"Cwella ym Mhorth Cadlan"

1948

Tynnodd Ellis Williams ar y rhaff ac o waelod y mor daeth cawell i’r golwg. Rhwng y gwiail gwelir dwsin o gimychiaid gwyrdd a’u crafanagu’n cythru’n ofer yn y cyll. Drwy’r drws bychan ar ben y cawell gwthiodd Ellis Williams ei fraich, ac heb oedi, tynnodd un o’r creaduriaid i’r golwg. Chwiliodd y creadur yr awyr i geisio gafael yn y gelyn. Ni sylweddolodd y byddai ymhell o lannau Llyn yn goch ar fwrdd rhyw westy crand cyn bo hir.

Bob diwrnod o Fawrth hyd Fedi bydd Ellis Williams a John Evans yn mynd allan o Borth Cadlan, bae creigiog bychan dan gesail craig uchel yn Llyn ymhell o olwg bob ty a thwlc. Yna cadwent ‘Star’ cwch rhwyfo a pheiriant bychan ynddo.

 

 

"John Evans Penrhyn" "Ellis Williams Plas Iol, ar y chwith"

Allan o Gadlan a chysgod Maen Gwenonwy heibio Carreg Chwislen ac Ogof Llwyd o gwmpas Ynys Gwylan Fawr ac Ynys Gwylan Fach. Gwelir prennau yn nofio ar wyneb y dwr i ddangos ble mae’r cewyll. Y mae gan Ellis Williams a John Evans tua deugain i lawr a bob dydd edrychent i weld a aeth cimwch i mewn i fwyta cig y cwn mor osodwyd ynddynt. Cesglir y cimychiaid a gosodir hwy mewn un cawell mawr yn barod i’w casglu fel y bydd galw. Yno byddent yn ddiogel oni ddaw’r llysywen fawr a’u lladd neu for mawr i chwalu eu cyrchfan pren.

Cyfrwys oedd y dyn a feddyliodd am blethu gwiail ar ffurf potel. Hawdd oedd i’r cimwch gerdded i fewn drwy ei gwddf ond amhosibl oedd iddo ddianc allan. Ers amser defnyddiwyd y ddyfais hon i ddal y creadur blasus. Ond y mae gwahaniaeth rhwng cawell a chawell. Nid yw un Cernyw er enghraifft o werth i bysgotwyr Llyn oherwydd bod y twll yn rhy fawr a chimychiaid Llyn yn gallu dianc allan trwyddynt.

Yng ngardd Ellis Williams tyf y gwiail a gyda’r nos plethai’r cewyll fel y gwnai ei dadau. Fel hwythau a ar hyd yr arfordir o Borth Neigwl i Ynys Enlli i ddal polloc, cathod mor a  mecryll.

"Porth Cadlan"

‘Ond’ meddai ‘nid yw’r pysgota hanner cystal heddiw’. Er hynny daeth pysgod eraill i’r glannau – yr ymwelwyr. Yn ystod yr haf bydd yn mynd a hwy i weld pethau sydd yn gyffredin iddo ef. Y llamhidyddion (porpoise) sydd yn neidio a syrthio o gwmpas y cwch, y morloi yn chwarae tu allan i’r Ogof Lwyd, yr adar ar greigiau Ynys Gwylanod ac wrth sgwrs Ynys Enlli. Ond byr yw tymor yr ymwelwyr. Yn ol ym Mhorth Cadalan rhaid tynnu’r cwch dros y creigiau o afael y mor. Rhoi cawellaid o gimychiaid ar eu cefnau a’u cario dwy filltir i ben y graig a phen lon. Oddi yno ant yn y modur i’w hanfon i farchnad Lerpwl neu drefi Canolbarth Lloegr.

*********

Diolch i Mr M Evans am yrru’r hanes yma i ni a ymddangosodd yn Y Cymro yn 1948 ac am lun o’i dad.

Diolch i Mr E Williams am lun o’i dad Ellis, Plas Iol.

Diolch i Andrew Lewis am lun y llamhidyddion ym Mhorth Neigwl.

Os am fwy o hanes pysgotwyr Llyn ymwelwch a safle cimwch.com

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com