Neuadd y Rhiw

Adroddiad or "Cymro" Mehefin 1955.
Cododd y pentrefwyr neuadd eu hunain.
Ar
ol pwyllgora a chynllunio am ddeng mlynedd ar hugain bob yn ail ac eilwaith
daeth breuddwyd yn ffaith yn y rhiw, ardal o fan dyddynod ym mhendraw Llyn,
ddydd sadwrn pan agorwyd yno neuadd bentref. Adeiladwyd hi gan drigolion y fro
yneu oriau hamdden a mynych yn ystod y seremoni agor y dyfynwyd y llinellau o
englyn, R Williams Parry i neuadd Mynytho.
Adeiladwyd gan dlodi – nid cerrig
Ond cariad yw’r meini
Cyd-ernes yw’r coed arni
Cyd ddyheu a’i cododd hi.
Yn 1925 y cychwynwyd ar y gwaith o "hel at y neuadd" yn Rhiw. Bu
mynd da ar bethau am rai blynyddoedd a thrwy wahanol weithrediadau casglwyd yn
agos i £400 erbyn dechrau’r tridegau.Ond wedyn daeth cyfnodau o lanw athrai
ar y sel a’r brwdfrydedd,daeth rhyfel i ychwanegu at yr anawsterau ac ni ail
gydiwyd o ddifri yn y gwaith hyd at rhyw bum mlynedd yn ol .Trefnwyd mabolgampau
yn yr haf ac ar gyda’r nosau yn y gaeaf gwelid unwaith eto gyfarfodydd
diddiwedd yn yr ysgol –er mwyn y neuadd.
Ond mewn faint o amser y cesglid digon o arian i’w godi ? Sylweddolwyd y
buasai yn rhaid iddynt fod heb neuadd yn hir wrth gasglu arian i dalu am
ddefnyddiau a llafur i’w hadeiladu. A phenderfynnodd y trigolion fynd ati i’w
chodi a’u dwylo eu hunain a’r brynhawniau sadwrn a gyda’r nos.
Crefftwyr y fro a adeiladai’r muriau ac driniau’r coed ond roedd pobol
eraill- hyd yn oed plant wrth law gyda chymorth parod i gario briciau a chymysgu
siment.Pan fyddai adeiladu ar droed gofalai’r merched am de a digon o
deisennau ar gyfer pawb.
|

"Help Llaw" |
"Adeiladu y Neuadd yn 1954"
Cafwyd benthyg peiriannau cymysgu concrid gan ffyrmiau lleol daeth tractorau
o’r ffermydd i gario dwr ac ar ddydd Sadwrn ym Medi 1953 daeth yr hogiau yno
oddiwrth eu gwaith.Dyna roi cychwyn ar bethau ac ar y diwrnod cyntaf hwnnw
gosodid sylfaen o 21 tunnell o goncrid.
"Yr Agoriad"
Ac felly fesul hwb ac er gwaethaf gwynt o Borth Neigwl a daflodd un talmaen i’r
llawr yn y cychwyn cyntaf – felly y daeth y neuadd yn ei blaen.Cafwyd grantiau
o gofffrau Cyngor gwasanaethau cymdeithasol ac arian degwm cyngor sir Arfon
codwyd yno neuadd hwylus a thwt sy'n werth yn agos i £3000. Gall tua 250 o bobol
eistedd ynddi.
Agorwyd y neuadd yn swyddogol gan Mrs C H Griffiths ysgrifennydd cyngor gwlad
Arfon yr Henadur Emyr Roberts Aberdaron, Mr Lewis G Jones Llangian (ysgrifennydd
cynta’r neuadd )Mr G Hughes Thomas ( prifathro Botwnnog ) Mr William Rowland
Porthmadog, ( cyn brifathro Ysgol Eifionydd a brodor o Rhiw ) Mr Caradog jones
Mynytho( a roes gychwyn ar y gwaith megis yn Mynytho) Y cynghorydd Alwyn Morris
Nasareth, Mr Robert Evans (cadeirydd pwyllgor y neuadd ) John Thomas Llanengan .Llywyddwyd
gan Mr John Williams ysgol feistr Rhiw ac ysgrifennydd y pwyllgor. Yn bresennol
hefyd yr oedd Thomas Williams y trysorydd a Mr Richard Williams y cynllunydd,
arweiwyd mewn defosiwn gan y Parch Deiniol Jones Ficer y plwyf.

Y Neuadd yn 1990
(1) Wil Bryn Awel a Robert John, Ty Croes Mawr. (2) Wenna
Llawenan, Endaf Bod Hyfryd a Carol Hirael. (3) Bethan Williams, Bod Hyfryd.
(4) Rhai o blant ac oedolion Rhiw. (5) Dylan, Tryfan ac Endaf,
Bod Hyfryd (6) Robert John, Gwenllian, Ceri a Dylan.
Lluniau gan Mrs B Williams, diolch yn fawr.