|
|
"Trychinebau" Byddai
trychineb yn digwydd o dro i dro wrth groesi y mor o’r ynys i’r tir mawr ac
hefyd wrth ddychwelyd, ond y drychineb fwyaf oedd yr hyn ddigwyddodd oddeutu
1722 pan gollwyd rhai o’r ynyswyr, y mwyafrif ohonnynt yn wragedd. Ar eu
ffordd yn ol i’r ynys yr oeddynt gyda cyflenwad o wlanen yr oeddynt wedi ei
gyfnewid yn ffatri Pencaerau am wlan yr ynys. Cychwynwyd o Borth Meudwy gan
rwyfo gyda’r lan ond yng nghyffiniau Pen y Cil ger safn y swnt daeth ton
enfawr gan daflu y cwch yn erbyn craig finiog yr hon a wnaeth anferth o dwll yn
ochr y cwch. Ar amrantiad dechreuodd suddo i’r eigion gan ysgogi tua’r mor
agored a tynnwyd y teithwyr allan i’r dyfnder. Petae y cwch wedi ysgogi i
gyfeiriad y lan buasai rhywfaint o obaith iddynt fod wedi eu harbed er mai
gobaith pur wan debygwn i o ystyried y math o wisgoedd trymion oedd gan ferched
yr oes honno. Er treigled y blynyddoedd aros y mae y graig, ac fel Carreg Pobl
Enlli mae’n cael ei galw hyd heddiw. Trychineb
arall a ddigwyddodd ond ar raddfa llawer llai oedd y digwyddiad ar y dydd olaf o
Dachwedd 1822 ger y cafn, man glanio yr ynys. Fel yn yr achos blaenorol taro
craig a’r cwch yn ysgogi i gyfeiriad y mor yn hytrach nac at y lan, gyda’r
canlyniad i saith golli eu bywydau, yn eu mysg roedd Thomas Williams 49 oed,
meistr y ‘Bardsey Light Tender’ a’i ferch Sydney, ugain oed. Bu angladd y
tad a’i ferch ym mynwent St Hywyn Aberdaron ac ar y beddfaen ceir yn
ysgrifennedig :-
|
|
Copyright © Rhiw.com |