
"Siop Pwlldefaid"

Ffasiwn
gan mlynedd yn ol.
Daeth
un o drigolion Rhiw ar draws y catalog bach yma o’r ffasiynnau diweddaraf yn
1899, mae yn lled amlwg felly fod merched y Rhiw yr adeg hynny yn cadw fyny efo
ffasiwn ar y pryd. Byddai yn arferol i bawb gael dilledyn newydd at Sul y Pasg,
er nad oedd modd gan bawb efallai i brynu gwisg newydd, mi oedden yn sicr yn
prynu defnydd i wneud dillad ac efallai eu bod yn cael syniadau o gatalogau
o’r math. Un o’r siopau mwyaf cyfarwydd i bawb ym Mhen Llyn oedd Siop Pwll
Defaid Pwllheli, ac Owen Williams perchennog y siop gyhoeddodd y catalog bach
yma.