|
|
"Crwydro Lleyn" gan Ieuan Lleyn ~~~~ 1799 ~~~~ Hynaws
Gyfaill, I
gyflawni eich dymuniad cymerais amryw deithiau drwy Leyn. Y peth gyntaf a gaf ei
osod ger eich bron ydyw’r draethell sydd yn y mor gorllewin i Enlli, yr hon a
grybwyllir am dani gan Lewis Morys yn y llyfr a elwir
‘Plans of Harbours in St George’s Channel’; yma ym mha un y
mae yn crybwyll iddo weled coffa amdani mewn cywydd. Fe fydd y draethell yn
weledig ar dreiau pan fyddo ertrai mawr Enlli:_ Yr ynys hon sydd ddwy fillltir
o gwmpas ac yn cynnwys deuddeg neu bymtheg o dai, a thri ugain neu ragor o
drigolion, dywedir mai swydd Benfro ydyw. Ynddi mae llawer o weddillion yr hen
seintiau gynt. Y mae darn o glochdy yr hen lan yn weledig o ymyl Maen Melyn
Lleyn; y clochdy hwn sydd yn dangos fod yma adeilad helaeth gynt. Yr oedd yma
hen Gapel hefyd yn ddiweddar. Fe fyddyn yn cael esgyrn dynion ym mhob cwr o’r
Ynys: yn enwedig tua’r mynydd: rhai o’r esgyrn hyn, meddent, sydd hynod eu
maintioli: Ond i
adael hyn heibio dymunaf hamdden i ddyfod o Enlli; ond gan faint rhyferthwy y
cyfyngfor tonog sy rhyngwyf ac Aberdaron yr hwn sy dair milltir o led ac yn
driugain gwryd, neu ragor mewn mannau o ddyfn; a phan fyddo’r gwynt yn
wrthwyneb i orlifiad y mor yn anhawdd ei fordwyo, gan amlder ei gesyg gwynion;
ac ar amser tawel y mae y gorlifiad mor ebrwydd, fel y mae’n enbyd i’m gael
fy nwyn, un ai ar draws y creigiau gwenieithus, y rhai sy’n gydwastad a’r
mor, neu ynte i’r eigion mawr. Ond wedi dyfod i dir yn Aberdaron ar gyfer Maen
Melyn Lleyn, y man cyntaf y cefais lan oedd Ogof Mair, yr hon sydd rhwng
creigiau serth, islaw y Maen Melyn; ym mha ogof y mae ffynon gysegredig i Fair,
a llawer iawn o weddill Pabyddiaeth, megis ol traed ceffyl Mair a’r cyffelyb;
a chan fod y lle yn serth ac yn arswydus, ceisiais cyn gynted ag y gellais,
ddyfod i fyny at y Maen Melyn, a hynny yn nerth traed a dwylaw, ie bron a
dannedd. Yna cymerais hynt tuag adref; nid aethym nepell nes cyrhaeddyd a
gwastadedd isel, ac yn ddo dir yn eiddo pob pendefig sydd perthynnu i Leyn; ac
ar ei ganol hen lan neu eglwys wedi ei adfeilio, yr hon a elwid Eglwys Fair,
a’i gosodiad mal rhai eraill. Y mae yn 12 llath o hyd a 5 o led, a’r muriau
eto mewn mannau yn 3 llath o uchder. Nid oes un modd i weled yr hen furiau hyn
nes myned i’w hymyl; na’r Maen Melyn chwaith, ond o’r mor yn unig. Mae
Eglwys Fair a’r Maen Melyn rhwng y mynydd a elwir Uwch- Mynydd a Mynydd
Gwyddel, fe allai mai Mochystum yw. Yma y mae bryn a elwir Mynydd Mochostyn, fe
allai mai Mochystum a feddylir. Islaw hwn y mae craig serth a elwir Pared Gallt
Uffern, lle mae llwynogod mor aml a’r cwningod ar forfa Pwllheli. Rhwng Uwch-
Mynydd ac Aberdaron y mae’r Cwrt yn sefyll, lle y mae Y Parch G Jones ficer
presennol Aberdaron a Llanfaelrhys yn byw. Y lle nesaf a welais oedd Porth Neudy
neu Porth Meudwy, yr hon sydd gerllaw Cwrt; a’r tir o Borth Neudy i eithaf
Lleyn, a elwir Pen y Cil gan y morwyr, Langanum Point, ac oddiwrth y gair hwn y
mae Lleyn yn deillio. O Borth Meudwy y daethum i le a elwir Porth Samddai a’r
ffrwd sydd yn rhedeg yno a elwir Afon Saint. Cymerais fy hynt yng ngwrthlif yr
afon, heibio i le a elwir Bodermud. Nes daethum i le a elwir Anelog, h y Anwelog
meddynt; am nad oedd dim tuag at ei gynnal, ond ewyllus da yr addolwyr. Y mae yn
amlwg ddigon mai Capel Pabaidd ydoedd oddiwrth y cerrig sydd ynddo, a’r
llythrennau canlynol arnynt :- NERECIVIS-PRS-HIC-JACIT h y Y
Nercius Presybyer hic Jacit, Offeiriad Pabaidd ydoedd. Ar gyfer yr hen Gapel hwn,
mae y lle a elwir Dynfre. ( Dyndref neu Tyn- fref) Rhwng Carreg y Plas ac Anelog
y mae ffynnon, a elwir Ffynnon Saint, yn yr hon y mae’r afon a grybwyllid yn
codi. Yna deuthum at Balas a elwid Methlam, trigle Henry Maurice, un o’r
gweinidogion gwrthodedig yn amser Siarl 11: is law yr hwn mae Porthorion. Yna
teithiais gyda glan y mor nes dyfod i Borth Iago; oddi yno i Borth Feryn; yn
agos i ba un y mae adfail hen Gapel a monwent oedd yn perthyn i blwyf Bodferyn.
Y mae ty yma a elwir Hendrefor, ger llaw i hwnnw y mae lle a elwir Trefgraig,
lle o urddas mawr gynt. Yn agos i Drefgraig y mae ffynnon a elwir Ffynnon Bibau,
ym mha le y mae afon yn dechrau, yr hon sydd yn ymarllwys i’r mor yn
Aberdaron. Aethum i ganlyn yr afon, ar yr hon y mae rhyd a elwir Rhyd Lios. Wedi imi
fyned heibio i’r rhyd hon ennyd, daethum at le a elwir Bugelys ( Bugail Lys)
oddi yno i ben bryn a elwir Mynydd Moelfre neu Mynydd Ystum; ac ar lechwedd y
bryn yr oedd yn ddiweddar ddarnau o hen lan neu gapel, ond y mae wedi ei
ddiseilio yn bresennol. Ychydig yn uwch i fyny cafwyd yn ddiweddar, lawer iawn o
esgyrn dynion ac ar uchaf y bryn mae gweddillion hen amddiffynfa o ddull crwn,
tryfesur (diameter) caer dufewnol yr hon sydd 50 o latheni; a’r ffos rhwng y
gaer dufewnol a’r allanol yn 15 llath o led a’r hon sydd ddofn. Y mae amryw
gloddiau o fewn y Caerau tebyg i gytiau’r Gwyddelod hyd Ros hirwen, ac yn ei
ganol y mae clawdd union 14 llath o hyd yr hwn a elwir Bedd Odo, yr hwn meddynt
oedd Gawr galluog. Yr ydys yn dywedyd fod yno laddfa fawr wedi bod gynt, ac mai
esgyrn y lladdedigion oedd y rhai oeddynt yn garneddau ar ei gilydd. Oddi yma yr
aethym i olwg afon a elwir Daron, yn agos at hon y mae Llan helaeth wedi ei
chysegru i Hywyn ab Gwyndaf, ac wedi ei sylfaenu yn y tywod. Yn agos i Aberdaron
y mae Ogof a elwir Ogof Lleuddad, ychydig ymhellach y mae Porth Cadfan, a Phorth
Llywenan. Yn y mor ar eu cyfer mae Ynysoedd Gwylan ( Gwilym) yn agos y mae
Llanfaelrhys a’r Blawty. Ger llaw y mae caren o dir a elwir Pen y Caerau, a
thy a elwir Castell. Dywedir gan rai fod yno dref wedi bod gynt,. Ond i
ddychwelyd daethyn i fyny yn erbyn Afon Daron, yr hon sydd yn rhedeg drwy Nant
Bodwrdda (Bodwrda) : efallai mai Bodwrdan a feddylir, am fod ffynnon Dwrdan yn
agos yno. Ond ymlaen y daethum gan adael Hirwen a’r Plas Newydd ar y llaw aswy
a Bodwyddog a Meillionydd ar y llaw ddeheu, ond o’r diwedd deuthum i
ddechreuad yr afon mewn lle a elwir Cwm Dylif ar dir Meillionydd, o’r lle y
mae’r dwfr yn dyfod allan oddi tan y ddaear yn ffrwd lifeiriol o gafn dwr
tebyg i wneuthuriad dyn, er nad ydyw ond gwaith natur. Ar fryn ger llaw y mae
chwilfriwiad hen Lan a elwir Capel Cwm Dylif, ac ar glawdd y fonwnet y mae
gweddillion dau neu dri o dai. Oddi yno i fynydd y Rhiw ac at hen adfail a elwir
Castell y Caerau, yr hwn sydd hirgrwn yn 100 llath o hyd a 40 o led, ac o’r
naill du iddo, yn un ag ef y mae buarth yn 60 llath o hyd a 18 o led – is law
i’r mynydd o du’r gogledd y mae lle a elwir Tir y Dref, ac arno lawer o hen
furiau drylliedig a elwir Cwmwd Tindywydd, ar dir Coch y Moel y mae’r hen
adfail ddywededig. Dywedir hefyd mai ar dan yr aeth y dref o achos i’r
trigolion nacau rhoi llety i ryw Brydydd, yr hwn a’i melltithiodd. Ar gyfer y dref y mae lle a elwir Maerdref ac yn agos ati y mae lle a elwir Hen Fynwent, yn yr hon y cafwyd amryw gyrff wedi ei rhoi mewn ysteni pridd. Tir yn perthyn i Dy Engion oedd y cyfan oddi amgylch yr hen dref. Yn agos i Dy Engion y mae gweddill hen allor a elwir yn Ceryg Sienco. Ond i ddyfod adre heibio i Fodgaua at Lan Bryncroes, yr hon a gysegrwyd yn amser Pabyddiaeth i Fair. Yn ei hymyl y mae Ffynnon Fair, Ty Fair a Chae Fair. Yn agos i le a elwir Monachdy ger llaw Bryncroes, bu hen allor Gymreig, y mae’r garreg i’w gweld hyd heddyw, wrth Dy Fair, fe gafwyd yn ddiweddar mewn lle a elwir Cae Newydd yn nhir Ty Mawr Bryncroes, ysten bridd rhwng pedair carreg fel cist ac ynddi yr oedd esgyrn, amryw o’r fath a gafwyd rhwng y lle a elwir Cefn Gwyn a lle a elwir Caerau Rhoshirwaun.
Yr
eiddoch yn gywir, Ieuan Lleyn. ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~ Ysgrifennwyd y llythyr yma gan Ieuan Lleyn at ei
gyfaill Dafydd Ddu Eryri yn
1799. |
|
Copyright © Rhiw.com |