|
|
"Atgofion
morwyn ym Modwrdda" Bum yn gweini yn gynnar ym Modwrdda. Yn paratoi y brecwast i’r gweision cyn mynd i’r beudy i odro. Caent eu brecwast yn y gegin, bara llaeth ac yn frechdan beilliaid ar y Sul yn unig i bawb. Y fi oedd yn gyfrifol am y gegin. Yr oedd hen wraig Bodwrdda yn gofalu am y gwaith inni. Byddwn yn arfer pobi bara haidd heb un dyrnaid o beilliaid, byddwn yn gorfod cadw swn ar R Pritchard i falu digon o haidd ymlaen llaw ar gyfer pobi – cadw swn ar yr hen wr oedd wrthi wrth ei ffon yr adeg honno. Yr oeddwn yn tylino mewn cafn mawr rhyw bum troedfedd o hyd. Byddai’r hen wraig yn gwneud y burum i mi. Byddai ganddynt fara peilliaid yn y neuadd i’r teulu yn unig neu i ddieithriaid. Byddai digon o hops yn tyfu yn yr ardd ffrynt a byddwn yn mynd yno i’w casglu ar gyfer gwneud burum. Byddwn yn rhoi a chwrw am eu pennau a’u berwi. Byddwn yn
arfer mynd i’r pentre ac unwaith yr wythnos yn mynd adref i Bencaerau ond
roedd yn rhaid bod adref bob amser cyn deg, byddwn i a’r forwyn arall yn mynd
allan bob yn ail. Pan awn i’r pentre mi brynwn werth tair ceiniog o furum sych
yn y siop heb i’r hen wraig wybod ac yna bore drannoeth yn ei falu yn fy llaw
a’i gymysgu efo’r burum gwlyb gan ei fod yn llawer gwell am wneud toes godi. Fy nghyflog
oedd rhyw £6 y tymor yr adeg honno. Byddwn yn codi bob dydd, Sul, gwyl a gwaith
cyn pump, rhyw ddeg munud i bump, paratoi bwyd ac wedyn mynd i’r beudy i helpu
odro ac yna yn ôl i baratoi brecwast y gweision erbyn deg munud i saith. Byddai
J Pritchard yn nol y gwartheg a’r ddwy forwyn yn helpu i odro. Yr oedd yno
rhyw ugain o wartheg yn magu lloi. Byddwn yn cadw llaeth i wneud menyn mewn naw
o botiau llaeth ac yn corddi ddwy waith yr wythnos. Roedd saith o weision yna a rhaid oedd cael eu bwyd yn barod mewn pryd ac yn aml byddai seiri yn dod i drwsio’r adeiladau a helpu ar y fferm a rhaid oedd eu bwydo hwythau hefyd. Yn y bore mi gaent fara llefrith neu gruel gyda phaned o de a brechdan fach iddynt roi menyn arno fel byddo angen. I ginio caent ddigon o datws a chig reit dda – cig wedi ei gadw mewn halen am hir a gaent yn y gaeaf ac yr oedd yn flasus iawn. Doedd dim pwdin arwahan i bwdin reis ar y Sul. Roedd y bara haidd gaent yn iach iawn iddynt a byddai digon o haidd bob amser bron, ond ar dymor drwg byddai yn anodd sychu’r haidd ac felly yr oedd yn anodd ei bobi gan y byddai’r bara yn darnio a’r gweision yn cwyno yn arw. Mi fyddent yn tyfu digon o yd ar y fferm a’r dynion i gyd allan yn pladuro yn rheng ar y cae ac eraill yn dod i helpu ar adeg felly.
Pan fyddan
nhw yn gweithio tua’r Ystum byddwn yn gorfod mynd a chnyswyd allan i’r
gweision. Mi rown y bwyd mewn basged fraich a handl lydan, basged digon mawr i
ddal bwyd i’r holl weision. Roedd gen i biseri o de wedi rhwymo o amgylch y
fasged a chig a bara haidd yn y fasged. Bara dan y badell fyddai bob amser ond i
fynd â bwyd allan felly byddent yn cael gwell menyn fel lluniaeth. Cig oddi ar
y fferm oeddan nhw’n gael bob amser. Yn y gaeaf byddai’n rhaid cadw’r cig,
digon ohonon i wneud i’r holl deulu a’r gweision dan y gwanwyn wedyn. Bob
calangaef byddent yn lladd bustach neu fochyn neu ychwaneg. Doi y bwtsiar o
Aberdaron yno am ddiwrnod o dro i dro i ladd a halltu. Roedd dwy hogsiad fawr yn
y dairy ac wedi halltu y cig yn dda rhoid ef a digon o halen efo fo mewn
casgenni, cig moch yn un a’r
beef yn llall. Byddai felly ddigon o gig bob amser a hwnnw yn gig blasus a
maethlon. Bob dydd byddwn i a’r hen wraig yn codi darn o gig a thorri tamaid digon at drannoeth, ac yna yn ei roi mewn pot hanner pis a siwrnai neu ddwy
o ddwr glan ar ei ben a’i adael dros nos. Byddai’r helni wedi mynd a’r cig
yn flasus iawn erbyn y bore drannoeth yn werth i’r gweision godi o’u
gwelyau i’w fwynhau, roedd plateidiau o gig digonedd i bawb bob canol dydd. Roedd brwes
i gael bob bore Mercher a bore Sul a fydden nhw byth yn cael cig ffres ac nid
oedd na ffarmwr na gwas yn mynd i’r dref ond ar achlysur arbennig iawn. Yr oedd yn
fyd gwael a gwan iawn ar RG pan aeth i Fodwrdda. I wneud brywes byddem yn gadael
i’r dwr wedi berwi y cig yn y crochan i fferu, wedyn hel y saim oddi ar ei
wyneb, wedyn byddwn yn cymysgu dwr oddi ar y cig a’r brasder efo bara ceirch
wedi ei falu mewn powlen bren. Powliau pren ac ymyl loew oedd yn cael eu
defnyddio i frywes bob amser. Byddai’r gweision yn dweud fod gwell blas ar
frywes bowl bren nac un degan bob amser. |
|
Copyright © Rhiw.com |