|
|
"Pobol Enlli yn 1885" gan y Parch
Peter Jones, Pwllheli Diwrnod
pwysig ar yr ynys fyddai diwrnod ‘Ffair Cafn’. Bore y dydd hwn gwelir amryw
o gychod llwythog o anifeiliaid – gwartheg, defaid, ceffylau a moch yn
cyfeirio tua phentref Aberdaron, a cheir rhedegfa fywiog rhyngddynt, i fod yn
gyntaf i gyrraedd yr hafan. Bydd llawer o foch tewion yn cael eu gyrru ymaith y
pryd hwn, pa rai, fel rheol fyddant yn rhai godidiog; ac aiff yr holl frodorion
allan er bod yn llygad dystion o’r ymfudiad; ant i’w hebrwng i lan y mor ac
wedi gweled eu llwytho yn ddiogel yn y cychod, ffarweliant a hwy yn dirion a
theimladol. A disgwylir eu glaniad yn Aberdaron yn eiddgar gan haid o brynwyr
parod ac awyddus. Bydd y brodorion hefyd yn prynu anifeiliaid yn y wlad i’w
trosglwyddo drosodd er llanw y gawgle ar yr ynys. Fel rheol
mae trigolion Enlli yn gedyrn o gyfansoddiad, yn wyr nerthol a grymus, yn
gorfforol a meddyliol. Y maent oll yn abl i ddioddef llawer o galedi, ac i
gyflawni llawer gwaith. Fe ddeilliodd allan ohonni linach o capteiniaid dewrwych
– oll yn ddynion tal, lluniaidd a grymus. Ac oddiwrth hen hanesiaeth, yn
gystal ag oddiwrth ddarganfyddiadau a wnaed yn y lle ceir fod eu henafiaid yn
wyr corfforol a nerthol os nad yn gewri mewn maintioli. Yn ddiweddar wrth
gloddio ynddi daethpwyd o hyd i eirch yn cynnwys ‘skeletons’ cyfain, ac yn
mesur o saith i wyth troedfedd o hyd. Ac y mae yr ynyswyr heddiw yn y peth hyn
yn olynwyr teilwng iddynt, ac yn enghreifftiau da o’r hen Frythoniaid cynt. Y
maent erbyn hyn wedi arddangos llawer o gynnydd mewn gwareiddiad a moesau.
Dalient gymhariaeth ffafriol a’u cymdogion ar yr ochr arall i’r dwfr yn hyn.
Mae y plant yn derbyn addysg a hyfforddiant yn fydol a chrefyddol; ac y mae yr
holl frodorion oddigerth ychydig eithriadau, yn ymagweddu yn addas a gweddaidd.
Y mae y mwyafrif ohonynt yn gymedrol a sobr, ac amryw yn eu plith yn
llwyrymwrthodwyr. Mae y fasnach anghyfreithlon mewn gwirodydd, yr hon ddygid
ymlaen flynyddoedd yn ol, erbyn hyn ymhlith y pethau a fu. Gwir fod yno ychydig
o feddwon cyhoeddus, pa rai a ddilynant eu harferion, yn enwedig pan drosoddd yn
y wlad ac felly yn rhoddi anair i’r ynys. Ond ychydig ydynt, ac y mae y nifer
yn lleihau. Ymhob golygiad y mae gwelliant mawr wedi cymeryd lle ym muchedd ac
ymarweddiad y trigolion, ac mae hyny i’w briodoli i ddylanwad yr Efengyl. Y maent hefyd yn ddiweddar, wedi gwneud llawer o gynnydd mewn gwybodaeth a dealltwriaeth. O’r blaen ni cheid neb ar yr ynys a fyddai yn darllen ond y nesaf peth i ddim; ambell i un yn darllen ychydig ar y Beibl, ac ychydig fyddai hynny. Ond yn bresennol ceir yn eu plith amryw o ddarllenwyr lled fawr. Darllenent eu Beiblau yn gyson, nid yn unig yn yr Ysgol Sabbothol, ond hefyd yn eu tai. Ac y mae amryw ohonynyt yn meddu esboniadau er eu cynorthwyo i’w deall. Y mae amryw o newyddiaduron yn medru eu ffordd drosodd i’r ynys, megis ‘Y Goleuad’, ‘Y Genedl’ ac hefyd rai o’r papurau Seisnig. Hefyd y mae y ddwy ‘Drysorfa’ yn croesi drosodd i’w plith, ac amryw gylchgronau eraill. Yn y pethau hyn y mae cryn gyfnewidiad wedi cymeryd lle. Yn wir gellid dweud fod yr ynys fechan hon, yn ddiweddar wedi mynd trwy gwrs o drawsffurfiad pendant ac amlwg. Y mae yma bob peth newydd – y tai a’r holl adeiladau yn newyddion, a bywyd y presylwyr mewn ystyr foesol hefyd yn newydd yn yr un modd. Ac ni a obeithiwn y bydd cynnydd parhaol yn hyn, ac y daw y trigolion yn bobl gyflawn oll, a’r ynys i gyfateb i’w hen enw ‘Ynys y Seintiau’ – yn gynllun o ynys, ac na fydd yr un Canaanead i’w gael o fewn y tir.
Y mae gwyr
yr ynys yn ddiharebol am ei lletygarwch a’u caredigrwydd. Nid oes dim yn ormod
ganddynt ei wneud i’w gilydd, ac hefyd i ddieithriaid. Y maent yn hynod
gwymwynasgar y naill i’r llall, yn enwedig mewn tlodi ac afiechyd. Y mae yr
ynys yn cadw ei thlodion, er mai anaml y ceir neb o’r dosbarth hwn arni. Pan y
digwyddo fod un ohonynt mewn tlodi ac afiechyd, byddant oll am y gorau i ddangos
pob help a chydymdeimlad. Yn ymarferol y maent oll yn gymdeithasol gydradd ac yn
aelodau i’w gilydd. Pan y bydd un yn dioddef y maent oll yn cyd ddioddef. Fel
y canlyn y dywed Mr Jones ar hyn : “Y mae caredigrwydd yr ynyswyr yn
ddiarhebol. Y maent o galon yn cyflwyno eu rhoddion, a phan y bydd un teulu mewn
caledi a salwch a’r cyffelyb, bydd yma bawb yn cydymdeimlo, ie fel un teulu”.
Ac maent hefyd yn arfer dangos yr un caredigrwydd i ddieithriaid. Nid ydynt wedi
anghofio lletygarwch, ac yn enwedig dangosant hyn i bregethwyr. Nid oes dim yn
ormod ganddynt wneud iddo yn enwedig os bydd o i fyny a’u safon hwy. A gellir
dweud mai nid pob pregethwr, yn enwedig yn yr hen amser, a fyddai yn cyfateb
i’w safon ymhob peth – megis mewn toriad a gwisg, er fod eu syniadau hwythau
wedi cyfnewid ar bethau felly. Yn yr hen amser nis gallent mewn un modd ddygymod
a phregethwr os digwyddai droi ei wallt neu feddu ‘llyfiad buwch’ fel y
galwent hwy hynny. Gwyddom am un gwr ifanc digon lledneis a dirodres ac hefyd yn
bregethwr cymeradwy. Ond oherwydd fod arwydd ‘llyfiad buwch’ ar ei ben yr
oedd gyfystyr a nod bwystfil, collodd ei weinidogaeth bob awdurdod arnynt. Ond y
mae eu syniadau a’u chwaeth hwythau wedi newid llawer yn ddiweddar mewn pethau
o’r fath. Hefyd maent
oll oddigerth ychydig eithriadau, mewn ysytyr wleidyddol yn Rhyddfrydwyr selog.
Gwir nad oes gan yr un ohonynt bleidlais a hynny oherwydd fod yr ynys yn
anfreiniol. Ond er hynny eu credo politicaidd ydyw Rhyddfrydiaeth. Ond mi allai
fel rheol mai ychydig o egwyddor a gwybodaeth sydd yn eu sel wleidyddol, fel
llawer eraill, ond eu bod yn codi yn hytrach oddiar awydd myned yr un ffordd
a’r ‘meistr’. Ond beth bynnag am y cymhelliadau, ymddangosent yn hynod
frwdfrydig o blaid llwyddiant yr ymgeiswyr Rhyddfrydol yn yr etholiadau diweddar.
Fel y canlyn yr ysgrifenai Mr Jones ar hynny; “ Yr Ydym yn awr wedi derbyn y
newydd am oruchafiaeth Watkin Williams. Nis gall yr un byw ddychmygu ein
sefyllfa pan am ddyddiau yn disgwyl y newydd, ac yn gwylio rhyw foddion er cael
allan pwy oedd wedi grochfygu. Gwelem goelcerthi mawrion yn fflamio ar ochrau
Aberdaron ar y nos fercher fythgofiadwy, ond nis gallwn ni yn Enlli ddeall er
hynny pwy oedd y gorchfygwr. Ymhen tipyn y mae cwch bychan yn cyfeirio at yr
ynys o Aberdaron, a mawr oedd ein disgwyliad am weld y rhai oedd ynddo yn glanio.
Pan ddaeth i’r lan gwelsom mai cwch Rhyddfrydwr trwyadl oedd o, yr hwn a
anfonodd ‘signal’ i ben y storeroom, ac yna aeth y newydd fel gwefr drwy’r
yr ynys. Yn yr hwyr cynneuwyd coelcerth mawr ar ben y
mynydd yn goffadwriaeth am yr achlysur a bloeddid am oriau “Watkin
Williams am byth”! a “Lord Newborough am byth”! A gwnaed peth tebyg hefyd
ym muddugoliaeth Mr Rathbone. Y mae enw Mr Gladstone yn anwyl iawn ganddynt oll.
Dyma fel y dywed y gweinidog ar hyn eto :- “Yr oedd yna ochneidio pan
ddeallwyd fod y dyn annwyl hwn Mr Gladstone, yn wael; a mawr lawenydd pan
ddeallwyd nad oedd y clefyd i farwolaeth.”
Perchenog
presenol yr Ynys yw Lord Newborough. Dywed Pennant yn ei lyfr, ‘Tours of
Wales’, ddarfod iddi ar y cyntaf gael ei rhoddi gan Edward V1, i’w ewythr
Syr Thomas Seymour, ac ar ei ol ef i John Iarll Warwick. Ac ar ol iddi fyned
trwy gyfnewidiadau, a disgyn trwy amryw ddwylaw, prynwyd hi gan y diweddar Syr
John Wynn oddiwrth wr parchedig o’r enw Dr Wilson o Newark. Dyna ddarnodiad
o’r cwrs trwy ba un y daeth i feddiant teulu urddasol Glynllifon. Ond fe
ddywedir yn un o gyfrolau y ‘Transactions of the Cymmrodorion’ y darfu i
Edward V1 ei rhoddi hi a’r Cwrt, ym mhlwyf Aberdaron i John Wynn ap Hugh, o
deulu Bodfel am ei wasanaeth fel ‘Standard Bearer’ ym mrwydr fawr Norwich.
Bu hwn yn uchel sirydd Sir Gaernarfon yn y flwyddyn 1551. Ond er nas
gellir olrhain ei gyrfa gyntefig yn ei holl fanylion eto eglur ydyw mai ei
meddianydd presenol ydyw Arglwydd Newborough; ac y mae ei Arglwyddiaeth yn
teimlo diddordeb dwfn ac arbenigol yn ei etifeddiaeth ynysig hon. Yn ddiweddar y
mae holl adeiladau yr ynys wedi eu gwneud yn newyddion ganddo ef. Ac fe geir yma
nifer o dai ffermydd ac adeiladau perthynol iddynt, na cheir eu rhagorach mewn
unrhyw wlad a’r cwbl wedi ei gwneud ar draul y perchenog. Mae ei Arglwyddiaeth
hefyd wedi adeiladu synagog iddynt – capel rhyfeddol o brydferth a thy eang a
chymwys i’r gweinidog – am ba rai y cawn son eto. Cyfanswm ardreth yr ynys
ydyw £120 y flwyddyn. Y mae y ‘Meistr Tir’ yn wir benaeth yr ynys, yn
barchus ac yn uchel iawn yn syniadau y trigolion; a hyd yn ddiweddar byddai yn
arfer talu ymweliad a hwynt, ac yn gwneud ei hunan yn gartrefol yn eu plith.
Mewn ei Arglwyddiaeth ydyw eu harwr, os nad eu heilun.. Fe ddywedir gan bobl y
‘tir mawr’ mai dau feistr yn unig sydd ar bobl Enlli, sef Angau ac Arglwydd
Newborough !! Y mae un
arbenigrwydd perthynol i’r llanerch hon o’r ddaear – ac nis gwyddom a oes
llanerch gyfaneddol arall ar ei gwyneb yn debyg iddi – sef nad oes yno dreth
na degwm i flino y preswylwyr. Nid oes yno na threth y tlodion, treth cwn na
threth yr eglwys nac ychwaith dreth i un Bwrdd ar y ddaear. Wedi iddynt dalu
rhent i’r meistr tir, dyna eu holl gyfrifoldeb ar ben,
gallent herio holl awdurdodau goruchel Sir Gaernarfon a Sir Benfro hefyd
i’w gosod hwy dan unrhyw ddormach. Gallent ddweud ‘Dynion rhyddion ydym ni’.
Y mae yn ffaith yn eu hanes hefyd y bu llawer ymgais o bryd i bryd i geisio eu
trethu, ond yn aflwyddianus hyd yn hyn.Gwnaed ymgais felly yn amser Edward 11,
yr hyn a drodd allan yn fethiant. A bu mwy nag un ymgais yn y blynyddoedd
diweddaf ond oll yn aflwyddianus. Ychydig flynyddoedd yn ol bu gwys allan yn
erbyn y Parch Robert Williams fel cynrychiolydd yr ynys am dreth y tlodion. Ond
er ceisio, methwyd yn lan a’i wasanaethu a hi; gan y llwyddai i ddianc i’w
lochesau rhag golygon y swyddog. Unwaith pan yn pregethu ar foreu Sabboth yng
Nghapel Penycaerau, eisteddai y ceisbwl o’i flaen a’r wys yn ei logell, a
phenderfynai ei wasanaethu hi ar ddiwedd y cwrdd. Ond rhywfodd, gan rywun fe’i
perswadiwyd ef i ohirio y weithred hyd drannoeth, gan ddadleu na fuasai hyny yn
gyson a sancteiddrwydd y diwrnod, ac y cai gyfle rhagorol i wneud ei waith bore
drannoeth wrth i’r pregethwr ddychwelyd adref. Ond erbyn drannoeth nid oedd y
gwr ar gael, gan ei fod wedi gofalu am ddianc ymaith yn ddigon plygeiniol i un
o’i ddirgel fanau. Ac yno y bu yn llechu nes y daeth yn ddigon clir a diberygl.
Bu trethiad yn bwnc pwysig a chynhyrfol am amser maith, ond cyfryngodd Arglwydd
Newborough yn y mater, a mynegodd y ddeddf, os codid treth yr ynyswyr, y byddai
hawl ganddynt hwythau i godi tal gan bawb a ymwelai a’r Ynys a dywedai y deuai
hynny i’r un peth yn ymarferol. Ac felly y dibenodd yr ysgarmes. A hyd yn hyn,
beth bynnag er gawethaf pob ymgais y mae Enlli yn wlad rydd oddiwrth y deyrnged. Ac am y
brodorion, fel y gellid tybio bob amser yn hynnod amheus ac eiddigeddus ar bwnc
y dreth. Byddant yn edrych yn hynod amheus ar bob gwr dieithr a ymwel a hwynt,
rhag ofn y gallai fod yn un swyddogion y dollfa. Ac ni fynant gludo neb drosodd
heb ei adnabod, a chael pob sicrwydd nad ydyw yn meddu un gyfathrach a’r
publicanod. Yn lled ddiweddar yr oedd ar un o Arholwyr yr Ysgolion Elfenol awydd
croesi drosodd er arholi yr ysgol fechan sydd yno, a gwneud adroddiad am ei
sefyllfa arbenigol i’r Cyngor Addysg. Ond ni fynnent ef i’r cwch ar un cyfri
rhag ofn ei fod yn un o’r teulu amheus, ac mai treth fyddai’r canlyniad. Ac
ar y lan y bu, yn synnu am iddynt ei adael yno mor ddiseremoni ! Ac mae’r
ysgol heb ei arholi eto. Ac yn wir pa feili neu drethwr a fentrai i’r cwch
gyda hwy i’r swnt ? Byddai y gwr cyn cyrraedd y lan – os cyrraedd y lan
hefyd, wedi cael profiad o lawer llewygfa, ac wedi derbyn bedydd dwfr i
‘edifeirwch’ fwy nag unwaith, a byddai yn sicr o ddychwelyd heb ei neges. Ystyrid yr
ynys yn deyrnas amser yn ol, a cheid arni frenin nei frenhines, yn ol fel y
byddai’r amgylchiadau. Y teulu brenhinol ydoedd ac ydyw teulu ‘Cristin Uchaf’.
Mae y brenin a’r frenhines wedi marw ers talwm, y plant, tri mewn nifer, sydd
yn aros, ac ym meddiant hwy mae y ‘regalia’ sef coron a snuff box. Yn amser
ewythr Arglwydd Newborough presenol, bu coroniad ffurfiol ar John Williams
Cristin, yn frenin ar yr holl ynys, ac yr oedd cryn rialtwch ynglyn a’r
seremoni. Cymerodd y ddefod le yn yr awyr agored wrth y Cafn. Rhoddwyd y brenin
etholedig i sefyll ar gadair, pan y rhoddywd y goron ar ei ben a bloeddiwyd Hwre
gan yr holl ynyswyr. Yr oedd cynifer a deuddeg o ‘yachts’ yn llawn o
foneddigion a boneddigesau yn gorwedd gerllaw, ac wedi dod yno ar gyfer yr
achlysur. Ac ar ddathlu y coroniad, saethid o’r magnelau yn barhaus, lluchid
tan gwyllt drwy y nos o’r llongau a rhenid arian ymhlith yr ynyswyr. Yr oedd
yn ddydd o lawenydd ar yr ynys. Ac y mae y frenhiniaeth yn aros yn nheulu
Cristin Uchaf hyd heddiw er nad oes frenin na brenhines swyddogol na choronog.
Mae y regalia ar gael yno, ac fe’u dangosir gyda llonder a boddhad i’r
ymwelwyr. Ceir hefyd
yr edrychid ar y diweddar Robert Williams ar y tir mawr, nid yn unig fel esgob,
ond hefyd fel brenin yr ynys.. Byddai y Parch W T Jones hefyd ar brydiau yn cael
ei alw yn frenin, yn gystal ag esgob Enlli. Ond cawn yr hen esgob yn honni hyn
iddo’i hun unwaith, pan yn areithio ar ddirwest yn Bettws y Coed. “ Y mae y
brenin a’r frenhines yn y wlad lle yr wyf fi yn byw wedi ‘signio’ dirwest,
ac y maent ill dau yn ddirwestwyr selog”. Synai y gwrandawyr at hynny, ac yn
fwy byth pan ddeallasant mai Enlli oedd y wlad honno, ac mai yr areithiwr oedd y
brenin ac mai Sian Williams ei wraig oedd y frenhines. Fe brawf hyn yr edrychai
arno’i hun, pan oddicartref fel gwir gynrychiolydd a Melchisedec yr ynys.Ac fe
ddengys yr hanesyn canlynol yr edrychid arno felly hefyd gan eraill. Pan oedd y
diweddar Dr William Rees un tro yn pregethu mewn cyfarfod misol yn Llithfaen a
Robert Williams yn pregethu o’i flaen, wedi diolch i’r brodyr am gael
pregethu yn eu capel ac yn y cyfarfod misol ychwanegai “A dyma y fraint fwyaf
a gefais erioed yn fy oes, sef cael pregethu ar ol y brenin”. Cyfeiria wrth
sgwrs at y pregwthwr cyntaf fel y brenin hwnnw. Ond y ‘Royal Family’ yn wir
olyniaeth frenhinol ydyw teulu Cristin Uchaf ac nid ydyw pawb arall ond ymhonwyr
a ‘pretenders’. Iddynt hwy, yn eu henafiaid y rhoed yr anrhydedd hwn, ac yn
eu meddiant hwy y ceir yr hen ‘relics’, fel profion o hynny. Sefydlaid
pwysig a bendithiol iawn ar yr ynys yw y ‘lighthouse’ a’r pethau
cysylltiedig ag ef. Saif yn y pen ddeheuol a cheir yno dri thy i’r light
keepers a’u teuleuoedd am ba rai y soniasom o’r blaen. Adeiladwyd ef gan y
Llywodraeth yn y flwyddyn 1821. Clysom y bu tad y brodyr enwog o Liverpool sef y
ddau Dr Thomas a’u brawd yn gweithio ar yr adeilad. Ac y mae bellach ers
blynyddoedd yn taflu goleu clir ar lwybrau peryglus y dyfroedd dyfnion ac yn
cadw llawer llestr rhag syrthio i ddinistr a cholledigaeth. Hefyd yn yr
un sefydliad ac yn gwasanaethu i’r un amcan, ceir y creadur rhyfedd a elwir yn
‘Fog Horn’ – y Niwl Gorn – udiadau aflafar yr hwn sydd i gyfarwyddo y
llongau yn y niwl. Gorffenwyd y peiriant hwn yn y flwyddyn 1877. Fel hyn y dywed
Mr Jones amdano : “Oddifewn, sef oddifewn i’r adeilad y mae dau beiriant, y
rhai a weithiant ar unwaith, o nerth chwech ceffyl ac yn gweithio trwy dwymo
awyr heb ddim dwr – yr hon a yrrir i ddau cylinder mawr, nes crynhoi yno
ddeugain pwys o awyr, yr hwn a weithir i fyny trwy beipan gopr dair modfedd o
dryfesur. Ar ol gwneud dwy fil a phedwar cant o droadau mewn un munud, daw allan
drwy y ‘trumpet’ yn fath o swn dychrynllyd, nes bod yn glywadawy am ddeng
milltir o bellter a hynny yn erbyn awel gymedrol gryf. Gwneir swn bob pum munud
a pharhai bob tro am saith eiliad. Pan y clywid ei sain anhynod gyntaf yr oedd
yr anifeiliad ac yn enwedig y ceffylau yn methu yn lan a deall y mater, yn codi
eu pennau yn moeli eu clustiau ac yn nacau gweithio. Ond erbyn hyn y maent wedi
cynefino a phob peth fel o’r blaen”. Dyma ddisgrifiad manwl o’r Fog Horn. Pan y bydd
rhywun o ochr y tir mawr eisiau croesi drosodd i’r ynys, rhaid yn gyntaf oll
dynnu sylw yr ynyswyr, a’u galw i’w ymofyn, a gwneir hynny drwy oleuo tan
oddiar ochr Aberdaron. Ac ar ol gweled y ffagl olau ar yr uchelfeydd yr ochr
arall i’r dwfr, atebant hi , hynny yw atebant hi os ewyllysiant, ac os gallent
gan y tywydd groesi drosodd i nol y ‘passenger’- neu ni wneir dim. Ac yna yn
ddiymaros gwelir y cwch yn cychwyn, yn prysuro ymlaen ac yn dynesu at y tir ac
yn cael ei feddiannu gan wyr grymus a medrus. Ac yn ddiatreg eir a’r teithiwr
drosodd. Rheol
sefydlog- er nad ysgrifenedig – y signals hyn ac ni wiw i neb ei throseddu,
ydyw un tan i berson cyffredin a dau i wyr y Trinity, ac i bregethwr, a thri tan
mewn achos o afiechyd neu farwolaeth. A gwae fydd i’r neb a droseddo y ddeddf
hon trwy roddi signal heb neges neu trwy roddi mwy o nifer na’r rheol
ddealledig ! Os eid a’r troseddwr drosodd o gwbl, nid yn y dull mwyaf hawddgar
a grasusuol y gwneid hynny. Clywsom am fenyw un tro wedi cynneu tri than, pan yr
atebwyd ef yn ebrwydd gan yr ynyswyr, gan dybied fod rhywbeth pwysig wedi
cymeryd lle. Ac wele hwynt yn y fan yn cychwyn yn morio yn gyflym ac yn prysuro
i groesi drosodd. Ond wedi cyrraedd yr hafan, yr hyn welent yn dod atynt oedd
benyw a chydaid o gooseberries ar ei chefn, ac yn edrych yn rhadlon ddigon, ac
yn dweud wrthynt ei bod am fynd drosodd i’w gwerthu, ac yn eu canmol fel rhai
rhagorol ! Gellid dychmygu nerth eu cynddaredd wrth y fath ‘sell’. Ond
ymaith a hwy ar ffrwst, ac heb y fenyw dirion. |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |