|
|
"Yr Angenrheidrwydd i gael Rheilffordd trwy Lleyn" Traethawd buddugol yn Eisteddfod Sarn 1883. Dyma
grynhodeb o ‘r traethawd hynod ddiddorol yma, a diolch na chafodd breuddwyd yr
awdur ei wireddu!!! Dosbarthir
Sir Gaernarfon i dair rhan sef::- Arfon, Lleyn ac Eifionydd. Y rhan
ddeheuol o’r sir ydyw Lleyn neu Llyn; yn y modd diweddaf yr ysgrifenid yr enw
yn nheyrnasiad Sior yr Ail ac wedi hynny. Gwneir y
rhan yna Llyn – i Fyny o 27 o blwyfydd yn cynnyws arwynebedd o 61,500 o aceri.
Rhenid y rhan hon gynt yn dri ‘chwmwd sef :- Gafflogion, Committmaen a
Dinllaen. Cynhwysa Committmaen blwyfydd:- 1 Aberdaron, 2 Bodferin, 3 Bryncroes,4
Llandegwning, 5 Llanengan, 6 Llanfaelrhys, 7 Llangwnadl,8 Meillteyrn, 9 Penllech,
10 Rhiw, yng hyd a rhan o Dudweiliog. Nid ydyw
y boblogaeth ond teneu a gwasgaredig, a chyfrif Bwrdeisdref Pwllheli hefyd , nid
ydyw y nifer holl drigolion Llyn ond 17, 543. Y mae
i’r rhan hon o’r sir ei manteision a’i anfanteision; ond y mae’r olaf yn
llawer lluosocach na’r blaenaf. Ym mhlith anfanteision eraill sydd eto yn aros
dichon mai y diffyg ‘Railway’ – ffordd haiarn – ydyw y pennaf. O bob peirianwaith cywrain a nerthol – hen a diweddar – y ‘Railway yn ddiau yw campwaith y ganrif hon. Edrycher ar y peiriant nerthol, y pontydd cedyrn a’r ‘Viaducts ( tros ffyrdd) uchel a bwaog, a chanfyddir hyn ar unwaith. Dyma hefyd yn sicr yr anturiaeth werthfawrocaf a welodd ein teyrnas erioed. Gwr o’r enw Edward Pease ydoedd yr hwn a feddyliodd gyntaf am ffordd haiarn, a hyny i gysylltu Darligton a Stockton on Tees yn swydd Durham. Rhoddwyd cydsyniad Brenhinol i ddeddf Seneddol y ffordd haiarn hon ar y 19eg o Ebrill 1821. Cynigiodd George Stephenson a’i gyfaill Mr Nicholas Wood eu gwasanaeth i Mr Edward Pease, a pherswadiodd Mr Stephenson , Edward Pease i ddefnyddio ager beiriant yn lle ceffylau i dynu y cerbydau, a mabwysiadwyd y cynllun. Dyma ‘gryd’ y rheilffordd bresennol. "Station Pwllheli 1911" Y mae
bellach dros 58 o flynyddoedd er pan agorwyd y ffordd haiarn gyntaf sef y
llinell a nodwyd yr hyn a gymerodd le ar 27ain o Fedi 1825, ac erbyn diwedd y
flwyddyn 1874, yr oedd 16,449 o filldiroedd o ffyrdd haiarn
yn y Deyrnas Gyfunedig a’r Iwerddon. Tybir fod dros 900 0 filldiroedd o
‘Railways’ yng Nghymru yn unig. Mae oddeutu 90 o’r milldiroedd hynny yn
sir Gaernarfon, ac erbyn hyn gwerthfawrogir y ffordd haiarn gymaint fel y
tosturir wrth y tyddynwyr nad oes ganddynt gyfleusterau y ‘Railway, a’u bod
felly megis allan o’r byd masnachol. Er ei dwyn hyd orsaf Pwllheli, terfyna y
llinell yn Eifionydd, oblegid mai rhan o Gwmwd Eifionydd ydyw ‘Parcel Gogwmwd’
Abererch lle y saif y station. Y mae yn sicr y buasai
gwlad Llyn wedi mwynhau mantais y ffordd haiarn ers llawer o flynyddoedd
oni buasai i Gaergubi trwy fwyafrif o un bleidlais gael ei dewis gan y Senedd yn
hytrach na Phorthdinllaen yn ‘Borthladd Gwyddelig’, fel y’i gelwid gynt. Un o’r
pethau cyntaf ydym yn gofio pan ydym yn ddigon hyf i fyned ychydig latheni dros
drothwy y Ty , ydyw mesur ‘polio’ (fel y dywedid) ffordd haiarn i
Pothdinllaen; ac mae hynny wedi ei wneuthr chwech os nad saith o weithiau gwedi
hynny; ond hyd yma yn y dyfodol y mae eto. Anfantais fawr a cholled bwysig i
wlad Llyn ydyw yr amddifadrwydd hwn o’r ffordd haiarn. Y mae Llyn eto ymhell
megis oddiwrth y marchnadoedd a’r cyfleusterau goreu i gyfnewid nwyddau a
chynyrch y tir. Trwy ffyrdd haiarn dygir y pell yn agos, a gwneir dieithriaid yn
gymdogion; gall y wraig werthu yr ymenyn a’r caws, yr wyau a’r cywion yn
nrws ei thy; a’r gwr ei wartheg, ei ychain, ei ddefaid, a’i yd. Heb prin
symud o’r tyddyn. Yn bresennol treulia y prynwr, pan ddigwydd i un fyned trwy
Llyn, gymaint oddeutu pedair gwaith o arian traul, yn rhagor na phe buasai
ffordd haiarn trwy y wlad; ac os gall unrhyw fodd, gorfydd i’r gwerthwr ad-dalu
i’r ‘Porthmon’ ei draul a’i amser ym mhris yr hyn a wertho; ac weithiau
rhaid lletya y prynwr yn y fargen, oblegid y pellter o Orsaf Y Rheilffordd; ond
daw y railway a’r prynwr ar y ‘spot’ ar fyr amser, ac am swm bychan. Mantais
arall o ffordd haiarn i Lyn fyddai cwtogi y ffordd ac arbed dynion a cheffylau
wrth ddanfon cynnyrch y wlad i Bwllheli neu unrhyw farchnad arall. Gwyr pob
amaethwr mai y creaduriaid drutaf ar y tyddyn ydyw dynion a cheffylau, a bod yn
angenrheidiol iddynt lafurio yn ddygn a chyson cyn y talant am eu cynnal; ond y
mae y Rheilffordd yn foddion i leihau y creaduraid costus hyn heb leihau
nac anhwyluso gwaith y tyddyn. Gwelir yn fynych yn bresenol dair trol neu
ychwaneg, ac yn aml dri cheffyl ym mhob un, yn dwyn yd i Orsaf Pwllheli.
Cychwynant ar doriad dydd, a bydd yn hwyr y dydd cyn y dychwelant; y mae hyn yn
golled o bum swllt a’r hugain y llwyth neu fwy; oblegid pe buasai yr Orsaf yn
nes, buasai un ceffyl fynychaf gyda bob llwyth yn ddigon a’r gweddill yn cael
gwasanaethu y ffarm, ac ni buasai y siwrne ond ychydig oriau, ac nid diwrnod
cyfan fel yn bresenol. Angenrheidrwydd
arall am Reilffordd i Lyn ydyw er gostwng pris glo. Yn bresenol telir o 25s i
30s y dunnell am y glo. Oblegid hyn difethir aceri lawer o dir mewn ychydig
flynyddau er cael tywyrch i’w llosgi yn niffyg glo, a gwelir gweirgloddiau rai
wedi eu handwyo gan byllau mawn. Cawsai trigolion Llyn y blawd hefyd at
amgylchiadau y teulu – yr ‘India Corn’ i’r anifeiliaid, a’r llwch
esgyrn a’r hadau, yng nghyda phethau eraill at wasanaeth fferm – am is bris
pe cawsid Rheilffordd i Lyn. Y mae
angenrheidrwydd arall hefyd am ffordd haiarn, sef er byrhau y ffordd faith y
rhaid teithio yr anifeiliaid yn bresenol; ac y mae pellter ffordd a hir deithio,
bob amser yn effeithio er gwaeth ar y pethau a fwriedir i’r farchnad. Cyfrifir
fod dros 3,500 0 foch yn unig yn myned yn flynyddol o Lyn, cerddir y rhai hynny
oll bron i Bwllheli neu Chwilog, a chymer hynny oriau meithion a llafur blin, a
mynych y bydd yn rhaid cludo y diffygiol. Oni bai am yr anfanteision hyn,
gallasai’r amaethwr gael uwch pris am eu da. Nid anfynych yn bresenol y
defnyddia teuleuoedd yn Llundain, Llynlleifiaid, Manceinion a Birmingham laeth
gyda eu boreufwyd wedi ei ddwyn y boreu hwnnw o 30 – 40 milltir o ffordd; ac
yn wir dygir llaeth yn bresenol, bob boreu o Ddyffryn Clwyd i Gaernarfon. Yr un
mor hawdd y gallasai amaethwyr amgylchoedd Sarn Meyllteyrn anfon llaeth i
Bwllheli, Blaenau Ffestiniog neu Abermaw, erbyn boreufwyd, yr hyn ddygai ddegau
o bunnoedd i’w llogellau yn flynyddol; ac y mae tir Llyn o natur fwy cymwys ar
fagu anifeiliaid nac i ddwyn yd, yn enwedig gwenith. Gyda dechreuad y Reilffyrdd
y dechreuodd oes y gweithfeydd eangaf a mwyaf costfawr, a’r anturiaethau
pwysicaf yn y Deyrnas Gyfunol. Fel yr ymledai y Rheilffyrdd gwelid yn
angenrheidiol helaethu yr ‘Harbours’, y Dociau a’r ‘Wharfs’, yng hyd
ag agor ac adeiladu lluaws o rai
newydd; a daeth Morfeydd diwerth glannau y moroedd yn ymdrochleoedd rhagorol, ac
yn safle trefi ardderchog. Y mae yn Llyn hefyd ymdrochleoedd cyfleus, megis
Abersoch, Aberdaron, Penllech, Porth Towyn, Porthdinllaen a Nevin, yng nghyda
mannau eraill ag y buasai cyfleusterau y Rheilffordd yn ddiamau yn eu dwyn i
sylw ac yn foddion i’w
gwneud yn lleoedd pwysig a gwerthfawr, ac i fod yn gyrchfa dieithriaid
luoedd. Ni raid ond edrych ar gymdogaethau Llanfairfechan a Phenmaenmawr, ac
oddiyno i’r Rhyl, yng nghyd a’r Abermaw, na welir yn amlwg fod cyfleusterau
teithio yn rhoddi gwerth dirfawr ar leoedd cymharol ddisylw ac anghyfleus, a
phrofa hyn hefyd yr angenrheidrwydd pwysig am estyn y ffordd haiarn ymlaen i
wlad Llyn. Y mae dyfodiad y Rheilffordd drwy unrhyw ran o’r wlad yn dwyn o
amgylch hefyd ddiwylliant amaethyddol yn holl amgylchoedd y ffordd. Er pan
agorwyd y llinell o Gaernarfon i Afonwen, teimlodd ffosydd a chloddiau y rhan
honno o’r sir fwy o fin rhaw a blaen y gaib, yn ystod y pum
‘mlynedd cyntaf ar ol agoriad nac a deimlasent cyn hynny yn ystod
pum ugain ‘mlynedd. Rhwygodd y swch hen diroedd na wyddent
- a dywedyd felly – erioed fin aradr na nerth gwrtaith; ond sydd erbyn
hyn yn dir ffrwythlawn, ac yn dechrau ad- dalu yn dda am y sylw a’r llafur a
roddwyd iddynt ac arnynt. Ond wrth
ystyried gwerth amser, a’r gwastraff dirfawr sydd o angenrhaid, ar amser wrth
deithio o , ac i Lyn, y mae;r angenrheidrwydd am Reilffordd yn dyfod yn
neilltuol bwysig, Yn bresenol os bydd ar un o drigolion y rhan bellaf o’r wlad
angen ond yn unig ychydig bunnoedd o’r ariandy neu unrhyw neges arall a fyddo
yn gofyn presenoldeb personol pa mor ddibwys bynag, rhaid bod diwrnod cyfan bron
ar y neges. Nid ydyw meddu march neu gerbyd ychwaith ond ychydig fantais yn y
cyfeiriad hwnnw. Ac y mae y nifer lluosog sydd yn trafaelu, ol a blaen i
Bwllheli bob dydd, ac yn enwedig ar ddyddiau ac achlysuron, yn profi yn
ddiam-heuol yr angenrheidrwydd am y ffordd haiarn i’r parth hwn o’r sir, ond
yn benodol i ganol Llyn, yng nghyfeiriad Sarn Meyllteyrn, yn ogystal ag i Nevin. Credwn y
gellid gweithio llinell i Borthdinllaen a’r Sarn am £2,500 y filltir. Dywedir
fod tiroedd i’w cael gan y tirfeddianwyr mwyaf am bris rhesymol, os nad am
‘nominal sums’ . Os cywir hyn, ac nid oes gennym sail i’w amhau , byddai
hynny yn un o’r cymhellion cryfaf er ymgymeryd a’r llinell, ac yn un o’r
manteision pennaf er llwyddiant dyfodol yr anturiaeth. Dylai yr amaethwyr hefyd
dderbyn a breichiau agored, a chefnogi a chalon dwym, bob cynnig gwirioneddol
tuag at wneud Rheilffordd at wasanaeth Llyn. Nid ydyw’r amcangyfrif a nodwyd
yn cynnwys llinnell ddwbl – gymhwys at drafnidiaeth bwysig a ddichon, yn y
dyfodol, fod rhwng yr Iwerddon a Phrydain trwy Borthdinllaen. Byddai swm llawer
mwy felly yn angenrheidiol, ond Rheilffordd at wasanaeth, a phriodol i Lyn a
gynwysir yn y swm a enwyd. Gellid mae’n wir uno, dyweder Sarn Meyllteyrn a
llinell o Borthdinllaen, gyda’r ‘narrow gauge’ oddeutu Plas yng Ngheidio,
neu ynteu drwy Nanhoron yn nghyffiniau Rhydyclafdy. Ond ni buasai yn ddymunol
gweld y llinell gul ‘narrow gauge’ yn cael ei gwneud i Lyn, oblegid, y
lluaws anfanteision pwysig sydd ynglyn a hi, megis y dadlwytho a’r symud
parhaus a fyddai yn angenrheidiol ar yr holl nwyddau, yng nghyd ag
anghyfleusterau eraill. Mwy
dymunol fyddai gweld cwmni y ‘Great Western, y ‘Midland’ neu y ‘London
and North West’ yn ymgymreyd a’r anturiaeth, ac yn enwedig y cwmni blaenaf
neu’r ail; ond er ein gwrthwynebiad i’r llinell gul, gwell fuasai gennym, os
nad ellir cael y lydan, groesawu ‘narrow gauge’. A phan y ceir
Railway drwy Llyn, yna bydd gwastadedd Pen Carnfadryn, coppaau
Clipgylfinir a’r Graig Ddu ar fynydd Rhiw, Maen Melyn-llyn ac adfeilion Eglwys
Fair, yng nghyd a’i ffynnon yn Uwch y Mynydd, Cromlech mynydd Cefnamwlch, ac
Eglwys a phentref hynafol Aberdaron, pongciau Pothdinllaen a Charreg y Llam, yng
nghyd a Nantgwrtheyrn, yn gyrchfaoedd cenhedloedd. Daw Porth Neigwl ( er mor
wrthwynebus ei enw Saesneg ) yn borth llongau, ac agorid cloddfa setts
ardderchog ar Fynydd Graig. Ni ryfeddem ychwaith weled agor odynnau calch ar
lethrau Mynydd Uwchmynydd, lle mae y cyflawnder o gerrig o’r natur hyny, yr
hyn fuasai yn gaffaeliad bron amhrisiadwy i amaethyddiaeth
Pen Llyn. Ac y mae yn gyfagos, ar yr un mynydd, gyflanwder o graig lech
‘o’r hon y tybir y gellid gwneud llechau (slates) buddiol a da. Nid ydyw
yr oll enwyd ond megis Gad i’r llu o fanteision amhrisadwy eraill a ddeilliai
i wlad a thrigolion Llyn pe yr estynid y ffordd haiarn i Sarn Meyllteyrn, naill
ai drwy Nant Trigwm o Borthdinllaen neu o Abersoch, drwy ddyffryn ffrwythlon
Afon Soch. Dichon pe anfonid cais ar ffurf ‘Memorial’, at gwmni y ‘Great
Western’ neu y ‘Midland Railways’, yn cynnwys nifer y cyfartaledd dyddiol
sydd eisioes, er yr holl anghyfleusterau, yn teithio o ac i Lyn – amcangyfrif
o’r anifeiliaid, ac yn enwedig defaid, y moch, a’r gwartheg, ac o’r
nwyddau lluosog a gludir yn wythnosol yng nghyd a manylion priodol eraill; ac
wedi ei arwyddo gan y prif dirfeddianwyr, amaethwyr, a masnachwyr; yng nghyd a
‘Commercial Travellers’, Porthmyn ac eraill – y buasai hynny yn dwyn i
sylw y cwmniau hyn yn effeithiol at y fantais ariannol o wneud Rheilffordd trwy
y rhan hon o’r wlad. Gwyddant eisioes, y gallent trwy sylw priodol a chydig egni wneud Porthdinllaen yn lle pwysig, yn wir mor
bwysig fel y byddai ‘traffic’ yn dra buan yn rhanedig rhwng Porthdinllaen a
Chaergybi; ac yn enwedig pe unwaith y gosodid agerlongau mewn cysylltiad a
llinell Rheilffordd
i redeg i Wicklow neu Kingstown; nid ydyw y
pellter o Porthdinllaen i’r blaenaf ond tri ugain milltir, ac i’r olaf ond
deng milltir yn ychwanegol. Byddai y llinell hon hefyd yn fwy union gyrchol
rhwng Dublin a Llundain, ac yn ferach o oddeutu 50 o filltiroedd na’r un drwy
Fon, yr hyn a fyddai yn ennill i’r trafaeliwr ar amser ac arian. Dygai y
llinell hon hefyd yr Iwerddon yn ogystal a Llyn, a threfydd a marchnadoedd
pwysig Birmingham, Wolverhampton, Hereford a Worcester, yng nghyd a threfydd
eraill canolbarth Lloegr i gysylltiad rhwyddach ac agosach a’u gilydd. Hyderwn gan hynny na bydd gwlad eang a phwysig Llyn yn hir eto yn amddifad o gyfleusterau gwerthfawr, a manteision pwysig ffordd haiarn; a phan orphener y llinell y bydd mewn Eisteddfod ddyfodol yn Sarn Meyllteyrn neu Aberdaron, y fath lawenydd am dani, a’r fath werthfawrogrwydd yn cael ei roddi ar y llinell fel y cynigir gwobr haelionus am y ‘Traethawd goreu ar werth a manteision amhrisiadwy Reilffordd Llyn’ “Navy”
|
|
Copyright © Rhiw.com |