|
|
Llinellau
Union-syth Penrhyn Llŷn. Ymestyn Penrhyn Llŷn i Fôr Iwerydd, efo Bae Ceredigion i’r de, a Bae Caernarfon i’r gogledd, ac i’r dwyrain, caiff ei wahanu oddiwrth fynyddoedd Eryri gan Eifionydd, yr hwn sydd, ynghŷd â Llŷn, yn ffurfio Dwyfor. Mae cyfeiriad at Lŷn mewn cofnodion Rhufeinig, ond ar y cyfan, ychydig o hanes sydd wedi ei restru ar wahân i gyffredinolion. Yn ‘A History of Wales,’ gan Syr John Edward Lloyd, ‘does fawr fwy na hanner tudalen wedi ei roddi i Lŷn oddi fewn dwy gyfrol. Ac eto, yn ôl ei chymeriad, mae’n rhaid fod Llŷn wedi cynhyrchu rhan helaeth o fwyd a chyfoeth Gwynedd. Gorwedd hanes Llŷn yma o hyd, ond ei ddarganfod. Nid oes amheuaeth nag ydi hanesion lleol, chwedlau, enwau lleoedd a’u cysylltiadau, enwau caeau, caerau ac eglwysi, yn cynnig arwyddion allweddol o fywyd yr ardaloedd mae cyn lleied wedi ei ysgrifennu amdanynt. Nid oes syndod fod y diddordeb wedi ei ddangos tuag at y lleoedd a safleoedd hanesyddol fel y bu archwiliad Syr Mortimer Wheeler ar Ynys Enlli, a chloddio mwy diweddar wrth Gastell Odo, safle y ffatri fwyeill ar y Rhiw, a gweddillion Rhufeinig ym Mryncir a Garn Boduan. Dechreuais
weithio yn yr ardal 30 mlynedd
yn ôl [1959],
ac er fy mod wedi fy ngeni yma, dim ond fel y treiglai y blynyddoedd y
datblygodd y diddordeb. Enwau
lleoedd oedd fy niddordeb ar y dechrau, fel yr enw anghydweddol Pendref, dau
fwthyn wedi eu lleoli ar ochr mynydd y Rhiw, yn ôl pob tebyg, ddim yn gorwedd
uwchben treflan, ond mewn gwirionedd, yr oeddynt, ganrifoedd yn ôl.
Edrychant i lawr ar Faerdref, neu Maerdref Neigwl, yr hon oedd canol
Cymydmaen, sydd yn dangos tystiolaeth blaen mewn lluniau o’r awyr, fod
preswylio eang wedi cymryd lle yma. Mae
enwau pellach, rhai yn adnabydus iawn, yn arwyddocâol o’u defnydd, safle neu
gymdeithas, ddaw a diddordeb, megis Gegin Fawr,
Cwrt, Secar, Bodernabwy,
Castell, Muriau,
Lôn Goch, Rhyd Goch,
Mynachdy, Tŷ Engan,
Faerdre ei hun, a llawer mwy. Hyn
i gyd, ac ychydig wybodaeth a ddaeth yma ac acw;
fel llwybr yng Nghilan yn arwain i lawr i Borth Neigwl, ac i eglwys
henafol, lle y cleddid morwyr oedd wedi boddi a’u canfod ym Mhorth Neigwl,
a’u claddu yno, ond erbyn hyn, mae yr eglwys ei hun wedi llithro i’r môr,
hyn sydd yn gwneud i mi deimlo er cyn lleied y wybodaeth, ei fod yn werth ei
gofnodi. Mae tystiolaeth o breswylfeydd i’w gweled gyda llawnder a rhwyddineb, fel cromlechydd yng Nghefn Amwlch, ac uwchben Tanmuriau, Rhiw. Yn y Rhiw, bu aredig cae oedd wedi ei adael yn fraenar am gyfnod hir, - gael ei aredig yn ddyfn, - ddatgelu llestr claddu llwch dynol, hyn yn dystiolaeth, dybiwn i, o weithgaredd pobol o gyfnod yr Oes Efydd Hwyr. Hefyd, mae amryw o safleoedd cyn-Rufeinig, rhai efo muriau amddiffynnol cerrig, ac un neu ddau o rhai crynion o bridd, ar safleoedd cadofyddol [strategic] o’r mynydd, e.e. Castell Caeron, (tua 500 C.C.) "Llestr claddu llwch dynol y Rhiw" Mae
y cloddio diweddar ar safle Oes y Cerrig, -
y ffatri fwyeill -
[yn y Rhiw]
yn ol fel y deallaf -
wedi cefnogi ymchwiliadau pellach, o bosib, i wybod i ble yr oedd yr
arfau cerrig garw yn cael eu cludo i gael eu gorffen yn ddestlus.
O brofiad personol, mi wn pa mor ddi-groeso y gall y rhan benodol yma o
Rhiw fod, yn enwedig yng nghanol gaeaf, ac ar brydiau, yn yr haf hyd yn oed, ac
mae yn anodd amgyffred syt na allai pobol efo’r un synhwyrau gwreiddiol a ni,
chwilio am safle mwy cysgodol i ymgartrefu ynddo, ac i lafurio. Teimlaf
fod y rhesymegu yn eithaf gwir mewn caerau amddiffynfaol eraill fel Castell Odo,
a Chastell Meillionydd, lle y defnyddid rhain fel amddiffynfeydd tros dro,
- pan oedd angen,
- yn hytrach na byw ynddynt
yn barhaol. Mae
un safle a allai fod a chysylltiad â ffatri fwyeill y Rhiw, er ei fod ychydig
ymhell, yng nghyffiniau Llwynon, i’r de ô Nanhoron, ac ym mhlwyf Llangian.
Cafwyd bwyell garreg mewn ffos, er
nad oedd yr un defnydd a cherrig y Rhiw, edrychai yn erfyn mwy seremoniol, yn
hytrach nac un weithgar ymarferol, tebyg ei bod wedi ei gweithio allan o garreg
afon neu debyg. Mae archwiliad o
luniau o’r awyr yn dangos cylchoedd crynion o tua
30 – 40 troedfedd ar
draws, hyn trwy amcanu mesur lled ffordd gyfagos. Mae y safle yma yn ddelfrydol, gyda dŵr a chysgod,
moddion i gadw gwyliadwraeth o fewn cyrraedd, ffordd i gilio i’r bryniau os
byddai ymosodiad, mae’n werth gwneud mwy o ymchwil. "Ffatri fwyeill y Rhiw" Mae’n
rhaid fod Llŷn yn agored i ymosodiadau o’r môr o amser cynnar iawn, fel
mae amddiffynfeydd sydd wedi eu harchwilio ar ben gallt y môr ym Mhistyll yn
dangos; a rhagorsaf [outpost]
furiog, ac adeiladau crwn oddi mewn iddi ar arfordir Cilan.
Mae amddiffynfeydd bach yn gwarchod y fynedfa ô Borth Neigwl, er fod
safleoedd fel Castell Caeron a Garn Fadryn o gyfnod mwy diweddar, wyrach yn
gyfoesol. I
wyro ychydig, ‘rwyf wedi meddwl yn aml, pam fod cutiau gwyddelod ar lethrau
Garn Fadryn wedi eu henwi felly, fel mae yr enw yn cynnig, os trigai Gwyddelod
gormesol i’r Penrhyn yn y rhain, felly, yr oeddynt yn hurt yn chwilio am
safleoedd mwyaf di-groeso. Yn sicr,
buasai unrhyw nerth gormesol yn meddiannu y tiroedd gorau.
Tybed a oedd rhain yn greiriaid o orffennol pellach?
Yng nghoncwest Gogledd Cymru gan y Rhufeiniaid, mae adroddiad o
ddinistrio tylwyth y Goidel a oedd yn meddiannu Llŷn, tylwyth, yn ol pob
tebyg, a gafodd eu hel i orllewin Cymru yn ogystal a gorllewin Iwerddon.
Gallai ail-boblogi yr ardal olygu y gallai weddil y Gangani, tylwyth
Gwyddelig yn hytrach nag un Brythoneg (Ordovicaidd), ymgymryd a bodoli ar ochr y
mynyddoedd a’r bryniau, felly y ‘cutiau gwyddelod.’ Er
fod y Rhufeiniaid wedi concro y diriogaeth, ychydig o’u olion a adawsant.
Gwersyll trosiol [transit]
ym Mryncir, meddiant o bosib o Garn Fadryn, a ffordd Rufeinig yng Ngarn
Dolbenmaen, wedi ei dadorchuddio gan weithwyr trydan. Dylai
natur y tiroedd fod wedi ei gwneud yn angenrheidiol i’r mewn-ddyfodiaid fyw
yng nghytun efo y Lleng Rufeinig, ond nid oes brawf o feddiant moesgar [civil
occupation] wedi ymddangos, er fod sôn fod y
Rhufeiniaid wedi meddiannu Faerdref. Alla
i ddim dweud os oes prawf pendant i hyn ai peidio, ond mae gan ffeithiau
arferiad o ddod i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth, gyda ystumiadau o amser a
gwirionedd ffeithiau yn cymryd lle, ond yn wir yn y gwraidd. Yr
wyf wedi gwyro yn o arw, ond fel y dywedwyd eisioes, enwau lleoedd fu cychwyn fy
niddordeb personol. Mae
yna ardal yn Sarn Meillteyrn lle mae cyfres o ffermydd efo’r enw Trefaes, gyda
ychwanegiadau i’w adnabod, fel Fawr, Bellaf, Bach,
Newydd ac
Isaf, ac un arall mwy personol fel G.O., (llythrennau cyntaf cyn-ddeiliad),
a Brunelli (deiliad presenol). Hefyd
oddi fewn yr ardal, ceir ffordd a thŷ efo’r enw ‘Lôn Goch,’(y Ffordd
Waedlyd yn fwy na thebyg), a dau gae bach tu ôl i’r tŷ o’r enw
‘Caeau Nant y Rhyfel,’ a’r afon yn is i lawr y dyffryn a’r enw ‘Rhyd
Goch,’ (Rhyd Waedlyd), mae’n
debyg fod hwn wedi bod yn faes i ryfel, wyrach yn ymosodiad cudd ar fyddin
ormesol, nid oes ddyddiad i’r digwyddiad. Mae
dau fwthyn bach ym mhlwyf Bryncroes, ond ar yr ochr ddwyreiniol y Rhiw, yn dwyn
yr enw ‘Pendref,’ mae hyn yn ymddangos yn ddi-ystyr nes y sylweddolwyd eu
bod yn edrych dros Faerdref (Maerdref Neigwl), fel y cyfeiriwyd eisioes. Mae
Castell gerllaw yn cyfleu Castell Caeron, amddiffynfa mur cerrig sych, ar ochr
ogleddol llethr Mynydd y Rhiw, o fewn golwg i Garn Fadryn. Gallai
Bodernabwy, -
ar y ffordd i Enlli, -
fod yn Aneddle i Ddieithriaid (neu Anhysbys), neu yn westy i bererinion (Bodernabwyd). Gofalai
Mynachdy yn Sarn Meillteyrn am fynachod, bwydai Gegin Fawr, Aberdaron bererinion.
Cyfiawnder oedd Cwrt a Seccar (Exchequer)
yn ddelio a fo, hefyd, ymwared y cylch o’u arian neu nwyddau, pryd, pan ddeuai
y gosb eithaf, y byddai crogi ar Gae y Crogbren, ger Cwrt, uwchben pentref
Aberdaron, safle oedd wedi ei ddewis am ei fod yng ngolwg rhan fawr o’r
tiroedd [a’r boblogaeth] o
amgylch, er atal drwgweithredwyr. Mae’n
rhaid fod gan Ynys Enlli ddylanwad mawr yn yr Oesoedd Tywyll [Dark
Ages], ac mae y cysylltiad eglwysig yn amlwg
mewn enwau fel pentref Bryncroes, a thŷ yn yr ardal o’r enw Croesfryn,
sydd yn awgrymu croes mewn man amlwg ar lwybr y pererinion i Aberdaron, yna i
Enlli. Mae dwy ffarm yn y Rhiw o
dan yr enw Tŷ Croes Mawr, a Tŷ Croes Bach, ond mae yn amheus a ellid
dwad i’r un casgliad yn achos y rhain, gan eu bod ar ffordd llai amlwg.
Bu i ardal y Rhiw barhau yn Gatholigaidd yn hir ar ôl y Diwygiad, a
gallai enwau ar y tai fod yn gysylltiedig â bodolaeth y groes, neu’r greirfa,
ac yn achos digon cyffredin ac arwyddocâol i ddynodi y tai felly.
Dilynai
ffyrdd y pererinion lwybrau i’r gogledd ac i’r de ar hyd Benrhyn Llŷn,
gyda Clynnog, Llanaelhaearn, Pistyll,
Nefyn, Tydweiliog a
Llangian [ai Llangwnadl ddylai hwn
fod?] i’r gogledd; a chyfyngu i Lŷn;
Llangybi, Penrhos,
Llanbedrog, Llangian, Llandegwning
a Bryncroes, neu ddewis arall, Llangian, Rhiw
a Llanfaelrhys ar yr ochr
ddeheuol. I gyd yn cyd-gyfeirio yn
Aberdaron. Roedd
hyn yn amlwg yn dwad ac elusenai i’r eglwys, y brodorion genedigol yn llafurio
ar y tir er mwyn cynhyrchu bwyd a diod i’r pererinion.
Go brin fod y rhain i’w cael am ddim, felly, ymhell cyn i ddiwydiant
twristiaeth y ganrif yma ddatblygu, ‘roedd Llŷn yn bwrw i mewn i ddarparu
arlwy i ddieithriaid. Mae
hyn yn ymddangos ymhell o fod yn ddiwadd y stori.
Gyda chynnydd tebygol yn rhif y pererinion, datblygodd mudiad sydd yn
goresgyn unrhyw beth ddigwyddodd mewn man tebyg, fel Penfro. Mewn
ardaloedd heb ffyrdd ffurfiol,darllenais fod llinellau union-syth [ley-lines]
wedi eu ffurfio, gan ddefnyddio manylion y tirwedd,
eglwysi, pentrefydd,
adeiladau pwysig a ffermydd fel arweiniaid ffordd.
Mae hyn wedi ei gario allan i raddau helaeth iawn oddifewn Llŷn,
sydd yn dangos patrwm anghyffredin sydd yn canolbwyntio ar ddwy safle yn ardal
Aberdaron. Y gyntaf yw Eglwys
Santes Fair, Uwchmynydd, sydd erbyn hyn yn adfeilion, a’r ail yw Anelog, safle
capel mynachod, yn agos iawn at ffermdy Gors, Anelog. Cafwyd dwy garreg, gydag arysgrif Lladin arnynt, ar y safle
yma, a ‘dwi’n credu eu bod ar gadw ym Mhlas Cefn Amwlch, Tydweiliog, ac mae
pobol leol yn dweud fod yna fedd gwag oddi tan y ffordd ar y safle yma.
I werthfawrogi cymlethdod y llinellau union-syth yma, mae yn
angenrheidiol wrth fap o Llŷn, un fodfedd i’r filltir, neu un metric
cyfartal, a phren mesur, syth, hir, neu yn well fyth, bwrdd, pinau map a llinyn
lliw, tenau, neu edau dew. Yn
gyntaf, dowch o hyd i Eglwys y Santes Fair yn Uwchmynydd.
I ddechrau o’r de, gwelwch fod Eglwys y Santes Fair, eglwys ger Nant,
Cilan (dim mewn bodolaeth erbyn hyn), a Chapel Anghydffurfwyr, a mynachlog sydd
wedi ei chloddio ar Ynys Sant Tudwal, i gyd mewn llinell.
Defnyddid yr eglwys ger Nant i gladdu morwyr a gafwyd wedi boddi ym
Mhorth Neigwl, mae yr eglwys ei hun wedi diflannu i’r Bae erbyn hyn. Mae
yn syndod fod Capel yr Anghydffurfwyr ar y llinell, ond fel y cewch weld, mae yn
digwydd yn aml efo’r llinellau union-syth. Yn fwy i’r gogledd, estyn y linell ô Eglwys y Santes Fair i Llanfaelrhys, Llangian a gorffen yn yr hen safle leygol Castellmarch, Abersoch. Mae llinell arall, mwy i’r gogledd eto, yn rhedeg drwy Eglwys Aberdaron [Sant Hywyn], Rhiw, Llandegwning, ac yn syndod eto, Capel Newydd, Nanhoron, sydd wedi ei gadw fel y Capel Anghydffurfwyr hynaf yn y cylch. Yng Nghapel Newydd, mae pedair llinell ochrol [lateral] yn rhedeg drwy y safle, yn groesgongl ar draws y Penrhyn, mae y llinell hyderol [longitudal], fodd bynnag, yn rhedeg allan o’r cylch yma yn Llanystumdwy. "Eglwys Llanfaelrhys" Canfyddir
llawer mwy ar safle Eglwys y Santes Fair, ond mae rhai yn dechrau yn Anelog,
gyda ffarm Gors yn fan cychwyn, aiff un ô Anelog i Fryncroes, Llaniestyn, gweddillion
eglwys ar ochr ddwyreiniol Garn Bach, ac yna ymestyn yn llinell syth i Fryncir. Gall
safleoedd eglwysi heb foddion i’w adnabod, gael eu lleoli gyda gryn gywirdeb.
Y rhain yw Eglwys Fair, ym Mryncroes,
Anelog ei hun, safle Garn
Fadryn, (yn cael ei adnabod fel ‘Cae Hen Fynwent’), ‘roedd safle
Llanfihangel Bachellath yn gyfoesol, ac nid safle diweddarach fel y dywed ‘The
Survey of Royal Commission,’ a hefyd safle Nant, ym Mhorth Neigwl.
Cyd-gyfeiria dwy, tair neu bedair llinell ar yr un safle.
Yn Llaniestyn, mae lle o’r enw Rhos Dinwael, ac yn agos i Preswylfa,
Llaniestyn, cwrdd llinellau hydredol ac ochrol.
Pan fu i ddeiliaid presenol glirio darn o dir, fe’i cafodd yn rhy anodd
o achos nifer y cerrig yn y safle, casglodd rai a’u defnyddio i wneud gardd
greigfa, ymdebygant i gerrig adeiladu. Gerllaw,
mae ffynnon, gelwir hi yn Ffynnon Coleg, a’r ffordd sy’n arwain ati yn Lôn
Coleg. Gall hwn fod yn addysgfa
leol. Rwyf wedi disgrifio ond nifer
bach o linellau, gall y darllenwr adnabod eraill ei hun. Mae
rhai ffermydd yn cael eu cynnwys yn y trefniant meintonol [geometric],
ymysg y rhain mae Faerdref, Tŷ
Engan a Neigwl Plas, ac mae’n ymddangos mai Neigwl Plas ydi y safle bwysicaf.
Mae safle henafol Castellmarch yn gynnwysedig, ond er syndod, mae mwy o
linellau yn cyfarfod ym Muriau, sydd yn gorwedd ar wastadedd uwchben
Castellmarch, hyn yn cynnig safle bwysig eto.
Yn ogystal a’r hen safleoedd lleygol yma, mae ffermdai ac adeiladau
eglwysig diweddar yn cael eu cynnwys, fel yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn
Abersoch, Gwersyll y Pwyliaid ym Mhenrhos, a’r Eglwys yng Nghymru yn Abersoch,
a’r hen gaer oedd yn ei amddiffyn, tra mae Gwersyll y Pwyliaid ar safle y
ffarm henafol Penrhos, a gafodd ei chwalu pan yn adeiladu maes awyr Pen-y-Berth. Mae’n
rhaid fod llawer o gapeli a adeiladwyd yn anterth cyfnod yr Anghydffurfwyr wedi
eu hadeiladu ar dir a ddefnyddid fel man cyfarfod cynharach.
Mae capeli Rhydlios, Rhydbach, Bwlchtocyn a
Chapel Newydd, Nanhoron, yn safleoedd a berthynai i eglwys, neu ryd i
groesi afon, neu safle bwysig diriogaethol.
Mae gormod o gyd-ddigwyddiad fod adeiladau diweddar yn digwydd gorwedd ar
linell gynlluniwyd ganrifoedd
ynghynt. Mae Capel Rhydbach ar
linell, o bosib am ei fod yn gorwedd lle cwrdd dwy afon, a hefyd fod croesfan
yma. Gorwedd hefyd ar linell rhwng
y Faerdref a Penrhos, ac mae fy nghartref yn digwydd bod arni hefyd, mae llinell
groes yn rhedeg trwodd hefyd, ond ni chafodd, gallaf eich sicrhau, ei adeiladu
hyd 1927, ac nid oes creiriau na
dim o’r fath, wedi eu darganfod yn y tir.
Gallwch ymestyn y llinell yn ôl i Cwrt, ac â ymlaen ar ôl Penrhos i
Talhenbont ger Llanystumdwy, ac yn agos i Penarth Fawr, ond yn union drwy
Penarth Bach, yr hwn a allai fod y cartrefle gwreiddiol. Anhebyg
ydi fod yr holl linellau sydd yn cyfarfod yn safleoedd o ddiddordeb, ond lle mae
safle arbennig fel Capel Newydd yn dangos pedair neu hyd yn oed bump llinell yn
croesi, allwn ni ddim llai na dwad i’r casgliad fod y safle yn bwysig mewn
trafnidiaeth i bererinion a chlerigwyr. Mae
y safle yma yn adnabyddys, cafodd ei gyflwyno gan ddaliedydd Nanhoron ar y pryd,
i Anghydffurfwyr, yn dilyn marwolaeth ei gŵr, swyddog yn y Llynges.
Mae y capel wedi ei warchod a’i gadw yn y cyflwr gwreiddiol.
Saif y capel Ddwyrain/Gorllewin, ac fe wyddis ei fod ar safle eglwys,
gallai hefyd fod cnewyllun pentref yn y cyffiniau, ond o achos rhyw haint, y pla
wyrach, ond yn fwy tebygol y geri marwol [cholera],
rhai cannoedd o flynyddoedd yn ôl, bu i’r boblogaeth yn y fan hyn, fel yn
achos eglwys unig y Rhiw, fwy na thebyg, symud i fyny yr afon, neu o leiaf i dir
uwch, i osgoi afiechydon a gariwyd yn y dŵr. Mae
Capel Rhydlios ar linell o Anelog i Edern, ac hefyd ar linell groes o weddillion
eglwys ger Tŷ Mawr Porth Ferin, [Meth lan],
i Eglwys Llanfaelrhys yn Rhiw. Dywedwyd
wrthyf fod eglwys wedi bod ar un amser, ger Tŷ Newydd, ac y gallai ffarm
Rhydymierin gerllaw, fod yn Rhydyferin ar un amser. Mae
safleoedd naturiol amlwg yn ymwneud yn aml â’r llinellau, sydd, wedi’r
cwbwl, yn arwyddion cyfeiriadol, yn hytrach na llwybrau union syth, ac mewn
tiroedd anwastad, mae nod ar fryn pan ei gwelir o bell, yn arweiniad i’r pwynt
nesaf ar y bererindod, neu ymhellach ymlaen, y siwrnai allan.
Dangoswyd imi mai y linell mwyaf deheuol y dyddiau hyn, fuasai ô Eglwys
Llanfaelrhys, tros y Rhiw a thros y môr i Fwlchtocyn, ac Ynys Sant Tudwal.
Gan fod gelltydd cleiog Porth Neigwl wedi cael eu herydu yn sylweddol yn
fy oes i, gall hyn ddangos graddfa yr erydiad tros yr wyth neu ddeg canrif
ddwytha. Gan
fod y llinellau yma yn arwain allan ô Lŷn ac i Eifionydd a thu hwnt, mae
yn ymddangos fod hyd yn oed y Wyddfa yn arwyddbost cyfeiriadol, a pham lai, yng
ngwyneb y ffaith ei bod yn hawdd ei gweld a’i hadnabod.
Ysgwn i pa mor bell y gall rhywun ddilyn y llinellau, a phwy annogodd y
fath gyfundrefn? Teimlaf fod y
gyntaf tu allan i diriogaeth rhywun yn Llŷn, a’r ail, chawn ni byth wybod
yn fwy na thebyg, ond bu iddo ddechrau trefn y diwydiant ymwelwyr yn Llŷn
tua deg degawd yn ôl, yr hwn, gyda ffermio, sydd yn sylfaen i’n cyfundrefn. Mae
sylwi ar safleoedd lleygol ar y llwybrau rhwng yr eglwysi, yn awgrymu graddfa o
gyd-weithredu efo awdurdodau eglwysig, a daeth yn amlwg fod patrwm yn datblygu,
fod llwybrau syth, plaen, rhwng ffermydd yn y diriogaeth.
Roedd Seccar, yn Uwchmynydd, Bodwrdda
yn Aberdaron, Plas yn Rhiw,
Neigwl Plas a Chastellmarch yn Abersoch, ar yr un linell, ac ar yr un
cyfeiriad cyffredinol. Mae rhoi
golwg ar safleoedd hen ffermydd eraill yn dangos i’r cyfeiriad gogleddol ô
Blas yn Rhiw, fod Mynachdy a Chefn Amwlch ar yr un llinell, ac fod Tŷ Engan,
Trygarn a Brynodol ar un arall. Daeth
Castellmarch, Muriau, a Saethon a phatrwm a llinell syth bellach.
Daeth rhedeg yn ôl ar hyd linell, a ffaith i’r golwg, fod uniad tair
llinell i’r dwyrain o ffarm Cwmistir, Edern, ac archwiliad
lluniau o’r awyr, yn sicr gynnig bodolaeth hen safle yn yr union fan
yma. Yn Nanhoron, nid oedd safle yr
hen dŷ yn cyd-ymffurfio, ond yr oedd hen
dŷ y cipar, Nanhoron Isaf yn dilyn y llinell.
Ond yn wahannol i eglwysi, lle y gellid ail-adeiladu ar yr un safle (fel
yr eglwys 19ed ganrif ym Modean, lle mae y tŵr wedi ei adeiladu tros
claddgell wedi ei selio), ychwanegid at anedd-dai, neu codid tai newydd ar safle
cyfagos, ni fyddai felly, yr un cywirdeb linynol, sydd yn dangos mor dda
gyda’r eglwysi. Yr
wyf wedi awgrymu eisioes fod Porth Neigwl a Bae Aberdaron wedi erydu yn
sylweddol yn ystod y mil blynyddoedd dwytha, ac fod beth a allasai fod yr hen
Drefollwyn, yn un o ddioddefwyr yr erydiad. Gan
fod yn fy meddiant un darn o dystiolaeth mewn ffurf llun o’r awyr, a gymerwyd
ym 1946,
meddyliais bod dichon gweithio allan raddfa yr erydiad tros y
30 mlynedd dwytha, mewn dau
leoliad. Un oedd ffarm Tŷ Mawr,
a’r ail, llwybr poblogaidd ar yr allt ger Treheli. Roedd yr amodau yn fwdlyd iawn, felly, yr oedd yn rhaid camu
y mesuriadau yn hytrach na’i mesur. Er
mwyn cael graddau y lluniau, mesurwyd y ffordd union gyferbyn a’r llwybr,
hefyd ochr orllewinol tŷ ffarm Tŷ Mawr.
Mesurai y tŷ 21
troedfedd, a’r ffordd 20
troedfedd. Dangosai mesuriad
efo cwmpawd coesgam [calipers]
fod y mesuriadau cyffelyb ar y llun yn 0.05
cm., rhoddai hyn raddfa o 1
droedfedd = 0.0025 cm. Mae
sefyllfa y maenordai yng nghanolfannau poblogiad hefyd yn cael ei gynnig drwy
uniad y llinellau. Yn Nefyn,
ymddengys rhwng yr hen eglwys a’r môr. Ym
Mhwllheli, i’r dwyrain o’r dref, uwchben Ffordd Caernarfon, yn Rhiw, ym
Mhlas yn Rhiw, ac wrth gwrs Castell Criccieth, er, yma, nid ydwyf wedi dilyn y
llinellau o’r gogledd na’r dwyrain. Mae
y garreg goffa mwyaf diddorol i mi yn bersonol, ym mynwent Llangian, ac arni mae
cerfiad mewn Lladin; MELI MEDICI
FILI MARTINI IACIT, buaswn yn
meddwl fod hwn y coffhâd hynaf i feddyg yn y wlad.
Dyddia o’r 5ed – 6ed ganrif, fel y gwna carreg gerfiedig yn Llannor, yn ôl hanes,
i gofnodi Sant Gwynhoedl, sant sydd yn gyllystiedig ac Eglwys Llangwnnadl. Mae
hyn yn cynnig safle eglwysi ar lwybrau gwreiddiol y pererinion cyn belled yn ôl
a’r 5ed
neu y 6ed
ganrif, ond roedd yn rhaid fod datblygiad wedi ei symbylu trwy
bartneriaeth gref rhwng awdurdodau eglwysig, a lleygol, heb fod yn agos i’r
meudwyon Celtaidd a symbylodd sefydliad Enlli, a chysylltiad, o bosib, efo
Rhufaineiddio yr Eglwys Geltaidd. Mae
angen mwy o wybodaeth hanesyddol nag sydd ym meddiant yr awdur, er fod un
allwedd, yn y ffaith fod y diriogaeth wedi ei rhannu i Cymydmaen,
Dinllaen a Cafflogion, meibion Cynedda, gyda llinellau yn uno Neigwl,
Nefyn a Muriau yn arfordir y Cafflogion. Alla
i ddim ond gobeithio fod y cofnod byr yma yn ysgogiad diddordeb mwy proffesiynol
nag y galla i obeithio roddi i farn, wyrach heb fod yn ddi-duedd, fod Llŷn
yn lecyn mwyaf diddorol. Cyfieithiad o erthygl Dr. Deio Hughes, Botwnnog. 1989.
Fe
hoffai Rhiw.com ddiolch i deulu y diweddar Dr Deio Hughes, am ei caniatad i
gyhoeddi yr erthygl yma. |
|
Copyright © Rhiw.com |