"Y Gwn Mawr"

Yn 1815 daeth modd o geisio achub bywydau oddiar longddrylliadau i fodolaeth sef yr LSA. Gwn mawr ydoedd a rhaff gyda pelen fawr arni, a saethwyd y rhaff at y llong i gael llinell gymoth i’r morwyr ddod i’r lan. Wyddom ni ddim i sicrwydd pa bryd y dechreuwyd ymarfer gydag e yn y Rhiw, ond mi dybiwn tua 1880 ymlaen ar y cychwyn cyntaf cynhelid yr ymarferiadu yma lawr yn y Rhuol, cyfeiria William Rowlands at hyn yn ei lyfr y ‘Llong lo’, wedyn mi symudon i gae Penboncyn. Oddeutu 1915 fe adeiladwyd y Cwt rocet ar dir Tyn Fron, cyfeiria John Williams Talafon at hyn yn ei ddyddiadur, mae hefyd yn cyfeirio at ddewis ‘cwnstabliad i’r Rhiw’. Rhain oedd y gwyr oedd yn ymwneud a’r dasg o wylio’r glannau, swydd bwysig iawn a hithau yn gyfnod o ryfel ar y pryd ac ofnau a phryderon hyd y wlad y gallai’r Almaenwyr lanio ar ein traethau.

"Cwt Gwn"

Mae amryw wedi cofnodi hanes y ‘Drill’ a gynhalwiyd gyda’r gwn mawr, Gwilym Hughes yn cofio’r plant i gyd yn mynd i’w gwylio, diwrnod mawr iddynt yn llawn cyffro. Mae Griffith Thomas yn cyfeirio at y ‘Drill’ yn aml yn ei ddyddiaduron yr oedd o yn un o’r criw ac am ei wasanaeth fe gafodd fedal ( long service medal). Daniel Rowlands Rhiwlas oedd yn gyfrifol am y criw efo oedd y ‘Volunteer in charge’ ac iddo ef y doi negeseuon gan y D.O. ( Director of Operations) Roedd Cwt gwylio ym Mytilith ac un ar ben y mynydd Graig ac yno y bu dynion y Rhiw yn cadw golwg ar y llongau bach ( gan amlaf) a’i heibio ar eu taith. Ni fu erioed son iddynt orfod defnyddio’r ‘Gwn Mawr’ dim ond ar ymarfer. Mae Evan J Davies yn rhoi disgrifiad eithaf manwl o’r ymarfer yma a gynhelid ar dir ffermydd Penarfynydd a Ty Croes, ffermydd cyfagos i’r Cwt Gwn. 

"Tanio'r Gwn"

Cedwid yr offer i  gyd mewn cwt mawr ym Mynydd bach Tyn y Fron, cwt a adeialdwyd yn gadarn a cherrig o’r mynydd. Yr oedd yr offer yma mewn rhyw fath o drol fawr ar bedair olwyn, wedi cael ei phaentio ‘n dda ac yn sgleinio bob amser, hyd at y cylchoedd haearn a amgylchynai’r olwynion. Roedd y rhain hefyd a sglein gloyw arnynt bob amser. Yn y drol yma roedd rhaffau wedi cael eu gosod yn daclus; bocs a rhaff fawr dew ynddo, ac amryw bethau eraill ynddo ac amryw bethau eraill ar gyfer hwyluso’r gwaith.

"Trol Rocet"

Byddai’n angenrheidiol mynd a’r llwyth yma i fferm gyfagos lle roedd polyn wedi ei osod yn y ddaear. Tua deg troedfedd ar ei ben yr oedd dolen fawr a lle i gael gafael troed ar hyd ei ddwy ochr fel y medrid ei ddringo i’r top. Roedd rhaid cael dau geffyl i dynnu’r llwyth yma i’r cae a dwy gaseg fawr Penarfynydd fyddai’n cyflawni ‘r gorchwyl hwn bob amser. Roedd arian da i’w gael am y ceffylau a dau ddyn gyda hwy. Wedyn byddant yn gosod tri phren gweddol hir ar y cae a’t tri yn dod ar ei gilydd ar y top, cyn gosod y gatren ( fel y’i gelwid) ar yr un yn y tu ol, a rhaff fawr dew yn sownd ynddi. Roedd rhaid anelu hon i ryw gyfeiriad arbennig gan ddychmygu fod llongddrylliad y tu ol i’r myndd, ac wedyn pan fyddai pawb yn barod byddai un dyn yn rhoddi tan mewn ffiws oddi tani. Byddai’n chwythu am sbel fach cyn rhoi  chwythiad llawer cryfach a’r roced yn cael ei danfon dros y mynydd a’r rhaff yn sownd ynddi. Yna, byddai rhyw ddau neu dri o ddynion wedi mynd at y polyn ym mhen uchaf y cae gyda rhyw fath  o gadair; tynnu’r rhaff fawr dew at y polyn a’i rhoddi yn sownd yn y ddolen ar y top, hongian y gadair yn y rhaff, a rhaff arall ohonni wedyn yn ol i’r lle oeddan wedi tanio’r roced. Yna byddai dyn yn eistedd yn y gadair ar ben y polyn a phan fyddai yn barod, byddai yn gweiddi ‘Man in the boat’. Yna byddent yn ei dynnu i’r lan gyda rhaff arall. Ar ol hynny byddai’n rhaid dychwelyd gweddillion y roced o ochr arall y mynydd a’r rhaff hefyd. Roedd yn bwysig fod hon yn mynd yn ol i’r bocs yn daclus bob tro am ei bod yn angenrheidiol ei bod yn dod allan y tro dilynol yn drefnus. Byddai’n rhaid wrth y ddwy gaseg drachefn i ddychwelyd y cwbwl i’r cwt unwaith yn rhagor.

med_01.jpg (23946 bytes)

         

Mi wnaeth y drol ddarfod ei dyddiau ar fferm Tyn Lon Uwchmynydd, ac mae’r Cwt Gwn bellach wedi ei droi yn dy haf ers rai blynyddoedd.

Yn ffodus iawn i ni mi gadwodd Griffith Thomas nodiadau o ‘r negeseuon a ddaeth i gwt y gwylwyr, negeseuon ffon a ddaeth gan y D.O. neu o Abersoch, Porthdinllaen a Pwllheli o orsafoedd LSA a’r badau achub yno. Felly mi gawn ninnau gipolwg ar y math o bethau oeddynt yn ei wneud bryd hynny wrth ei dyletswydd. Er nad oes dyddiad pendant ar yr un o’r negeseuon mae nhw i gyd wedi eu ysgrifennu yn y tridegau cynnar.

Nodiadau Griffith Thomas

Os oes gan unrhyw un fwy o wybodaeth ynglyn a’r LSA mi fyddem yn ddiolchgar o’i gael. Hyd yma ychydig ( wel dim) o luniau sydd di dod i’r fei ac mae yn anodd credu na fyddai’r un yn bodoli serch fod camerau yn brin yn y cyfnod.

Diolch i yn fawr iawn i Mr E Morris am ei gymorth.

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com