|
Hen oes Daeth y bobol cyntaf i'r Rhiw yn ystod Oes y cerrig, fe wyddom ni hyn oherwydd fod bwyelli a cyllill wedi eu canfod yn Nant Gadwen ac ar fynydd Rhiw lle roedd olion o "ffatri fwyelli. Mae'n debyg mai o'r Iwerddon y daeth y bobol yma, roedd hi'n llawer haws mynd o gwmpas ar y mor yr adeg hynny. Roedd Ptolemy Rhufeiniwr a oedd yn ddaearyddwr ac wedi gwneud mapiau o'r byd fel ag yr oedd yr adeg hynny yn galw Penllyn yn Ganganorum Promotorum sef Penrhyn y Gangi.Tylwyth o'r Iwerddon oedd y Gangi, fe wyddom hefyd mai o'r Iwerddon y daethon nhw oherwydd fod cerrig Ogam wedi eu darganfod yn Anelog math o ysgrifennu cyntefig oedd ogam. Gellir yn hawdd gweld sut y bu i'r bobol yma lanio a sefydlu yn Nant Gadwen, byw ar hela a physgota oeddan nhw a chaeson le i gael mochel yno hefyd.
Crib, Cyllell a Pot a gaeth ei darganfod yn Rhiw yn y pumdegau. Mae'n debygol bod amryw o bobol wedi mynd a dod yn mileniwm cyntaf yma, roedd Llyn yn ganolig iawn ym myd mor Iwerddon, gellir gweld yr olion Celtaidd cynnar yma o'r Iwerddon i Dde Cymru Cernyw a Llydaw a heddiw mae tystiolaeth genetig yn profi ein bod fel Cymry yn perthyn yn agos iawn i bobol Galicia yng ngogledd Sbaen. Yn y bumed a'r chweched ganrif roedd y Celtiaid yn troi at gristnogaeth ac yn mynd o gwmpas i genhadu a diddorol yw sylwi fod canran uchel o Eglwysi Llyn wedi eu henwi ar ol y seintiau celtaidd cynnar .e.e Hywyn, Gwynhoydl. Mae'r cromlechi y bryn gaerau a'r llestrllwch i gyd yn dangos bod cymdeithas sefydlog wedi bod yn y Rhiw o ddyddiau cyntaf dyn. O helwyr cyntefig I amaethwyr a chrefftwyr yr Oes Haearn. ~~~~~~~
|
|
Copyright © Rhiw.com |