|
Addysg Yn 1588 cyhoeddwyd y Beibl yn Gymraeg gyntaf ar ol iddo gael ei gyfieithu gan yr Esgob William Morgan. Dros ganrif yn ddiweddarach aeth Griffith Jones Ficer Llanddowror ati i gasglu nodd i sefydlu Ysgolion cylchynnol, bwriad Griffith Jones oedd addysgu'r catecism a'r Beibl yn y Fam iaith. Hyn oedd dechreuad addysg i'r bobol yng Nghymru ac felly y bu hi yn Rhiw. Yn 1780 bu i Robert Evans Bodwyddog adael £80 yn ei ewyllys i gynnal Ysgol gylchynol ym mhlwyfi Rhiw a Llanfaelrhys. Un o'r athrawon cyntaf yma oedd Ieuan Llyn o Fryncroes bu ef yn dysgu yn achlysurol yma o 1812 hyd ei farwolaeth yn 1832. Yn 1833 roedd deg ar hugain o blant yn cael eu addysgu yma. Mae'n debyg mai yn Pisgah House (Awelon) oedd yr Ysgol gyntaf cyn symud i Nebo. Yn y cyfnod yma roedd addysg ac ymneilltuaeth yn mynd law yn llaw. Yn 1847 cafwyd adroddiad ar addysg a dechreuwyd ysgolion cenhedlaethol. Yn y cyfnod yma yn Mryncroes oedd yr ysgol ac yno fe ddysgai'r plant sut i ddarllen a gwneud symiau drwy gyfrwng Saesneg. Cosbwyd y plant am ddefnyddio eu Mamiaith a gorfodwyd nhw i wisgo blocyn pren a W N wedi gerfio arno am eu gyddfau. Ystyr W N oedd Welsh Not, fe barhaodd hyn am flynyddoedd a chafodd llawer iawn o blant bach Cymru eu bychanu mewn modd greulon iawn. Yn mis Mai 1877 agorwyd Ysgol y Rhiw ac erbyn Mehefin o'r flwyddyn honno roedd 74 o ddisgyblion ar y gorfrestr. Yn y cyfnod yma roedd mynychu'r ysgol yn dibynnu llawer iawn ar adegau, hau, medi cneifio ac yn y blaen. Mi roedd heintiau a chlefydau hefyd yn gyfrifol am gau'r ysgol am gyfnodau, a trist yw cofnodi gymaint o blant bach oedd yn marw yn yr adeg yma. Wrth sgwrs roedd achlysuron hapus pan gaewyd yr ysgol ar adeg ffeiriau pentymor, sasiynnau ac Eisteddfodau lleol.
1956 ~~~~~~~~~~ I weld ein casgliad gyfan o luniau Plant Ysgol Rhiw. *Llun Ysgol Rhiw Gorffenaf 1916, Yn y llun o’r dosbarth gwelir y prifathro Mr R H Gruffydd, efallai fod y llun wedi ei dynnu gan ei fod yn newydd i’r swydd, oherwydd fe wyddom i’r cyn brifathro farw ddeufis yng nghynt. Roedd R H Gruffydd yn adnabyddus yn Llyn fel Arweinydd Cor Hebron ac yn 1925 fe enilliodd y cor wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli. Bu hefyd yn fardd ac enilliodd amryw o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan gynnwys Emyn Gwyl Ddewi. Symudodd o’r Rhiw i’r Groeslon lle bu yn Brifathro a’r Ysgol Penfforddelen. Caeodd yr Ysgol ei drysau am y tro olaf yn 1965 ac aeth y plant unai i Aberdaron neu Rhoshirwaun, diffyg disgyblion oedd yn gyfrifol am ei chau, roedd hyn yn ffawd llawer o ysgolion bach cefn gwlad ar y pryd. Felly hefyd ddigwyddodd ym Mryncroes ond yn wahanol iawn yno bu cryn brotestio ac mae wedi ei gofnodi yn hanes cenedlaethol Cymru bellach.
|
Copyright © Rhiw.com |