"Yr Engan"

Roedd Harri Williams Cristin yn ddyn pur ddiwylliedig roedd yn ddarllenwr mawr a chanddo gof da. Byddai yn prynu papur newydd cymraeg pan alwai yn Aberdaron a byddai yn eu darllen o glawr i glawr iw frawd William ai chwaer Mari a rhai eraill anllythrennog yr ynys. Harri oedd wedi cael y nerth meddyliol i gyd a William ei frawd wedi cael nerth corfforol. Doedd problem yr iaith ddim yn Enlli, roedd bron pawb yno yn ddwyieithog, am y rheswm mai Saeson oedd gwylwyr y gloeudy, fel maer dyddiadur yn dweud y byddai gwasanaeth Saeneg yn cael ei gynnal yn y capel yn aml iawn.

Roedd Ynys Enlli bron iawn yn hunan gynhaliol, doedd dim son am fara gwyn pryd hynn, bara haidd fydda ar fwrdd pawb a mi fyddair ynyswyr yn gwneud eu burum eu hunain, roedd digon o hops yn tyfu yn yr ynys a hefyd mi fyddant yn gwneud sebon eu hunain efo tatws a rhyw fath o wymon. Yr unig beth oedd raid ei gael oedd te a siwgwr.

Gan fy mod wedi son am William Williams Cristin ac mor gryf ydoedd y fo oedd un or rhwyfwyr a fu yn cyrchu y meddyg i Enlli noson y strom fythgofiadwy. Roedd William yn yr Efail un diwrnod a mi ddeudodd wrth fy nhad, mor handi fasa engan yn Enlli, a dyma nhad yn dweud wrtho,Os medri godi yr engan yna ai chario ir traeth mi cei hi, deud yn hollol ddi feddwl wnaeth fy nhad. Dyma William yn gofyn i nhad Wyt ti yn feddwl be tin ddeud? ac mi ddeudodd i fod. Dyma William yn gafael yn yr engan efo un law ac yn yr engan fach sydd yn dod allan or engan fawr a dyma fo yn ei hysgwyd rhwng ei goesau, ac yna un hergwd fawr a dyma fo yn ei thaflu ar ei ysgwydd a cychwyn am y traeth a nhad yn mynd ar ei ol gan ddisgwyl y basa fo yn methu. Pan oedd gyferbyn a gwestyr ship mi ddoth un o ddynion Enlli iw gyfarfod ac mi arhosodd William efo fo i sgwrsio a dweud hanes yr engan dan chwerthin. Pan welodd fy nhad hynny mi ddoth adref wedi colli ei engan.

                             

Fel deudais i un anllythrennog oedd William Williams Cristin, ond pan ddoi i Aberdaron unwaith y mis i dalur rhent byddai yn galw yny llythyrdy o brynu papur newydd. Mi ddoth ir efail ryw ddiwrnod braf wedi prynu papur saesneg, er na fedra fo ddarllen yr un gair ohonno. Mi steddodd ar gadair yna codi un goes dros y llall, tynnur papur newydd o dan ei gesail ai roi ar ei benglin yna rhoi ei law yn llogell ei wasgod a thynnu sbectol aur a spring ynddi, ac wedi ei gosod ar ei drwyn mi agora y papur. Ar hynny mi ddoth Capt Daniel Mc Neil ir Efail, roedd o yn byw yn Bellfield ond Henfaes y gelwir y lle heddiw ac mi ofynnodd i William, yn sasneg wrth sgwrs Whats the news Mr Williams? ac ar drwaiad mi atebodd William Oh big ship fawr gynddeiriog sinc in lantic, Ciaptan and all soul one jack sinc in it. Ar ol yr araith roedd pawb yn gorfod mynd allan or Efail i chwerthin, gan y buasai William yn mynd yn wallgof a hefyd Capt McNeil, ac yn rhyfedd iawn roedd stori William yn hollol wir, roedd llong wedi colli ym Mor yr Iwerydd a phawb wedi colli efo hi. Roedd William wedi agor y papur ar ei ben i lawr, ond fedrai ddim dweud na dyma welodd William sef Llong ai phen i lawr ai peidio. Neu efallai ei fod wedi clywed rhywun yn dweud am y drychineb fawr.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright Rhiw.com