|
|
Cynghorion
I Iachau Amrywiol
Glefydau Allan o Lysieulyfr Teuleuaidd Hynafol. Yn y dyddiau pan na fyddo gofal iechyd ar gael ac ymweliad gan y meddyg yn
gostus tu hwnt i’r helyw, fe ddibyna pobl ar feddyginiaethau cartref, daethom
draws lyfr bach difyr iawn yn nodi ‘r meddyginiaethau yma, fe’i gwnaed o
lysiau gan amlaf, pethau oedd at law yr hen bobl, prun ai oedda nhw yn gweitho
wyddon ni ddim.
Yn naturiol dan i ddim yn eich argymell i chi ei trio!!
Cymerwch lond llaw o ‘hoarhound’ a hanner hynny o ‘rue’r gerddi,
mewn dau chwart o ddwfr, a dau bwys o siwgr coch ynddo; a’u berwi yng nghyd
nes lleihao’r haner; potelwch a chymerwch o hono dair llond llwy fwrdd bob
bore ar eich cythlwng.
_______
Rhag y cryd Cymerwch gamomille, llysiau’r dryw, cribau St ffraid, a dail neu wraidd
carn yr ebol, gwraidd celyn mor a hops, yr un faint o bob un berwch hwynt oll
mewn dwfr, a rhoddwch ynddo ddigon o driagl, ac yfwch o hono pan fyddwch yn
gynhes yn y gwely; a chwyswch ddwy awr ar ei ol.
__________
I gryfhau’r Ystumog Cymerwch beppermint, cribau St Ffraid, a suran y gog, yr un faint o bob un,
a’u berwi yn nghyd mewn dwfr, a rhoddwch ynddo ychydig o siwgr neu rywbeth
cyfaddas, ac yfwch o hono o fewn eich rheswm
_______________
Rhag brathiadau cwn cynddeiriog a nadroedd Cymerwch fon, gwraidd cacamwcci, mintys, had neu wraidd Alecsander, cribau
St Ffraid, ysgaw Mai, dail llyriaid, rue gerddi, yr un faint o bob un, a berwch
hwy mewn gwin gwyn, ac yfwch ef, gan roddi y dail, yn allanol ar y lle.
__________________
Rhag poeri gwaed. Cymerwch gribau St Ffraid, dail mieri, rhosus cochion, a dail tafol cochion,
yr un faint o bob un, a berwch hwynt mewn gwin coch ( y neb na allo gael gwin,
rhaid iddo gymweryd dwfr;) a melyswch a siwgr gwyn ac yfwch yn fynych o hono, ac
iach a fyddwch.
____________________
Rhag piso gwaed. Cymerwch gamffri, dail llyriaid, a ‘smallage’, at yr un faint o bob un,
a berwch hwynt yn nghyd, gan roddi haner pwys o swigr gwyn i bob peint o hono,
as yfwch ef, ac iach a fyddwch.
Rhag Pas ar blant Cymerwch ddail yr hocsys, thyme y gerddi, a thyme gwyllt, a berwch hwynt yn
nghyd a melyswch a siwgr candi , a gadewch i’r plentyn yfed yn helaeth ohonno.
________________________ Rhag darfodigaeth (consumption)
mewn hen ag ieuanc. Cymerwch wraidd cacamwcci, gwraidd dant y llew, gwraidd carn yr ebol,
hoarhound, juniper berries a raisins yr haul, a berwch oll ynghyd, a rhoddwch
ynddo yn bur helaeth o siwgr coch, gan eu berwi am hir amser ar dan araf, mewn
llestr cauedig; cymerwch lonaid cwpan de o hono yn dwym dair gwaith y dydd.
________________________
Rhag ffitiau’r convulsions Cymerwch gribau St ffraid, brymlys, a dail y gwiwydd, at yr un faint o bob
un, a berwch mewn gwin a dwfr, ac yfwch o hono a byddwch iach.
____________________________
Rhag pesychu. Cymerwch ddail cwrw, cribau St Ffraid, gwraidd neu flodau carn yr ebol, had
cywarch, hyssop, dail tafod y ci, neu ddail tafol, juniper-berries, gwallt y
forwyn, gwraidd yr hocsys, dail clust y llygoden, mwstard gwyllt, rhosmair, a
sage, at yr un faint o bob un; y rhai sydd gyfoethog a allant yn llwyddiannus eu
berwi mewn gwin, ond mae’n debygol y bydd raid i’r tlodion eu berwi mewn
dwfr, a’i felysu a mel neu siwgr coch. Nid yw ond ofer rhoddi cyfarwyddyd
i’w gymeryd, yr wyf yn disgwyl y gwna eich deall naturiol eich cyfarwyddo, fel
ag y byddo y clwyf yn gofyn, a’ch nerth chwithau yn cynal.
_________________________________
Rhag Llosg Tan. Cymerwch beint o oil traed defaid, pedair owns o red lead, ac un owns o gwyr
melyn, berwch yn nghyd am dair awr ar dan araf, gan ei droi; ac yna rhoddwch ato,
yn niwedd y berwad haner owns o oil of elder, neu ysgaw: gadewch iddo oeri, yna
rwsiwch y dolur ag ef unwaith yn y dydd.
________________________________
Un arall at yr un achos. Cymerwch ychydig o ‘lapis powder’ neu ‘brown dust’ ( gellwch ei gael
yn siop y druggist), a chymysgwch mewn dwfr eira, gellwch wneuthur digon yn y
gauaf i barhau trwy y flwyddyn, a’i gadw at eich angen, Mae yn diffodd y tan
ac yn iachau y dolur.
_______________________________
Un arall. Cymerwch ‘linseed oil’, melyn wy, siwgr coch, ac ychydig ddwfr;
cymysgwch yn dda hyd nes y tywycho, a chymysgwch ef hefyd bob tro cyn ei
ddefnyddio.
_________________________________
Un arall. Cymerwch ‘spirits of wine, camphor, spirits of turpentine, ac oil St john,
yr un faint o bob un, ac eneiniwch y lle ag ef. Profwyd ei fod yn dda i ddiffodd
y tan.
__________________________________
Y ffordd i wneuthur Dwfr y Llygaid Cymerwch hanner peint o frandi, dau beint o ddwfr ffynnon oer, ac yna un
owns o ‘sugar of lead’ cymysgwch yn nghyd, a photelwch at eich gwasanaeth.
________________________________
Un arall Cymerwch sug llym y llygaif, dail llygaid y dydd, dail llyriaid, a
llysiau’r esgyrn, yr un faint o bob un, a dodwch ynddo ychydig o fel, a
rhoddwch o hono yn eich llygaid fel
y byddo yr angen yn gofy.
_______________________________________
Rhag dolur mewn llygaid Cymerwch ddail llygad y dydd a llefrith a berwi y ddau, a’i roi yn y
llygaid, ac fe esmwytha yn fuan. _______________________________________
I atal Gwaed mewn Briwiau Cymerwch ledr gwyn wedi ei losgi a’i wneud yn bowdr ‘bole armoniac’ a
‘dragons blood’ a chymysgwch ychydig ‘spirits of wine’ gyda hwynt.
Profwyd.
___________________________________________
Rhag Dolur mewn Ceg. Cymerwch bowdr gwn, alum, ‘bole armoniac’, a mel yr un faint o bob un, a
rhwbiwch y ‘gums’ neu gig dannedd a hwynt, gan beidio llyncu y poeri, ond
gadael iddo redeg allan. ________________________________________________
Rhag y Dropsi Cymerwch y rhisgl melyn oddiar goed ysgaw, dail cwrw, cribau St Ffraid,
camomile, moron gwylltion, llym y llygaid a rhisgl ysgaw Mai ( i’w cymeryd yr
un modd a’r lleill a gwraidd celyn y mor, juniper berries, persli, paladr y
wal, dail llyriaid, gwraidd dail tafol llydain, a ‘smallage’. Pob un sydd yn
meddwl fod y clwy hwn wedi dechrau arnynt y mae yn werth trafferth gasglu yn
fanwl y dail hyn yn nghyd, a’u rhoddi mewn llestr cauedig am hir amser ar dan
araf; ac wrth ei botelu rhoddwch ddwy owns o fel at bob peint ac yfwch o hono yn
fynych, ond yn y bore ar eich cythlwng.
______________________________________________________
I attal ‘Terms, sef y Misglwyf. Cymerwch ddail ‘beets cochion, dail mieri, dail ‘comphrey’, y dail a
lelwir llysiau’r lloer, llysiau’r gwaedlif, tansi gwyllt, a rhosus cochion,
at yr un faint o bob un, a’u berwi mewn gwin coch, os gellwch ei gael; y rhai
na allent gael gwin, berwch mewn dwfr, a rhoddwch haner pwys o siwgr gwyn at bob
chwart, ac yfwch yn fynych o hono wrth eich angen ahyn gyda chymorth Duw, a’ch
gwna yn gwbl iach.
___________________________________________________
Un arall i’r un diben Cesglwch tansi gwyllt yn leision, os gellwch eu cael, a gwisgwch o dan
wadnau eich traed, nesaf i’ch croen, yn eich esgidaiu, a hyn sydd anffaeledig.
Mae y cyngor hwn yn fwy ei werth na pris y llyfr i gyd.
______________________________ Cyngor i blant wedi Torri ei
Llen-gig Cymerwch Solomon seal, cribau St Ffraid, dail mieri. A tansi gwyllt;
cesglwch yr un faint o bob un, a berwch mewn dwfr, a dodwch ynddo siwgr gwyn; ac
yfed y plentyn yn helaeth o hono yn dwym, a rhoddwch y dail yn blastr o’r tu
allan am naw diwrnod.
________________________________
Rhag Cancr Cymerwch lysiau dryw, ac yfwch drwyth y dail yn lle te, ac ar amserau eraill
hefyd; gan eu rhoddi yn blastr ar y dolur a’i newid bob yn ail diwrnod hyd nes
y byddo iach.
___________________________________
I gryfhau y golwg. Cymerwch dorfagl, ac yfwch eu trwyth yn lle te yn fynych, a rhoddwch y sug
yn y llygaid, a hyn wna y tro i’r hen bobl yn lle prynu gwydrau.
________________________________________
Rhag Ysgafander Mewn Pen. Cymerwch lond llaw o fom ac yr un faint o lysiau’r ychain, o gribau St
ffraid, o lysiau’r fam, ac o rosus cochion; a’u berwi oll yn nghyd, gan eu
hyfed fel diod gyffredin yn dwym ac yn fynych.
___________________________________________
Rhag y Colic Cymerwch lysiau’r angel, camomile, a gwraidd rhedyn y dwfr, a hanner yr un
faint o ‘rue’ y gerddi; a berwch mewn gwin gwyn neu frandi, ac yfwch lasiaid
o hono yn ffit; neu ferwch mewn dwfr a chymerwch mewn gwin gwyn neu frandi, ac
ail gymerwch os na thyr y tro cyntaf.
______________________________________________
Rhag Dolur mewn Pen. Cymerwch rosmair, a chnociwch mewn mortar a rhoddwch mewn ‘teapot’, neu
ryw lestr cauedig arall, yn nghwr y tan am wythnos, a gwin gwyn arnynt; ac yn y
diwedd rhoddwch ferw iddynt a hidliwch a photelwch ef, gan gymeryd llonaid llwy
fwrdd o hono nos a bore, ond llai i blant yn ol ag y byddo eu hoed; eithr
cofiwch am beidio a gadael iddo leihau yn nghwr y tan
___________________________________________________
Rhag i Blant Biso yn eu Gwelyau. Rhowch iddynt lonad llwy fwrdd o sug llysiau’r gwaedlif, wedi ei felysu a
siwgr gwyn bob nos hyd nes peidient.
_________________________________________________
Rhag Llyngyr Cymerwch gribau St Ffraid, gwraidd rhedyn, wermod lwyd, chwerwlys yr eithin,
dail cwrw, llysiau’r fam, suran y cwn, ‘thyme’ gwyllt a thyme gerddi, a;r
ferfain; berwch at yr un faint o bob un, a haner yr un faint o ‘rue gerddi,
mewn dwfr, gan ei wneuthr yn drwyth gref, ac yfwch haner peint o honi bob bore;
os blant, gwnewch yn wanach a rhoddwch lai o honi.
_______________________________________________________
Rhag Crygni Cymerwch flodau neu wraidd carn
yr ebol, ‘hyssop’, ‘liquorice powder’ o siop y druggist, mwstard gwyllt
y cloddiau, a had danadl poethion, gan gyd ferwi at yr un faint o bob un, ac yn
niwedd y berwad rhoddwch bedair owns o fel, a dwy owns o siwgr candi at bob
chwart, a photelwch, gan gymeryd llonaid cwpan de o hono hwyr a bore, a chwi
fyddwch iach. _________________________________________________________
Un arall rhag Gwichian a Chrygni mewn Gwddf trwy ddiffyg anadl. Cymerwch had ffenigl, wedi ei powdro a’u cymysgu mewn mel. Llonaid llwy de
dair gwaith yn y dydd.
_____________________________________________________________
Diod i Iachau Briwiau. Cymerwch eiddew’r ddaear, sef llysiau’r esgyrn, cribau St ffraid,
gwraidd dail tafol cochion, y ben galed a’r gantwll, a berwch yn nghyd mewn
diod fain, gan roddi burum ati, ac yfwch haner peint o honi yn dwym nos a bore
byddwch iach. ____________________________________________________________
Rhag clwyf Melyn. Cymerwch suran y cwn, llysiau yr ychain, gwraidd banadl, llym y llygaid,
gwraidd ysgall bendigaid, gwraidd ffenigl, hops, a ‘hoarhound, llonaid llaw o
bob un berwch mewn pedwar chwart o ddwfr hyd nes lleiha yn dri, a rhoddwch ynddo
bwys o driagl, ac yfwch haner peint o hono yn dwym, yn y bore a haner peint
arall yn y nos. ______________________________________________________________
Un arall at yr un achos. Cymerwch y wermod lwyd a’r wermod wen, Solomon seal, y falerian, suran y
gog, y pren melyn, a chribau St Ffraid, cesglwch at yr un faint o bob un, a
naddwch y pren melyn yn ysglodion man, yr un faint ag o’r lleill; gan eu
rhoddi yn wlych dros nos mewn pedwar chwart o hen gwrw, ac yn y bore berwch ar
dan araf hyd nes y bo iddo leihau yn un chwart; yn niwedd y berwad rhoddwch
ynddo haner owns o ‘safron’, a berwch drachefn am bum munud, yna tynwch i
lawr wedi ei gau yn dyn, a phan oero ystraeniwch a photelwch, a chymerwch o hono
lonaid cwpan de yn dwym. __________________________________________________________
Rhag y Ddannodd Cymerwch lysiau’r angel , bom, a dail mieri yn leision, yr un faint o bob
un, a gwasgwch eu sug, gan roddi yn nhwll y dant, ac iach fydd. ___________________________________________________________
Un arall at yr un achos Cesglwch thyme gwyllt a thyme gerddi, a gwasgwch eu sug, a hyn a esmwytha y
boen; ond y cyngor goreu ydyw tynu allan y dant bydd yn llygru, rhag iddo lygru
un arall, fo’n nesaf ato. ____________________________________________________________
I attal Cyfogi , ac i Gryfhau’r Ystumog. Cymerwch ddail llyriaid, dail llwyn hidl, mintys, bom, cribau St Ffraid,
dail rhos cochion, dail derw, brenhines y weirglodd, a rhosmair; cesglwch lonaid
llaw o bob un, a berwch yn nghyd mewn pedair chwart o ddwfr nes elo yn dri ac
yfwch lonaid cwpan de o hono dair gwaith y dydd ______________________________________________________________
I Wellhau’r Spleen. Cymerwch wraidd marchalan, camomile, gwraidd celyn mor, a gwraidd rhedyn y
dwfr, haner pwys o’r tri cyntaf, a chwarter pwys o wraidd rhedyn, a rhoddwch
mewn pedwar chwart o ddwfr, a berwch nes iddo leihau’r haner, ac yn niwedd y
berwad rhoddwch ynddo beint o win gwyn, a phwys o siwgr coch, a chymerwch lonaid
cwpan o hono nos a bore yn dwym. __________________________________________________________________
I Ostwng Chwydd y Corff. Cymerwch ferw y dwfr, ‘lercitus’, banadl, camomile, dail llyriaid, a
wermod, yr un faint o bob un ond y banadl a’r wermod, haner yr un faint o’r
rhai hyny; berwch mewn diod fain, a rhoddwch ynddo fel, ac yfwch o hono yn dwym,
wrth eich angen a’ch deall. __________________________________________________________________
I Ostwng Chwydd Allanol Cymerwch ddail ysgaw, dail gwyddfid a llysiau y feddygkys, llonaid llaw o
bob un, a berwch mewn breci melus,
gan ei dewychu ef a blawd brag, a blawd rhyg, yr un faint o bob un, a rhoddwch
fel ynddo, a gwnewch yn ystwyth a saim gwydd, oil neu floneg, a rhoddwch yn
blastr ar y lle
____________________________________________________________
Diod rhag y scurvy Cymerwch ferw’r dwfr, juniper berries, dail ysgyrfi, a gwraidd dail tafol
cochion a berwch yn nghyd yr un faint o bob un nes y byddont yn ddiod gref iawn,
a gwnewch yn lled siarp a ‘cream of tartar’, ac yfwch yn helaeth o honi nos
a bore. __________________________________________________
Cyngor i ferched pan fyddo’r Terms wedi stopio Cymerwch lysiau’r dryw, llysiau,r esgyrn, Alecsander, bom, cribau St
Ffraid, dail cwrw, moron gwylltion, berw’r dwfr, gwraidd celyn mor, ‘hoarhound’,
had dail poethion, juniper-berries, llysiau Ifan, y ferfain, paladr y wal, ;lercitus’,
‘sage’, dail gwyddfid’ y wermod, a’rue’ y gerddi, a ffeniw, a
chesglwch haner llonaid llaw o bob un, ond y ‘rue’ a’r ffeniw, haner
llonaid llaw o’r rhai hyny: cewch y ‘juniper berrie’ yn siop y druggist.
Rhoddwch bedair owns o honynt gyda’r dail a enwyd, a berwch mewn galwyn o a
haner o ddwfr, ar dan araf, a chauad tyn ar ei wyneb, hyd nes iddo leihau un
galwyn , yna rhoddwch ynddo, wedi y berwad, beint o fel, ac yfwch haner peint o
hono yn dwym nos a bore.
_______________________________________________
Rhag Dolur y Garreg, a phoen Cefn. Cymerwch ddail cwrw, blodau banadl, dail llyriaid, cacamwci, camomile, moron
gwylltion, dail ‘cherries’, berw’r dwfr, ychydig had mwstard wedi ei
hysigo, clust y llygoden, had danadl poethion, paladr y wal, ‘rhubarb’,
gwraidd dail tafol suran y gog, a ‘smallage’, yr un faint o’r dail hyn oll,
a rhoddwch ynddo ychydig had llin a thywsyged o fel, ac yfwch yn fynych o hono.
Da fyddai i bawb sydd a’r grafel arnynt yfed y ddiod hon.
_________________________________________________
Cynghor i Wragedd rhag ‘Miscarriage’ Cymerwch ‘sage’ a ‘tansy’ gwyllt, yr un faint o bob un, cnociwch a
gwasgwch allan eu sug, a chymerwch lonaid llwy fwrdd o hono yn lled fynych.
___________________________________________________
Rhag Dolur mewn Bol. Cymerwch gamomile, ‘tansy’ gwyllt a moron gwylltion, berwch yn nghyd, a
chymerwch ddracht helaeth o honi yn boeth yn fynych.
______________________________________________________
Rhag y Peils Cymerwch ddail mieri, dail ‘comfrey’, dail poethion, gwraidd tresgl y
moch, a phaladr y wal, llonaid llaw obob un , a berwch mewn pedwar chwart o
ddwfr ar dan araf, ac yfwch, haner peint o hono hwyr a bore, a byddwch iach.
_______________________________________________________
Eli i Iachau Peils Cymerwch ddail llygad y dydd, a llygaid Ebrill neu ddail y ‘peils’ ( nid
rhaid i chwi ond codi eu gwraidd, cewch weled dull y ‘peils arnynt) a
chymerwch eu gwraidd a’r un faint o lygaid y dydd, curwch yn nghyd a berwch
mewn bloneg hyd nes y byddont yn crebychu, ac yna ystraeniwch ac irwch y
‘peils’ ag ef. _______________________________________________
Rhag y Melancholy Cymerwch fom, llysiau’r fam, a llysiau’r ychain, at yr un faint o bob
un, a berwch yn nghyd mewn dwfr a gwin gwyn, ac yfwch fel diod gyffredin. Neu
bowdrwch y dail a chymysgwch a mel, a chymerwch ar lwy de amrywiol weithiau
yn y dydd: neu gymerwch un dram o’u powdr ar win gwyn ddwywaith y dydd,
a dyma’r ffordd oteu yn fy marn i. _______________________________________________
I Gryfhau’r Cof. Cymerwch y dorfagl, gwraidd yr ysgall bendigaid, ‘juniper-berries’ a
lili’r dwfr, yr un faint o bob un, a berwch ar dan araf, a gwnewch hwynt fel
diod fain, ac yfwch wrth eich syched. ___________________________________________________
Rhag ffitiau neu Wynt Y Fam. Cymerwch lysiau ‘r fam wyllt neu droed yr wydd, allysiau’r fam ddof,
moron gwylltion, a phaladr y wal, at yr un faint o honynt oll, a rhoddwch ddwfr
berwedig arnynt mewn llestr cauedig, a chedwch mewn gwres, ac yfwch o hono o
fewn eich angen. ______________________________________________________
Cynghor i wellhau Manwynau. Cymerwch wraidd march alan, a churwch yn nghyda a halen ac ychydig o finegr,
a rhoddwch ar y dolur cyn iddo dori, ac fe’i gwellha yn fuan. _________________________________________________________
Un Arall Cymerwch ddail bysedd cochion, curwch a berwch mewn dwfr, a gwnewch yn
bowltis hefo blawd ceirch ac ychydig finegr, a daliwch wrtho hyd nes y toro, ac
ar ol hyny fe wna hwn ei sugno, ei sychu a’i groeni yn gwbl iach. ___________________________________________________________
Un Arall Cymysgwch lysiau Ifan, a gwraidd celyn y mor, gan eu curo yn nghyda bloneg,
a’i newid unwaith y dydd. ____________________________________________________________
Rhag yr Igian. Cymerwch wraidd neu had ffenigl a dail mintys, gan eu berwi mewn dwfr, ac
yfd o hono yn dwym. ____________________________________________________________
I Iachau y Pox Cymerwch dri phwys o wraidd celyn mor, un pwys o ‘sage’ gwylltion, a
chwarter pwys o ‘hops’, a’u berwi mewn pum chwart o ddwfr, nes y lleihao i
bedwar chwart, yna hidliwch a rhoddwch ynddo bwys o driagl, a gweithiwch a burum,
a’i yfed fel diod gyffredin, rhaid dal ato am amser hir. ___________________________________________________________
Cynghor I Rai sydd a’i Gwynt yn Drewi Cynerwch fintys, rhosmair, a berwch yn nghyd, a golchwch eich genau bob
bore. ____________________________________________________________
Un Arall Cymerwch had ‘smallage’ wedi eu powdro, i’w cymeryd mewn mel, neu eu
berwi mewn dwfr, a’i yfed yn fynych. _____________________________________________________________
I wellhau Gwynt fo’n Drewi trwy’r Cancr Cymerwch sug suran y gog a mel, golchwch eich genau a hwynt yn fynych.
______________________________________________________________ I
wellhau’r Frech Goch Cymerwch wraidd tresgl y moch, a berwch ddau bwys o honynt, wedi ei glanhau,
mewn tri pheint o ddwfr, nes elo yn chwart, a rhoddwch haner pwys o driagl ynddo,
ac yfwch lonaid cwpan de o hono yn gynhes dair gwaith yn y dydd, a hyn a’i
teifl allan yn brysur, ac a iacha’r galon.
_____________________________________________________________
Rhag Y Frech Wen. Cymerwch haner owns o glodau gold mair, a haner owns o safron, a rhoddwch
ddau chwart o ddwfr berwedig arnynt, mewn llestr cauedig, gan ei gadw yn nghwr y
tan, a rhoddwch haner pwys o fel ynddo; ac os yn blentyn y bydd, rhoddwch, iddo
lonaid fwrdd yn lled fynych; ond os i un yn ei oed a’i nertj, gall ei gymeryd
yn helaeth.
_____________________________________________________________
Cynghor i rai Trwm eu Clywed Cymerwch sug llysiau’r angel, a dyferwch ychydig o hono i’ch clustiau
bob nos, gan roddi gwlan ynddynt a chadw cynhesrwydd.
________________________________________________
Un Arall Cymerwch sug ‘savory’ ac ‘oil of roses’, gan eu cymysgu yn nghyd at
yr un faint o bob un, a’i roddi yn dwym yn y clustiau bob nos, gan gadw
cynhesrwydd; a hyn a dyr y swn yn y pen.
__________________________________________________
I Iachau Bysen mewn Llygad Cymerwch sug llysiau’r angel, ysgaw mair, llym y llygaid. A’r dorfagl,
yr un faint o bob un; cymysgwch ag ychydig fel, ac ychydig o laeth bron,
dyferwch i’r llygad yn fuan. _______________________________________________________
I Iachau Polsi sydd yn gwneuthr i’r dwylaw Grynu. Cymerwch flodau ysgaw mair, a distiliwch yn mis Mai, a golcher y dwylaw ag
ef nos a bore; hyna’u gwellha, ac a gryfha y gewynau. _________________________________________________________
Rhag Gout. Cymerwch ddail llygad y dydd, cribau St Ffraid, bom, a chrafangc yr arth, a
berwch oll mewn dwfr, a golchwch y chwydd a’r drwyth yn fynych. Neu gymerwch
ddail llygad y dydd a berwch mewn bloneg nes y byddant wedi crebychu, ac yna
ystraeniwch trwy liain, ac irwch y ‘gout’ a’r ennaint. _________________________________________________________
I Chwalu Gwynt o’r Cylla neu ‘r ‘Stomach’ Cymerwch rhosmair wedi eu powdro a’u rhoddi trwy ogr, a chymerwch haner
dram o honynt, nos a bore, ar win gwyn.
__________________________________________________________
Eli i Lanhau’r Briwiau Cymerwch haner pwys o sug ‘smallage’, pedair owns a haner o fel, ac owns
a haner o beilliaid; berwch hwy yn nghyd hyd nes y tewychont, a chedwhc i lanhau
hen friwiau dyfrllyd a drewedig.
____________________________________________________________ Un
Arall i’r un diben ond yn fwy awdurdodol i fwyta cig marw Cymerwch bedair owns o sug ‘smallage’, yr un faint o sug llym y llygaid,
un owns o verdidris, pedair owns o fel, a dwy owns o finegr, a’u berwi yn
nghyd ar dan araf, hyd nes tewychont. Defnyddiwch ef yr un modd a’r llall. Nid
yw hwn yn berthynol i un math o friwiau ond y rhai sydd a chig marw ynddynt. _____________________________________________________________ Ennaint
i Wellhau’ Cymalau ac Aelodau a fo wedi cael eu rhwymo mewn oerfel Cymerwch haner pwys o ddail cwrw yn leision, a chwarter pwys o ddail
‘cabbage’, a berwch mewn pum pwys o saim traed defaid, a dau bwys o wer
eidion, hyd nes y byddo’r dail
wedi crebychu ynddo, yna ystraenwch a chadwch yn barhaus, i iro y gewynau a’r
aelodau clwyfus, pan font yn pallu trwy’r oerfel.
_____________________________________________________________
Ennaint i’r Gewynau ac i wella holl waeledd yr Aelodau oherwydd Oerfel
Cymerwch ‘sage’, rhosmair , ‘lavender’ dail cwrw, camomile,
‘rue’ y gerddi, a wermod, llonaid llaw o bob un, ac o fintys, cribau St
Ffraid, y gantwll, a phersli, haner yr un swm o saim traed defaid pum pwys o wer
defaid dau bwys, ac ‘oil of spike’ haner owns, curwch y dail, a berwch hwy
yn nghyd a’r saim, y gwer, a’r oil, ac ar ol iddo ferwi digon straenwch trwy
liain a chadwch, fel peth o fawr werth, i eneinio’r aelodau pan fyddont
glwyfedig a diffygiol. Pa beth bynnag yw os bydd wedi magu trwy oerfel neu
ystyffni yn y cymalau, neu ‘r aelodau yn diffrwytho gan Polsi neu rywbeth
o’r cyfryw, ac os bydd y colic neu wynt yn y bol gellwch yn llwyddiannus wneud
defnydd o hwn i eneinio y lle ag ef o flaen y tan, gan gadw cynhesrwydd. Dyma
gyngor o fawr werth. ___________________________________________________________
I wneud Plastr i dori Colic, aci esmwythhau poen yn bob rhan o’r Corff. Cymerwch y grawn neu’r berries sydd yn tyfu ar ddail cwrw, ac os na ellwch
eu cael, cymerwch o’r dail wedi eu powdro, ddwy owns, o ‘venice turpentine
ddwy owns a haner o ‘frankincense’ a ‘mastich haner owns, ac o fel bedair
owns, a gwnewch blastr trwy eu cymysgu a’u berwi yn nghyd; taenwch ar ledr a
rhoddwch ar y lle clwyfus, pa un bynag ai ar y bol neu ar yr aelodau; mae wedi
bod o fawr leshad amrywiol o droiau. ________________________________________________________
Plastr da i’w roddi ar Esgyrn briwedig ac i lanhau hen friwiau. Cymerwch gribau St Ffraid, yn leision, llysiau y dryw,’sage’, ‘lercitus’,
llysiau y gwaedlif, a ‘comfrey’, gan eu curo a’u berwi mewn peint o win
gwyn; pan ferwant ystraeniwch a thaflwch y dail ymaith, a chymerwch o
‘frankincens’a ‘mastich’, wedi eu powdro,o bob un chwarter owns; cwyr
gwyn a ‘turpentine’, o bob un bedair owns, ac ystor ddwy owns; berwch yr
holl bethau uchod yn y ‘gum’ y berwyd y dail ynddo, a gwnewch yn blastr a
rhoddwch ar ledr wrth y lle briwedig. Gellwch wneuthur cyn lleied ag a fynoch o
hono, ond cymeryd llai o’r defnyddiau. ________________________________________________________
Y ffordd i wneuthur Eli da at bob math o Friwiau. Cymerwch haner pwys o floneg wedi ei doddi, o blwm coch a phlwm gwyn ( red
and white lead) owns a haner o bob un, o gwyr melun owns a haner, o ystor du un
owns, ac o ‘venice turpentine’ ddwy owns, a berwch am dri chwarter awr ar
dan araf a rhoddwch y ‘venice turpentine’ ynddo agos at ddiwedd y berwad,
gan ei dynu i lawr a’i droi hyd nes oero. _________________________________________________________
Rhag Scurvy yn y Dannedd. Cymerwch de ‘sage’, a rhoddwch ychydig o alum i doddi ynddo, a chymerwch
gadach lliain a golchwch gig eich dannedd ag ef yn dda ac yn fynych; ac os
ewyllysiwch wneuthur eich dannedd yn wynion, cymerwch un owns o alum wedi ei
losgi a’i bowdro, a chwe llwyaid o sug llym y llygaid, a chymysgwch yn nghyd,
a rhwbiwch eich dannedd. _______________________________________________________
Rhag Dwfr Poeth Cymerwch ychydig ‘salts tartar’, ac yr un faint o ‘magnesia’;
cymysgwch mewn ychydig ddwfr a chymerwch lonaid llwy fwrdd o hono yn lled fynych,
a hyn a wellha y dwfr poeth. Cynghor i rai fo’n dueddol i fod yn Rhwym Cymerwch ‘cream of tartar’ wedi ei gymysgu mewn mel, yn fynych yn y
bore; a hyn a geidw eich corff yn dymherus.
__________________________________________________ I Ostwng Chwydd a fo yn Mronau Merched
o herwydd Gormod o laeth Cymerwch ddwy owns o gwyr melyn a haner pwys o ‘linseed oil’, neu olew
had llin, toddwch yn nghyd a gwlychwch liain glan ynddo, at yr un faint a’r
lle dolurus, pan ag y byddo yn dwymn, a rhoddwch ar y fron, neu ar y ddwy os
bydd yn anghenrheidiol; gwnewch hyn hyd nes y derfydd y boen a gostwng y chwydd. ________________________________________________________ Cyfarwyddyd
i Fammaeth a fo’n rhy brin o Laeth i’w phlentyn. Deallwch gymaint a hyn, os bydd mamaeth yn gystuddiol, ac yn cario meddyliau
trymion, fod hyn yn ei gwneuthur yn deneuach fel nas gall fod ganddi lawer o
laeth, a’r hyn sydd ganddi nis gall fod yn iach; Ac y mae bwydydd a diodydd sal yn lleihau y llaeth, am hyny dylid ymwrthod a phob bwydydd drwg ac afiach, a bwyta y bwydydd goreu os gellir eu cael; a’r ddiod a ddylai fod o lefrith da, ym mha un y fod had ffenigl yn ngwlych dros nos: barley water, neu ddwfr haidd sydd yn dda hefyd i’r un dyben. Neu gymeryd Barley water, a rhoddi dail ffenigl ynddo yn leision, a’i ferwi a’i felysu a siwgr, a’i yfed fel diod gyffredin; yn allanol cymerwch ffenigl, ‘smallage’, yr un faint o bob un , a berwch mewn dwfr a golchwch y frest ag ef mor boeth ag y gellir oddef: neu gymerwch ffenigl, a phersli, llonaid llaw o bob un yn leision gan eu curo yn nghyd, eu chwysu, a’u rhoi yn bowltis cynhes ar y fron, a hyn a ychwanega y laeth.
|
|
Copyright © Rhiw.com |