
Chwaraeon Rhiw
Yn
y dauddegau daethpwyd i’r pendrefyniad fod angen ‘Neuadd Ddiwylliadol’ yn
y Rhiw. Gyda brwdfrydedd mawr daeth pobl yr ardal at eu gilydd i ffurfio
Pwyllgor Neuadd Ddiwylliadol y Rhiw, Lewis G Jones oedd yr ysgrifennydd ac am
nifer o flynyddoedd o ganol y dauddegau ymlaen buont wrthi yn brysur yn codi
arian i gronfa’r neuadd drwy gynal cyngherddau, dramau, gyrfaon chwist a sioe
a chwaraeon yn yr haf.
Fe
fuon nhw hefyd yn gohebu gyda pobol oedd wedi gadael yr ardal i fyw ac yr oedd
yr ymateb yn dda iawn gan y ‘noddwyr yma. Gofynnwyd i’r holl dirfeddianwyr a
fydde nhw yn fodlon gwerthu llain o dir i adeiladu’r neuadd arni, doedd pob
ymateb ddim yn ffafriol ond yn 1929 cafwyd ateb gan Jane Griffith Tyddyn
Morthwyl yn dweud ei bod yn fodlon gwerthu tir am bris rhesymol iawn.
Bu Bob Owen Croesor a
Caradoc Jones yn gefnogol iawn i’r mudiad ac yn rhoi arweiniad mewn llawer
ffordd.

"Un o ragleni chwareuon cyntaf Rhiw
(1926)"

Ras
arall a gynhelid oedd ‘Ras i Ben Clip’ i rai dros hanner cant!!!! Dywedir
mai dim ond un hen wr fu’n cystadlu, beth oedd enw’r gwr dewr yma wyddon ni
ddim.

"Rheolau y Clay Pigeon"

Yn
sioe 1931 bu PC Owen o’r Sarn yn llwyddianus iawn yn yr adran garddio gan
gipio bron bob gwobr – mae’n amlwg felly nad oedd fawr o droseddu’n mynd
ymlaen yn y cyffiniau’r oes honno.
Yn
yr haf cynhelid Sioe a Chwaraeon yn y Rhiw ac wrth sgwrs byddai’r pwyllgor yn
brysur yn chwilio am noddwyr ac o’r llythyrau gellir gweld eu bod yn ceisio
nodd gan rai o brif gwmniau Prydain, weithiau caent arian neu gan amlaf nwyddau
i’w rhoi fel gwobrau. Heddiw fyddai rhai o’r noddwyr ddim yn be alwech chi
yn ‘politically correct’, ond di deud hynna does na ddim ras sigarettes yn
yr olympics chwaith!!!