"Dywediadau a Diarhebion"

(Iechyd)

Cwsg da hir oes.

Daw bola yn gefen.

Utgorn angau yw peswch.

Iechyd yw llafur cymedrol.

Hir y cnoir tamaid chwerw.

Gwell yw blys na glythineb.

Na flysia laeth wedi pysgod.

Digon o fara ychydig o ddiod.

Dyw afal o berllan byth yn sur.

Enllyn bara da yw eisiau bwyd.

Hir wrth ei fwyd hir wrth ei waith.

Cystal yfed o’r cawl a bwyta’r cig.

Yf ddwfr fel ych a gwin fel brenin.

Gwell pryd o eisin na phryd o eisiau.

Cwynos o afalau, boreufwyd o gnau.

Bola llawn sy’n hollti, nid bola gwag.

Hir iechyd ieuenctid a fyrha’r einioes.

Tan araf dan uwd, tan llym dan lymru.

Caws colfran yw yr enllyn cyfoethocaf.

Tair gwledd iechyd, llaeth, bara a halen.

Chwerw yng ngenau, melys yng nghylla.

Tri enllyn iechyd – mel, ymenyn a llaeth.

Tor dy syched lle cyrcho golchydd ei dwr.

Dwr oer a bara twym a wnant fol afiaethus.

Gellir yfed yr afon ond ni ellir bwyta’r dorlan.

Genau oer a thraed gwresog a fydd byw yn hir.

Araf yn dyfod at fwyd, araf yn myned at waith.

I farchnad y pysgod y bore a’r gigfa y prynhawn.

Os mynni fynd yn glaf, golch dy ben a dos i gysgu.

Iechyd ieuenctid, afiechyd henaint yw cysgu llawer.

Ni thorro ei gythlwng ym Mai, cyfrifed ei hun gyda’r meirw.

Tri chymedroldeb a barant hir oes – ymborth, llafur a myfyrdod.

 A gartho ei ddannedd a blaen y gyllell, gall eu carthu cyn bo hir a’r carn.

Clefyd byr i gorff a rhew byr i’r ddaear a iachant ac a gryfhant bob un o’r ddau – yn hir a ddinistriant.

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com