Ffermio
Mae Ffermio yn Rhiw ers y cyfnod
neolithig ac mae enwau'r ffermydd Penarfynydd, Ysgo, Meillionydd, Llawenan
a Bodwyddog yn dyddio nol i'r canol oesoedd. Ffermio cymysg oedd yr adeg honno ac
mae wedi parhau felly. Tyfwyd haidd a ceirch yn ogystal a chadw gwartheg, defaid
a moch. Tyfwyd llin a hemp i wneud lliain a chasglwyd cen i wneud lliw. Yn y
19fed ganrif daeth tatws i'r amlwg.
Cyn y 19fed ganrif roedd amaethyddiaeth
fwy neu lai at ddiben hunan gynhaliaeth ac er budd y gymdeithas leol Gwartheg
oedd prif ffynhonell incwm a byddai porthmyn yn mynd a nhw i Ffair Barnet a
marchnad Smithfield yn Llundain. Un o'r porthmyn lleol oedd William Lewis
Bodwrdda gafodd ei gladdu ym mynwent Llanfaelrhys yn 1758. Mi gychwynai'r
porthmyn eu taith o'r farchnad yn Sarn a galw yn Efailnewydd I bedoli'r gwartheg
cyn symud ymlaen i Loegr, yng nghanolbarth Lloegr fe gair gwartheg eu twchu ar
y borfa fras cyn cyraedd Llundain. Roedd porthmyn yn bwysig yn eu cyfnod
oherwydd iddynt ddod a dulliau a syniadau newydd am amaethyddiaeth yn ol efo nhw
yn ogystal a straeon a hanes o'r senedd a Llundain.Gwartheg bach du cryf oedd
yma dan y 19fed ganrif pan gyflwynwyd bridiau eraill.
Roedd gan Rhiw ei brid arbennig o
Ddefaid ers y canol oesoedd hyd at bumdegau'r ugeinfed ganrif. Roeddynt yn
ddefaid bach tebol ac yn addas iawn i ochrau carregog y Rhiw. Mi gai'r gwlan ei
drin lawr ym Mhenceurau ond i Bwllheli yr ai y llin i gael ei drin.
Yn y 19fed ganrif gwelwyd gwelliannau
mawr ym myd amaeth, daeth cylchynnu cnydau i fod a chreu caeau a hefyd croes
fagu i greu stoc gwell o ddefaid a gwartheg. Agorwyd lon bost a'i gwneud yn haws
cyrraedd marchnad Pwllheli yn 1803 ond y mor oedd y ffordd hawsaf i gyrraedd
marchnadoedd o hyd, allforiwyd caws, menyn a wyau i Lerpwl, mewnforiwyd glo
calch a nwyddau eraill. Oceanic Steamer oedd enw un llong ddaeth a nwyddau i
Penarfynydd. Buddsoddai ffermwyr mewn llongau ac roedd adeiladu llongau yn cael
ei gynnal ym Mhwllheli a Porthdinllaen. Yn amal iawn mi ai meibion fenga
ffermydd i weithio ar y mor.