
Ffergi Bach / Ferguson TE-A-20
~~~~~~~~
Mecaneg
gaseg geisiwyd – i gario
Yd a
gweiriau dorrwyd,
A dygyn
y redigwyd,
Un go
lew yw’r Ffergi Lwyd.
|
~~~~~~~~~

Mae'r hen Ffergi Bach yn chwe deg oed leni, ac i
ddathlu yr achlysur fawr, da ni am roi rhywfaint o'i hanes ar y we.
Ers yr olwyn, ddaru dim erioed chwyldroi amaethu yn
Llyn gymaint a'r hen Ffergi Bach. Am y tro cyntaf roedd tractor o
fewn cyrraedd pocedi ffermwyr bach Llyn, cyn hyn dim ond llond llaw o'r
ffermydd mwyaf fel Penarfynydd oedd gan dractors fel y Fordson Major.
Cynlluniwyd y tractor yn bwrpasol ar gyfer ffermydd bychain gan Harry
Ferguson a buan iawn ar ol y Rhyfel yn 1946 daeth y ffergi bach gyntaf ar
y farchnad ac roedd yn llwyddiant ysgubol. A hyd heddiw mae llawer ohonynt
yn dal i fynd, ar hyd ac ar draws cefn gwlad Llyn.
*********
|
Llyfr y Ffergi Bach
Llyfr y Gwydd
Llyfr Torrwr Gwellt
Hanes y Ffergi
Bach
Lluniau y Ffergi Bach
Dolenau
Tractor i'r Saint 1956
*********

Adnewyddu Ffergi Bach gan Aled Williams
"Tegwen"
"Lleucu"
**********
Diolch yn fawr i Mr C Hughes am Llun, JC 9584