Ar 16 Awst 1812 fe briodwyd Jane Nathaniel o Ynys
Enlli a Robert Williams, mab Gegin Fawr, tafarn Aberdaron.
Roedd Sian Nathaniel yn hanu o hen deulu’r
Nathaniel ar yr ynys a Robert yn fab i William Evans (neu William
Bevan fel y galwai ei hun ar gyfnod) ac Elizabeth (gynt Turbridge).
Roedd Sian yn 24 oed a Robert yn 18 ar y pryd. Ymsefydlodd ar yr
ynys a magu teulu yn Hendy, sef dau fab a phedair merch - William
(1813), Nathaniel (1815), Ellen (1818), Elizabeth (1821), Jane
(1826) ac Ann (1829).

Yn y flwyddyn 1812 bu diwygiad ar yr ynys a
ddylanwadodd ar Robert. O ganlyniad dechreuodd gymryd rhan yn
gyhoeddus gan esbonio pennod a chynghori yn y cyfarfodydd gweddïau.
Ond ar ôl rhyw dymor daeth rhywbeth rhyfedd drosto a throdd ei gefn
ar grefydd a pharhau felly am dymor. Yn ystod y cyfnod yma dywedir
iddo golli plentyn (William o bosibl) a bu hynny’n fodd iddo
ddychwelyd i’r gorlan. Etholwyd ef yn flaenor ac yn fuan wedyn
mae’n dechrau cynghori unwaith eto a chael ei dderbyn yn bregethwr
ac yn aelod o Gyfarfod Misol Llyn ac Eifionydd pan gyfarfu hwnnw yn
Llithfaen. Ar 10 Awst 1828 y pregethodd yn Enlli am y tro cyntaf a
bu’n cynnal oedfaon, ysgol Sul a seiadau am dros ddeugain mlynedd, a
hynny’n aml dan amgylchiadau digon anodd a di-gefnogaeth. Cofnoda’r
Parch. Henry Hughes, Bryncir, iddo fod yn pregethu gyda nerth yn
niwygiadau 1849 ac 1859, weithiau nes y byddai’n orfoledd mawr a
Robert yn “neidio a llamu o lawenydd a gorfoledd”.
Hyd y gwyddom ni, dim ond pum punt y flwyddyn a
dderbyniai oddi wrth Henaduriaeth Llyn ac Eifionydd am ei lafur ac
enillai rhyw ychydig drwy bregethu ar y tir mawr. I ychwanegu at
hyn byddai yn amaethu un acer ar ddeg, pysgota, gweithio i wyr y
goleudy a gwneud unrhyw waith arall oedd ar gael.
Erbyn 1874 teimlai’r Henaduriaeth ei fod yn
heneiddio ac i raddau yn analluog a bod cyflwr yr eglwys yn
anfoddhaol iawn. Penodwyd y Parch. W.T. Jones yn genhadwr ar yr ynys
a chafodd groeso siriol a charedig gan Robert Williams a’r ynyswyr.
Fore Sul y pedwerydd o Ebrill y flwyddyn ganlynol (1875) bu farw
Robert Williams wedi cystudd byr o dri diwrnod. Roedd yn pregethu
yn y capel y Sul cyn ei farwolaeth. Ar yr wythfed o Ebrill fe’i
claddwyd ym mynwent yr ynys yn yr un bedd â Sian ei wraig, a fu farw
yn 1872.
Mae disgrifiad ohono fel “gwr hynaws ei dymer,
cadarn ei gyfansoddiad” a chanddo “ddwy law fawr galed, ewynnau fel
gefynnau heyrn a doedd o ddim yn gwybod beth oedd pryder nac ofn.
Cadwai ei ben ymhob enbydrwydd ac roedd yn abl i gyflawni unrhyw
waith trwm”. O ran pryd a gwedd edrychai braidd yn ynysig a
thramoraidd.
Mae sawl chwedl am ei gryfder. Dywedir un tro i
faharen ddisgyn oddi ar graig i’r môr ac iddo neidio i mewn ar ei
ôl, gafael ynddo a dod ag ef i’r lan.
Dro arall, wrth fynd i’w long yn Lerpwl gyda chwd
o halen ar gyfrwy ar ei ysgwyddau, fe syrthiodd i’r môr rhwng dwy
long ac yna fe nofiodd i’r lan heb i’r halen symud oddi ar y cyfrwy!
Pa ryfedd, felly, i’w wyrion Thomos, Carreg Bach,
a Harri, Cristin Isaf, y ceir eu hanes yn Y Pwrs a Y Storm
mewn man arall ar y wefan hon, fod yn barod i wynebu pob sialens?
Er iddo gael ei fagu mewn tafarn, yr oedd yn
ddirwestwr selog. Mae sôn am gwsmeriaid y dafarn yn rhoi diod i’w
dad er mwyn ei weld yn gwawdio ei fab. Un nos Sul, pregethai ym
Mhencaerau a chondemniai’r yfed fyddai yn ffair Aberdaron
drannoeth. Ar ei ffordd adref ddiwrnod y ffair, galwodd yn Gegin
Fawr ond chafodd o ddim croeso, dim ond ei daflu allan i’r ffordd.
Roedd pobl y “tir mawr” yn edrych arno fel esgob,
ac weithiau fel brenin yr ynys. Doedd dim sail i hynny gan mai
teulu Cristin oedd yn yr olyniaeth frenhinol. Ond, wrth bregethu ar
ddirwest ym Metws-y-coed, dywed Robert fod y brenin a’r frenhines yn
y wlad lle’r oedd o yn byw wedi arwyddo dirwest. Eglurodd, er
syndod i bawb, mai Ynys Enlli oedd y wlad honno ac mai ef a’i wraig
Sian oedd y brenin a’r frenhines.
Un bore Sul, pan oedd yn pregethu ym Mhencaerau,
roedd y ceisbwl yn eistedd yn y gynulleidfa gyda gwys yn ei boced
i’w chyflwyno i Robert Williams, fel cynrychiolydd yr ynys am Dreth
y Tlodion,. Ymdrechwyd sawl gwaith o’r blaen i’w gweinyddu ond
llwyddai i’w hosgoi bob tro. Y tro hwn bwriadai’r ceisbwl ei
chyflwyno iddo ar ddiwedd yr oedfa ond perswadiwyd ef y byddai
hynny’n torri ar sancteiddrwydd y Sul ac y byddai’n ddoethach aros
tan y bore. Cai gyfle bryd hynny wrth i Robert ddychwelyd i’r ynys.
Erbyn hynny roedd Robert wedi mynd i guddio hyd nes roedd y perygl
drosodd.
Arhosodd tri o’i blant, Nathaniel, Ellen ac Ann,
ar yr ynys a magu eu teuluoedd yno.
I Aberdaron yr aeth Elizabeth a phriodi Robert
Evans o blwyf Llanengan a magu ei theulu yn y pentref i ddechrau ac
yna ym Mhlas Minffordd a chrwydrodd ei disgynyddion hi i wahanol
rannau o Gymru a Lloegr. Yn hogyn ifanc aeth Robert, eu mab hynaf,
i fyw at ei daid a’i nain, Robert a Sian Williams yn Hendy, Enlli, a
gwneud ei gartref yno.
I Abersoch yr aeth Jane a magu ei theulu;
cafodd brofedigaeth fawr o golli ei merch a’i mab-yng-nghyfraith yn
ifanc iawn o fewn dwy flynedd i’w gilydd. Wedi ei marwolaeth hi ei
hun ddwy flynedd yn ddiweddarach, gadawyd ei hwyres wyth oed yn
amddifad.
Priododd Nathaniel gyda Mary Williams o Aberdaron
a chartrefu yn Carreg Bach. Bu iddynt ddau fab a merch. Bu Robert,
eu mab hynaf farw ar y môr, arhosodd Thomas gartref i weithio. Bu
Jane oddi ar yr ynys am gyfnod. Mae llun ohoni ar hen gardiau post
yn sefyll o flaen Carreg Bach, sy’n cael ei ddisgrifio fel Miss
Jane Williams’ cottage.
Gyda chymydog, sef Evan Williams, Cristin, y
priododd Ellen a bu iddynt ddau fab a merch - Harri, William a
Mari. Aros yn y cartref, Cristin Isaf, heb briodi wnaeth y tri.
Wedi i Mari anafu ei choes, ei thorri mae’n debyg, y brodyr yn dweud
wrth y meddyg ei bod wedi mynd yn rhy hen i roi llawer o gostau
arni! Bu Harri farw ar yr ynys yn ddisymwth un diwrnod “wedi cael
crys glân ac wy wedi ei ferwi i frecwast” yn ôl Mari. Cario glo o’r
Cafn y byddai William, yn gwisgo giard wats aur bob amser. Arhosodd
William a Mari ar yr ynys hyd 1925 pryd y gadawodd y rhan fwyaf o’r
hen deuluoedd yr ynys. Roeddent wedi mynd yn ddiymgeledd iawn ac
aethant i fyw i Tremnant, Aberdaron. Dyma’r tro cyntaf ers pum
mlynedd ar hugain i Mari groesi i’r tir mawr a bu farw yn fuan
wedyn yn 1926. Wedi ei marw aeth William i fyw at ei gyfnither,
Jane, i Hendre Bach, Rhosfawr hyd ei farw yntau yn 1929. Mae
adroddiad yn yr Herald Cymraeg ei fod yn ymgomiwr diddan ac wrth ei
fodd yn hel atgofion am Enlli. Ddiwrnod ei angladd yn Aberdaron
roedd hi’n stormus a gwlyb iawn.
Priododd Ann gyda Rees Griffith, capten llong
wedi ei fagu yn Brynmawr, Anelog, a chartrefu yn Hendy gyda Robert
Williams. Ganwyd iddynt dri o blant, Ruth, William a Jane. Yn
Abersoch y cartrefodd Ruth, priodi hefo John Henry Jones, cadw siop
a magu ei theulu yno. Wnaeth William ddim priodi tan wedi i’w fam
farw yn 1910. Ei wraig oedd
Jane Jones, Gladstone, Aberdaron. Doedd William ddim yn hapus
oherwydd iddo gael trafferthion i gael meddyg at ei fam a
phenderfynodd ef, Jane ei wraig a Robert ei gefnder adael yr ynys
tua 1912 a symud i fyw i Abersoch lle buont fyw gweddill eu hoes.
Mae’n debyg yr edrychid ar Jane y ferch ieuengaf
fel “hen ferch” gan ei bod dros 30 oed a heb briodi. Prun bynnag, fe
ddaeth ciwpid heibio yn annisgwyl un diwrnod. Aeth Edward Owen o
Lanbedrog drosodd i ymweld â theulu a mynd a William Roberts, Hendre
Bach, Rhosfawr, hefo fo. Pan gyrhaeddwyd Aberdaron roedd gwr Plas
Bach, Ynys Enlli, o’i go gan fod y seiri oedd i ddod yno i adeiladu
ty gwair iddo yn feddw gaib yn Aberdaron. Ond tawelodd William ef
gan ddweud eu bod hwy eu dau yn seiri ac y buasent yn adeiladu’r ty
gwair iddo, dim ond cael dillad addas ac offer. Buont yno am dair
wythnos, ac erbyn y diwedd roedd William wedi dod o hyd i gariad ac
o dipyn i beth roedd o a Jane, Hendy, am briodi. Fu’r garwriaeth
ddim yn un esmwyth. Methodistiaid Calfinaidd oedd teulu Jane a
Bedyddwyr oedd teulu William ac o ganlyniad roedd cryn wrthwynebiad
oddi wrth y ddau deulu. Ond y sôn ydi fod mwy o wrthwynebiad o du
Ann, mam Jane (roedd ei thad wedi marw erbyn hyn). Fe dramgwyddodd
Jane yn fawr iawn yn erbyn ei mam ac mae’n debyg i hyn gael ei
adlewyrchu yn ei hetifeddiaeth. Prun bynnag fe briododd William a
Jane yng Nghapel y Bwlch, Llanengan ar 9 Medi 1903. Rai dyddiau
wedi’r briodas fe aeth Jane yn ôl i Enlli a William i Undeb y
Bedyddwyr yn Lerpwl. Bu Jane yn byw ar yr ynys am ryw dair blynedd
wedi priodi a symud i Hendre Bach cyn geni ei mab cyntaf, Rhys (neu
Rees fel y cofnodwyd yr enedigaeth). Erbyn hyn roedd ei
mam-yng-nghyfraith wedi marw a disgynnodd cyfrifoldeb y cartref
hwnnw arni hi. Fe ymunodd Jane â’r Bedyddwyr a bron na allech
ddweud iddi ddod yn fwy o Fedyddreg na’i gwr! Ganwyd mab arall
iddynt, William Nathaniel, cyn i’w mam farw ond nid oes sôn iddi
fynd yn ôl i’r ynys hyd farwolaeth
ei mam yn 1910. Daeth telegram i swyddfa bost Fourcrosses yn ei
hysbysu o farwolaeth ei mam a threfnwyd cwch i’w chyfarfod yn
Ffynnon Fair i fynd a hi i’r ynys. Bu yn ôl yno wedyn i gynorthwyo
William a Mari, Carreg Bach, i fudo i’r “tir mawr”. Erbyn hynny
roedd ganddi fab arall tua deuddeg oed, Robert William (Bob) a
gofiai fynd yno hefo hi i glirio.
Ond anghofiodd Jane, fy nain, mo’i gwreiddiau;
oherwydd ar y mur gyferbyn a lle’r eisteddai wrth y bwrdd i fwyta a
gwnïo, roedd llun mawr o’r ynys a dynnwyd o’r awyr ac i’w weld yn
amlwg wrth ddod i mewn i’r ystafell.
Nan Parri