Dylanwad Celtaidd
Cofiaf bobl yn dweud am adeg y rhyfel cyfreithiol rhwng Ferguson a Ford:
‘Dyn ar y naw ydy’r Harry Ferguson yna’. Ac yn wir, mi oedd o. Mae digon
o’i hanes wedi ei gofnodi’n helaeth ac mae llyfr da amdano gan Colin
Fraser. Dylwn nodi ysywaeth mai Celt penderfynnol oedd Harry a byddai
pwrpas i bob
dim a gynlluniai. ‘Roedd yn berson gydag athrylith anhygoel a byddai’n
cario’r syniad mai trwy roi celfi hawdd eu trin ac effeithiol i
amaethwyr y gellid adfer ynysoedd Prydain o effeithiau’r Ail Ryfel Byd.
Rhai o rinweddau’r Ffergi
Daeth y peiriant bach blaengar hwn (Y TE20 ‘Tractor England 20 hp) yn
boblogaidd dros ben yng Nghymru ac yn enwedig yn Llyn. Yn ysgafn ar y
tir, ‘roedd hwn yn gallu gwneud llawer mwy na dim ond tynnu. Y ‘Ferguson
System’ – neu’r patent ‘3-point linkage’ oedd ei rinwedd mawr, wrth
reswm, ond ‘roedd yn ddigon sionc
a hyblyg
ar gyfer gwaith ffermydd bach mynyddig, yn enwedig. ‘Roedd
llawer mwy o ffermydd bâch yn Llyn yn oes aur y Ffergi nac y sydd
heddiw!
Y Profiad Melys
Ar
dir Treddafydd – cartref fy ffrind Trefor y cefais fy misoedd mêl â’r
TEA 20 oedd yno. Gwirioni hefo’r blwch gêrs a’r safle ‘S’ i danio hefo’r
lifar! Dim angen troi’r injan hefo llaw! Wedyn yr hydraulics llawn swyn,
y ‘linkage’, y PTO a’r brêcs annibynol. A’r wên fach siriol ar y bonet
bob amser yn codi calon. Cariad bach o beiriant- er mai dyn Ffordan Bach
oeddwn i!
Y cymhelliad
Felly pam mynd ati i
adnewyddu llwyth o fetel naddwyd gan rwd a gwaith dros hanner canrif?
Mae’r prif resymau wedi eu nodi eisoes.
·
Parch at arloeswr o Gelt
·
Nostalgia
·
Adfer gwrthrych hanesyddol ‘o safn y bedd’
·
Diddordeb peiriannyddol
Yn Llyfr Pirsig, sef ‘Zen and
the art of Motorcycle Maintenance’ cyfeirir yn gryf at y byd ‘clasurol’
yn cyferbynnu a’r ‘rhamantaidd’. Rhesymau rhamantus sydd yn gyrru rhywun
ymlaen yn y lle cyntaf i gysidro prosiect fel hyn (tebyg i briodas?).
Wedyn rhaid dod a’r clasurol i rym wrth fynd i’r afael a’r gwaith – yr
ochr dechnegol, megis (a gwario arian!).
Y bwriad gwreiddiol
Mewn llecyn tawel yn Llyn, safai
Ffergi Lwyd, fu’n segur ers blynyddoedd, mewn pwll o olew yng nghongl
ysgubor Peredur, fy mrawd-yng-nghyfraith, ac ‘roedd o angen ei lle. Ar
yr un pryd, dymunai fy ffrind, Arwel, gael ‘tractor bach’ ar gyfer
gwaith ysgafn o amgylch ei dir. Daeth cymhelliad arall, felly, i helpu
dau berson drwy gael y peiriant bach yma i weithio. Dygwyd a’r llwyth
trist i’r Gelli ddiwedd Medi 2003. Drwy’r adeg, ‘roeddwn yn ymwybodol y
dylwn gael y tractor i weithio i Arwel erbyn tymor y Haf 2004. Tua 9 mis
oedd gennyf, felly. Yn wir, cafwyd tân arni erbyn Mis Gorffennaf, ond
nid dyna oedd diwedd y stori.
Yr enw
Yn ystod y cyfnod atgyweirio,
penderfynnodd fy ngwraig mai benywaidd oedd y tractor bach ddaeth i’n
rhan. Ei rheswm am ddod i’r casgliad hwnnw oedd y ffaith fy mod yn
treulio gymaint o amser yn ei chwmni. ‘Sut mae Tegwen heddiw?’ , meddai,
pan ddychwelwn adref wedi blino’n lân.
Yr hanes prin
Nid oedd na llyfr cofrestru na
phapur wedi bod gyda hi ers blynyddoedd. ‘Roedd darn o rif arni, sef HUN
*8*. Er y rhif hwn, nid yn Sir Ddinbych y dechreuodd ei gyrfa ond ym
Maentwrog, Sir Feirionnydd. Wedyn daeth yn nes i Lyn, sef ger y Lôn Goed
yn Eifionnydd lle bu’n ‘rhwygo’r Gwanwyn pêr o’r pridd’ – meddan nhw.
Pan ddaeth i Lyn, yr hanes oedd fod yr injan ei hun mewn ‘cyflwr go lew’.
TEF487503 yw rhif tractor Tegwen hefo peiriant diesel pedair silindr o
wnaethuriad ‘Standard’ – dyddiedig 22-11-55. Adeliadwyd y Tractor ar y
27ian o Ragfyr 1955. Mae Tegwen wedi ei chofrestru gyda’r DVLA gydag
‘age-related number’ gan nad oedd hanes am yr HUN *8* .
Yn gyffredinol
Nid
oedd rhan ôl (echel a hydraulics) Tegwen yn wreiddiol - yn dyddio o
1953, ac ni ddaeth oddiar dractor diesel, chwaith.
‘Roedd rhwd wedi gafael ym mhopeth – yn enwedig ar y rhan blaen. Ac
erbyn diwedd y prosiect, teflais rai pwcedeidiau o’r ‘ferrous oxide’
coch ymaith. ‘Angle grinder’ a ‘wire wheel’ oed y prif erfyn yn y
dechrau. Euthum drwy 7 o olwynion felly ac un ‘angle grinder’ yn
y broses.
Credaf fod y tractor wedi troi drosodd ar un adeg.
Gobeithio
na chafodd neb niwed. ‘Roedd y darn tro ar y manifold wedi torri, y llyw
wedi plygu a tholciau go hegar ar y bonet.
Adfer
a chadw’ darnau gwreiddiol oedd y bwriad ar y dechrau – ond rhaid oedd
cyfaddawdu yn hyn o beth a phwyso amser a safon adfer yn erbyn pris
darnau hanfodol newydd. Gellir gwario arian mawr yn archebu popeth yn
newydd – a mae rhai yn gwneud hynny. Ym ffodus, mae modd cael darnau
ail-law addas yn lleol. Rhyfeddais faint o gysylltiadau a ffrindiau
newydd a gefais yn ystod yr ymgyrch yma ac mor barod oedd pobl i gynnig
cyngor lle oedd angen.
Fy
marn i yw mai peiriant i weithio ydyw tractor. Rhaid iddi fod yn
ddibynadwy ond dylai ddangos ychydig o greithiau fel tyst i’w hymdrech
ar ran dyn.
Gan
fod y Gaeaf o’m blaen, tynnu pob peth (heblaw’r injan) i ddarnau a wnes
gan eu glanhau a’u trwsio a’u paentio yn y gweithdy acw. ‘Roedd y darnau
troi o’r injan i’r ‘half-shafts’ yn rhwydd ddigon, ond, yn wir, rhaid
oedd rhyddhau pob peth arall. Gan weithio bron bob gyda’r nos a llawer o
benwythnosau, cymerodd hyn tan y Gwanwyn i’w gyflawni. Yn ogystal a
chael cyfarwyddid gan hogaiu Holland-Brand, bum yn ffodus cael benthyg
llawlyfr swyddogol i’r TE20 a allwn gopîo ohono fel y mynnwn.
Yr injan – y tro cyntaf
Yn wir,‘roedd modd troi’r injan
gyda handlen, a theimlid ‘compression’ go lew. Penderfynwyd y dylid
ceisio ei thanio i’w hasesu heb wneud gwaith mawr arni. Wedi tynnu’r
manifold, gwelwn fod cryn dipyn o garbon yn ‘inlet port’ silindr rhif 3.
‘O diar, coesau falfiau’, meddwn innau gan ei lanhau a’i roi o fy meddwl.
Rhaid oedd cael darn tro newydd i gysylltu’r biben exhaust (hefyd yn
newydd). Newidiwyd yr oel a’r ‘filters’ i gyd, wrth gwrs ac ychydig iawn
o fetel a gafwyd yn waelod y swmp. Hefyd caed thermostat a darnau rwber
newydd i gyd – dim cyfaddawdu yn fanno! Gosodwyd ‘Timing Chain’ newydd
yn ogystal a sêl olew a ‘gaskets’ a setiwyd y ‘tappets’ yn ôl y llawfyfr.
Dyma restr o’r
eitmau cysylltiedig gafodd sylw cyn ei thanio:-
Eitem
Gwaith
‘Throttle linkages’
Gwneud darnau newydd a gosod 30% ail-law
Peipiau tanwydd
Gosod tua 60% newydd ac un tap newydd.
Gwifrau (‘Looms’)
Gwneud y cwbl i fyny o’r newydd
‘Voltage regulator’
Cael un ail-law i ddechrau, wedyn un newydd
‘Ammeter’ Gosod un ail-law wyneb gwyn
gefais gan Siôn Williams o Fodedern.
‘Starter Motor’
Glanhau a gosod ‘bushes’ a ‘brushes’ newydd
Gosod ‘Armoured Cable’ ail-law bendigedig o’r batri. Mae cebl cryf a
chysylltydd da yn hanfodol i egni’r batri gyrraedd y peiriant
tanio yn ei lawn anterth.
‘Solenoid’ Newydd – gwneud ‘ballast
system’ i fyny hefo ‘relay’ a resistor.
Pilot Switch’ Trwsiwyd hwn i ddechrau – ond
eto cael un newydd oedd raid yn y diwedd. Rhyddhawyd y botwm ar ochr y
blwch gêrs sydd yn rhaid ei wasgu i alluogi’r lifar gêr fynd yn ei flaen
i wthio’r ‘Pilot Switch’.
‘Dynamo’ ‘Roedd plât cefn hwn wedi
cancro drwodd. Cefais blât gan ffrind ac ail-adeiladwyd y cwbl a
gosodwyd ‘brushes’ newydd
‘Radiator’
‘Brazing’ newydd a thrwsio tyllau – cymerodd
3 wythnos i’w gael yn iawn. Llafur cariad!
Tanc Diesel (Prif) Pot pupur – defnyddio techneg tincar a
hylif selio bendigedig o’r enw ‘Slosh’. Proses hir eto.
Tanc Diesel (Aux.) Hwn yn yr un stâd, ond daeth i siâp
gydag amynedd.
’Lift pump’ Er fod y gwreiddiol yn
gweithio’n dda ar ôl cael diaphragm, bu raid cael un newydd yn y diwedd
gan i mi fethu i’w gael i beidio gollwng oel o’r ‘crankcase’.
‘Filter housings’ Gwneud darnau i rhain ar y ‘lathe’
‘Half-compression’ Adeiladu’r system yma i fyny drwy
wneud darnau chael rhai pethau ail-law. Anodd oedd cael gwybodaeth
manwl ar fecanwaith hwn ar y dechrau.
‘Ki-gass’ Cael y pwmp bach del i
wneud ei waith yn chwistrellu diesel ar ben gwresogydd yn y manifold er
mwyn hwyluso’r tanio mewn tywydd oer.
‘Roedd y ddau beth yma yn ddefnyddiol ar y dechrau, ond nid oes eu
hangen mwyach.
Tanio!
Ym Mis Gorfennaf 2004 ddaeth
dydd y tanio! Wedi bustachu a chrafu pen a gor-ddefnyddio’r Ki-gass ac
ati, pesychodd Tegwen a daeth peiriant Sir Black o’r Standard Motor
Company yn fyw eto yng nghanol arogl a swn. Yn wir, ‘roedd hi’n tician
drosodd yn bur reolaidd ar ôl ychydig a’r pedair silindr yn gyharol
gyfartal – fel miwsig i’r glust. Wedi gweld fod y ‘clutch’ yn gweithio,
cychwynnwyd fynd hyd yr iard yn ôl
ac ymlaen. Ond pan gynhesodd i fyny –
daeth gofidiau i’m rhan!
Nid yn unig ‘roedd mwg glâs yn
amlwg, ‘roedd hi’n chwthu drwy’r ‘breather’ yn o ddrwg. ‘Valve guides,
bores & rings’ oedd yn mynd drwy fy meddwl. ‘Roedd neges y carbon yn y
manifold yn ddigon clir ‘rwan, hefyd! ‘Roedd pwysedd oel eithaf da, a’r
‘bearings’ yn amlwg yn o lew, felly, ond ymhen amser, daeth y swn cnocio
mwyaf dychrynllyd a dim ond tri silindr yn tanio. ‘Diesel Knock’, os
clywais i erioed, yn dangos fod un o’r injectors yn chwistrellu hylif
diesel yn lle nwy ac yn achosi i’r pwysedd yn y silindr godi’n andros o
uchel.
Diwrnod rhyfedd – y gorfoledd o
lwyddiant y tanio’n troi’n ofid am gyflwr yr injan. ‘Nid da lle gellir
gwell’, meddai’r Hên Ddewyrth yn Ysgol Rhiw, felly penderfynnais wneud
gwaith iawn ar yr injan. Archebais i’r cwbl o’r darnau – fel fod pob un
dim ond y ‘casing’ a’r ‘rocker arms’ yn newydd spon. Rhoddais y gwaith o
ail-adeiladu’r injan yn nwylo arbenigwr – teimlwn fod angen taclau
pwrpasol i osod y ‘liners’ ac ati heb sôn am drin y ‘crankshaft’. ‘Roedd
hwnnw yn dal ar y maint gwreiddiol ac aed ac ef i lawr – 0.010 modfedd.
Yr injan – yr ail gynnig!
Felly yn ysgafnach fy mhoced ond
gydag aspri newydd, gosodais yr injan yn ôl. Cefais gymorth hanfodol
ffrind, sef Theo Kamink, yn wreiddiol o’r Iseldiroedd, yn arbenigwr ar
sustemau diesel a chanddo barch at Harry Ferguson, i gael yr ‘injection
system’ i drefn:
Eitem
Gwaith
‘Injector pump’ Diaphragm newydd a glanhau ei ‘filter’
Dyma galon y peiriant, wedi’r cwbl. Gwnaethom ‘rig’ gyda’n gilydd yn
gweithio ar ‘lathe’ i gael y ‘phasing’ a’r ‘calibration’ yn berffaith.
Wedyn setio’r ‘spill timing’ – yn well na’r llawlyfr!
‘Injectors’ ‘Roedd y ‘rig’ yma hefyd yn
profi fod chwistrell rhain yn gywir ar ôl eu glanhau a’u setio i fyny.
‘Roedd Theo yn ‘polishio’ y ‘pitons’ yn ysgafn rhag iddynt sticio fel
o’r blaen ac achosi’r cnocio dychrynllyd. Mae hi’n hollbwysig rhoi
washers copr newydd pan yn ail-osod rhain.
Wedi gosod y pwmp yn ôl, ‘roedd
gan Theo dechneg arbennig i gael y’spill timing’ yn hollol berffaith.
Wedi lleoli’r ‘flywheel’ hefo bar metel drwy’r twll arbennig yn y
‘casing’, defnyddiai nodwydd chwistrellu fain wedi ei gosod ar biben
rhif 1 i ddangos, yn gywir iawn, pryd oedd y diesel yn stopio ar ben y
strôc ac yn dangos lleoliad cywir y pwmp cyn tynhau ei bowltiau’n ofalus.
Mae pum munud yn gweithio yng
nghwmni dyn fel Theo yn werth tymor mewn coleg! Er yn deallt ein gilydd
i’r dim o ran peirianneg, byddai cyfathrebu ieithyddol yn fratiog
weithiau pan fyddem yn cynhyrfu!
Wel
cynhyrfu wnaethom pan daniodd yr ‘injan newydd’ ar y troead cyntaf. Dim
mwg na chwthu. Pwysedd oel perffaith. Swn bendigedig. Fel perffeithydd,
mynnodd Theo wneud ‘bush’ newydd ar ran ôl pwmp oedd yn allweddol i
reoli troi’n araf (ticio drosodd) dan reolaeth iawn.
Bywyd hamddenol braf mae Tegwen
yn gael – a ‘rwan, ar ôl bron i ddwy flynedd, mae hi wedi ‘rhedeg i mewn’
yn iawn.
Y Blwch gêrs
Heblaw fod y botwm diogelwch
tanio eisiau ei ryddhau, ‘roedd cyflwr hwn yn rhyfeddol o dda. Cafodd
sêl oel a phlât ‘clutch’ newydd – a lifar gêr ail law gwell. OND –‘roedd
un dirgelwch ynglyn a’r bocs: ‘Roedd rhywyn wedi torri twll hir-sgwar yn
y ‘casing’ tu ôl i’r clutch. I be’ gebyst, dywedwch? Efallai i geisio
trin y ‘clutch’ neu i roi spring dychwelyd yn ei le – ‘roedd un ohonynt
ar goll. ‘Roedd gwaelod y ‘clutch housing’ yn llawn graean a thywod –
afiach iawn. Cauwyd y twll, wrth gwrs.
Y Blwch llywio
‘Roedd hwn yn rhydd fel ffyst
ond gallwyd ei setio’n berffaith heb drafferth mawr. Cafodd yntau sêliau
oel newydd. I osod rheini heb dynny’r ‘drop arms’ i ffwrdd, gellid
grindio lwmpyn bach o fetel oddiar ysgwydd pob braich.
Y sustem hydrolig
Pleser pur oedd cael hwn i
weithio a darganfod sut oedd yr hên Harry wedi mynd ati. Rhaid oedd
rhyddhau popeth symudol o’i gwmpas yn cynnwys y lifar, y spring fawr a’i
rodan a’r ‘linkages’ i gyd.
Y tu mewn, ‘roedd
hi’n foddfa o slwj llwyd a’r darn ‘T’ o’r ‘oscillating control valve’
wedi torri’n rhydd a neidio o dan y ‘crown wheel’. Cafwyd ‘gaskets’
newydd i’r pwmp a ‘control valve’ newydd. Ar ôl glanhau pob dim, ac ail
adeiladu’r pwmp, gwelwyd nad oedd y sustem, yn cynnwys y piston, yn
gollwng pwysedd yn ormodol ac ei fod yn ddigon da am y tro heb wario
arian mawr.
Yr echelydd ôl
‘Roedd rhain yn ddi-fai a’r sêl
oel yn hollol effeithiol. Rhaid oedd rhoi powlten ‘lower link’ newydd ar
un ochr gan fod yr hen un wedi gwisgo’n ddrwg ac yn gollwng oel ar lawr.
Dyna achosodd y pwll yn ysgubor Peredur!
Yr echel flaen
Truenus iawn oedd cyflwr hon a
chefais un ail-law gyda pob ‘bearing’ ynddo bron fel newydd gan Siôn
Williams eto.
Y
Brêcs
‘Roedd cryn dipyn o waith yma –
rhyddhau, glanhau a seimo. ‘Brake-shoes’ newydd osodwyd hefyd.
Sustem ‘floating cam’ sydd gan Tegwen.
Y gwaith tun
Yn cynnwys yr olwynion, bu cryn
ddefnydd o’r ‘grinder & wire wheel’ i gael trefn yma. Curwyd tolciau’r
bonet allan. Trwsiwyd y ‘wings’ i ddechrau – wedyn cefais groen newydd
iddynt. Rhaid oedd weldio ychydig ar y sêt.
Y
paentio
‘Roedd y darnau adferwyd dros y
Gaeaf i gyd wedi cael côt cyntaf a nifer o gotiau acrylic yn
barod. Felly pleser pur eto oedd cael y ‘compressor’ allan a gwneud yr
un fath i’r corf gan ddechrau yn y tu ôl a gweithio ymlaen cyn gosod
popeth yn ôl yn ei le.
Aled a Tegwen
Mae Holland-Brand yn traethu’n
helaeth am yr union lliw llwyd iawn i’w ddefnyddio, a phrynais duniau
o’i paent hwy gyda llun Ffergi arnynt – a hynny ar ôl i mi ei phaentio
gyda llwyd arall gefais gan y cwmni Old 20! Caiff y lliw iawn yr Haf yma.
************
Mae gan Aled dudalen a'i llond o luniau adnewyddu
Tegwen, dolen yn isod.
Tegwen y
Ffyrgi Lwyd