|
|
"Y Pwrs" "William Jones y Gof" Harri
Williams Cristin. Fydda Harri
Williams, Cristin byth yn dod trosodd i Aberdaron, na fyddai arno eisiau
rhywbeth yn yr efail, mi fyddant yn talu wrth gael bob – peth, a mi fyddai
Harri eisiau rhywbeth at y fferm neu rywbeth at un o’r cychod bob tro y doe o
drosodd o’r ynys, a pan yn talu os byddai rhywun yn yr efail mi fyddai fy nhad
yn sicr o ddweud na fyddai ganddo ddim newid i fod, wedyn mi ddechreuai Harri
Williams ar ei lith, a rhywbeth yn debyg i hy fyddai ei bregeth bob amser. ‘Wel
arhoswch chi Hugh Jones, mae gennyf bwrs arall ond pwrs Mari ydi hwn ( Mari oedd
ei chwaer) mae’n rhaid i mi roi cyfrif o bob ceiniog ddaw o’r pwrs yma, a
bob ceiniog eith iddo fo, pwrs y troi fyddan ni yn galw hwn, i hwn mae arian yr
wyau a’r menyn a’r moch yn mynd ond mae gennyf bwrs arall’ meddai Harri
‘Mi fydd hwn ar fy mherson i ddydd a nos’. Yna mi fydda yn agor ei wasgod,
agor ei grys ucha a roedd rhywun wedi gwnio llogell yn ei grys isa a pin gau
fawr yn ei gwneud yn ddiogel na fasa dim yn colli o’r llogell, ac wedi iddo
fynd trwy’r seremoni mi fyddai yn tynnu pwrs lledar o’r llogell oedd yn ei
grys iasf, ac yn y pwrs roedd deg punt ar hugain mewn aur, roedd hynny yn arian
mawr yn yr oes honno. Wedyn mi fydda fy nhad yn gofyn iddo pam ei fod yn cario
cymaint o arian ar ei berson, wedyn mi ddechreuai Harri Williams ar ei araith.
‘Y rheswn Hugh Jones ydi, pe buasai ni yn cael ein dal yn hir yn Aberdaron mi
fuasa gennyf arian i brynu crysa a tronsia gan John Griffith Siop Pencaerau rhag
ofn i mi fynd i bryfeta Hugh Jones’ (a mi fydda Harri Williams ofn hynna yn
fawr iawn) ‘A deudwch ein bod wedi cael ein dal yn Aberdaron a hithau yn amser
talu’r rhent, mi fasa gen i arian i dalu’. Roedd Harri
Williams a Thomas Willimas, Carreg Bach yn cyd gwella, a roeddynt un tro yn mynd
i godi eu cewyll ar doriad dydd, wedi iddynt gael y cwch ar y dwr, dyma gychwyn
er ei bod yn dywyll o hyd, a pan oeddynt tu allan i’r goleudy mi welwyd
rhyw wrthrych rhyfedd ar y mor, mi aethon i wneud ymchwiliad a pan yn nesu at y
gwrthrych a’r haul yn dechrau dangos ei nerth, mi welan mai llong oedd y
gwrthrych yn tindroi
Wedi iddynt roddi y neges dyma fynd i’r cwch ac ar y llong, dyma setio’r hwyliau, codi’r angor a gwneud y cleifion yn gyfforddus a dyma gychwyn am Borthmadog. Roedd y trai yn dechrau ac hefyd roedd y gwynt yn deg am fod y brisin yn ysgafn, a rhwng y brisin a’r teit roeddynt yn mynd yn gyflym iawn. Roeddynt yn mynd allan am deit Cilan er mawyn osgoi teit tywyllodrus Porth Neigwl, sydd yn tynnu am y lan, roedd yn digwydd bod yn ‘spring mawr, ac am hynny y teit yn gryf iawn, pasio trwyn Cilan ac Abersoch ac os fasa nhw yn mynd yn rhy gyflym mi fasa raid disgwyl yn hir i’r llanw ddod i mewn er mwyn cael dwr dan y llong, ond mi weithiodd pob dim yn iawn ni fu raid iddynt ddisgwyl yn hir, na ddaeth cwch y peilat atynt. Wedi dod at ochr y llong mi ddywedon yr hanes wrth griw cwch y peilat a’r canlyniad oedd, ddoe neb ar fwrdd y llong, a mi ddywedodd y peilat am iddynt ei ddilyn o i mewn i’r harbwr a felly fu. Wedi iddynt
gyrraedd canol yr harbwr mi roth y peilat orchymyn iddynt ollwng yr angor i lawr,
a gwrthod caniatad i neb ddod ar ei bwrdd ac aeth cwch y peilat am y lan. Cyn
hir mi ddaeth yn ei ol efo dau blismon a meddyg. Wedi i’r rheini ddod ar fwrdd
y llong ac i’r meddyg weld y cleifion, mi ddywedodd eo bod yn rhaid eu cael
i’r lan ar fyrder ac mi awd a nhw i gwch y peilat. Mi ddywedodd y meddyg wrth
y ddau am beidio cyffwrdd a’r bwyd oedd ar y llong, a mi fasa rhywun yn dod a
bwyd iddyn nhw, ac yn ol Harri Williams roedd yn fwyd campus, yn dod bob pedair
awr yn ystod y dydd. Prynhawn
drannoeth mi ddoth y cwch at y llong wedyn a plismon a meddyg efo nhw, a’r
newydd gawson nhw oedd, mai wedi cael gwenwyn oddiwrth fwyd oedd y criw a’u
bod yn dal yn wael iawn. Mi helion y bwyd i gyd a mynd ag o i’r lan, a mi
symudodd y peilat y llong at y cei, ac roedd yn rhaid i’r ddau aros ynddi hyd
nes i’r perchennog ddod yno. Doedd gan
Harri Williams ddim dima goch ar ei berson, ond roedd gan Thomas Williams arian
a’r canlyniad fu roedd Thomas yn talu am bobpeth dros Harri, a doedd o ddim yn
hoffi’r syniad o gwbl, roedd hynny yn gryn dipyn o sarhad arno, ac mi
benderfynnodd na fyddai fyth heb arian ar ei berson ar ol hynny. Wedi iddynt
fynd trwy bapurau’r llong a gweld pwy oedd ei pherchenog a beth oedd y llwyth
oedd ynddi; gyda llaw llwch i’r tir oedd ynddi i fynd i Dde yr Iwerddon, roedd
hwnnw yn llwyth gwerthfawr iawn. Roedd pennaeth yr heddlu wedi eu rhybuddio i
beidio bod yn rhy leniant efo’r perchnogion a pobl y siwrin, gan eu bod wedi
achub y llong, y llwyth a’r criw. Llong yn perthyn i Lerpwl oedd hi. Mi
fuo’r perchennog dri diwrnod cyn dod i Borthmadog a mi ofynnodd i’r ddau
aros ynddi hyd nes i’r criw newydd ddod i gymeryd eu lle, a hefyd roedd yn
disgwyl pobl y siwrin ddod yno. Roedd pennaeth yr heddlu yn gwylio pob symudiad
o’i heiddo roedd o wedi bod yn Enlli lawer gwaith efo un o’r llongau fydda
yn cario ymwelwyr i’r ynys. Mi
gyrraeddodd y criw newydd a’r bobol siwrin ac yn ol Harri Williams roeddynt
wedi bod yn hael iawn efo’r wobr iddynt am achub y llong a’i llwyth a’r
criw. Ond ddywedodd o ddim faint oeddan nhw wedi i gael, a hefyd mi gaethon fynd
i Enlli efo’r llong gan eu bod yn pasio’r ynys pan ar ei thaith i dde’r
Iwerddon.
|
|
Copyright © Rhiw.com |