Beth
amser yn ol fe roeson atgofion morwyn o Fodwrdda ar y wefan, ar y pryd
doedd gynnon ni ddim syniad pwy oedd y forwyn arwahan mai Mrs M Williams o
Rydlios oedd hi ac er holi rhai o wybodusion a hynafgwyr yr ardal,
dirgelwch oedd cymeriad Mrs M Williams. Ond bellach fe wyddom mai Margiad
Tir Glyn oedd hi. Ganwyd Margiad yn Nhai’r Efail, Pencaerau ar Hydref yr
ail 1880 ac oddyno pan yn dair ar ddeg oed aeth i weithio i Fodwrdda at
deulu Jeremiah Griffith, yn ddeunaw oed fe’i dyrchafwyd i swydd ‘house
keeper’. Priododd a Griffith Williams, gwas fferm ac ymgartrefu yng Nglan
yr Afon, Rhydlios. Cafodd Griffith a Margiad bump o blant ond yn drist
iawn bu farw pedwar o’r plant yn ifanc iawn, a phan oedd yn 23ain bu farw
eu merch Alice hefyd. Bu i Margiad fyw i fod yn gant oed, mi oroesodd ei
gwr Griffith o ugain mlynedd. Pan ddathlodd Margiad ei chant oed fe fu
Glyn Russell Owen yn ei chyfweld ac yn ei holi am ei hirhoedledd.:-
‘Ei
chyfrinach hi oedd yfed digonedd o laeth enwyn a bwyta digon o gig moch.
“Ar wahan i hynny, mae’n rhaid i mi gyfaddef na wnaeth gweithio’n galed
ddrwg i neb erioed”, meddai Mrs Williams wrthyf bryd hynny. “Ia mae’r hen
fyd ‘ma wedi mynd yn ddigon rhyfedd drwyddo draw, er na welais i lawer
ohonno; waeth i mi gyfaddef hynny na pheidio. Ond mae petha’ wedi newid yn
arw erbyn heddiw, a ‘dwn i ddim ydy’r cwbwl er gwell ‘chwaith.”

Gweini yn Bodwrdda
Roedd
i Mrs Williams nifer o nodweddion amlwg ac un ohonynt oedd na allai air o
Saesneg, heblaw am Weddi’r Arglwydd. Fuasai waeth i chi Ffrangeg, neu
Tsieinieg o ran hynny, cyn belled ag yr oedd Mrs Margaret Williams yn y
cwestiwn. Ni theithiodd erioed ymhellach na Chaernarfon; ni fu erioed mewn
ysbyty ac i goroni’r cwbwl, dim ond yn ystod ychydig flynyddoedd olaf ei
hoes y bu mewn cysylltiad a meddyg! Roedd ei golwg yn dda iawn hyd y
diwedd hefyd, ac ni fu raid iddi erioed wisgo sbectol.
Brodor
o Bencaerau oedd Mrs Williams ac fel y rhan fwyaf o blant ei chyfnod,
gadawodd ysgol yn dair ar ddeg oed i fynd i weithio ar ffermydd lleol. Yn
ddeunaw oed, dyrchafwyd hi’n ‘housekeeper’ Bodwrdda – eitha anrhydedd bryd
hynny. Ond digon bychan oedd y cyflog. ‘Fedrai Mrs Williams yn ei byw
gofio’n iawn faint a gawsai, ond yn sicr nid oedd ond ychydig bunnoedd y
tymor. “Rhyw oes felly oedd hi ond trwy’r cwbwl ‘roedd pawb yn eitha’
hapus, neu yn trio bod beth bynnag,”meddai.

Tir Glyn
Priododd Mrs Williams pan yn lled ifanc gyda Griffith Williams. Gwas
ffarm, a fu farw ugain mlynedd o’i blaen. Cafodd bump o blant, ond bu farw
pedwar ohonynt pan yn gymharol ifanc. I goroni’r cwbwl, bu farw ei merch,
Alice, pan yn 23 oed.
Un
rheol ym mywyd Mrs Williams, oedd dweud ei phader, Nid oedd yn credu iddi
erioed fethu ei dweud, ar unrhyw noson o’i bywyd. Wrth imi ymadael
erfyniodd yn daer ar i mi alw eto cyn gynted ag y gallwn. “Hwyrach y
byddaf wedi cael cyfle i gorddi erbyn hynny ac y bydd gennym dipyn o laeth
enwyn i chi,” meddai.

Margiad a'r ddydd ei phenblwydd yn
gant oed
Un
peth oedd yn sicr: ‘roedd ganddi ffydd yn y llaeth enwyn hyd y diwedd. Ac
nid Mrs Margaret Williams, Tir Glyn, Aberdaron, yw’r unig un i gredu’n
ddiffuant yn rhinweddau’r ddiod yma’.