|
|
Robert Williams Gweinidog Enlli Ganwyd
Robert Williams yn fab i dafarnwr y Gegin Fawr Aberdaron, roedd y teulu yn hannu
o Hendy Enlli. Pan oedd Robert tua deunaw oed fe ddechreuodd bregethu dirwest ac
wrth reswm doedd hynny ddim yn plesio ei dad, a’r canlyniad oedd i Robert gael
ei droi allan o’i gartref ac aeth i Enlli i fyw at y teulu yn Hendy.
Dechreuodd gadw oedfaon ar Enlli a chan nad oedd tafarn nac unrhyw
adloniant ar Enlli cai wrandawiad y trigolion yno heb unrhyw ymyrraeth o
gyfeiriad ei dad a buan iawn y daeth yn nodedig ac amlwg ym myd crefydd.
"Gegin Fawr Aberdaron" Bu dirywiad
crefydd ar un cyfnod yn amser Robert Williams ar Enlli, pan nad oedd ond ef
a’i briod Sian yn aelodau o’r eglwys, ond cyn hir bu i ddiwygiad groesi’r
swnt a bu ddyfod ‘seintaiu’ o’r newydd i’r ynys. Heblaw bod yn weinidog roedd Robert Williams yn wr busnes llwyddianus a chanddo long ei hun, yn ogystal byddai yn pysgota ac amaethu. Adeiladwyd ei long ym Mhorthdinllaen ac enwid hi ar ei ol y ‘Robert Williams’. Disgrifiodd Edmund Hyde Hall yr ynyswyr fel ‘ A few families who on the ground till a few acres, but who look to the sea as the chief source of their maintenance’. Roedd pob ceiniog gai ei ennill yr adeg honno yn dod o’r mor unai drwy bysgota neu ddal cyrff fel y gwelir o un o bapurau Robert Williams;-
Rhwng
popeth reodd Robert Williams yn wr prysur iawn ac ai y busnes o redeg llong a
llawer o’i amser. Rees Griffith mab Bryn Mawr Anelog oedd capten y llong ac
aeth Rees ymlaen i briodi Ann merch Robert Williams a ganwyd iddynt fab a merch.
Masanacha rhwng Porthmadog, Stetin, Sbaen Newfoundland yr Eidal a’r Mor Du
fyddai llong Robert, a Rees mewn llywyddiaeth ohonni. Ymhen blynyddau gwerthwyd
y llong i gwmni o Roeg ac aeth Rees yn gapten ar stemar fechan o eiddo Arglwydd
Newborough. Bu’n rhaid danfon yr hen long i wlad Groeg a bu’n rhaid cael
Capten trwyddedig i’w hwylio yno a chafwyd un o ardal y Rhiw gyda’r
cymwysterau oedd yn angenrheidiol. Aeth Robert Williams gydag ef ar y daith i
Roeg a chanwyd rhigwm i’r achlysur :- Y
Prygor oedd o Enlli A’r
capten oedd o Rhiw, A
dau o Aberdaron A
dyna oedd y criw. Ar Ebrill 4
1875 bu farw y Parch Robert Williams Hendy yn 81 mlwydd oed, wedi bod yn
pregethu gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ers dros ddeugain mlynedd.
Cyfansoddwyd marwnad er coffawdwriaeth ac am ei ddylanwad ar drigolion Enlli. Yn
ynys Enlli treuliodd Yr
olaf ran o’i oes Dan
achos Crist bu’n golofn Er
cwrdd a llawer croes. Diwygiad
dorrodd allan Rai
prydiau drwy ei lef A
llawer perl a ddygodd I
goron Brenin Nef. Daethpwyd o
hyd i ddarn o bapur mewn hollt yng nghof golofn Arglwydd Newborough a’r
canlynol wedi ei ysgrifennu arno :- Y
balch ar ei orsedd A’r
tlawd ar ei sedd. Yr
un yw cobennydd Y
ddau yn y bedd. Er mae yn
anodd credu rhywsut fod Robert Williams yn dlawd, ond dyna feddyliau rhyw hen
ynyswr ar y pryd.
|
|
Copyright © Rhiw.com |