|
|
Damwain angeuol yr awyrlu ym Mhorth Neigwl. Am
haner awr wedi
saith
y bore, ar yr un fed ar ddeg o Hydref 1938, gadawodd dwy long awyr
o Faes awyr
Penrhos ger Pwllheli, am Borth Neigwl i ymarfer bomio targedau yn y bae. Ar
fwrdd y ddwy longawyr roedd pedwar gwr ifanc o’r Llu awyr Brydeinig tri sais
ac un o Awstralia. Acting
Officer Thomas Campbell Dunn, Acting Pilot Officer J A Cooper (o Awstralia)
Acting Pilot Officer Ronald Vincent Hart o South Staffordshire ac Acting Pilot
Officer Ronald Andrew Desmond Maharey.Erbyn naw yn y bore reodd tri o’r gwyr
ifanc yma wedi colli eu bywydau mewn damwain erchyll pan fu i’r ddwy awyren
wrthdaro uwch y bae a phlymio mewn fflamau i’r ddaear o uchder o 6000’ o
droedfeddi. Ehedent
yn uchel a chyflym dros y bae, daeth yr uchaf ohonnynt i lawr a chymeryd tro
sydyn heibio i gynffon y llall a’i thrawo a hwythau uwchben pentref Llangian,
ar amrantiad aeth y ddwy yn wenfflam. Neidiodd dau oedd mewn un awyren efo
parachute, ond methodd un i agor yn iwan a disgynodd gwr ifanc yn farw ar gaeau
fferm Rhydolion, llwyddodd y llall i lanio yng nghanol drain a mieri ar allt
Bron Gaer, rhyw chwarter milltir o ble y disgynodd yr awyren yng nghaeau
Rhydolion, lle bu yn llosgi drwy’r prynhawn. Ychydig lathenni oddiwrthi
‘roedd ol dwy fom wedi ffrwydro wedi iddynt gael eu taflu o’r awyren. Methodd y ddau arall a dod o’u awyren a ddisgynodd i gae Trefollwyn gryn filltir i ffwrdd. Y fath oedd grym enbyd y gwrthdrawiad a’r ddaear fel y suddodd yr awyren naw troedfedd i’r ddaear a’r ddau awyrenwr ynddi. Roedd hi yn olygfa dorcalonus, dim ond cynffon yr awyren oedd i’w gweld a tua hanner dwsin o ddynion o Ben y Berth yn cloddio o’i amgylch i ddarganfod y cyrff wedi llosgi yn y peiriant. Cadwai wardeiniaid olwg ar y safle ond fe gafodd y cyhoedd fynd yno. Dywedodd Evan Henry Evans Glansoch a oedd yn llygad dyst i’r ddamwain “Clywais swn y ddwy yn hedeg yn uchel tua 9am, yr oedd un ohonnynt yn hedfan o dan y llall, ac yna gwelais hi yn mynd yn wenfflam, wedyn yr un uwchben yn fflamio a’r ddwy yn symud yn yr awyr nes disgyn i’r caeau. "Tair math o Awyren a oedd yn Penrhos" Llygad dyst arall oedd Mr Miles garddwr Nanhoron, fe welodd ddau awyrenwr yn neidio o’r awyren a ehedai isaf, agorodd parachute un ohonnyn nhw, ond methu nath y llall a disgynodd i’r ddaear rhyw hanner milltir o’r awyren. Rhedodd Mr Miles yno yn syth a gweld fod yr awyrenwr wedi marw. Nid oedd yn niwl y bore hwnnw ac reodd y tywydd yn ffafriol, Cynhaliwyd
cwest i’r ddawain ym Mhwllheli gerbron E E Robyns Owen a rheithgor. Y cyntaf
i roi tystiolaeth oedd Pilot Officer A M Crump a dystiodd ei fod yn adnabod Dunn
a John Astley Cooper oedd bron yn un ar hugain oed, a R Vincent Hart oedd yn
ddeunaw a hanner mlwydd oed. Gwyddai i Hart a Maharey fynd efo plane i ymarfer
bomio fore mawrth ac mai ef a’i cychwynodd. Tystiodd
Dr Rowntree Abersoch eu bod wedi marw ar drawiad (impact) drwy dorri esgyrn eu
pennau, cafodd Cooper losgiadau difrifol yn ogystal. Roedd
Owen Thomas Llawrdref wedi clywed y ffrwydriad a gweld y ddwy awyren efo’i
gilydd ac ar dan, un yn mynd i gyfeiriad Llanengan a’r llall i’r mor.
Gwelodd ddyn efo parachute agored yn cael ei gludo i gyfeiriad Abersoch. Chlywodd
William John Williams Penybont, a oedd yn Llawrdref ar y pryd, ddim o’r
ffrwydrad, ond mi welodd parachute yn mynd i gyfeiriad Abersoch. Daeth y gwas
ato a dweud fod rhywbeth wedi disgyn i’r ddaear ymysg y defaid, ac ar gais y
gwas aeth yno a gweld parachute wedi ei thaenu ar y ddaear, ac wrth ei godi
darganfod y corff. Gwisgai wisg awyrennwr – corff Dunn ydoedd. Gofynodd
y crwner iddo a oedd yn credu fod u parachute wedi agor : “ Ydw
ac wedi drysu wedyn, yr oedd yn agored ar y cae” Cwynodd Mr Williams wrth y crwner fod nifer o dargedi ehedeg yn disgyn ar ei dir, atebodd y crwner na fedrai wneud dim ac y dylai Mr Williams gwyno i Ben y Berth, ac atebodd ei fod wedi gwneud eisioes. Dywedodd fod y targedi yn pwyso rhwng 5lb –7lb ac yn beryglus, a byddai pobl Pen y Berth yn dod i’w casglu er bod y tir yn breifat. "Porth Neigwl" Y nesaf
i roi tystiolaeth oedd Sgt Henry Munslow oedd yn gyfrifol am ofalu fod pob
awyren yn cael ei archwilio am hanner awr cyn fflio. Dywedodd iddo archwilio
‘r ddwy a’u bod yn barod at wasananaeth. Doedd y pedwar awyrenwr ddim wedi
cwblhau’r cwrs ond yr oeddynt yn pilots ac yn brofiadol. Archwilwyd y
parachutes unwaith yn y mis. Yr arfer pan fo dwy (awyren) yn ymarfer oedd i un
gychwyn deng munud o flaen y llall, roeddynt yn bomio o’r un uchder ond roedd
dyletswydd ar y peilot i gadw golwg ar y rhai fyddai o’i gwmpas. 6000’ o
droefeddi ehedai yr awyrennau yma. Er mwyn
cael tystiolaeth gan Maharey, yr unig un i ddod o’r gyflafan yma yn fyw,
bu’n rhaid mynd at ei wely. “ Yr
oeddwn yn gyrru’r awyren a gadawsom yr awyrendy am tua hanner awr wedi saith y
bore, a dechreuasom yr ymarferiadau. Cyrraeddais Borth Neigwl tua wyth y bore ac
wedi cael arwydd fod pob man yn glir dechreuasom fomio. Ehedasom bedair gwaith
dros y targed, ond ni ollyngasom fom, gan fod cymylau yn hofran oddi tanom. Yr
oeddem yn ehedeg 6000 mil troedfedd o uchder ar y pryd, ac wedi i mi droi am y
targed, daeth yr awyren arall ar draws ac i’n hymyl ar yr ochr dde. Gwyddwn
fod yr awyren yn rhywle o gwmpas ond yr oedd fy meddwl ar gadw yn union uwchben
y targed oedd tua hanner milltir allan yn y mor. Trawyd yr awyren dan ei hadain
chwith ac aeth y peiriant ar unwaith allan o reolaeth” Dywedodd
iddo alw sylw Hart at hyn a neidiodd ef (tyst) allan Ni allai ddweud be
ddigwyddodd. “
Efallai i mi gael fy anafu yn y gwrthdrawiad” meddai “ Gyrraswn yn ol 110
milltir yr awr ar y pryd. Disgynnais ym Mron y Gaer, milltir a hanner i ffwrdd”.
Ni allai awgrymu sut y digwyddodd y ddamwain. Cyhoeddwyd rheithfarn o farwolaeth trwy ddamwain ar y tri gwr ifanc a fu farw ar gyrion Bae Porth Neigwl, unwaith yn rhagor haedda y lle yr enw o Borth Safn Uffern.
|
|
Copyright © Rhiw.com |