Dydd Llun Mawrth 27 1933
Eu Chwythu i’r mor.
Dihangfa ryfeddol dau lanc.
Croesi’r mor mewn cwch.
Llawenydd yn Nhudweiliog.
Bu tristwch a phryder mawr ym mhentref Tudweiliog, Llyn, y dyddiau
diweddaf oherwydd diftaniad dau fachgen ieuanc mewn cwch yn y mor. Y
bechgyn oedd J. E. Jones 25 oed, a Thomas J. Roberts 16 oed.
Aeth y ddau i’r mor yn y cwch prynhawn Mercher, gan addo dychwelyd
erbyn tri; ond gwelwyd eu cwch yn cael ei ysgubo ymaith i’r mor gan
y gwynt a’r llanw. Bu chwilio mawr amdanynt, ac ofnid eu bod wedi
eu colli.
Tua hanner nos nos Iau, fodd bynnag, cyrhaeddodd y newydd da eu bod
wedi cyrraedd i le o’r enw Kilkeel, yn County Down, Iwerddon, a bydd
llawenydd mawr.
Ymwelodd ein gohebydd ag ardal Tudweiliog bore Gwener ac yr oedd
gwen foddhaus ar wyneb pawb yn y lle.
Pan ymwelais a Mrs. Jones, Wenallt, mam John Ellis Jones ebr ef yr
oedd Mr. Lewis y Ficar,yn bresennol. Yr oedd gwen siriol ar wyneb
Mrs. Jones a dywedodd wrthyf ei bod yn teimlo fel petai rhyw bwn
enfawr wedi ei gymryd oddi ar ei hysgwyddau. Eglurai ei bod heb
gysgu na bwyta am ddeuddydd. “Ond” meddai, “Roeddwn yn teimlo’n sicr
for y bachgen yn fyw o hyd, oblegid yr oedd rhyw lais yn sibrwd yn
fy nghlust, “Peidiwch a phoeni mam, rydan ni yn ddiogel.”
Yr
oedd Mrs. Jones yn hwylio i fynd i’w gwely nos Iau tua hanner nos
pan glywodd lais Mr. D. Griffith, y postfeistr, yn gweiddi yn y
drws, “Hip, Hip, Hwre! Mae’r hogia’n fyw.”
“Gwysgais amdanaf a daethum i lawr i’r gegin ar unwaith,” meddai
Mrs. Jones, a chan ein bod heb fwyta ers dyddiau berwais y tecell, a
mwynhasom bryd blasus mewn llawenydd. Yr oedd y ty bron yn llawn
trwy’r nos o gymdogion, yn cydlawenhau a ni.”
Yn ateb i’n gohebydd
dywedai Mrs. Jones fod ei mab yn gynefin a trin cychod. Yr oedd wedi
dal 1,200 o benwaig gyda’r cwch mewn mis. Yr oedd ei mab yn bur
anturiaethus ac yr oedd hi wedi ei rybuddio i fod yn ofalus gyda’r
cwch. Aeth allan gyda’r cwch tu ag un o’r gloch, ac addawai fod yn
ol erbyn tri.
Y FAM ARALL.
Ymddengys nad oedd Mrs. Roberts, Gwelfor, mam y bachgen Roberts yn
teimlo mor obeithiol. Dyma’r tro cyntaf i’w bachgen hi adael
cartref, ac yn naturiol teimlai Mr. A Mrs. Roberts yn dra phryderus.
Eglurodd Mr. Roberts i’n gohebydd mai newydd gwblhau ei gwrs yn
Ysgol Sir Botwnog yr oedd eu mab. Gan ei fod yn fachgen cyflym yr
oeddynt yn awyddus iddo fynd am gwrs o addusg i’r Brifysgol, ond ni
thalai dim ganddo ef ond mynd i’r mor. Nid oedd ond un ar bymtheg
oed.
Tua hanner dydd dydd Mercher dywedodd wrthynt ei fod yn mynd am dro
i lan y mor ac y deuai yn ol erbyn te. Y peth cyntaf a glywsant
wedyn oedd fod Capt. Griffiths, y Llythyrdy, wedi gweld y cwch yn
cael ei gario i’r mor gan y gwynt a’r llanw a’i fod wedi galw’r
Bywydfad allan.
Nid oedd gan y bechgyn nac arian na bwyd gyda hwy, a mawr oedd
llawenydd y teuluoedd pan dderbyniwyd deligram oddi y bechgyn bore
Gwener yn gofyn iddynt anfon arian i dalu eu cludiad adref, ac yr
oeddynt yn hiraethu am eu gweld. Anfonsant deligram yn ol yn cynnwys
arian a datganiad o lawenydd eu bod yn ddiogel.
Y CWCH.
Sylwodd Mr. Roberts, Gwelfor, fod hanes diddorol i’r cwch oedd gan y
bechgyn. Yr oedd wedi bod yng ngwasanaeth trigolion Enlli yn
nyddiau’r “Brenin” Love Pritchard, ac yr oedd wedi croesi’r culfor
yn llwyddianus mewn pob math o dywydd.
CROESO GARTREF.
Cafodd y ddau fachgen groeso anarferol pan gyraeddasant adref dydd
Sadwrn. Cyraeddasant orsaf Pwllheli tua dau o’r gloch y prynhawn ar
ol cychwyn o Belfast nos Wener. Ymgasglodd torf fawr i’r orsaf i’w
croesawu, ac yr oedd golwg bur flinedig arnynt.
Ymgasglodd trigolion Tudweiliog i’r pentref yn gynnar i ddisgwyl am
y bus, a’r rhai cyntaf a welais yn disgwyl oedd Mrs. Jones, mam
Jones a’r teulu, a sefant ar ben clawdd yr ardd er mwyn bod yn sicr
o fod y rhai cyntaf i weld y bus. Ychydig yn is i lawr yr oedd
rhieni’r bachgen Roberts yn disgwyl yn bryderus
yn yr ardd.
Gan fod y bechgyn wedi eu gwisgo mewn dillad benthyg ac yn gwisgo
capiau a phig gloyw yr oedd golwg ddoniol iawn arnynt a dechreuodd
eu cyfeillion chwerthin dros y lle wrth eu gweld. Yr oedd y
chwerthin hwnnw yn ddatganiad o wir lawenydd y pentrefwyr ar ol
treulio dyddiau o bryder ac ofn.
Disgwyliai Mrs. Jones, mam y perchennog y cwch, yn bryderus tra yr
oedd ei mab yn ysgwyd llaw a chyfeillion ac yn methu mynd ati hi.
Gelwais yn y ty yn ddiweddarach a golygfa drawiadol iawn oedd gweld
yr hen wraig yn paratoi cwpaniad o de i’r mab. Nid oedd croeso i’r
bachgen Roberts fymryn yn llai. Yr oedd ei dad a’i fam a’r
pentrefwyr oll am y cyntaf yn ei gofleidio a’i groesawu.
Mewn ymgom a’n gohebydd dywedodd Jones eu bod wedi cael amser enbyd,
ac mai’r camgymeriad lleiaf yn llywio’r cwch fuasai yn ddigon i’w
hyrddio i ddyfrllyd fedd. Yr oedd y cwch yn cael ei yrru gan y gwynt
a’r llanw ac yn llenwi yn gyflym a dwr. Nid oedd ganddynt ond ei
hetiau i godi’r dwr ohono. Synnai yn arw na buasai’r ddau fywydfad
neu’r llongau a welsant wedi dod o hyd iddynt a hwythau yn chwifio’r
faner goch i ddangos eu bod mewn cyfyngder.
Canmolio’r bechgyn garedigrwydd pobl Iwerddon. Cawsant gyflawnder o
arian, sigarenau a phob math o anrhegion ganddynt, a’r gofal mwyaf.
Yr oeddant hefyd wedi cael cynnig arian mawr am y cwch, ond
gwrthodant ei werthu, ac amgymerodd yr awdurdodau yn Iwerddon a’i
anfon adref iddynt.
************

Y
Cymro, Hydref 13 1971
Chwythodd y
gwynt y ddau i Iwerddon.
Daeth croesi Iwerydd mewn cwch hwylio erbyn hyn yn antur ffasiynol.
Ond sut brofiad fyddai croesi’n gwbl anfwriadol o Gymru i Iwerddon
mewn cwch pysgota agored, heb na hwyl gymwys na pheiriant na phar o
rwyau, ond yn gwbl ar drygaredd y tonnau? Dyna brofiad dau lanc o
Dudweiliog ym Mhen Llyn 38 mlynedd yn ol, a bu un o’r ddau yn dweud
yr hanes wrthyf yn ddiweddar.
Heddiw mae un ohonynt John E. Jones, yn byw yn Tenbury Wells, Sir
Gaerwrangon, ond yn cadw cysylltiad agos a Thudweiliog, lle mae ei
gyd-anturiaethwr, Thomas J. Roberts, yn cadw busnes saer ac
adeiladydd. Llanc pymtheg oed, newydd adael Ysgol Botwnnog, oedd Tom
Roberts ym Mawrh 1933. Fore Mercher, Mawrth 22, gadawodd y ty gan
ddweud wrth ei fam ei fod yn mynd i fferm gyfagos. Ond newidiodd ei
feddwl a cherdded i draeth Porth Cychod gerllaw, lle cyfarfu John
Jones, neu “Jac Wenallt” fel y gelwid ef, llongwr 25 oed, oedd adref
am seibiant.
Roedd ef newydd brynu cwch pysgota, 13 troedfedd o hyd, o’r enw
“Mary” cwch a fu cyn hynny’n eiddo i Love Pritchard, “Brenin” Ynys
Enlli. Gwahoddodd Tom Roberts i fynd allan gydag ef i osod cewyll
dal cimychiad, ac i ffwrdd a hwy, un yn rhwyfo a’r llall wrth y
llyw.
Codi Hwyl
Fel yr aent allan i Fae Caernarfon cryfhai’r gwynt oedd yn chwythu
dros y tir, a rhwng y gwynt a’r llanw caent eu cario allan i’r mor.
Pan ddaeth yn amser troi’n ol canfuwyd fod hynny’n amhosibl.
“Ond doeddan ni ddim yn teimlo mewn peryg mawr”, medd Tom Roberts.
“Roeddan ni’n credu y gallen ei gwneud hi am Sir Fon”.
Roedd mast bychan ar y cwch a chodwyd hwyl-flaen ar hwnnw – hwyl
fechan a fwriedid i gydweithio a’r brif hwyl, petai’r beif hwyl ar
gael. Rhwng y rhwyfo, y llywio a’r hwyl, gybeithient gyrraedd Sir
Fon heb lawer o drafferth.
Goleudy
Yna daeth anffawd. Wrth iddynt daflu cawell dros yr ymyl i
ysgafnhau’r llwyth, aeth un o’r rhwyfau i’r mor i’w chanlyn, gan eu
gadael gydag un rhwyf.
Fel y nosai gwelent olau goleudy Caergybi o’u blaenau, a cheisant
anelu ato. Daethant yn ddigon agos ato i’r mor o’u cwmpas gael ei
oleuno fel dydd, ond er bod nifer o longau o amgylch roedd y cwch yn
rhy fychan i neb ei weld. A suddodd eu calonnau wrth weld y golau’n
dechrau pellau, a sylweddoli eu bod wedi methu’r tir. O’r holl
fordaith dyna’r adeg pan oedd y mor ar ei fwyaf garw, a hyrddid y
cwch bach o flaen mynyddoedd o donnau. Drwy’r nos buont ar drugaredd
y gwynt. Deuai’r dwr i mewn i’r cwch a sbyddid ef allan gyda’r unig
offer oedd ar gael sef het un ohonynt.
Rhy fychan
Gwelsant nifer o longau’n pasio – wedyn y sylweddolodd y ddau eu bod
wedi croesi’r prif lwybr llongau i Lerpwl. Ond roedd y cwch yn rhy
fychan i’r rhain hefyd ei weld, a fwy nag unwaith bu mewn perygl o
gael ei daro ganddynt. Daeth un long deithwyr yn agos iawn atynt a
safodd y ddau ar eu traed yn y cwch gan weiddi nerth eu pennau a
chwifio’n hwyl. Mae’n rhaid i rywun eu clywed, gan i’r long stopio:
yna, er
mawr
siom iddunt, cychwynnodd ar ei ffordd drachefn heb weld dim.
Pan dorrodd y wawr doedd dim affliw o dir i’w weld yn unman, ac
edrychai pethau’n ddrwg. Roedd y ddau bron a rhewi, yn newynog ac yn
wlyb at eu crwyn. Ond y boendod fwyaf oedd syched, a wneid yn waeth
gan flas a losgai eu hwynebau’n ddi-baid. Gwyddent eu bod a’u
trwynau tua’r Gogledd, ond dibynnai eu llwybr yn gyfangwbl ar y
gwynt a doedd ganddynt ddim syniad ymhle roedd y tir agosaf.
Yn ystod y dydd cynhesodd y tywydd. “Roedd na rai ysbeidiau heulog,
mi fedraf deimlo hyd heddiw yr haul yn gynnes ar fy wyneb”, medd Tom
Roberts.
Goleudau
Yn hwyr brynhawn Iau tybient iddynt weld tir ar y gorwel, ond
roeddynt ofn rhoi gormod o sail ar y gred gan iddynt ddychmygu gweld
tir droeon ynghynt yn ystod y fordaith. Pan ddechreuodd nosi, fodd
bynnag, doedd dim dwywaith nad oedd goleuadau i’w gweld yn glir o’u
blaenau. Fel y nesaent gwelent fod dau o’r goleuadau yn fwy llachar
na’r gweddill, fel petaent yn dynodi dwy ochr i hafn, a
phenderfynwyd anelu at y tywyllwch rhyngddynt.
Ond gan y gwynt a’r llanw yr oedd y gair olaf, a chrwyd hwy tua thir
i’r chwith o’r goleuadau. Yn sydyn crafodd y cwch y graean ar y
gwaelod, athrodd drosodd gan ddymchwel y ddau i’r dwr. Rhuthrodd
John Jones am y rhaff a oedd ynghlwm wrth y mast a daliodd ei afael
yn y cwch. Ac er fod cerdded yn gryn gamp ar ol bod yn llonydd yn y
cwch am 36 awr, rywsut neu’i gilydd llwyddodd y ddau i gyrraedd tir
sych.
“Roeddan ni’n gwybod ein bod ni ar dir, ond doedd ganddom ni ddim
syniad lleia yn lle” medd Tom Roberts. “Mi allen fod yn yr Isle of
Man yn ol hynnu a wyddem ni”.
Grisiau
Ar ol crwydro’n simsan ar y traeth yn y tywyllwch, gwelent res o
risiau gwynion yn codi i’r tir, a sylweddoli mai harbwr oedd rhwng y
ddau olau y ceisiwyd llywio’r cwch rhygddynt. Dringasany y grisiau a
chyrraedd ciwstwr o dai, heb wybod eto ym mha wlad yr oeddynt, heb
son am pa bentref. Roedd erbyn hyn wedi deg nos Iau a rhan fwyaf o’r
tai mewn tywyllwch. I lawr wrth yr harbwr roedd ty mawr llawn
goleudau, a bwthyn bach gerllaw a golau yn y lloot. Penderfnwyd
mentro i’r bwthyn. Curwyd ar y drws, a daeth gwraig i’r ffenest i
holi pwy oedd yno. Roedd yn gyndyn i gredu bod ei hymwelwyr newydd
gyrraedd mewn cwch pysgota o Gymru. “Ac erbyn meddwl, mi roedd hi’n
stori go ryfedd”, “Fel petai rhywun yn cyrraedd ty ym Mhen Llyn yn
hwyr y nos a dweud ei fod wedi cyrraedd o Iwerddon”.

Croeso
Agorwyd y drws o’r diwedd a phan welwyd fod eu stori’n wir cawsant
groeso mawr a phryd o fwyd. Hysbyswyd hwy mai Kilkeel yng Ngogledd
Iwerddon oedd y pentref y glaniasant ynddo.
Aed a hwy wedyn i ganolfan ceidwad y glannau sef y ty mawr yr
oeddynt newydd ei weld. Ac yno y trefnwyd i anfon telegram i
Dudweiliog i ddweud bod y ddau’n ddiogel. Disgrifwyd adwaith y
pentref yn
Y Cymro yr wythnos ganlynol: “Yr oedd llawenydd mawr ym
mhentref Tudweiliog ganol nos Iau pan
ddaeth y newydd fod y bechyn
yn ddiogel”. Mr D. Griffith y Postfeistr, a aeth
a’r newyddion da i
gartref un o’r bechgyn. “Mae’r hogiau’n fyw”, oedd ei neges. Yr oedd
y ty bron yn llawn o gymdogion drwy’r nos, yn cydlawenhau. Nid oedd
Mrs Jones mam John wedi anobeithio. “Roeddwn yn teimlo’n sicr bod y bachgen
yn fyw o hyd”, maeddai. “Yr oedd rhyw lais yn sibrwd yn fy nghlust –
peidiwch a phoeni mam, rydan ni’n ddiogel”.
Yn y cyfamser roedd y ddau longwr yn cael eu trin fel dau dywysog
gan bobl Iwerddon. Ar ol cael dillad sych a rhagor o fwyd, aed a hwy
i westy i gysgu’r noson. Doedd ganddynt ddim dima goch o arian
rhyngddynt ond bu’r Gwyddelod yn hynod o hael a doedd hynny’n ddim
problem. Drannoeth aethant yn ol i dy ceidwad y galannau, i gael eu
holi gan hyr y wasg. Yna cawsant lifft i Belffast, ddeugan milltir i
ffwrdd, gan drafeilwr ar foto beic a seicar, a galw ar y ffordd ym
mhentref Newcastle i gael warant i deithio’n ol i Gymru yn rhad ac
am ddim. Gadawsant Belffast am naw nos Wener ym moethusrwydd yr
“Ulster Queen” a chyrraedd Pier Head Lerpwl am 6:30am fore Sadwrn. Y
peth cyntaf a welsant yno oedd eu llun eu hunain ar ddalen flaen
papur newydd.
Cyrraedd Gartref
Cawsant dren i Bwllheli – eto am ddim – a bws adref i Dudweiliog,
gan gyrraedd am bump o’r gloch nos Sadwrn, a chroeso mawr yn eu
haros. Gobeithid trefnu i ddod a’r “Mary” yn ol i Gymru ar long, ond
yn y diwedd gwerthwyd y cwch yn Kilkeel. Roedd yn dal yno ym 1940
pan ymwelodd Tom Roberts a’r pentref, ac yntau erbyn hynny fel ei
gydymaith yn forwr ar longau tipyn mwy. Dyna’i unig ymweliad a’r
pentref er pan laniodd yno mor annisgwyl yn 1933. “Mi hoffwn gael
mynd yno eto, unwaith y bydd yr helyntion drosodd, ond nid mewn cwch
pysgota!.