"Y Storm"

Stori arall gynhyrfus iawn a glywais gan Harri Williams, a chan amryw eraill o’r ynyswyr,  ond doedd na neb fel Harri Williams i adrodd hanes.

Roedd o a Thomas Williams wedi bod ar y mor yn codi cewyll ac roeddynt yn dod i’r lan ar y gwyllnos, pan ddeudodd Thomas wrth Harri fod storm erwin yn ymyl, a’r rheswm y gwyddai hynny oed bod yr haul yn mynd i lawr rhwng y gist a’r parwyd, sef tan gwmwl, ac y byddai’r storm yn ei gwneud yn amhosib croesi’r swnt am dair wythnos. Roedd yn ffyrnigo bob munud ac roedd y pysgotwyr eraill wedi rhoi gorau i godi eu cewyll ers sbel cyn i’r ddau ddod mewn i’r Cafn. Pan lanion nhw roedd yr ynyswyr yno’n disgwyl a dyma nhw yn dweud fod hen wraig Plas Bach yn wael iawn a bod yn rhaid cael meddyg ar fyrder. Y rheswm oedd yr ynyswyr yn disgwyl wrth y lan oedd am mai Thomas Williams oedd yn un o’r cychwr gorau ar yr ynys a’r llall oedd Thomas Williams Plas Bach oedd yn werthwr glo yn Aberdaron.

Dyma Thomas yn dweud nad oedd gobaith croesi’r swnt i Aberdaron dan ar ol hanner nos gan fod y llanw yn rhedeg yn gryf, a dyma fo yn dweud mai’r peth callaf i wneud oedd rhoid arwydd i’r tir mawr fod angen meddyg ar unwaith. Roedd dealltwriaeth rhwng pobl Enlli a phobl Ty Mawr Uwchmynydd ynglyn a’r arwyddion, hefyd roedd perthynas rhwng teulu Ty Mawr a theulu Hendy Enlli, a’r arwydd oedd tan mawr a than bach yn ei ymyl pan fyddai eisiau meddyg ar frys, a phan fydda teulu Ty Mawr wedi deallt a gweld yr arwydd yna mi fyddant yn gwneud tan i ddangos hynny.

"Enlli yn galw'r meddyg"

Roedd yn cymeryd amser i gael meddyg yn yr oes honno i ben draw Llyn. Doedd dim teleffon na modur na hyd yn oed beic, efo’r car a’r ceffyl neu ar gefn ceffyl y byddant yn nol y meddyg.

Roedd Thomas Williams wedi dewis y rhwyfwyr cryfa a’r gorau oedd yn Enlli i fynd i Aberdaron y noson honno, ac roedd Thomas wrth y llyw. Roedd deg o rwyfwyr yn y cwch yn dod o Enlli, efo congol bach o ‘r hwyliau, roedd y gwynt dros gopa mynydd Enlli, sef o’r de – orllewin a’r gwynt yn cryfahau bob munud a’r mor yn ffyrnigo, doedd dim gobaith glanio yn Aberdaron gan fod swel mawr yn torri ar y traeth yno, chwydd yn y mor oedd gair pobl Enlli am swel. Hefyd roedd gwr Ty Mawr yn gwybod yn iawn na allen nhw ddod o Enlli dan hanner nos, os y gallen nhw ddod bryd hynny, felly glanio ym Mhorth Meudwy oedd eu bwriad. Pan grreaddon nhw Borth Meudwy roedd y meddyg yno yn eu disgwyl yng nghyd ac amryw o bobl Aberdaron ac Uwchmynydd. Mi lwyddon i gael y meddyg i’r cwch er fod swel mawr yn torri ar y traeth, mae Porth Meudwy yn le peryglus efo swel am fod y mor yn tynnu allan a doedd na fawr iawn er pan foddodd dau yn y Borth wrth lanio ar ol bod yn codi eu rhwydi penwaig sef Thomas Cwrt a William Bodermud. Thomas Cwrt wnaeth adeiladu Minafon. Roedd wedi priodi Lydia merch Anelog Farm, ond fuo nhw erioed yn byw yno gan nad oedd wedi gorffen ei adeiladu pan ddigwyddodd y drychineb, a mi werthwyd o i Capt Williams Cae Forus a oedd wedi priodi merch Gwthrian.   Wedi iddynt gael y meddyg i’r cwch dyma gychwyn am Enlli, erbyn hyn roedd yn stormus iawn roedd yr ynyswyr wedi dweud wrth y bobl oedd yn y Borth eu bod am geisio dychwelyd gynta buasai’r meddyg wedi gweld y claf. Brwydr galed iawn yn erbyn yr elfennau oedd croesi’r swnt yn ol i Enlli y bore hwnnw. Pan oeddynt yn troi am safn y swnt roedd yn ddrwg iawn roedd y mor fel mynydd ond doeddan nhw ddim yn ei weld gan ei bod yn dywyll fel y fagddu, a fel yr oeddant yn closio at fynydd Enlli roedd yn gwella chydig, ond fod y mor fel tae wedi cynddeiriogi a phan yn troi am Ben Cristin roedd yn ofnadwy yno, doedd dim geiriaiu i ddisgrifio’r fath for. Ond mi lwyddon i gyrraedd y Cafn, doedd y rhwyfwyr ddim yn gallu symud a’u dwylo yn gig noeth, eu cluniau yn crynu ar y tofftiau a’u llodrau wedi gwisgo yn dipia, dyna ddangos pa mor galed oedd hi wedi bod arnynt, a’r dynion wedi arfer a rhwyfo a’u dwylo wedi caledu, ac eto y dwylo hynny yn gig noeth. Roedd y bobl yn Enlli wedi paratoi y cwch i fynd yn ol, ond roedd Thomas Williams am fynd yn ol wedyn am mai o oedd cychiwr gorau’r ynys.

Pedwar oedd yn mynd yn ol gan nad oedd angen rhwyfo, roeddynt wedi rigio congol fach o’r hwyliau gan fod y gwynt y mor gryf ac roedd lamp llong wedi ei rhwymo ar ben y mast er mwyn i’r bobl yn Enlli weld pan oeddynt wedi llwyddo i gyrraedd Pen y Cil a chysgod yr allt i Borth Meudwy, mi wyddan nhw yn dda yn Enlli faint o amser gymerai y cwch i gyrraedd Pen y Cil.

Mi ddaeth y meddyg yn ol i’r Cafn yn reit sydyn ac yn ol Harri Williams llid yr ysgyfaint oedd ar yr hen wraig ac roedd yn rhaid powltisio ddydd a nos am gyfnod, roedd y meddyg wedi dod a cyffuriau efo fo gan ei fod yn amau beth oedd yr afiechyd ac wedi gweini arno droeon o’r blaen. Mi gychwynon am Aberdaron ar fyrder gan nad oedd amser i’w golli ac yn ol Harri gorchwyl beryglus iawn oedd mynd heibio i Ben Cristin, ond mi lwyddon diolch i’r hen Garreg Bach am ei fedusrwydd i drin cwch medda Harri, mi lwyddon i osod congol o’r hwyliau yna rhwymo pawb, roedd Thomas wedi ei rwymo yn dyn wrth y cwch ond rhaff yn sownd wrth y tofftiau oedd gan y tri arall ac am eu canol, ond roedd y meddyg wedi ei rwymo yn sownd.

Gwaith dau oedd spydu a Harri yn gofalu am yr hwyliau, fel yr oeddynt yn pellahu o Enlli roedd y storm yn ffyrnigo gan eu bod yn colli cysgod y mynydd a phan oeddynt yn agosau at Garreg Ddu roedd yn ofnadwy yn y fan honno, roedd y mor fel mynydd mawr ac mi ddoth anferth o foryn a thorri dros y cwch a’r canlyniad mi ddiffoddodd y lamp oedd ar ben y mast, ac ar ol y digwyddiad hwnnw roedd tristwch mawr ar Ynys Enlli, roeddynt yn meddwl yn saff fod y cawch wedi suddo.

Roedd tri ohonnynt yn taflu dwr o’r cwch efo pwcedi, y peth fyddai yn fy ngoglais i oedd gwrando ar Harri Williams yn adrodd gweddill yr hanes mi fyddai yn ei hadrodd yn debyg i hyn.

‘Er mor erwin oedd y gwynt a’r mor fel pe bae wedi ymgynddeiriogi roedd gennym destun diolch yn nghanol y rhyferthwy mawr a’r testun oedd fod yr Hen Garreg Bach wrth y llyw ac wedi rhwymo ei het am ei ben, a fynta wedi ei rwymo wrth y llyw, ac yn ail reodd yn dywyll fel y fagddu ac am hynny doeddan ni ddim yn gweld y mor a’i donnau’n rhuo, ac yn drydedd pe bae rhywbeth yn digwydd roedd y doctor yn y cwch (dyna ffydd mewn doctor). Mi lwyddon i gyrraedd ceg y Borth, ond roedd yn amhosibl i neb o’r lan ein gweld am ei bod mor dywyll, ond roeddynt hwy yn gweld pobl yn y Borth am fod ganddynt lampau, ond doedd gan y bobl yn y cwch ddim i olau, reodd ei fflachlennau wedi tampio, roeddynt mor wlyb fel pe buasent wedi eu tynnu tu ol i’r cwch o Enlli. Doedd dim i wneud ond bloeddio, ond roedd swn y mor yn torri ar y traeth y drech na’n lleisiau.

Mi ddeudodd Thomas wrthynt am ddisgwyl i’r moryn dorri a mi glywon o’r Borth a dyma roid golau y lampau arnynt, y broblem fawr oedd glanio yn Borth gan fod y mor yn tynnu allan yno, hefyd dyma’r broblem oedd yn pryderu’r bobl oedd yn Borth. Ond roeddynt wedi bod yn cynllunio gyda’u gilydd tra bu’r cwch yn Enlli ac roeddynt wedi dewis y dynion talaf i fynd i’r mor i gyfarfod y cwch, roeddynt wedi dewis tri i bob ochr i ddal y cwch rhag troi ar draws y traeth. Roedd y dynion yn y mor at eu ysgwyddau a rhaff am bob un rhag ofn damwain yn ol Harri, roedd digon o bobl ym Mhorthmeudwy y bore hwnnw yn blygeiniol i dynnu’r cwch i fynny a Thomas Williams a’r meddyg ynddo.

Ar ol tynnu’r cwch i ddiddosrwydd a chael y meddyg a Thomas yn rhydd o’i rhwymau, mi aeth y meddyg ar ei liniau yn y cwch a diolch i’r anfeidrol am y waredigaeth fawr a gawsant, roedd Harri Williams yn dweud mai dyma’r weddi fwyaf ddylanwadol a fu yn ei gwrando erioed, roedd pawb yn Borth wedi ei syfrdannu ar ol y weddi. Mi ofynnodd Thomas Williams i ffawrmwr Ty Mawr Uwchmynydd a fasa fo yn mynd adref ar unwaith i wneud tan ar Fynydd Mawr gan ei fod wedi gaddoi’r ynyswyr pe baent yn cael glanio yn ddiogel.

Roedd pobl garedig Aberdaron wedi cynhesu eu dillad pan gyrraeddon y pentref a gwely cynnes iddynt orffwyso ar ol bod yn ymladd yn erbyn yr elfennau am oriau. Mi fydda gan bobl Enlli ddillad sbar yn Aberdaron yn lle byddant yn aros rhag ofny bydda nhw yn gwlychu, ac roedd hynny yn digwydd reit amal. Mi fuo nhw bron i fis yn Aberdaron cyn medru dychwelyd i Enlli.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com