Cydymaith Tegwen
‘
Roedd
Lleucu a Tegwen yn rhannu’r un ysgubor ar fferm Peredur Williams. Wedi
i’r gwaith ar Tegwen gael ei gwblhau, daeth Lleucu acw i mi gael golwg
arni.
Hanesyn
Mae Lleucu yn eiddo i
Peredur ers 1981 ac wedi bod, ac yn dal i fod, yn gyfleus ac yn
ddibynadwy. Cyn hynny, ‘roedd yn eiddo i David Jones, Mela ym mhlwyf
Llannor ers pan oedd yn newydd. Tebyg iddo ef ddod a hi o Loegr gan mai
rhif Swydd Derby sydd arni – TRB 230. Ei rhif tractor yw TEF 340182 a’i
injan : SA 24360E.
Yn
gyffredinol
Y blwch llywio oedd
problem fwyaf Lleucu. Wedyn gwelwyd fod angen edrych ar y brêcs hefyd.
Daeth hefyd yn amlwg ei bod yn hanfodol atal effaith rhydu ar fyrder.
‘Roedd hynny’n golygu
‘wire-wheeling’ ar scêl fawr unwaith eto. Ond ‘roedd hon yn llawer haws
gan fod cryn dipyn o baent wedi ei arbed gan gacen o faw!
Yr
injan
‘Roedd y peiriant
Standard mewn cyflwr da iawn a dim angen ond gwaith ‘service’ go drylwyr,
a’i glanhau. Yn wir, ‘roedd bâw wedi caledu ar rannau ohoni gan fod y
tanciau diesel yn gollwng ychydig gan gronni llwch yn raddol. Felly aed
ati i gael y tanciau i drefn gyda’r un driniaeth a rhai Tegwen.

Y
Blwch gêrs
Heblaw fod y botwm
diogelwch tanio eisiau ei ryddhau ar hwn hefyd, ‘roedd cyflwr y blwch ei
hun yn anhygoel o dda,. Mae’n rhaid fod Mr. Jones a Mr. Williams wedi ei
drin yn barchus iawn dros y blynyddoedd!
Y
Blwch llywio
‘Galvanic Corrosion’
oedd yn gyfrifol am dranc y blwch llywio. Y ffenomen o ddau fetel
gwhanol a cherynt trydan rhyngddynt sydd yma. Gall fwyta aliwiniwm gan
ei droi’n bowdr gwyn Mae modd atal yr effaith yma drwy defnyddio
‘Titanine’ rhwng y metalau. ‘Roedd y blwch yma’n dangos yr effaith yn
hollol eglur gyda tyllau yn yr aliwminiwm wedi gadael i oel y blwch
ollwng allan ers amser go faith! ‘Roedd tyllau hefyd wedi gadael baw a
graean i mewn at y peiriannwaith gydag effaith andwyol.
Ar
ben hynny, ‘roedd rhywun wedi gosod llyw anghywir ar y tractor. Mae llyw
Ffergi iawn gydag ysgwydd rhag i wlybaniaeth fynd i lawr y coler
chromiwm. Go dda eto, Harry – pwrpas i bob dim! Felly ‘roedd y sêl uchaf
wedi hên gancro a diflannu nes oedd y ‘bearing’ uchaf wedi datgymalu a
cholli’r rollers i gyd i waelod y bocs.
Yn lwcus, ‘roedd
Peredur wedi cael gafael ar focs llywio ail-law gydag olwyn llywio
Ffergi iawn arno. ‘Doedd dim golwg o’r ‘Galvanic Corrosion’ ar hwn a
gallwyd ei drin a’i setio’n berffaith yn weddol hawdd. Rhoddwyd sêliau
newydd ar y breichiau a chafwyd y llyw yn siâp crwn unwaith eto!
Y
Brêcs
Eto ‘roedd cryn dipyn
o waith yma. Rhaid oedd defnyddio ‘impact driver’ a gwrês i ryddhau
powltiau, wedyn bu’r glanhau a seimo. ‘Roedd y ‘Brake-shoes’ mewn cyflwr
da a dim eisiau newid y rhain. Sustem ‘floating cam’ sydd gan Lleucu
hefyd.
Y
gwaith tun a’r olwynion
Bu’r ‘grinder & wire
wheel’ yn brysur yma eto. Curwyd tolciau’r bonet allan. Rhyfedd fel mae
tolciau ar flaen bonet y rhan fwyaf o Ffergis. Cafodd Lleucu hen
‘wings’ oddiar Tegwen.
Y
paentio
Cafodd Lleucu gôt
gyntaf ‘beige’ ac wedyn cotiau o’r lliw cywir yn ôl ymchwil
Holland-Brand. Aeth adref yn ôl i’w chartref newydd, Tan y Bryn, yn
ddigon o bishyn.
************