|
|
"Golwg ar Enlli yn 1885" gan y Parch Peter Jones, Pwllheli (Detholiad o’i draethawd.) Y mae
gwastadedd yr Ynys yn dir ffrwythlon a chynyrchiol a thyfir o hono haidd a
cheirch rhagorol, ac amryw fathau o lysiau. Ym marchnad Pwllheli bob amser
ymofynnir yn awchus gan amaethwyr y tir mawr am haidd hadyd Enlli, pa un y tymor
a ddygir yno, ac hefyd a gyrhaedda bris uchel. Heblaw a bod yn amaethwyr
llwyddiannus mae dynion Enlli yn bysgotwyr dihafal. Y maent yn hynod o ddeheuig
a llwyddianus yn y gelfyddyd honno. Dalient yn eu cewyll a’u rhwydau wahanol
fathau o bysgod megis cimychiaid, wystrys, penwaig, crancod, ac amryw fathau
eraill. Beth amser yn ol anfonwyd hwynt ymaith i Liverpool ac i Gaernarfon ond
rwan ant i Aberdaron gan fod yno ddigon o fasnachwyr yn aros i gael mynd a hwy i
wahahnol farchnadoedd i’w gwerthu. Dwg y fasnach gryn elw i’r pysgotwyr
a’r masnachwyr, ystyrir cregyn bysgod Enlli yn nwyddau gwerthfawr yn y
farchnad. Gallwn
roddi ystadegau o’r Ynys a gasglwyd yn 1880 gan y Parch W T Jones. Mae yn
cynnwys pob peth a geid arni yn symudol, ansymudol yn fyw ac yn farw am y
flwyddyn 1880. A ganlyn ydyw y census:- Nifer holl
dai yr Ynys – 16. 10 yn ffermdai. Mesur yr
holl dir llafur – 250 erwau, gweddill yn fynydd. Nifer da
byw corniog 58, gan gynnwys bob rhyw a maint. Nifer
ceffylau – 21. Ceid yno
rai ugeiniau o ddefaid, rhai degau o foch, dwsinau o ieir ac ychydig o hwyaid. Yr oedd ar
yr Ynys 16 o gathod a 12 o gwn. Rhif yr
holl eneidaiu oedd 72, yn cynnwys 36 o wrywod a 36 o fenywod. Gwelir bod y ddau
yn gyfartal o fewn rhif. Ceid yno y
pryd hynny 12 o hen lanciau a 13 yn hen lancesau: go gyfartal ynte!! Nifer y plant oedd 12 gan dri teulu yn unig.
Dyma
holl dai yr Ynys gan gynnwys yr holl deuluoedd, yn bennau teulu, yn wyr a
gwragedd, yn blant, ac yn weision a morynion:- Hendy –
Cartref y diweddar Barch. Robert Williams. 5 o deulu yma Cabden Griffiths, ei
wraig (merch y diweddar Barchedig) un mab a dwy ferch. Nant –
Cartref Morris Williams y blaenor a’i wraig Jane, merch a gwas. Mission
House – Cartref y gweinidog Parch W T Jones 5 o nifer. Ty Newydd
– Cartref Samuel Jones a’i wraig a 5 o blant. Hefyd Thomas Jones brawd
Samuel, a’i fab yn gwneud y mifer yn naw. Ty Bach –
Cartref Anne a Jane Williams dwy chwaer a Thomas a John Williams dau frawd a
Mary merch Anne, yn gwneud 5 o deulu. Carreg Bach
– Cartref Nathanael mab yr hen weinidog, Mary Williams ei wraig a Thomas eu
mab, oll yn dri o nifer. Carreg Fawr
- Cartref Sydney, Ellen ac Evan
Jones eu brawd. Dyma berthynasau y diweddar Cabden Williams o ‘Mount Hazel’
Llandwrog. Plas Bach
– Fferm fwya’r ynys. Gan ei bod yn cynnwys chwarter yr holl Ynys. Yma byddai
Arglwydd Newborough yn cymeryd ei lety pan ar ymweliad, fe geir ystafelloedd
arbennig ar ei gyfer, y rhain a ddefnyddir yn unig ganddo ef. Gwneir y teulu i
fyny o Mrs Ann Williams, tri o feibion, ei merch a’i merch hithau. Cristin
Uchaf – Dyma y Palas Brenhinol, lle y preswyliau y Brenin a’r Frenhines sef
John a Jane Williams. Eu plant sydd yn byw yno nawr sef John, Sydney a Jane. Cristin
Isaf - Gwraig weddw o’r enw Ellen
Williams, merch i’r hen weinidog, sydd yn byw yma, a’u dau fab a merch. Ty Pellaf -
Cartref yr hen batriarch Griffith Pritchard. Cymeriad hynod. Yr oedd yn
ei hen ddyddiau pan ddaeth at grefydd, ac felly ni bu gyrfa ei broffes grefyddol
ond ber. Ymunodd a’r Eglwys yn Enlli. Ebrill 1af, 1876, a bu farw Ionawr 16eg
1883 ond bu yn hynod selog ac ymroddgar hyd ei ddiwedd. Claddwyd ef ar yr 20fed
o Ionawr ym Mynwent y Seintiau yn Enlli. Yn adeg ei farwolaeth roedd y tywydd
mor dymhestlog fel yr oedd yn amhosibl croesi drosodd i nol y saer i wneud arch
iddo. Fe fu’n rhaid i’r gweinidog wneud arch i’r hen bererin ei hunan.
Cafodd gladdedigaeth barchus a gostegodd y tywydd a daeth llawer o’i
berthynasau drosodd i fod yn bresennol. Fel y
soniwyd eisioes fe fu Griffith yn aelod nodedig o weithg a ffyddlon gyda’r
achos bychan ar Enlli. Cafodd ei ddewis yn flaenor ar yr un amser a Morris
Williams. Er nad oedd ei ddawn ond bychan a phrin, eto yr oedd yn weddiwr mawr.
Dywedai yn aml ymadroddion dieithr yn ei weddiau ac ambell un disglair. Gweddiai
am grefydd a ddaliai ei golwg ar ‘hen lighthouse’ Calfaria – am gael
gafael ar y ‘lifebuoy’ – am gael ei dynnu i’r ‘lifeboat’ ac am gael
ei ‘lansio i hen long fawr yr iachawdwriaeth’! Gwelir fod ‘ideas’ yr
Ynys yn gydwanedig a’i ddeisyfiadau. Dyno Goch -
Cartref Hugh a Margaret Hughes, William Hughes brawd Hugh ac Ellen ei
chwaer a dau o blant. Y Lighthouse – Ceir yn y sefydliad yma dri ty. Yn un mae’r ‘principal’ Mr Bowen ei wraig a’i tair merch. Yn y llall mae Mr Davies ‘lightkeeper’ ac yn y trydydd mae lightkeeper arall sef Mr Neal ei wraig ei chwaer hithau a plentyn Mr a Mrs Neal. ~~~~~~
Yn
nesaf edrychwn ar ffynhonau yr Ynys y rhain sydd yn anhepgorol at gysur y
trigolion, ac sydd wedi diodi cenhedlaethau o’r Ynyswyr ac yn parhau i wneud
hynny:- Ffynnon
Corn – Hon ydyw prif bydew yr Ynys, ac mae yng ngodre’r mynydd. Ffynnon
Barfau – Ceir hon ar ben y graig. Canfyddir ynddi ddau dwll yn llawn o ddwr
glan gloyw. Dywed traddodiad mai ol traed un o’r cewri gynt ydynt, a wnaed pan
oedd yn neidio oddiar y mynydd drosodd i Maen Bugail yn y Swnt. Dywed traddodiad
arall y byddai y seintiau yn mynd at y ffynnon hon i dori ei barfau ac yn
defynyddio’r ddau dwll a’u dwr disglair fel dau ‘looking glass’, a
dywedir hefyd fod twll cyfagos er mwyn cadw’r arfau. Ond mae hon yn ffynnon
werthfawr gan ei bod yn llawn dwr bob amser – haf a gaeaf. Ffynnon
Owen Rolant – Nid yw hon ond nepell o Ffynnon Barfau a dywedir fod iddi
rinweddau meddyginiaethol. Ffynnon
Dolysgwydd. Ffynnon
Weirglodd Bach. Ffynnon
Uchaf. Ffynnon
Dala. Ffynnon
Diliarana. Ffynnon
Waen Cristin. Ffynnon Cae
Dwfr. Ffynnon
Caseg. Ffynnon
Defaid. Ffynnon Tan
Radell.. Ceir amryw
o gerrig arbennigol ar yr Ynys a’i hamgylchedd. Dyma
rai ohonnynyt :- Maen Du –
Ceir hwn yn y Swnt yn agos i’r Parwyd. Maen Bugail
– Maen Iau
– Mae hwn yn y mor i’r gogledd orllewin o’r Ynys. Mae yn le hynod am
bysgod a adwaenir fel ‘red cods’. Fe ddelir rhain yn y nos yng ngolau’r
lleuad. Carreg
Rhona – Gwastadedd oddeutu hanner acer o fesur ac oddeutu chwarter milltir
i’r mor o Porth Solach ac yn weledig ar drai. Carreg Cybi
- Ceir hon yn y gogledd orllewin i
Borth Solach, ac all neb hawlio broc mor a geir o fewn ei deyrnas ond y
darganfyddwr. Cwmpas –
Eir heibio hwn wrth lanio yn y Cafn. Carreg
Henafol – Ar hon ceir ysgrifen ddieithr ac oedrannus. Y mae llawer o
ddysgedigion o dro i dro wedi bod yn ceisio ei ddarllen ac yn trio ei ddehongli,
yn eu plith bu Mr Jones Parry AS Madryn a dyma fel y dywed ef – Esilu
Marchvelio – a’r hyn a olyga Esilu Marchwiael. Gallwn
hefyd ychwanegu y lleoedd canlynnol :- Trwyn
Penrhyngogo. Clepiau’r
Gwalch. Ogo y
Gwalch. Pant y Canu. Pant yr Hen
Wr. Y Singrig. Llyn
Bribwll. Llyn y
Felin – Fe red dwr hwn i’r borth sydd yn ymyl Solach. Ceir olion o hen felin
yn ei ymyl a dyma y llyn yn ddiau oedd yn ei chyflewni a dwr. Brynbaglau
– Byddai yr hen seintiau, fel y dywedir yn ymolchi yn y ffynnon sydd gerllaw
ac wedi derbyn gwellhad yn gadael ei ffyn ar ol yn safle yma. Dyma fel y tybir y
rheswm am yr enw. Mae amryw o
borthladdoedd yn perthyn i’r Ynys :- Heigiol
Borth Newydd – Mae hon yn wynebu tua’r Swnt. A dyma’r unig fan yr ochr
honno y gellir rhedeg cwch iddo am gysgod. Ac yn ddiweddar y gwnaed hi. Porth Solach – Porth Solfach efallai. Gorwedda hon mewn lle cudd yn ymyl yr hen fynachlog. Yn yr hen amser dyma borth y ‘smugglers’. Yn achlysurol gwneir defnydd ohonni yn bresennol. "Cafn Enlli" Y Cafn –
Dyma brif borthladd yr Ynys, sydd yn yr ochr ddeheuol ac ar y gwastad yng nghwr
y graig, ac hefyd mewn cesail glyd. Yma y daw yr agerlong y ‘Fairy’ ac
agerlongau eraill pan ar ymweliad a’r Ynys a cheir yno wastad lynges gref o
gychod pysgota. Porth Fadog
– Ceir hon yn ymyl y ‘lighthouse’. Yn
nesaf down at enwau’r prif gychod :- Happy –
Bu y cwch hwn lawer gwaith yn Liverpool a chariai bedair tunnell. Newborough
– Bu hwn droeon yn Lerpwl a chariai chwe tunnell. Fanny –
Cariai hwn chwe tunnell a bu yn ‘tradio’ yn gyson i Lerpwl gan gludo pysgod,
wyau, ymenyn, gwichiaid, ieir a ‘samplers’. Ramphinion
– Rhedai hwn i Lerpwl yn gyson am beth amser a chariai chwe tunnell.
Yn tyfu ar
yr Ynys ceir amryw fathau o lysiau, ac yn eu plith rai prinion a defnyyddiol.
Ceir yno gyflawnder o’r wermod lwyd a’r wermod wen. Ceir yno hefyd yr hyn a
elwir yn ‘yellow ochre’, er na wneir yr un defnydd ohonno. Yn y mynydd ceir
haenau o’r lechfaen a’r galchfaen, er mai ei brif ddefnydd ydyw y fine
granite – carreg gymwys at balmantu. Y mae yr
Ynyswyr, er eu bod yn wyr annibynnol mewn un go;lygiad, eto yn hollol ddibynnol
mewn golygiad arall. Ni ellir meddwl am neb mwy felly. Y maent yn dibynnu yn
gwbl am lawer o bethau anghenrheidiol er cynnal eu bodolaeth o wlad arall. Ac
weithiau bydd yn myned yn brinder os nad newyn yn y tir, am y pethau hynny –
yn enwedig os bydd y tywydd yn grthod caniatau myned drosodd i’w ymofyn. Ni
cheir o fewn yr holl dalaethyr un felin na siop, yr un gof na saer, yr un crydd
na teiliwr, yr un doctor na thwrnai. Ac nid oes yn yr holl Ynys y fath beth a
thafarnwr na thafarn; ac y mae hynny yn fendith! Un o anfanteision arbenigol yr
Ynys ydyw prinder ei hadnoddau er cyfarfod a gofynion ymhob amgylchiad. Rhaid
cael cyflenwad o’r tir mawr ac nid bob amser y gellir cael hynny yn ol ei
angen. Ac un o’r amgylchiadau arbenigol hynny ydyw pan mae damwain neu
afiechyd peryglus yn taro un o’r trigolion. Gan nad oes yno yr un apothecari
na meddyg ac os bydd yr afiechyd yn un difrifol yna bydd rhaid croesi’r Swnt i
chwilio am wellhad. Wrth sgwrs rhaid i’r tywydd i’r
fod yn ffafriol er mwyn gwneud hynny. A chaniatau ei fod yn ffafriol yna
bydd raid teithio cyn belled a Nefyn i gael gafael ar feddyg. A chyn y bydd
i’r meddyg gyrraedd yr Ynys gall y claf fod wedi marw. Erbyn y daw afiechyd
nid ydyw’r Ynys yn le hapus na diogel. Fel hyn y dywed Mr Jones am y mater
‘Ddechrau’r flwyddyn y mae amryw wedi bod yn wael yma, ac un mor wael fel y
buwyd yn cyrchu meddyg ato, ond gobeithio y caiff adferiad buan. Y mae yma le
hynod ddigalon i ddyn fod yn wael ynddo. Ond o drugaredd yr Arglwydd, anaml y
mae salwch peryglus yn cymeryd lle’. Dylid ychwanegu hefyd fod Mr Jones ei hun
yn hynod ddeheuig a chyfarwydd mewn cyfrannu meddyginiaeth i anhwylderau
cyffredin. Bydd ganddo gist lawn bob amser at wasanaeth y trigolion. Mewn
achosion difrifol yn unig y teimlir yr anfantais. Nid oes ar
yr Ynys yr un felin i falu yr yd, a rhaid ei anfon drosodd i Aberdaron. Bu y
trigolion yn aml yn ofni newyn bara. Bu prinder glo yno fwy nag unwaith. Ond y
newyn mwyaf anioddefol o’r cwbl ydyw newyn te ymhlith y gwragedd a newyn
tobacco ymhlith y meibion, ni fyddai y newyn am fara, glo a dwfr yn ddim i
gymharu a hyn. Arteithiau y newyn am de a tobacco a fyddai yn ofnadwy!!. Yr ydym
wedi son am yr hyn na cheir ar yr Ynys ac at hyn gallwn ychwanegu y creaduriaid
na cheir yno. Ni cheir yno yr un mul nac asyn, y mae y llyffant yn absennol. Ac
y mae’r Ynys yn hollol glir o nadroedd ac ni cheir yr un betrisen, iar goed,
nac ysgyfarnnog. Y peth nesaf i helwriaeth a geir yno ydyw yr wningen, yr hon
sydd yn dra lluosog. Dyma le heb yr un bwystfil gormesol na chreadur gwenwynig
o’i fewn; lle heb ‘game’ ac heb yr un ‘keeper’ na ‘game laws’
i
flino eneidiau y tenantiaid!! O bryd
i’w gilydd daw heidiau o ‘birds of passage’ i droi fewn i orffwyso ar eu
hymfudiad i wledydd pell. Yn achlysurol daw aderyn arbennig iawn a adwaenir wrth
yr enw ‘Mackerel cock’ aderyn tebyg iawn i’r golomen. Bydd oernadau ac
ysgrechiadau hwn yn peri mawr ddychryn i’r Ynyswyr, ac yn eu cadw yn effro am
nosweithiau. All o ddim ehedeg os nag ydi’r mor yn ei olwg. Pe rhoddech e ar
gae yn ymyl y mor ac yntau ddim yn ei weld nis gallai arfer ei aden o gwbl. Fe
welir hefyd ar yr Ynys y fran bigcoch, ac yn ol son gellir ei dysgu i siarad.
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |