|
|
"Porth Neigwl 1951" Y Cymro, Ionawr 5ed 1951.
"John Williams" A fydd ein cartref yno yn y bore ?. Onibae
fod costau adeiladu mor uchel buasai Mr John Williams, Siop Penrallt, Rhos
Neigwl, Llyn, yn symud ei dy garreg wrth garreg, a’i ail godi mewn cae arall
yn nes i’r ffordd fawr. A dyma paham yng ngeiriau Jeanie ei ferch; “Efallai
mai yn un tocyn yn y traeth y byddwn ni yn deffro rhyw fore, wyddoch chi” Yn
ystod 34 mlynedd y bu Mr Williams yn trigo yn Siop Penrallt, gwelodd gryn
gyfneiwd yn safle’r ty ar ben yr allt mor. Neu yn fwy cywir, gwelodd gryn
gyfnewid yn safle allt y mor ei hun. Yno, lle mae rhyferthwy ystormydd De
Orllewin Mor Iwerydd yn chwipio’r traeth ym Mhorth Neigwl islaw, llithrodd
tunelli ar dunelli o’r tir cleiog i grombil y mor. A bellach nid oes ond rhyw
ugain llath rhwng talcen y cwt mochyn yng nghefn ty Siop Penrallt a’r dibyn o
ben yr allt. Ddeng
mlynedd ar hugain yn ol cadwai’r tyddyn fuwch a dynewad, ond bob blwyddyn
a’r tir at eu cynhaliaeth yn llai ac yn llai; ar ol tywydd caled ddeng mlynedd
yn ol aeth oddeutu hanner acer dros y dibyn gyda’i gilydd mewn un noson; aeth
talpiau eraill llai o dro i dro, ac erbyn heddiw nid yw’r lle yn ddigon mawr i
gadw buwch heb ddal tir mewn fferm gyfagos. “Nid oes rhyw lawer o berygl i ni golli’r ty ar hyn o bryd” meddai Mr Williams “ond mae’r mor yn dod yn nes o hyd; mae’n debyg mai ei symud o fydd raid rhyw ddiwrnod”. Ac,
yn wir ymddengys pethau felly oni fydd y mor wedi symud o’i flaen. Yr un yw’r stori ar hyd y milltiroedd o ben allt y mor sydd ym Mhorth Neigwl, o drwyn y Rhiw i drwyn Cilan. Flwyddyn ar ol blwyddyn mae’r tir yn ymfwrw i’r traeth ond ar hyd y filltir a hanner agosaf at y Rhiw y bu’r gweddnewid amlycaf.Yno, mae’r clogwyni o glai glas heb ddarn o graig na thywod i atal dim ar y difrod.
"Ty Penrallt heddiw" Rhyw
dair blynedd sydd er pan ddaeth Mr a Mrs Faulkner i amaethy Ty Mawr ar derfyn
Siop Penrallt.”Prynasom y lle” meddai Mrs Faulkner “gan obeithio y bydd y
ty yma ym mhen can mlynedd” Ond hyd yn oed mewn tair blynedd fe welsant y mor
yn “Safn Uffern” yn gwneud ei ol. Meddai Harold, y mab sydd adref yn ffermio
gyda’i dad”Pan ddaethom yma gyntaf yr oedd lle i gerdded rhwng y wifren lefn
a’r dibyn i’r traeth, ond erbyn heddiw nid oes hanes o’r wifren.” Yn
ystod yr haf diwaethaf daeth ymwelwyr i ddrws Ty Mawr i holi am ben y ffordd a
ddangosai eu map yn arwain oddi yno i Lanengan. Dyma hen ffordd y pererinion
gynt, mae’n debyg, ond nid oes arlliw ohoni ar ol erbyn hyn. Ac ar y briffordd
sy’n arwain o’r Rhiw i Bwllheli bu’n rhaid symud ei sylfaen rhwng Sarn
Rhiw a Bryn Ffoulk yn nes i sawdl y mynydd droeon. Y mae’r ffordd bresennol y
drydedd ar y canllath hwnnw meddir; y mor wedi ysgubo’r ddwy arall ymaith. Mae’r
map yn newid ei wyneb yn aml yn y rhannau hyn. Yn ystod y rhyfel pan roddid pwys
mawr ar aredig daeth un o swyddogion pwyllgor amaethu Arfon i Dreheli fferm 53
acer yng ngodre’r Rhiw, gan gyfarwyddo Mr Isaac Williams y ffermwr i aredig
cae neilltuol a ddangosai’r map ar allt y mor. Erbyn hynny nid oedd yno gae o
gwbl, nac ychwaith ond hanner y cae agosaf ato. Yn
ystod yr un mlynedd ar hugain y bu Mr Williams yn Nhreheli aeth aceri o’i
fferm dros y dibyn. Yn wir amcangyfrifir fod Treheli yn llai o tua chwe acer nag
ydoedd pan ddaeth ef yno gyntaf yn Ionawr 1930. Gwelodd dunelli ar dunelli o
bridd yn ymarllwys i’r mor ym misoedd y gaeaf 1949. Dyna
beth o’r difrod ar yr arfordir hwn mewn ugain mlynedd. Beth am y drigain
mlynedd, dyweder? Cofia Mr Evan Jones Penrallt, yn 74 oed, un o drigolion hynaf
yr ardal, hau ‘basic slag’ ar gaeau yn Siop Penrallt a fyddai heddiw yn
ymestyn ymhell i gerrig y traeth ym Mhorth Neigwl. Yn ystod ei oes gwelodd ben
allt y mor yn troi’n ddibyn o’r newydd i’r traeth, a’r caeau bach
gleision yn colli eu cloddiau ac yn troi yn ben yr allt eu hunain yn eu tro.
Aeth Ty Mawr yn llai o fferm o rai degau o aceri yn ei oes ef, meddai. Ni
wnaed dim erioed i geisio atal y difrod, meddai’r trigolion. Mae’r mor yn
parhau i fwyta sawdl yr allt ac mae’r dwr o’r gwastadedd cleiog yn parhau i
wthio’r tir yn dalpiau dros y dibyn – i greu dibyn newydd. Ac, wrth sgwrs,
mae tywydd rhew yn gwneud pethau yn saith gwaeth. Treheli, Siop Penrallt, Ty
Mawr, Bryn Cynan, Neigwl Plas, Trefollwyn Bach, Trefollwyn Fawr, Towyn, Tyn don
– dyna ffermydd yr arfordir sydd ar drugaredd y mor. Bob blwyddyn y mae
arwynebedd eu tir yn parhau i leihau. Yma bu’r llongau awyr yn arllwys eu bomiau i’r mor; yma gynt y dryllid y llongau hwyliau. Dyma Hells Mouth – dyma Safn Uffern. Ac fel cynt, yn nyddiau’r scwnar y mae yn parhau i fygwth. ********* |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |