cwmni
Ddod
o’r cadwynau’n rhydd
Am
gyfnod meddai cyfraith gwlad
I
ddisgwyl am y dydd.
~~~~~~
Mi
ddaethom ar draws y gerdd yma mewn tun baco ymysg nifer o lythyrau
o Ffrainc a ysgrifennwyd gan filwyr o’r Rhiw yn ystod y Rhyfel
mawr. ‘Doedd yr awdur ddim wedi gadael ei enw ar waelod y gerdd
yn anffodus.
Diolch
i Mr & Mrs J Hughes am fenthyg y ‘Tun Baco’ gwerthfawr yma,
trysor yn wir.
Os
oes gan unrhywun arall lythyrau neu luniau o’r Rhyfel Mawr yn
ymwneud a Rhiw mi fyddem yn ddiolchgar dros ben i gael eu menthyg.