DYDDIO HEN DAI CYMREIG – ALLWCH
CHI HELPU?
Mae'r prosiect newydd cyffrous yma'n
digwydd yn Llŷn ac mewn rhannau eraill o Wynedd yng ngwanwyn 2010.
Codwyd arian o Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Llŷn, Cronfa Datblygu
Gwledig Cist Gwynedd, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a grantiau eraill.
YN AWR rydym angen ADEILADAU HEN ychwanegol yr hoffai eu perchnogion
eu hystyried i'w dyddio yn RHAD AC AM DDIM. Dylai'r adeiladau fod yn
rhai yr ystyrir a godwyd cyn dechrau'r 1600au; dylent gynnwys coed
gwreiddiol, coed a thrawstiau to os yn bosibl. Rydym yn defnyddio
dendrocronolegwyr arbenigol i gymryd samplau ar gyfer dyddiad
blwyddgylch; yna bydd arbenigwyr eraill yn paratoi cofnod o'r
adeilad a'i goed y byddai'r perchnogion yn ei dderbyn yn rhad ac am
ddim. Mae croeso i chi gysylltu'n fuan os hoffech chi gael rhagor o
wybodaeth!
Rydym hefyd angen rhagor o WIRFODDOLWYR
i ddod am ddiwrnod o hyfforddiant RHAD AC AM DDIM gan weithio wedyn
mewn grwpiau bychain, gyda chymorth, er mwyn darganfod hanes y tai
hyn a'u teuluoedd, drwy wneud ymchwil ddogfennol. Bydd y diwrnod
hyfforddiant nesaf yng Ngwynedd ar Ionawr 11 2010.
Yn ddiweddarach byddwn angen cymorth â’n gwefan, ein harddangosfeydd,
deunyddiau ar gyfer ysgolion, paratoi a rhoi sgyrsiau a chynnal
teithiau tywysedig. Wedi hynny bydd yr wybodaeth ar gael mewn
taflenni, sgyrsiau ac ymweliadau ag unigolion, cymunedau ac ysgolion
lleol ac ymwelwyr.
Mae gennym Gylchlythyr
chwarterol, cymdeithas Cyfeillion "Prosiect Dendro Gogledd Orllewin
Cymru", ac rydym ar fin lansio gwefan (www.datingoldwelsh
houses.co.uk). Mae'r holl ddeunyddiau a argraffwn yn ddwyieithog.
Am RAGOR O WYBODAETH cysylltwch â ni ar
datingoldwelshhouses@uwclub.net