|
|
"Carreg Nant Gadwen" Nol ym
mis Medi 2003 mi ofynnon ni i Nina Steele a Kate Gearey o Ymddiriedolaeth
Gwynedd ddod i gael golwg ar y garreg yn Nant Gadwen. ‘Roeddem yn awyddus i
wybod oedd y cerfiadau ar y garreg yn rhai naturiol neu oedd llaw dyn yr oesoedd
a fu wedi eu llunio. Mi ddaeth y ddwy ar brynhawn braf iawn i astudio wyneb y
graig a’r cerfiadau arni. Dyma adolygiad o’r wybodaeth ddaeth yn ol gan Nina
Steele:- Barn y
rhan fwyaf o’m cydweithwyr oedd ei bod yn lled debygol mai nodwedd naturiol
ydi;r garreg. O’r llun sydd gennym, mae nghydweithwyr yn meddwl fod y garreg
yn edrych yn debyg fod ganddo namau onglog ar hyd o leiaf tair gwastadedd
(plane). Byddai’r llinellau yma yn dod o ganlyniad namau naturiol y tywydd. Os
edrychwch yn fanwl ar y lluniau gallwch weld nam arall yn rhedeg yn unionsyth a
llinell ar ymyl ucha’r garreg. Mae Namau Trionglog yn nodwedd o graig
‘serpentine’ a welir ar Y Lizard yng Nghernyw. Byddai yn syniad dda
archwilio namau eraill ar greigiau cyfagos i weld os oes unrhyw linellau tebyg
i’w gweld arnynt – mi allai hyn ddweud os mai dyna sy’n achosi’r namau.
Fel arall mi allech gysylltu a daearegwr allai roi yr ateb yn syth i chi. ‘Roedd
Kate fy nghydweithiwr a fu’n ymweld a’r garreg efo mi yn meddwl ei bod yn
bosib fod y garreg yn fath o arwyddbost, yn dyddio yn eithaf posibl o’r canol
oesoedd cynnar, gan mai hwn oedd y cyfnod yr ymwelai llawer o bererinion
Cristnogol ag Enlli. Felly hefyd oedd barn Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth ( sydd
wedi astudio cofadeialadau Cristnogol cynnar yn yr ardal) er o reddf fe ddywedai
fod y garreg yn naturiol, ‘roedd yn teimlo yn wir ei bod yn bosibl fod o leiaf
un o’r llinellau yma wedi ei llunio gan bobl, gan wneud defnydd o’r namau
oedd arni eisioes i wneud croes syml. Mae’r
dadleuon yn erbyn fod y cerfiadau yn rhai luniwyd gan Cristnogion cynnar yn
bennaf berthynasol i ffurf (posib) y cerfiadau. Yn aml aiwn mae’r cerrig sydd
gydag addurn syml yn draddodiadol lefn ag unionsyth mewn cynllun(siap+), nid o
ongl i ongl fel y garreg yn Nant Gadwen (siap X). Fodd bynnag mae yna debygrwydd
i garreg gyda thoriad croes arni Rowen, Maen – y- Bardd, mae mewn lleoliad
tebyg, hynny ydi ar ochr llwybr, a dim ond pan mae’r haul mewn man arbennig y
gellir gweld y groes ( er gallwn dybio mai dyfnder y marciau fyddai’r ffordd
symlaf i egluro hynna). Dwi wedi cynnwys gawith Nash Williams ar Gofadeiladau Cristnogol Cynnar, erthygl am gerrig croes Llyn a lluniau o gerrig groesau syml. Wrth i ch ei cymharu fe welwch fod y cerfiadau yn ymddangos yn lled wahanol i’r hyn sydd i gael yn Nant Gadwen, serch fod tebygrwydd rhwng lleoliad rhai o’r cerrig eraill yma. ~~~~~~~~~~~~ Diolch
yn fawr i Nina Steele a Kate Gearey am eu hamser yn dod i weld y garreg, ac yn
arbennig i Nina am yr adroddiad a’r eglurhad yma.
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |