"Cofnodion Gweinidog Enlli"

1875 ~ 1898

~~~~~~~~

1875.

Ionawr 7.

Deuthum i William Thomas Jones Ceunant, heddyw i Enlli yng nghwmni Capt Harry Williams, Rhydlios i ymgymeryd a bod yn genhadwr yn yr ynys a chefais dderbyniad croesawgar a siriol yr holl ynyswyr ac yn eu plith y Parch Robert Williams.

Ionawr 18

Cedwais society gyda’r plant am y waith cyntaf ers llawer o amser yn yr ynys. Ac nid anghofiaf byth yr olygfa a’r pleser oedd i’w gael y pryd hwnnw gyda’r plant ac mi goeliaf hefyd i mi gael cymdeithas yr Iesu. Yr eiddoch WT Jones.

Ebrill 4

Bu farw heddyw Mr Evan John Williams Cristin Isaf yn 64 mlwydd oed, ac a gladdwyd ym mynwent Enlli Ebrill 5 – 1875. Yr eiddoch WT Jones.

Ebrill 4

Bu farw heddyw y Parch Robert Williams Hendy yn 81 mlwydd oed, ac a gladdwyd ym Mynwent Enlli Ebrill 8 1875. Wedi bod yn pregethu gyda’r Methodisiaid Calfinaidd am dros 40 mlynedd. Yr eiddoch WT Jones.

Mai 21

Ymwelodd yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough, Mr Wynn ei fab a De Winton a’r ynys heddyw a buont yma tan Mai 23 1875. Yr eiddoch yn gywir WT Jones.

Rhagfyr

Casglwyd yn yr ynys ar hyd y flwyddyn at wahanol bethau y swm £18/10/0d.

Cafwyd blwyddyn lwyddianus ar y cyfan mewn ystyr dymhorol a chrefyddol. Cynyrch yr ynys ac iechyd y trigolion yn ganmoladwy a phrawfion amlwg hefyd o wenau yr Arglwydd mewn ystyr grefyddol yn galw dynion i’w winllan.

Nifer y Pregethwyr 1

Nifer y cymanwyr 11.

Ymgeiswyr am aelodaeth 2

Nifer plant yr eglwys 12.

Rhai a fuont farw o’r eglwys 1.

Rhai a fuont farw o’r byd 1.

Athrawon ac Athrawesau 10.

Ysgolheigion 46.

Gwrandawyr 70.

Yr oll a dderbyniwyd i gymundeb yn ystod y flwyddyn 11. Yr eiddoch yn gywir WT Jones.

1876.

Ebrill 4

Claddu Bridget Jones, Tan Llyn Aberdaron yn Enlli yn 59 oed. Gweinyddwyd gan yr Eiddoch WT Jones.

Gorffenaf 20.

Daeth yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough i’r ynys ac ymadawodd oddi yma Gorffenaf 22. Yr eiddoch yn gywir WT Jones.

Gorffenaf 30 ac Awst 1af

Agoriad y Capel Newydd a adeiladodd yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough er budd yr ynys. A chafwyd cyfarfod agoriadol ardderchog. Bryd y daeth Mr Robert Rowlands Porthmadog a’r Parchedigion canlynol i’w agor; Capt H Hughes, Gellidara. Thomas Owens Porthmadog, Francis Jones Waunfawr, Peter Jones Penygroes. Bryd y daeth pawb hefyd i wrandaw. Dewisiwyd O Morris Williams Nant yn flaenor yn un frydol. Gweinyddwyd Sacrament swper yr Arglwydd hefyd am y waith cyntaf. Daeth Griffith Pritchard Ty Pella i’r society. Yr eiddoch yn gywir WT Jones.

Medi 7.

Daeth yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough a Mr a Mrs Wynn i’r ynys heddyw a dychwelasant Medi 9 1876. Yr eiddoch WT Jones.

Medi 10.

Bedyddio Samuel Elliot Rambridge. Bachgen i Mr Samuel a Sarah Rambridge, Lighthouse. Gweinyddiwyd yr Ordinhad o Fedydd gan WT Jones Cenhadwr.

Hydref 3.

Dynion Enlli yn achub dwylaw y Llong ‘Leah’, pedwar mewn nifer, aeth y llong yn ddarnau ar greigiau’r ynys.

Hydref 19 .

Bedyddio William Hughes bachgen Mr Hugh a Margaret Hughes Dynno Goch Enlli. Gwasanaethwyd yr Ordinhad gan WT Jones. Gweinyddwyd ordinhad o swper yr Arglwydd heddyw am yr ail waith ar yr ynys. Yr eiddoch WT Jones.

Rhagfyr 1876.

Nifer y gweinidogion 1, Blaenoriaid 1. Cymunwyr 21, Plant yr eglwys 13. Derbyniad yng nghorff y flwyddyn 4. Athrawon 11. Ysgolheigion 54. Gwrandawyr 78. Casglwyd at amrywiol bethau yn ystod y flwyddyn £20/12/4d. Cafwyd blwyddyn o wenau Duw arnom Mr a Mrs Rowlands yn anrhegu’r eglwys a llestri cymuno hardd. Yr eiddoch WT Jones.

1877

Ionawr 20

Derbyniais lyfr o’r enw ‘The Holy Isle’ yn anrheg gan yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough. WT Jones

Chwefror 18.

Gweinyddiwyd yr Ordinhad Swper yr Arglwydd heddiw. Yr eiddoch WT Jones

 

Ebrill 1.

Bedyddiais John Jones, plentyn Samuel a Catherine Jones Yr eiddoch WT Jones.

Mai 5.

Mr a Mrs Williams foundry Porthmadog yn anrhegu Eglwys MC Enlli a Cwpan Fedydd hardd. WT Jones.

Mai 22 – Ymwelodd y personnau a ganlyn a’r ynys heddyw yng nghylch treth y tlodion, Mr Walter Browne a Mr T Lloyd Murry Brown, local government board London.

Mehefin 14.

RT Pritchard Esq Ty Newydd Fourcrosses yn anrhegu Capel Enlli a Beibl Cymraeg ac un Saesneg yn nghyd a llyfr Hymnau i’w ddefnyddio ar y pulpit. Welsh Bible £1/6/6d Do 6/- Hymn book 10/6d £2/3/0d. WT Jones.

Mehefin 24

Treuliodd Parch John R Jones Pencaerau a’i wraig y saboth yn Enlli a phregethodd dair gwaith, y noswaith yn Saesneg. WT Jones.

Gorffenaf 1

Bu y Parch Robert Evans Dynfra ( late of Caernarvon) yn pregethu dair gwaith y Saboth hwn yn Enlli. Yr eiddoch WT Jones.

Gorffenaf 29

Pregethodd y Parch Capt Hughes Gellidara dair gwaith a nos lun Gorffenaf 30. Yng nghorff ei arhosiad yma daeth Ann Williams Plas Bach i’r society. Yr eiddoch WT Jones.

Awst 5

Pregethodd Y Parch W Dickens Lewys MA yn Enlli a darlithio ar y Feibl Gymdeithas. WT Jones.

Awst 15.

Pregethodd DE Davies yma ac areithiodd ei gyfaill Mr William Thomas Bangor. Yr eiddoch WT Jones.

Awst 21.

Daeth dau bregethwr perthynol i’r Weslead yma heddyw sef Mr Evans Pen y Groes Llandegai a Mr Jones Pwllheli eu harweinydd oedd Mr John Jones Siop Aberdaron, cawsom dri moddion 10, 2, a 6. Yr eiddoch WT Jones.

Awst 24

Daeth dau bregethwr yma neithiwr a phregethasant heddyw sef Mr John Hughes Edeyrn a Mr Samuel Jones Edeyrn, yng nghyd a Mrs Hughes gwraig Mr Hughes a Miss Jones Ysgubor Bach a ddanfonodd hwy drosodd. Yr eiddoch WT Jones.

Medi 10

Ymwelwyd a’r Ynys gan Charles Wynn esq Rhug Nr Corwen, yn nghyd a Mrs Wynn a boneddigesau eraill, a hefyd Rev OH Williams, periglor Bodfean. Wrth edrych y capel rhoddodd Mr Wynn 10/- at yr achos. Yr eiddoch WT Jones.

Hydref 14.

Sabbath Cymundeb, pryd y gweinyddwyd yr Ordinhad swper yr Arglwydd gan yr eiddoch WT Jones.

Rhagfyr 10 – 14.

Treuliasom bob nos yr wythnos hon, oddigerth nos Sadwrn yn nosweithiau cyfarfodydd gweddiau tra yr oedd pawb a allai ddyfod iddynt yn bresenol a phrawf amlwg fod Duw ynddynt.

Rhagfyr 15.

Llongddrylliad ar drwyn y fonwent yn agos i’r Cafn porthladd yr ynys. Tarawodd y graig hanner nos. Cafodd y ddau ddyn oedd arni sef Captain Thomas Jones Moelfra Anglesey a’r mate Isaac Collins lan yn ddiogel, a derbyniad caredig yn nhy Mr Griffith Pritchard Ty Pella.

Rhagfyr 23.

Gweinyddiwyd yr Ordinhad swper yr Arglwydd honno yn y society. WT Jones.

Gallwn dystio ar ddiwedd y flwyddyn hon i’r Arglwydd fod yn dirion iawn wrthym yn cadw heintiau a phethau niweidiol on mysg, ie heb i neb gael eu torri i’r bedd o’r byd neu o’r eglwys. O na folianwn yr Arglwydd am ei ddaioni i feibion dynion. Bydded iddo o’i rad drugaredd fendithio gweinidogaeth yr Efengyl yn ein mysg i achub llawer. Ei Ysbryd Sanctaidd fyddo yn arhosol gyda ni yn dyrchu arnom o lewyrch ei wyneb fel ein hachuber.

1878.

Ionawr 31.

Griffith Ty Pella yn bur wael.

Chwefror.

Salwch hen wr Ty Pella yn pryderu yr ynyswyr.

Ebrill 21.

Sul y Pasg. Treuliasom y Sabboth hwn ychydig yn wahanol i’r Suliau yn gyffredin.

Ebrill 22.

Amryw o gychod yn cyrraedd o Aberdaron yn nghyd a lliaws o bobl.

Ebrill 27 – Arwyddnodi deiseb yn erbyn gwerthu diodydd meddwol ar ddydd yr Arglwydd.

Mai 10

Capt W Thomas Bodlondeb Morfa Nefyn ac eraill yn talu ymweliad a’r ynys. Yn talu i’r ynyswyr am ddiogelu llechau ‘Friends’ aeth yn anlwcus ar yr ynys.

.Mai 30.

Ymweliad y llong ‘Fairy’ o Caernarvon yn Enlli gyda teithwyr ond llai mewn nifer na’r arfer.

Mehefin 16.

Parch David Jones Ty Mawr yn pregethu yma y Sabbath hwn. Cydnabyddwyd ef 19/4d.

Mehefin 30.

Y Parch H Hughes Bryn Engan yn Enlli yn pregethu y Sabboth hwn.

Gorffenaf 2 a 3.

Cyfarfod pregethu yma. Gweinyddwyd yn gyhoeddus gan y Parchedigion canlynol :-

Parch Roberth Hughes Uwchlaw’r Ffynnon

Parch David Williams, Tre Madog.

Parch TR Williams, Pentre Uchaf.

Parch Robert Williams Rhosfawr.

Parch Robert Williams Nant.

Gorffennaf 7.

Pregethodd y Parch John Hughes Edeyrn dair gwaith – yr oedd gydag ef Mrs Hughes. Miss Jones Pente Felin. Miss Kate Roberts Shop Edeyrn.

Gorffenaf 28.

Parch Robert Williams Rhosfawr yn pregethu.

Gorffenaf 30.

Ymweliad y ‘Fairy yn Enlli cael hanner sofran at yr achos gan Mrs Capt Roberts Caernarvon.

Awst 4.

Sabbath Cymuno.

Awst 18

Pregethwyr Wesleiad yn Enlli, aros Sabbath sef Mr John Evans Aberdaron a Mr Evan Williams Abersoch.

Rhagfyr 29.

Sabboth Cymuno. Sabboth lled hwylus yr wythnos ddiweddaf o’r flwyddyn hon. Cyfarfodydd gweddi bob nos.

1879.

Ionawr.

Pasiodd y mis hwn heibio heb i ddim hynod gymeryd lle yma, heblaw i drugaredd yr Arglwydd ein cylchynu.

Chwefror 13.

Yr hen frawd Griffith Pritchard Ty Pella yn wael, y mis hwn gadawodd un yr Iesu o gariad at y byd.

Mawrth.

Nid oedd digwyddiad rhyfedd i’w gofnodi.

Ebrill 14.

Heno nos Lun Sulgwyn, cawd pregeth yn y capel newydd.

Mai 12 hyd 17.

Treuliwyd bob noson o’r wythnos hon yn cynnal cyfarfodydd gweddiau am ymweliad yr Arglwydd yn ein mysg.

Mai 25.

Evan Hughes, Deunant, Aberdaon yn pregethu yn Enlli y Sabboth hwn.

Mehefin 5. Dodrefn yn cael eu prynu at y Ty Cenhadol yn Enlli yn Shop Mr J Gabriel Jones, Pwllheli.

Mehefin 10.

Cwch o Rhiw ger Aberdaron yn ceisio dyfod i Enlli, y cychwyr ac eraill oedd ynddo yn feddw. ( CYWILYDDUS)

Mehefin 10.

Cwch o Tydweiliog yn dyfod yma heddiw, ond yn methu cyrraedd yn bellach wrth fynd oddi yma na Porth Meudwy, Aberdaron, rhy dawel fel nad oedd gwynt i’r hwyliau.

Mehefin 18.

Talodd Stemar perthynol i Gaernarvon o’r enw ‘Princess of Wales’ ymweliad ag Enlli heddyw gyda oddeutu 108 o bassengers. Yr ymwelwyr yn cwyno na byddai gennym flwch cenhadol yn perthyn i Enlli – Trefnu blwch erbyn y tro nesaf.

Gorffenaf 23.

Heddyw daeth y llong o Bwllheli a dodrefn i’r Ty Cenhadol yn perthyn i Enlli oddiwrth Mr John Gabriel Jones, Watchmaker Pwllheli.

O.N.

Ar y 15 cyfisol y stemar ‘Princess of Wales’ yma.

Ar y 16 cyfisol cyfarfod pregethu. Parchedigion Owen Hughes Tregymun a J Hughes Edeyrn.

Medi 1.

Eisteddfod yn Enlli, ond anheilwng iawn o’r enw. Y stemar ‘Princess of Wales’ wedi dod a pobl o Gaernarvon.

Medi 4.

Byw heddiw a chysgu heno am y waith gyntaf yn y Ty Newydd Cenhadol.

Medi 17.

‘Princess of Wales’ yn dyfod i Enlli o Aberystwyth.

Hydref 13.

Cyfarfod Diolchgarwch am y cynhaeaf. Pregethir am chwech y noswaith.

Casgliad at y goleuni £1/2/3d.

Tachwedd

Dim neillduol y mis hwn.

Rhagfyr 1.

Casgliad Cenhadol yr ynys yn dod i law y swm £10/12/7d.

Rhagfyr 25.

Cyfarfod Nadolig gyda’r plant a’u gwobrwyo.

1880.

Ionawr.

Wrthi ein gorau yn ceisio hyrwyddo y ffordd i’r Efengyl, mewn addysg a moesoldeb, ysgol ddyddiol a nosawl.

Ionawr 31.

Damwain Evan Jones, bachgen Thomas Jones yn cael dryllio ei wyneb yn arswydus gan gaseg.

Chwefror

Dim pwysig y mis hwn yn teilyngu cael ei groniclo yma.

Mawrth 20.

Cyfarfod Rhyddfrydig bryd y traddodais anerchiad ar y matter wrth Esaiah 58 – 6.

Ebrill 9.

Bonfire ar dop y mynydd ar anrhydedd Watkin Williams AS a Lord Newborough.

Ebrill 16.

Marwolaeth Robert Williams Carreg Bach i ffwrdd ar y mor.

Mai 24 a 25.

Cyfarfod pregethu yn Enlli. Y Parchedigion canlynol yn cynnal, Robert Hughes, Uwchlaw’r Ffynnon, JR Williams, Pentre Ucha a John Hughes Edeyrn.

Mehefin.

Dim pwysig iawn i’w gofnodi y mis hwn.

Gorffenaf 20.

Ymwelodd y ‘Fairy’ ag Enlli heddyw gyda lliaws mawr o ddieithriaid ar ei bwrdd.

Awst 2.

Un o’r newydd yn dod i’r society sef Jane Williams Ty Newydd.

Awst 11.

Heddyw dau bregethwr dieithr yn pregethu yma.

Awst 12.

Marwolaeth Griffith Williams Plas Bach.

Awst 16.

Ei gladdedigaeth heddyw a mynd ag ef trosodd i Aberdaron.

Medi 7.

Heddyw fe dderbyniasom Gloch ardderchog i’w gosod yn y capel newydd, yn anrheg gan Mr John Gabriel Jones Pwllheli, Gwerthfawrogir y rhodd yn arbennig,

Medi 9.

Heddyw fe’i gosodwyd yn ei le yn y capel newydd.

Hydref 4.

Dydd diolchgarwch am y cynhaeaf . Yr holl ynyswyr yn rhoddi eu presenoldeb, Casgl at y Goleu 17/7d. Pregeth yr hwyr oddiar Luc 12-16-21.

Hydref 27.

Gormod o storm i fynd i gynnal cyfarfod gweddi.

Hydref 30.

Cymundeb, Bedyddio hefyd, Sophia geneth fach Mr a Mrs Taylor.

Tachwedd.

Treuliais y mis hwn trwy wasanaethu yn Llundain. Fel nad oes gennyf ddim llawer i ddywedyd am symudiadau yr achos yn Enlli, amgen na bod iddo gael ei ddwyn ymlaen gystal ag y gallesid dan yr amgylchiadau, pawb yn gwneud ei ran yn ffyddlon ac ymroddgar.

Rhagfyr 13.

Heno y gorffennodd y casglyddion, sef Mr Thomas Pritchard Ty Pella a Mr William Williams Cristin y Casgl Cenhadol yr hwn a gyrhaeddodd eleni eto y swm anrhydeddus o £11/7/6d.

Symio i fyny y gwahanol gasglaidau yn ystod y flwyddun. Cyfanswm £22/9/7d.

Rhagfyr 31.

Er nad yw Enlli yn agos yr hyn a ddymunwn iddi fod mewn dysg, moesoldeb a chrefydd y mae naill flwyddyn ar ol y llall yn gwneud llawer o’u hol yn y cyfeiriadau hynny, ac efallai na chamgymerwn pe dywedwn fod tir lawer wedi ei feddiannu yn ystod y flwyddyn hon sydd wedi mynd heibio. Cawsom flwyddyn o wenau yr Arglwydd yn dymhorol ac ysbrydol, iechyd da a chyffredinol. Ffyddlondeb cyffredinol hefyd mewn dyfod i foddion gras, yn fwy felly na’r flwyddyn o’r blaen. O na folianem yr Arglwydd am ei ddaioni a’i ryfeddodau i feibion dynion.

Un yn unig fu farw o’r ynys yn ystod y flwyddyn hon.

1881.

Ionawr.

Ar ddechrau y flwyddyn hon yr oedd gennym wythnos o Gyfarfodydd gweddiau ond fe’m lluddiwyd rhag cwblhau yr wythnos oherwydd afiechyd a thywydd ystormus iawn. Ni welwyd y fath eira ar yr ynys ers llawer iawn o flynyddau. Yr holl ynys wedi ei gorchu ag eira yn nghyd a chorwyntoedd ystormus yn lluchio hwnnw yn lluwchfeydd o’r naill fan i’r llall a rhew caled gyda hynny. Ugeiniau o adar yn ffoi yma, ac ugeiniau ohonnynt yn cael eu chwythu dros y dibyn i’r mor Tymestl arswydus ydyw.

Ionawr 24.

Cwch yn mynd drosodd i gyrchu Dr Owen at John Williams Ty Bach.

Chwefror.

Bum drosodd y mis hwn yn darllen report am ansawdd yr achos yn Enlli, yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Fourcrosses y 7fed. Cyfisol.

Mawrth..

Yr wythnos o’r mis hwn yn stormus iawn yn wynt nerthol yn rhuthro.

Ebrill 4.

Mynd oddiamgylch i gyfri y bobl er cael Census y Llywodraeth, Poblogaeth Enlli ydoedd 71.

Mai

Gan fod y mis hwn dipin yn braf, ymwelodd amryw a’r ynys mewn cychod o Aberdaron. Dim neillduol wedi cymeryd lle y mis hwn.

Gorffenaf 21 cyfisol a’r dyddiau canlynol.

Mr Kinsley Caernarvon yma yn tynnu lluniau o bersonnau a phethau yr ynys. Y ‘Fairy wedi ymweld a ni a 68 o deithwyr. Cynhaeaf gwair yr wythnos hon.

Awst 11.

Rev Capt Hughes Gellidara, a Rev J Jones Plastirion Pwllheli yn dyfod i Enlli i gadw cyfarfod pregethu.

Awst 12.

Cyfarfod pregethu heddyw trwy y dydd.

Awst 13.

Pregethwyr yn dychwelyd i Aberdaron.

Awst 16.

Mr O Robyns Owen, Pwllheli yn ymweld a’r ynys.

Medi.

Dim neillduol iawn i’w gofnodi am y mis hwn, heb law y peth pwysig iawn o ran hynny, sef fod yr Arglwydd yn ei ragluniaeth a’i ras yn dirion iawn wrthym.

Hydref 10.

Cyfarfod Diolchgarwch am y cynhaeaf.

Hydref 14 cyfisol.

Ystorm o wynt a glaw trymaf a deimlwyd yma yng nghof neb o’r preswylwyr yma. Mis ystormus iawn ydoedd y mis hwn.

Hydref 23.

Sabboth Cymundeb gweinyddu yr Ordinhad, swper yr Arglwydd.

Tachwedd

Gellir gyda phriodoldeb alw’r mis hwn yn ei berthynas ag Enlli yn fis y ddalfa fawr. Pan y buont yma am dair wythnos llawn heb un cymundeb a’r tir mawr, oherwydd storm o wynt mawr o’r 8 cyfisol hyd 29 cyfisol. Ni fu y fath ddalfa yn Enlli ers tua 35 mlynedd.

Rhagfyr.

Prif bwnc yr ynyswyr y dyddiau hyn ydyw Lifeboat i Ynys Enlli. Y mae Hon Ch. Wynn Rhug yn gweithio yn egniol on plaid er cyrraedd yr amcan clodwiw hwn.

Rhagfyr 19 Cyfisol.

Y cyfeillion Thomas Pritchard Ty Pella a William Williams Cristin yn gorffen y casgliad cenhadol heno yn y Mission House, swm casgl eleni ydyw £11/12.5d. Holl gasgliadau’r flwyddyn £19/4/2d.

Rhagfyr 26 Cyfisol.

Cynnal ein gwyl Nadolig heno yn yr ysgoldy. Cyfarfod difyr ac adeiladol iawn yr ysgoldy wedi gwneud yn wych odiaeth at yr aclysur gan Mrs M Bowen a Mr D Briggs, Lighthouse. Yr oedd cynnydd y plant mewn dysg yn amlwg iawn, yr adroddiadau a’r canu yn gampus. Areithwyd gan amryw o’r ynyswyr, ar ‘hen Father Ty Pella’ Griffith Pritchard mewn hwyl dda yn gosod gwerth neillduol ar addysg bore oes, a’r ymdrech ddylai fod yn pawb i wneud ei orau er cyrraedd gwybodaeth.

Gellir dweud am y flwyddyn hon eto basio yn Enlli heb i neb farw na bod mewn salwch peryglus yn ystod y flwyddyn. Er i’r cychod fod rai treoen mewn peryglon nes bron dymchwelyd, ac iddynt unwaith fod yn agos i golli yn y niwl, eto fe’u gwaredwyd trwyddynt oll. O na folianer yr Arglwydd am ei ddaioni a’i ryfeddodau i feibion dynion. WT Jones.

1882.

Ionawr 1.

Y flwyddyn hon yn dechrau ar y Sabboth. Tywydd ystormus a gwlyb, ar yr ailfed cyfisol pethau yn dal yn debyg.

Chwefror

Dim neilltuol i’w gofnodi am y mis hwn.

Mawrth

Dim neilltuol, pethau yn dal yn debyg.

Mai

Amcan ein gorau i gael Lifeboat yma. Pregethu Saesneg yn lled gyson y mis hwn.

Mehefin.

Dynion Trinity yn adeiladu ty Newydd yn y lighthouse. Llong yn dod a llwyth o lo yma. Danfon yr arian am y glo i Lerpwl i Mr Williams and Sons ar y 30 o’r mis.

Gorffenaf.

Ceisio cael grant o’r Llywodraeth at yr ysgol ddyddiol. Mr Watts yn gorfod llogi cwch i ddyfod trosodd yma ar y 26 cyfisol. Arholi y plant. Canmoliaeth uchel iddynt gan Mr Watts ond gan fod yr ysgol o gyrraedd moddion y Llywodraeth nis gellir rhoddi grant.

Gorffenaf 28

Rev O R Morris America yn dyfod i Enlli.

Gorffenaf 30.

Rev OR Morris yn rhoi pregeth.

Gorffenaf 31

Rev O R Morris yn rhoi darlith ar America.

Awst 11

Professor John a’i wraig a’r Parchedig John Owen MA Cricieth a Thomas Owen Pwllheli yn talu ymweliad ag Enlli – gwneud sylw ar garreg ger Plas Bach.

Medi

Yr achos mawr yn dal ei dir.

Hydref 1

Un o’r newydd yn dod i’r Society.

Hydref 9

Cyfarfod Diolchgarwch am y cynhaeaf casgliad 16/1d.

Hydref 15

Nos Sabboth. Derbyn chwech o rai a ddygwyd i fyny yn yr eglwys yn gyflawn aelodau.

Tachwedd

Dim pwysig iawn i’w groniclo.

Rhagfyr.

Casgl Cenhadol Gartrefol £12/1/6d cyfarfod gyda’r plant nos Nadolig – llewyrchus.

Cawsom flwyddyn hon brawf amlwg o amddiffyn yr Arglwydd trosom, er i rai fod yn wael ni fu farw neb. Cawsom gyfarfodydd gweddiau ar ei diwedd.

1883

Ionawr.

Dechreuwyd y flwyddyn hon fel y diweddwyd y flwyddyn flaenorol, sef gyda cyfarfodydd gweddiau nosweithiau gwaith. Cawsom gyfarfodydd lluosog a gwresog a phrawf fod yr Arglwydd yn ein plith. Ar y 16eg bu farw yr hen frawd selog a ffyddlon Griffith Pritchard Ty Pella. Bu farw mewn ffit ar ol bwyta ei swper. Daeth at grefydd ar ddydd agoriad y capel newydd sef Awst 1af 1876, wedi bod yn gwasanaethu crefydd am dros saith mlynedd, bu farw yn 78 mlwydd oed, a chafodd gladdedigaeth barchus ar y 20 cyfisol a phregeth angladdol nos Sabboth 21 cyfisol. Teimlir colled fawr ar ei ol, ond o ran ei hun diameu ei fod ar ei ennill ei fod wedi myned i lawenydd yr Arglwydd.

Llafur yr ysgol Sul am y flwyddyn a basiodd ydoedd 7,526 o adnodau. 1af Mary Roberts 1,283. ail Jane Griffiths 1,147. trydydd Ellen Williams 478. pedwerydd Evan Jones 443.

Pregethwr Newydd yn dod i Enlli.

"William Jones ai Blant"

Mawrth 12.

Heddyw daethom i William Jones Gosen, Llanaelhaiarn yng nghwmni y Parch William Thomas Jones, diweddar weinidog yr ynys i ymgymeryd a bod yn genhadwr. Cefais dderbyniad siriol a charedig gan yr holl ynyswyr yn ddieithriad.

Mawrth 13

Pregethu heno am y waith gyntaf i’r ynyswyr.

Ebrill 21

Bu farw Mary Jones Garregfawr yn 84 mlwydd oed. Nid oedd ond ychydig er pan y daethai at grefydd, ond yr oedd yn amlwg mai crefydd ydoedd hoff bwnc ei hymddiddan yn wastad. Arferwn ymweld a hi bron bob dydd yn ei gwaeledd a’i chystydd. Ymhlith pethau eraill ddywedai wrthyf un diwrnod fod arni lawer o ofn na chai hi ddim mynd i’r nefoedd, pryd y dywedais wrthi os oedd rhywfaint o gariad yn ei chalon hi at Iesu Grist, fod yn bur debyg y cai hi fynd yno, " Oes yn wir mae" medda hithau " Yr wyf yn ei garu ." Ac felly y bu farw dan obeithio ynddo. Hebryngwyd ei chorff i’w gladdu i fynwent Aberdaron. Cymerodd y gladdedigaeth le Ebrill 25.

Ebrill 29

Pregeth angladdol heno i Mary Jones Garreg Fawr.

Mai 29.

Parch G Griffiths A Cephas Aberdaron yn gwasanaethu yma heddyw. Casgl 17/5d.

Mehefin 23

Derbyn Blwch Cenhadol yn anrheg oddiwrth Mr James Thomas Caergybi.

Mehefin 24

Bedyddio Thomas H Jones Mission House.

Gorffenaf 1

Parchn Henry Parry a Evan Williams yma yn gwasanaethu Casgl 17/5d.

Gorffenaf 29

Parch Evan Hughes Plas Ffordd yn gwasanaethu casgl 12/8d

Gorffenaf 31

Cyfarfod pregethu y gweinidogion canlynol yn gwasanaethu. Parchn, Hugh Hughes Gellidara, Llywelyn Edwards, Thomas Charles Edwards MA Aberystwyth a hefyd Capt W thomas Bodlondeb wedi ei anfon gyda’r ParchH Hughes gan y cyfarfod misol ar yr achlysur o’m sefydliad fel cenhadwr yr ynys.

Awst 1

Y dieithriaid yn dychwelyd yn ol.

Hydref 15

Dydd Diolchgarwch. Casgl at y goleuni 16/1d.

Rhagfyr 25

Dydd Nadolig. Cyfarfod llenyddol y nos. Y plant wedi dysgu yn rhagorol. Casgliad Cenhadol £12/4/3d.

1884

Ionawr 6 – 12. Cynhaliwyd cyfarfodydd gweddiau fel arfer ar hyd yr wythnos, a diamau gennym fod Duw yn ein plith.

Awst 17

Parch R Williams Penycaerau yma yn gwasanaethu. Casgl 13/5d.

Hydref 20

Dydd Diolchgarwch.

Rhagfyr 25

Cyfarfod blynyddol rhagorol.

1885.

Ionawr 11 – 17

Cyfarfodydd gweddi ac arwyddion amlwg fod yr Arglwydd yn tywallt ei ysbryd arnom.

Ebrill 19

Dechrau cynnal cyfarfod gweddi efo’r dosbarth ifanc.

Mehefin 29

Bedyddio John H Jones Mission House gan y Parch Thomas Owen Porthmadog tra ar ei ymweliad a’r ynys gyda’r ‘Snowdon’.

Rhagfyr 25

Dydd Nadolig. Cyfarfod blynyddol llewyrchus iawn. Y canu a’r ateb a’r adroddiadau yn rhagorol. Yr achos mawr yn dal ei dir ac i raddau yn llwyddo, yr ysgol sabbothol yn fwy llewyrchus nag erioed.

1886

Chwefror 2

Heddyw bu farw William Hughes Dyno Goch yr hynaf o drigolion yr ynys yn feibion yn 71 mlwydd oed, dioddefodd gystudd maith a phoenus. Claddwyd ef yn yr ynys ar y 6ed cyfisol.

Chwefror 7

Pregethu heddyw am ddeg o’r gloch a chael graddau helaeth o bresenoldeb yr Ysbryd. Nathaniel Williams Safn Pant Aberdaron yn aros yn y seiat am y tro cyntaf.

Rhagfyr 27

Heddyw bu farw Mrs Ann Williams Plas Bach yn 77 mlwydd oed. Bu yn aelod dichlynaidd yn yr eglwys am flynyddau lawer, ac yn dra gwasanaethgar gyda achos y gwaredwr.

1887

Ionawr

Dechreuasom y flwyddyn hon eto drwy gynnal cyfarfodydd gweddiau yr wythnos gyntaf. Y presenoldeb yn dda, ond dim neillduol i’w deimlo ynddynt.

Ionawr 2

Mynd a chorff Ann Williams Plas Bach drosodd i’w gladdu i fynwent Aberdaron.

Gorff 3

Y Parch Robert Williams Pencaerau yn pregethu am ddau.

Hydref 3

Dydd Diolchgarwch. Cafwyd cyfarfod llewyrchus a graddau o bresendoldeb yr Arglwydd

Diwedd y flwyddyn hon wedi cael mwynhau daioni y Brenin Mawr yn helaeth wedi cael mwynhau iechyd da a chyffredinol neb wedi ei anfon i ffordd yr holl ddaear.

1888

Ionawr

Cynhaliwyd cyfarfodydd gweddiau fel arfer ar ddechrau y flwyddyn hon, ond methwyd a’u gorffen oherwydd gwaeledd. Bu anryw yn dioddef o dan effeithiau y Frech Goch, yr hyn a barodd i gryn lawer fod yn absennol o’r moddion am ysbaid o amser, ond ni bu y clefyd yn angeuol i neb.

1889

Ionawr

Cynhaliwyd cyfarfodydd gweddiau fel arfer ar ddechrau’r flwyddyn a diamau fod yr Arglwydd yn rhoddi arwyddion amlwg o’i fodlonrwydd i’n cynulliad.

Ionawr 17

Y Parch Robert Williams yma yn pregethu.

Ionawr 18

Heno y Parch Robert Williams Pencaerau yn darlithio ar yr America yn dra diddorol, nifer lluosog wedi dod yng nghyd a pawb yn dychwelyd wedi cael eu boddhau yn rhagorol.

Awst 11

Bedyddio Thomas Edwin Davies Lighthouse gan yr eiddoch William Jones.

Hydref 14

Cynhaliwyd cyfarfod Diolchgarwch heddiw ac arwyddion amlwg o bresenoldeb yr Ysbryd Glan.

Tachwedd 20

Cludo gweddillion Arglwydd Newborough i’w claddu mewn bedd gist hardd yn hen fynwent y Seintiau. Gweithiwyd y bedd o dan arolygaeth Mr Thomas Williams Penbryn Llidiardau Aberdaron.

Rhagfryr 25.

Sef dydd Nadolig.Cynhaliwyd cyfarfod adloniadol y nos yn yr ysgoldy yr hon oedd wedi ei gwisgo yn hardd gan Miss Bowen Lighthouse, Miss M Pritchard Ty Pella. A Miss Ellen Hughes Dyno Goch. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Morris Williams, Nant, yr oedd y canu a’r adrodd yn rhagorol.

Rhagfyr 26

Heddyw anrhegwyd y plant a’r bobl ieuanc a the a bara brith yn yr ysgoldy gan Mrs Bowen Lighthouse. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Mrs Bowen Lighthouse, Miss Bowen a Miss Jane Pritchard Ty Pellaf. Yn ystod y flwyddyn hon ein anrhegu gan Miss ME Marsh, Ty Brith Carno a llyfrau gwerthfawr yn y ddwy iaith, 100 mewn nifer a hefyd Book Case hardd i’w rhoi pa un a gedwir yn y capel ac a rodder allan yn wythnosol fel y gelwir amdanynt. Mae ei rhoddion gwerthfawr wedi gwneud eisioes lawer o les.

1890

Ionawr.

Dechreuwyd y flwyddyn eto fel arferol drwy gynnal cyfarfodydd gweddiau ond llesteiriwyd y cyfarfodydd yn gyflawn ar hyd yr wythnos drwy i afiechyd dorri allan yn ein mysg a elwid yn Anwydust ( Influenza)

Gorffenaf 4

Miss Rosina Davies yr Efengyles o’r Deheudir yn ymweld a’r Ynys. Seiat ar ol yr oedfa a Nathaniel Williams Carreg Bach yn ymuno a’r eglwys.

1891

Ionawr 17

Mr John Griffith Pencaerau yn ymweld a’r ynys dros y cyfarfod misol er cael adroddiad o answadd yr achos yn ein plith.

Ionawr 27

Mr John Griffith yn dychwelyd o’r ynys wedi ei atal oherwydd y tywydd i fynd yn gynt.

Mawrth 13

Gosod y Flag Staff ym mhen y mynydd.

Mawrth 17

Geni Winifred Jones Mission House.

Ebrill

Marw Mrs Neal, Lighthouse yn 32 mlwydd oed. Ei geiriau olaf : " Oh ! The bright beautiful home".

Ebrill 7

Claddedigaeth Mrs Neal ym mynwent Enlli.

Mehefin 7

Bedyddio Winifred Jones Mission House.

Gorffenanf 4

Y painters yn dod i’r lighthouse, mananger Mr Goodwin.

Gorffenaf 9

Cyfnewid lliw y lighthouse tower o fod yn wyn i fod yn goch a gwyn.

Awst 21

Dyfod a monument yma o Caernarvon i’w rhoddi ar fedd Lord Newborough.

Medi 4

Yr Anrhydeddus FG Wynn yn ail ymweld a’r ynys

Medi 16

Darfod y monument ar fedd Lord Newborough. Uchder y monument 25 troedfedd, lled y monument yn 25 troedfedd. Ei bwysau yn 22 tunell

Tachwedd 4

Mr Thomas Bowen yn ymadael o Enlli wedi bod yn Arolygydd y goleudy am dros 17 mlynedd.

Rhagfyr 3

Marw Mr Bowen yn Pwllheli yn 68 mlwydd oed.

Rhagfyr 8

Ei gladdedigaeth yn Deneio.

1892

Ionawr 13.

Priodas Ellen Hughes Dyno Goch yn Liverpool.

Mawrth 18.

Marw Maggie Jones Ty Bach yn 51 mlwydd oed.

Mawrth 24

Claddedigaeth yr uchod ym mynwent Enlli.

Mehefin

Y Parch Hugh Pugh Penygraig a Mr William Jones Bodychenan yn ymweld a’r ynys dros y Cyfarfod misol.

Hydref 25.

Mr Edward Neal yn ymadael a’r goleudy i St Tudwals Lighthouse.

Tachwedd 14

Marw Thomas Ty Newydd yn 62 mlwydd oed.

Tachwedd 15

Mynd drosodd i gyrchu arch.

Tachwedd 16

Dychwelyd yn ol gyda’r arch, a myned drosodd yr un diwrnod gyda’r corff.

Tachwedd 17

Claddedigaeth Thomas Jones ym mynwent Aberdaron.

Tachwedd 19

Dychwelyd o’r angladd.

Rhagfyr 15.

Geni Hugh Williams Dyno goch.

1893

Ebrill 2

Bedyddio Hugh Williams Dyno goch.

Mai 9

Mr a Mrs Davies yn ymadael a’r goleudy i Caergybi.

1894

Mawrth 26

Yr Anrhydeddus FG Wynn yn ymweld a’r ynys gyda Mr G Tarren Caernarvon.

1895

Ebrill

Yr influenza yn drwm iawn ar yr ynyswyr yn gyffrdinol.

Mai 8

Marw Nathaniel Williams Carreg Bach yr hynaf o’r ynyswyr yn 80 oed yn dra disymwth.

Mai 11

Claddedigaeth Nathaniel ym mynwent yr ynys.

Gorffenaf 18

Painters yn y lighthouse. Mr Goodwin y foreman.

1896

Mawrth 15

Nos sabboth heno Capt John Williams Plas Bach yn aros ar ol yn y seiat – llawenydd mawr o’r herwydd.

Mawrth 22

Bedyddio Mary Ellen, Dyno Goch.

Mehefin 9

Llong yn dod a glo i’r ynys.

Mehefin 26

Llong yn dod a defnyddiau i ail – adeiladu Carreg Bach.

Mehefin 29

Gweithwyr yn dod yma i roi pen newydd ar Carreg Bach ac i atgyweirio tai eraill. Foreman Mr Thomas Williams (Penbryn gynt)

Hydref 7

Tymestl hir gofiadwy – y llanw wedi codi yn dra uchel.

Hydref 21

Marw Ellen Hughes Dyno Goch yn 77 mlwydd oed.

Hydref 24

Claddedigaeth Ellen Hughes yn yr ynys.

1897

Mehefin 15

Mr Jenkins lighthouse keeper yn syrthio dros y cliff yn y mynydd, dyfnder oddeutu 40 llath. Bu farw mewn canlyniad ymhen pythefnos yn yr hospital yn Caergybi.

Mehefin 23

Jubilee teyrnasiad y Frenhines Victoria 60 mlynedd. Tea party i’r holl ynyswyr wedi ei anrhegu gan Miss Marsh Carno.

Awst 4

Geni Maggie Jones Mission House 6.15 pm.

Hydref 9

George Norton a’r teulu yn ymadael a’r lighthouse.

Tachwedd 11.

Marw Margaret Williams Ty Bach. Claddwyd hi ym mynwent Aberdaron.

1898

Ebrill 30

Geni Margaret Ann Dyno Goch.

Mai 2.

Derbyn Hugh Dobson, gwas Plas Bach yn gyflawn aelod.

Awst 7

Bedyddio Maggie Jones, Mission House gan y Parch WG Hughes Uwchmynydd.

Hydref 20

Bedyddio Margaret Ann Dyno Goch.

Rhagfyr 4

Marw Ellen Jones Garreg fawr yn 65 mlwydd oed.

Rhagfyr 8

Mynd a’i chorff drosodd i’w gladdu i Aberdaron. Tywydd mawr ar y pryd gorfod gwneud yr arch o’r defnyddiau oedd ar yr ynys.

~~~~~~~

Cofnodion o ddyddlyfr William Thomas Jones, a William Jones Cenhadwyr yr ynys.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com