Hendre Aberdaron,
Medi
26 1916.
Annwyl
Claudia,
Diolch
am Post Cards a darluniau y lleoedd hyfryd yr ydych yn ei gweled
yna.
Mae
pawb yma yn reit dda, mam mewn hwyl ardderchog. Mi fum yn Ffair
Pwllheli ddoe nid oedd yno lawer o bobl, llawer o hogiau ieuanc yn
aros adref rhag ofn cael eu dal gan y milwyr efallai. Mi roedd y
Lt a’r Police yn dal llaweroedd o hogiau heb exemption cards, ac
yn cymeryd eu henwau ac yn myned ac eraill i mewn ond yn ffodus mi
gefais i heddwch.
Mi
fum gyda Dr Griffith yn cael ffisig i mam ac mi ddywedodd ei fod
yn bwriadu dod ffordd yma heddyw i’w gweled. Wel mae’n dda
gennyf ddeallt eich bod i gyd yn mwynhau eich hunain ac yn cael
tywydd braf fel ninnau. Mae bron bawb wedi cael yd ffordd yma
erbyn hyn. Mi aeth H Parry Hirwaen i’w helpu i gario ceirch. Mi
ddaeth yma lythyr ddiwedd yr wythnos i dy wadd di i Creigir Uchaf
bythefnos i llun ddiweddaf mae auction diwrnod hwnnw yn Cae’r
Eglwys. Mae gan Nell Roberts Anhegraig hogyn bach er dydd Sadwrn.
Mae nhad wedi mynd i Meillionydd Bach heddyw i chwilio am yd yn
echwyn. Dowch adref at nos Sadwrn. Cofion cynnes at bawb, oddiwrth
bawb yma.
Ydwyf dy frawd.
D
Williams.